Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679729
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd John Wynn Jones. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 9: Darpariaeth Toiledau Cyhoeddus yng
Nghwynedd. Oherwydd natur Eitem 9 a oedd yn argymell
partneriaethu gyda Cynghorau Cymuned bu i’r canlynol ddatgan buddiant personol: Dyfed Edwards –
Aelod o Gyngor Cymuned Llanllyfni Dyfrig Siencyn –
Aelod o Gyngor Tref Dolgellau Gareth Thomas –
Cadeirydd Cyngor Tref Penrhyndeudraeth Mandy
Williams-Davies – Aelod o Gyngor Tref Ffestiniog Mair Rowlands –
Aelod o Gyngor Tref Dinas Bangor W. Gareth Roberts –
Aelod o Gyngor Cymuned Aberdaron Ioan Thomas – Aelod
o Gynfor Tre Caernarfon Peredur Jenkins –
Aelod o Gyngor Cymuned Brithdir, Llanfachreth a Rhydymain Eitem 11: Adolygu
Darpareth Addysg Gynradd Dalgylch Bangor. Bu i Mair Rowlands,
Dafydd Meurig a Lesley Day ddatgan buddiant personol gan eu bod yn aelodau o
Gorff Llywodraethu mewn ysgolion yn Nalgylch Bangor. Mae Mair Rowlands yn aelod
o Gorff Llywodaethu Ysgol Cae Top, Bangor. Dafydd Meurig yn aelod o Gorff
Llywodraethu Ysgol Llandygai, ac mae Lesley Day yn aelod o Gorff Llywodraethu
Ysgol Hirael Bangor. Cynghorodd Iwan
Evans, Swyddog Monitro ar y buddiannau personol a pwysleisio nad oeddent yn
fuddiant sy’n rhagfarnu, ac felly fod gan yr aelodau yr hawl i gymryd rhan y
drafodaeth. |
|||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||
COFNODION O GYFARFOD A GYNHALIWYD AR RAGFYR 13EG 2016 PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar y 13eg o Ragfyr, 2016, fel rhai cywir. |
|||
CYNLLUN GWEITHREDU HENEIDDIO'N DDA PDF 130 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr W. Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo Cynllun
Heneiddio’n Dda Gwynedd fel dogfen weithredol ar gyfer hybu gweithio yn ataliol
ac yn draws adrannol ym maes Pobl Hyn, a chyfrannu at yr agenda llesiant. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Roberts. PENDERFYNWYD Cymeradwywyd y
Cynllun Heneiddio’n Dda Gwynedd fel dogfen weithredol ar gyfer hybu gweithio yn
ataliol ac yn draws adrannol ym maes Pobl Hyn, a chyfrannu at yr agenda
llesiant. TRAFODAETH Nododd Gareth Roberts ei falchder
o gyflwyno’r adroddiad yma i’r Cabinet. Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru “Helpu Popl Hyn
I Fyw’n Annibynol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?” yw cefndir y cynllun,
ble sylweddolwyd fod angen i
Gynllun Heneiddio yn dda’r Cyngor
adlewyrchu cyfraniad yr holl wasanaethau’r
Cyngor i agenda ataliol heneiddio’n dda. Mae’r gwaith
wedi cael ei wneud er
mwyn datblygu y ddogfen. Pwysleiswyd fod y ddogfen angen
bod yn ddogfen fyw ac y bydd angen
ychwanegu at y ddogfen yn gyson. Ail hanner yr adroddiad yw’r
cynllun ei hun, gyda enghraifftiau
o’r gwaith da sydd yn cael
ei wneud ar hyn o bryd.
Enghraifft penodol a ddefynddwyd oedd rhaglen “Hen Blant Bach” a gafodd ei dangos
ar S4C – ble roedd cydweithio a cyd-dreulio amser rhwng plant bach a pobl hyn mewn
canolfan ddydd yng Nghaernarfon. Nodwyd fod y proseict
wedi bod yn llwyddiant ac gwahaniaeth wedi ei weld ym
mywyd y plant a’r bobl hyn. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Delweddau
yn y ddogfen yn ddelweddau o ferched yn y gweithgareddau hyn yn codi cwestiwn o
yw’r gweithgareddau sydd ar gael wedi ei hanelu at ferched yn unig. A yw hyn
yn rhywbeth i’w ystyried pan yn trefnu
digwyddiadau yn y dyfodol? Ymatebodd Ann Pari Williams drwy ddiolch am godi’r
sylw a bydd y lluniau yn cael ei diwygio er mwyn cael darlun gwell o’r
gweithgareddau sydd yn digwydd yn y gymuned i ddynion a merched. -
Hwn i
raddau yn edrych ar broblemau ar lefel micro ond os yn edrych ar lefel macro
mae bygythiadau fel gwasanaethau yn dod i ben ac unigrwydd. Cynllun yma yn
edrych yn ei gyfanrwydd ac yn ymateb ac adnabod blychau yn y gwasanaeth. -
Pwysig
cadw’r cynllun hwn mewn cof wrth drin a thrafod materion eraill, ac mae’n cydfynd ag egwyddorion yn Neddf Llesiant (Cymru) 2014. Awdur: Ann Pari Williams |
|||
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr W. Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Addasu’r polisi codi tal ar sail y cynigion a ymgynghorwyd arnynt ac
sydd wedi eu gosod yn Atodiad Ch o’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. W. Gareth Roberts. PENDERFYNWYD Addasu’r polisi codi tal ar sail
y cynigion a ymgynghorwyd arnynt ac sydd wedi eu gosod yn Atodiad Ch o’r adroddiad. TRAFODAETH Tynnwyd
sylw fod angen cywiro brawddeg ar waelod tudalen 78 i ddarllen: “Mewn
amgylchiadau prin bydd y Cyngor yn gallu negodi contractau rhatach gyda
darparwyr gofal. Os bydd cost y gofal yn rhatach na £16.00 yr awr bydd y
defnyddiwr gwasanarth yn talu’r raddfa rhatach”. Yn
dilyn argymhelliad gan y Cabinet yn flaenorol, yr eitem wedi dod yn ôl yn dilyn
ymghynghoriad a defnyddwyr Gwasanaeth. Bu i’r
ymgynghoriad ddangos for 58% yn derbyn fod angen codi
tal am wasanaeth. £60 fydd yr uchafswm y bydd modd i’r Cyngor godi am y
gwasanaethau dibreswyl yr wythnos, ond mae’r Llywodraeth ar ganol ymgynghoriaeth am yr uchafswm wythnosol. Nodwyd
fod gwaith ymchwil wedi cael ei wneud ar beth mae siroedd eraill yn ei wneud ac
yn nodi tebygrwydd rhwng Gwynedd a’r siroedd eraill. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd os yw’r newid yn dod i rym ym Mis Ebrill
fod angen sicrhau cyfathrebu clir gyda’r defnyddwyr gwasanaeth. Pwysleiswyd fod angen cyfathrebu ym mhob ffordd posib er
mwyn sicrhau fod pob defnyddiwr gwasanaeth yn deall y newidiadau. Awdur: Aled Davies |
|||
NEWID LLWBR DEWISIOL GWELLIANT FFORDD / MYNEDIAD LLANBEDR PDF 106 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Peidio gwarchod y llwybr gwreiddiol ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr a chefnogi’r cynllun yn Atodlen B o’r adroddiad ar gyfer llwybr ffordd mynediad newydd yn yr ardal. Cofnod:
Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|||
DARPARIAETH TOILEDAU CYHOEDDUS YNG NGWYNEDD PDF 59 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards PENDERFYNWYD I.
Cyflawni’r toriad o £244,000 yn y gwasanaeth
Priffyrdd a Bwrdeisefol drwy wireddu’r Cynllun
Partneriaeth gyda chynghorau Cymuned a Thref er mwyn cadw’r mwyafrif o doiledau
cyhoeddus presennol y sir ar agor i’r dyfodol. II.
Awdurdoi’r
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistefol i gytundebu gyda’r
Cynghorau Cymuned a Thref sydd wedi datgan ddiddordeb mewn partneriaethu. TRAFODAETH Llawer o
gynghorau Tref a Chymuned wedi ymateb i’r cynnig i gymryd cyfrifoldeb o
doiledau cyhoeddus. Nodwyd fod amryw o gwmnïau wedi bod yn fodlon i gymryd y
cyfrifoldeb yn ogystal ac mae hyn yn galonogol iawn. Diolchodd Dyfed Edwards
i’r rhestr faith o gynghorau sydd wedi cytuno i gymryd y cyfrifoldebau (rhestr
i’w gweld yn atodiad 1 o’r adroddiad). Mae trafodaethau yn parhau gyda rhai
cynghorau er mwyn dod i benderfyniad terfynol. Nododd y
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod y gynllun hyd yma wedi rhagori’r
sefyllfa oedd yn flaenorol, sef fod y cynllun gwreiddiol yr oedd y Cyngor wedi
gorfod ei fabwysiadu er mwyn sicrhau’r arbedion angenrheidiol yn golygu cau 50
allan o 72 o doiledau cyhoeddus. Bellach fodd bynnag bydd isafswm o 52 o’r
toiledau cyhoeddus yn parhau ar agor. Pwysleiswyd fod
asesiad cydraddoldeb wedi ei wneud, hyd yn hyn mae’r cynllun parnertiaethu yn cyfarch yr aseisiad
cydraddoldeb. Nodwyd yn ogystal fod y cynllun partneriaethu
yn rhagori pan yn trafod y Ddeddfwriaeth presennol a’r ddeddfwriaeth sydd i
ddod. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth: - Nodwyd hanes yr eitem yw ymghynhoriad Her Gwynedd, a’r ffaith fod ymatebion pobl
Gwynedd wedi amlygu fod y cynllun gwreiddiol yn lai o flaenoriaeth na
dewisiadau eraill oedd ger bron, ond fod hyn bellach yn newyddion arbennig o dda fod cynifer o
gynghorau lleol yn fodlon cydweithio a ni i’w cadw ar agor gyda rhai yn fodlon
cymryd y baich o redeg y gwasanaeth hyd yn oed. - Gwasanaeth toiledau cyhoeddus yn
wasanaeth ble mae hi yn bosib i gynghorau lleol redeg y gwasanaeth. - Darpariaeth amgen wedi ei gynnig
gan gwmnïau lleol, ac yn aml mae’r ddarpariaeth amgen gyda darpariaeth a
mynediad gwell i’r anabl. Trafodaeth gyda’r cynghorau wedi bod yn drafodaeth aeddfed iawn ac mae hyn wedi galluogi i greu perthynas newydd gyda’r cyfle i adeiladu ar y perthynas hwn yn y dyfodol. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|||
CYNLLUN TROEDFFORDD, FFORDD COETMOR, BETHESDA PDF 76 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cyfalafu £120,000
o danwariant yr Adran Rheoleiddio ar gyfer cyfraniad at welliant diogelwch drwy
ddarparu troedffordd rhwng Plan Ffrancon a Ffordd Hen Barc ar hyd Ffordd
Coetmor, Bethesda. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Cyfalafu £120,000 o danwariant yr
Adran Rheoleiddio ar gyfer cyfraniad at wellaint
diogelwch drwy ddarparu troedffordd rhwng Plas Ffrancon a Ffordd Hen Barc ar
hyd Ffordd Coetmor, Bethesda. TRAFODAETH Nodwyd fod hanes hir i’r cynllun hwn i greu troedffordd ar ffordd prysur
gyda niferoedd y ceir sydd yn ei defnyddio yn codi. Pwysleiswyd
fod Aelod Lleol yn cefnogi’r cynllun. Ymgeiswyd am arian gan Llywodraeth yn 2011 ond yn
aflwyddiannus, ond ers hynny mae mwy o bwyslais gan y Llywodraeth ar deithio llesiol. Nodwyd eu bod, os yn llwyddiannus gyda arian y
tanwariant, am ddefnyddio’r arian fel arian cyfatebol er mwyn denu bid y
Llywodraeth. Ychwangeodd y Pennaeth Rheoleiddio fod tri thema i greu
bid ariannol i’r Llywodraeth, a’r thema sydd yn cyd-fynd a’r cais hwn fydd
“Llwybrau diogel i Ysgolion a Chymunedau”. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Wrth edrych ar farn
y Pennaeth Cyllid i’r adroddiad mae’n cadarnhau fod arian ar gael i’w
ddefnyddio fel tanwariant ac felly dangos cefnogaeth i’r cynllun. - Holwyd os oes oblygiadau prynu tir ynghlwm
a’r cynllun. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio drwy nodi fod fel rheol ar gyfer gynllun fel hyn y buasai angen prynu strip o dir i greu y droedffordd, ond ar gyfer y cynllun hwn mae’r tirfeddianwr wedi cynnig rhoi’r tir am ddim i’r Cyngor. Cytundeb wedi ei wneud gyda’r tirfeddianwr. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|||
ADOLYGU DARPARIAETH ADDYSG GYNRADD DALGYLCH BANGOR PDF 460 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cychwyn trafodaethau lleol yn
unol a’r adroddiad ynglŷn ag adolygu darpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng.
Gareth Thomas PENDERFYNWYD Cychwyn trafodaethau lleol yn unol a’r adroddiad ynglyn ag adolgygu darpariaeth
addysg gynradd ym Mangor TRAFODAETH Mae’r
Adran Addysg wedi adnabod fod angen edrych ar ddarpariaeth addysg gynradd ym Mangor. Mae gan y Llywodraeth raglen “Ysgolion i’r Unfed
Ganrif ar Hugain” sydd yn dod i ddiwedd Band A y rhaglen, bwriad yr adran oedd
i gyflwyno cynllun o fewn Band B y rhaglen yma. Nodwyd fod y sefyllfa bellach
wedi newid gan fod dwy ysgol o fewn y dalgylch dros ei gapasiti
a gyda datblygiad tai yn y Goetre Uchaf bydd 90 o blant ychwanegol yn yr ardal.
Yn ogystal a hyn nodwyd fod cyflwr un o’r ysgolion yn wael. Bu i Ysgol
Glan Cegin dderbyn grant o Fand A rhaglen “Ysgolion i’r Unfed Ganrif ar
Hugain”, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddi. Gan fod cynlluniau blaenorol yr Adran
Addysg ag ariannwyd gan y Llywodraeth wedi bod yn llwyddiant cafodd yr adran wahaodd i ymgeisio am grant ychwanegol, ac maent wedi bod
yn llwyddiannus. Canlyniad hyn yw fod £6.3miliwn ar gael gan y Llywodraeth,
£1.1miliwn ar gael o galyniad i ddatblygiad tai a
£4.5miliwn o gynllun rheoli asedau’r Cyngor a bydd £750,000 o ganlyniad i
werthu asedau sydd yn golygu fod £12.7miliwn ar gael ar gyfer y datblygu
adnoddau addysg yn y ddinas. Pwysleiswyd nad oes cynllun ar gyfer hyn dim ond cais i gychwyn y broses. Cam 1 y
broses fydd i sefydlu Pwyllgor Adolygu Dalgylch a fydd yn cynnwys aelodau
lleol, penaethiaid yr ysgolion a
cynrychiolwyr o’r Llywodraethwyr. Bydd y cynllun yn dod yn ôl i’r Cabinet erbyn
mis Gorffennaf 2017. Mynegodd
yr Aelod Lleol – Lesley Day – fod mwy o ysgolion wedi bod yng ngwaelod Bangor
yn ystod y blynyddoedd, nododd ei phryder y bydd mwy o ysgolion yn mynd i ardal
Penrhosgarnedd. Nododd y
Prif Weithredwr fod angen ystyried anghenion Bangor er mwyn sefydlu beth yw’r
gwir angen ac ystyried cost hynny yn hytrach nag edrych am gynllun i wario
£12.7m. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth - Angen edrych i’r tymor hir – er
fod y bwriad yma yn edrych yn benodol ar ddarpariaeth gynradd angen edrych ar
ddarpariaeth uwchradd ar gyfer y dyfodol. Awdur: Gareth Richard Jones |
|||
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y DIRPRWY ARWEINYDD PDF 330 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Y Dirprwy Arweinydd yn nodi
fod modd edrych ar yr
adroddiad ac ar y wyneb mai ychydig
o gynnydd sydd wedi bod. Ond pwysleisiodd
fod y gwaith yn parhau ac yn
waith sy’n anodd ei fesur
gan fod pynciau
megis y Gymraeg yn gynlluniau canolig
a hir dymor. Manylodd ar y rhwystredigaeth mae’n deimlo gyda’r Bwrdd
Gwasanaethau Lleol wrth edrych ar
y Gymraeg a’r gwasanaethau cyhoeddus gan ei fod
yn teimlo ei fod yn
symud yn araf. Cwestiynau yn codi wrth edrych
ar hyrwyddo’r Gymraeg yn yr
ardal ac os yn gwneud drwy’r
dulliau cywir. Edrychir ymlaen at gyfarfod a’r Gweinidog
dros yw iaith
i drafod hyrwyddo'r Gymraeg. Nododd ei fod
wedi ymateb i strategaeth Iaith
y Llywodraeth ac wedi nodi mai prif
broblem yr ardal yw hyrwyddo
defnydd o’r iaith bob dydd. Cyfeiriodd yr Adroddiad at y Panel Trigolion er mwyn casglu
barn a dod o hyd i brif bethau
sy’n poeni trigolion Gwynedd. Y prif bethau yw glendid
y strydoedd, casglu gwastraff a thorri gwair. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Wedi bod mewn trafodaethau a phenaethiaid Adran y Cyngor pwysig fod y negeseuon
yn cael ei
rheadru i lawr i’r haenau
eraill o staff. -
Ailedrych ar safonau iaith am gychwyn, mae’r rhain yn rhoi sail glir a
chadarn i isafswm o ddarparu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Modd i’r Cyngor
gyflawni llawer dros yr iaith tu hwnt i Wynedd drwy
bartneriaid cyhoeddus y Cyngor. Holwyd sut mae’r
tîm ymgysylltu am gadw momentwm yn dilyn ymgynghoriad Her Gwynedd - nodwyd nad
yw Panel Trigolion ddim yn cyrraedd diwedd ei hoes ac mae angen atgyfnerthu'r
panel. Pwysig nodi nad Ffordd Gwynedd yw’r unig ffordd o ymgysylltu llawer o
fathau gwahanol o gasglu barn. Awdur: Dilwyn Williams |
|||
BLAENRAGLEN Y CABINET PDF 283 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, yn
amodol ar wneud yr addasiadau isod:- -
Cyng Dyfed
Edwards – Nodi fod dyddiad bellach ar gyfer yr eitem Prynu Tir yn ardal
Llanrug. -
Cyng Gareth
Thomas – Newid enw’r Aelod Cabinet yn eitem Cyflwyniad gan Ffion Johnstone Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfed Edwards PENDERFYNWYD Cymeradwyd y
Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, yn amodol ar wneud yr
addasiadau isod: -
Cyng. Dyfed Edwards – Nodi fod dyddiad bellach ar gyfer
eitem Prynu Tir yn ardal Llanrug -
Cyng. Gareth Thomas – Newid enw’r Aelod Cabinet yn yr
eitem Cyflwyniad gan Ffion Johnstone. |