Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Evans 01286 679878
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Wynn Jones a'r Cynghorydd W. Gareth
Roberts; Y Cynghorydd Roy Owen a’r Cynghorydd Gethin G Williams (ar gyfer eitem
10) a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Iwan T
Jones. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:
Roedd yr Aelodau o’r farn
ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem a nodir. |
|||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1AF O DACHWEDD 2016 PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 1af o Dachwedd, 2016, fel rhai cywir. |
|||
CYLLIDEB REFENIW 2016/17 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER (MEDI 2016) PDF 77 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2016) o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid
adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth. ·
Trosglwyddo (£135k) o gyllideb gorfforaethol i'r
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyllido’r costau ychwanegol o ganlyniad i'r
newid yn ymwneud â chodi tâl am y chwe wythnos gyntaf o ofal preswyl a nyrsio. ·
Caniatáu i'r Adran Rheoleiddio ddefnyddio (£200k)
o'u tanwariant i gyllido cynlluniau penodol i wella cyflwr meysydd parcio. ·
Trosglwyddo (£300k) o'r Adran Rheoleiddio i'r
Gronfa Ddiswyddo Gorfforaethol er mwyn cynorthwyo efo'r newidiadau sydd o'n
blaenau fel Cyngor. ·
Cynaeafu (£300k) o'r casgliad ffafriol Treth y
Cyngor, a (£290k) o danwariant Budd-daliadau, ynghyd â (£200k) o'r tanwariant a
gynhwysir o dan 'Eraill', a'i drosglwyddo fel a ganlyn: - defnyddio (£20k)
o’r tanwariant fel cyfraniad ariannol i Bwll Nofio annibynnol Harlech er mwyn
gwneud taliad pontio un tro ar gyfer y cyfnod hyd at 31 o Fawrth 2017, yn unol
â phenderfyniad y Cabinet ar y 4 o Hydref 2016. - defnyddio (£135k)
i gyllido oblygiadau ariannol newid yn y Ddeddfwriaeth Gofal 2014 gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant. - y gweddill o
(£635k) i'w neilltuo i Gronfa Trawsffurfio. COFNODION: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Peredur Jenkins. PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2016) o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau
pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau
perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu
harweiniad/rheolaeth.
- defnyddio (£20k) o’r tanwariant fel cyfraniad ariannol i
Bwll Nofio annibynnol Harlech er mwyn gwneud taliad
pontio un tro ar gyfer y cyfnod hyd at 31 o Fawrth
2017, yn unol â phenderfyniad y Cabinet ar y 4 o Hydref 2016. - defnyddio (£135k) i gyllido oblygiadau
ariannol newid yn y Ddeddfwriaeth Gofal 2014 gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant. - y gweddill o (£635k) i'w neilltuo i
Gronfa Trawsffurfio TRAFODAETH Amlygodd yr Aelod Cabinet
bod yr adroddiad yn cynnwys yr
adolygiad diweddaraf ar gyllideb refeniw'r
Cyngor am 2016/2017 a cyflwynwyd crynodeb
fesul Adran. O gymharu â chwarter 1, adroddwyd bod y sefyllfa wedi gwella a bod hyn yn deillio
o gydweithio da rhwng Aelodau’r Cabinet
a Phenaethiaid Gwasanaeth sydd wedi sicrhau
rheolaeth dda. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:
Diolchwyd i’r gwasanaethau am eu disgyblaeth ariannol. Awdur: Dafydd Edwards |
|||
RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER (MEDI 2016) PDF 152 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar adolygiad
yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2016) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r
ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
COFNODION: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cynghorydd Peredur Jenkins. PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2016) o’r rhaglen
gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: • cynnydd o £1.367m mewn defnydd o fenthyca arall (gan
gynnwys benthyca heb gefnogaeth) • lleihad o £1.174m mewn defnydd o
grantiau a chyfraniadau • cynnydd o £0.035m mewn defnydd o
gyfraniadau refeniw • cynnydd o £0.938m mewn defnydd o
gronfeydd adnewyddu ac eraill TRAFODAETH Nododd
y Cynghorydd Peredur Jenkins bod yr adroddiad yn un technegol ac yn rhan o
drefn monitro cyllideb 2016. Amlygodd y prif gasgliadau oedd yn codi o’r
sefyllfa ynghyd a’r prif newidiadau fesul ffynhonnell ariannu. Sylwadau
yn codi: - bod buddsoddiad sylweddol
wedi ei wneud i adeiladau addysg ar draws y sir a bod y rhain yn cynnwys
adnoddau gwych sydd yn cael effaith sylweddol ar addysg y plant. - bod arian cyfalaf yn gwneud
gwahaniaeth ym mhob rhan o’r Sir. - bod dyfodol grantiau yn
ansicr o ganlyniad i’r penderfyniad o ymadael a’r Undeb Ewropeaidd - rhaid
paratoi a chynllunio ar gyfer y bwlch yma. Diolchwyd i’r swyddogion am y wybodaeth Awdur: Dafydd Edwards |
|||
PREMIWM TRETH CYNGOR AR EIDDO GWAG HIR DYMOR AC AIL GARTREFI PDF 653 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymell i’r Cyngor Llawn: Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2017/18: 1. Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar gyfer 2017/18 yn unol ag
Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i’r ddau ddosbarth o ail
gartrefi (dosbarthau A a B) fel a ddiffinnir yn
Rheoliadau Treth Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) 1998. 2. Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt yn 2017/18 yng nghyswllt eiddo gwag (dosbarth C). Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2018/19: 3. Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ar gyfer 2018/19 ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. 4. Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar ail gartrefi dosbarth B ar gyfer 2018/19,
yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. 5. Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 50% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis
neu fwy ar gyfer 2018/19, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992. COFNODION:
Awdur: Dafydd Edwards |
|||
ETHOLAETHAU SENEDDOL PDF 296 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn cynigion y Comisiwn ar
gyfer etholaeth seneddol Ynys Môn ac Arfon; b) Anghytuno gyda chynigion y
Comisiwn ar gyfer etholaeth De Clwyd a Gwynedd gan gyflwyno cynigion
eraill fyddai’n cadw ffiniau’r sir yn gyflawn ond gan hefyd gynnwys ardaloedd
tebyg o ran diwylliant ac ieithwedd i gael y niferoedd angenrheidiol yn
yr etholaeth fel y nodir yn yr adroddiad; c) Pwyso ar y Comisiwn i arddel
enwau Cymraeg yn unig ar gyfer etholaethau yng Nghymru; ch) Gwneud awgrymiadau ar gyfer
enwau priodol i’r etholaethau yng Ngwynedd megis Gwynedd Uwch Conwy,
sydd yn hen enw hanesyddol. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Prif Weithredwr PENDERFYNWYD a)
Derbyn cynigion y Comisiwn ar gyfer etholaeth seneddol Ynys Môn ac
Arfon; b)
Anghytuno gyda chynigion y Comisiwn ar gyfer etholaeth De Clwyd a Gwynedd gan gyflwyno cynigion eraill fyddai’n cadw
ffiniau’r sir yn gyflawn ond gan hefyd gynnwys ardaloedd tebyg o ran diwylliant
ac ieithwedd i gael y niferoedd angenrheidiol yn yr etholaeth fel y nodir yn yr
adroddiad; c)
Pwyso ar y Comisiwn i arddel
enwau Cymraeg yn unig ar gyfer etholaethau
yng Nghymru; ch) Gwneud awgrymiadau ar gyfer enwau priodol i’r
etholaethau yng Ngwynedd megis Gwynedd Uwch Conwy, sydd yn hen enw hanesyddol. TRAFODAETH Nododd y Prif Weithredwr
bod y mater wedi bod yn destun trafod ers
sawl blwyddyn a bellach bod y Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi cynigion
ar gyfer newid etholaethau seneddol yng Nghymru
gan unioni'r nifer y bydd pob
etholaeth yn ei gynrychioli. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cynnwys
dadleuon ac opsiynau posib eraill y gall y Comisiwn eu hystyried.
Bydd y sylwadau yn cael eu
cyflwyno i’r Comisiwn erbyn Rhagfyr y 5ed. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth: · Bod diffyg dealltwriaeth
gan y Comisiwn o ‘Gymunedau
Traddodiadol’ sydd yn bwysig i Wynedd · Codi pryderon am sut y bydd
Cyngor Gwynedd yn gweithredu yn effeithiol · Pryder am yr elfen
cydweithio gydag Aelodau Seneddol fydd yn cynrychioli tair sir efallai ·
Rhaid diogelu hunaniaeth mewn rhannau helaeth
o Wynedd ·
Pwysig defnyddio enwau cynhenid Cymraeg fel enwau newydd ·
Bod yr ymateb yn dderbyniol a bod y cynigion yn gwneud synnwyr ·
Mathemategwyr sydd yma ac nid Haneswyr rhesymegol. ·
Cynnig yr enw Gwynedd Uwch Conwy yn y
penderfyniad Awdur: Dilwyn Williams |
|||
YMGYNGHORIAD AR DDYFODOL Y GWASANAETH TÂN PDF 339 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn & Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cynnig y sylwadau a nodir yn rhan
4 o’r adroddiad mewn ymateb i ymgynghoriad y Gwasanaeth Tân, gan hefyd awgrymu
i gynghorau eraill y byddai’n fuddiol efallai cael pwyllgor craffu ar y cyd i graffu’r
gwasanaeth tân er mwyn gallu dod i farn am y flaenoriaeth gymharol y dylid ei
roi i gais am adnodd ychwanegol. COFNODION:
TRAFODAETH Amlygwyd bod yr adroddiad
yn ymateb i ymgynghoriad gan y Gwasanaeth Tân yn wyneb y wasgfa ariannol a'r
bygythiad tebygol i’r gwasanaeth. Nododd y Cyng. Aeron
Maldwyn Jones ei fod wedi bod yn aelod o’r Awdurdod ers blwyddyn. Amlygodd bod
gwaith y rheng flaen yn wych ond bod angen edrych ar y system reolaethol a’r
trefniadau gweinyddol. Ychwanegodd bod cyflogau yn ymddangos yn uchel o
ystyried y cyfrifoldebau o gymharu â chyflogau rheolaethol y Cyngor Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth: ·
Nid yw yn ymddangos bod proses drylwyr o
geisio arbedion effeithlonrwydd wedi cymryd lle cyn symud ymlaen i doriadau ·
Awgrymu derbyn cynnydd cyfartalog y setliad
hyd nes bydd tystiolaeth nad oes arbedion effeithlonrwydd pellach yn bosib ·
Pwy sydd yn craffu strategaeth ariannol y
Gwasanaeth? ·
Rhaid i’r Cyngor, sydd â buddiant fel un sydd
yn tanysgrifio, geisio cydweithio ·
Rhaid sicrhau nad oes risgiau i drigolion
Gwynedd ·
Amodau gwaith cadarn gan y Gwasanaeth, ond cyfleodd i edrych ar y
sefyllfa ·
Awgrym i ffurfio Pwyllgor Craffu ar y Cyd (ar
draws y Gogledd) fyddai gyda arbeigedd
annibynnol i gydlynu a chynghori. Busasai hyn yn sicrhau dealltwriaeth o’r
cyllidebau ynghyd ag elfennau ehangach llai traddodiadaol. ·
Rhaid edrych ar y sefyllfa genedlaethol a’r posibiliadau o weithio gyda
gwasanaethau brys eraill. ·
Rhaid cael darlun cyflawn o’r ystyriaeth
mae’r Gwasanaeth wedi ei roi ar y toriadau Cynigiwyd ac eiliwyd i
ychwanegu'r awgrym i ffurfio Cydbwyllgor Craffu ar draws y Gogledd a bod hyn
i’w ychwanegu i ymateb Cyngor Gwynedd i’r ymgynghoriad. Awdur: Arwel Ellis Jones & Dafydd L Edwards |
|||
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 253 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth
yn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn
yn absenoldeb y Cyng. W Gareth Roberts. Amlygwyd y prif bwyntiau gan Morwena
Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Wrth gyfeirio at y Cynllun Strategol G2 - Gweithio’n
Integredig ar yr hyn sydd yn cyfri i unigolion, amlygwyd bod y gwaith yn
Eifionydd yn mynd o nerth i nerth gyda’r nifer o becynnau traddodiadol yn
lleihau. Nodwyd bod ychydig o oedi gyda phrosesau ymgynghori gyda staff y Bwrdd
Iechyd, ond y gobaith yw cael strwythur cadarn yn ei lle erbyn Ebrill 2017. Cynllun Strategol G3 - Ail Strwythuro Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant - nodwyd y bydd adroddiad ar strwythur y Tîm
Diogelu Oedolion yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet Cynllun Strategol G5 - Frondeg -
cadarnhawyd bod Grŵp Cynefin yn awyddus i fod yn bartner datblygol Cynllun
Strategol G7 Capasiti a Chynaliadwyedd y
gyfundrefn gofal ac Iechyd – Model Gofal Newydd – amlygwyd bod gwaith o
ddatblygu Cartref Preswyl Llys Cadfan yn parhau gyda’r dasg allweddol o
ddrafftio datganiad o bwrpas yn cael ei wneud. Wedi cwblhau hyn bydd modd
gwneud cais i’r Arolygaeth Gofal newid cofrestriad y cartref. Nodwyd bod y
model newydd yma yn cael sylw cenedlaethol. Perfformiad y mesur SCA/001 - cyfradd
oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r
boblogaeth sydd yn +75 oed - nodwyd bod pryder sylweddol yma os bydd y
tuedd yn parhau. Adroddwyd bod gwaith yn cael ei wneud i fynd i’r afael a’r
broblem a bod sesiwn wedi ei hwyluso gan arbenigwyr, wedi ei drefnu ym mis
Ionawr i ddeall yn well y broses o drosglwyddo cleifion. Asesiad ‘Diogelu Rhag Colli Rhyddid’ (DOLS) -
adroddwyd bod nifer o staff bellach wedi cymhwyso i wneud yr asesiadau, ond yn
parhau mewn sefyllfa i frwydro yn erbyn y niferoedd. Gorwariant
£303k – parhau i gydweithio gyda'r Adran Cyllid i sicrhau bod arbedion yn cael
eu gwireddu drwy drawsffurfio gwasanaethau. Croesawyd cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i ddeall y broses o drosglwyddo cleifion – ystyriwyd hyn yn cam pwysig ymlaen ac yn gyfle da i ddeall y sefyllfa yn well. Awdur: Morwena Edwards |
|||
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth
yn yr adroddiad. COFNODION: Cynllun T9 Strategaeth
Cyflenawad Tai - Sefydlu Tai Fforddiadwy
i drigolion Gwynedd mewn ardaloedd gwledig – bod angen sefydlu brand ein
hunain er mwyn sicrahu bod Cyngor Gwynedd yn cael cydnabyddiaeth. Wrth drafod y
ddarpariaeth ar gyfer pobl digartref, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych
ar y ddarpariaeth bresennol yn Corris. Yng nghyd-destun mesur
perfformiad - Uned Ddigartrefedd, amlygwyd pryder bod nifer uchel o unigolion
angen eu cartrefu a bod y nifer sydd yn cysylltu gyda’r uned yn cynyddu. Nodwyd
bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio ymateb i hyn. Amlygywd pwysau cynyddol
diweddar ar unedau Galw Gwynedd a Siop Gwynedd i ymateb i’r galwadau i
newidiadau i’r drefn biniau brown Wrth gyfeirio at y pedwar
amcan i Gynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor Gwynedd amlygwyd bod creu amgylchiadau
i bobl o wahanol gefndiroedd i gynrychioli pobl Gwynedd trwy sefyll etholiad i
fod yn aelod etholedig, yn un heriol, ond bod gwaith da wedi ei wneud yn
ddiweddar gyda fideo wedi ei rhyddhau ar wefan y Cyngor. O ran y sefyllfa ariannol,
amlygwyd bod 94% o’r arbedion wedi eu gwireddu a bydd y gweddill yn cael ei
wireddu cyn diwedd y flwyddyn. Gwnaed cais i edrych yn
fanylach ar sefydlu brand i Cyngor Gwynedd yng nghyd-destun Tai Fforddiadwy:
cyfle i ystyried yr effaith gyhoeddus a sicrhau cydnabyddiaeth i’r Cyngor. Yng nghyd-destun Cymunedau
yn Gyntaf, amlygwyd, er nad oedd efallai'r cynllun gorau, ei fod yn sylfaen
gadarn i lawer. Angen edrych ar effeithiau hyn a cheisio cynnal y prosiectau
sydd yn cael effaith sylweddol. Awgrym i’r Cyngor geisio
dylanwadu ar y Gweinidog. Beth yw cynllun y Llywodraeth i ymateb i dlodi?
Pryder nad oes gweledigaeth hir dymor. Diolchwyd i’r Aelod Cabinet
am y wybodaeth ac am y gwaith a’r cynnydd i’r prosiectau o fewn portffolio eang
iawn. Diolchodd yr Aelod Cabinet i Rhion Glyn am ei gefnogaeth a llongyfarchwyd
ef ar ei secondiad. Awdur: Morwena Edwards |