Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dyfed Wyn Edwards. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 MEDI 2016 PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13eg o Fedi 2016, fel rhai cywir. |
|
GOBLYGIADAU CANLYNIAD REFFERENDWM EWROP PDF 120 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ac ystyried yn fuan y gweithdrefnau mewnol y dylid eu rhoi mewn lle i fonitro effeithiau penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd ar y sir yn barhaus yn y cyfnod i ddod gan gyfleu negeseuon i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Mandy Williams-Davies. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad ac ystyried yn fuan y gweithdrefnau
mewnol y dylid eu rhoi mewn
lle i fonitro
effeithiau penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr
Undeb Ewropeaidd ar y sir yn barhaus
yn y cyfnod i ddod gan
gyfleu negeseuon i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru. TRAFODAETH Nododd y Cyng.
Mandy Williams-Davies bod penderfyniad
y Deyrnas Unedig i adael yr
Undeb Ewropeaidd efo effaith bellgyrhaeddol
ar Wynedd gan gynnwys effaith
ar yr economi,
pensiynau a’r amgylchedd. Tynnwyd sylw at y rhestr o brosiectau gwerthfawr a arianwyd yn
rhannol gan gyllid o Ewrop ers 2007. Pwysleisiwyd bod rhaid lleisio
barn a chyfleu unigrwydd y
sir. Nododd yr
aelodau'r prif bwyntiau canlynol:-
Nododd Iwan
Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol) ei fod yn angenrheidiol
bod y Deyrnas Unedig yn cael mynediad
i’r farchnad sengl er mwyn
manteisio ar arian gan
Fanc Buddsoddi Ewrop i wireddu
cynlluniau isadeiledd. Ychwanegwyd bod angen i Wynedd
fod yn rhan
o’r trafodaethau wrth negodi cytundebau
masnachol gyda gwledydd a rhanbarthau eraill. Pwysleisiwyd bod gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru rôl i
chwarae i adnabod cyfleoedd a bygythiadau. Nodwyd gan fod y sefyllfa yn aneglur ar hyn o bryd, y dylai’r Tîm Arweinyddiaeth ystyried cael mecanwaith i ymateb i’r sefyllfa fel y mae’n datblygu, er mwyn sicrhau lobio yn y lleoedd priodol ar yr amser priodol. Awdur: Sioned Williams |
|
HAMDDEN HARLECH AC ARDUDWY PDF 234 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies a Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Yn amodol bod y 6 Cyngor Cymuned yn cyfrannu
yn unol â’r
model gyllido a amlinellir yn rhan 4.3 o’r
adroddiad, ymrwymo cyfraniadau ariannol i “Harlech & Ardudwy Leisure” tuag at fenter y pwll nofio
drwy – • ragfarnu llwyddiant cais am gyllideb parhaol ychwanegol o £6,000 o
2017/18 ymlaen fel rhan o becyn ar
y cyd gyda’r cynghorau cymuned lleol. • ofyn
i’r Pennaeth Cyllid neilltuo £20,000 yn yr adolygiad
ail chwarter o gyllideb
2016/17 er mwyn gwneud taliad pontio
un tro yn ystod 2016/17 ar gyfer y cyfnod hyd at 31ain o Fawrth 2017. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cynghorwyr Mandy
Williams-Davies a Mair Rowlands. PENDERFYNWYD Yn amodol bod y 6 Cyngor Cymuned yn cyfrannu
yn unol â’r
model gyllido a amlinellir yn rhan 4.3 o’r
adroddiad, ymrwymo cyfraniadau ariannol i “Harlech & Ardudwy Leisure” tuag at fenter y pwll nofio
drwy – • ragfarnu llwyddiant
cais am gyllideb barhaol ychwanegol o £6,000 o
2017/18 ymlaen fel rhan o becyn ar
y cyd gyda’r cynghorau cymuned lleol. • ofyn i’r Pennaeth
Cyllid neilltuo £20,000 yn yr adolygiad
ail chwarter o gyllideb
2016/17 er mwyn gwneud taliad pontio
un tro yn ystod 2016/17 ar gyfer y cyfnod hyd at 31ain o Fawrth 2017. TRAFODAETH Nododd y Cyng. Mandy Williams-Davies y dylid
rhoi clod i’r cynghorau cymuned am gymryd cyfrifoldeb i sicrhau’r adnodd.
Roedd hwn yn enghraifft
o’r Cyngor yn cyd-weithio gyda’r gymuned leol i sicrhau
cadw adnodd pwysig i’r gymuned
gan anfon neges bod y Cyngor yn barod i
gyd-weithio efo partneriaid pan edrychir ar y ffordd y darperir
gwasanaethau yn y dyfodol. Nododd aelodau eu gwerthfawrogiad o barodrwydd y cynghorau cymuned i gymryd ychydig o’r baich ariannol i warchod yr adnodd. Awdur: Catrin Thomas |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH PDF 122 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiadau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiadau. TRAFODAETH Nododd y Cyng.
Ioan Thomas mai un amcan y drefn
newydd o ran cwynion corfforaethol, a ddaeth yn weithredol ar
1 Ebrill 2015, oedd dod â buddiant penodol i’r dinesydd
trwy ganolbwyntio ar y datrysiad yn hytrach na’r
broses. Pwysleisiwyd mai gwrando ar lais y dinesydd
gan ddysgu o’r profiadau a lledaenu ymarfer da oedd wrth wraidd
y drefn newydd. Nodwyd nad
oedd yn bosib
cymharu gyda blynyddoedd blaenorol gan ei fod
yn drefn newydd. Cyfeiriodd
y Cyng. W. Gareth Roberts at yr
adroddiad yng nghyswllt trefn gwynion gwasanaethau cymdeithasol gan dynnu sylw bod yr ymchwiliadau ffurfiol yn lleihau
o ganlyniad i’r ymdrech i geisio
cael datrysiad lleol/anffurfiol. Nodwyd y dysgir o’r tueddiadau er mwyn atal
yr un peth
rhag digwydd eto. Eglurwyd bod gan unigolyn yr
hawl i apelio
i’r Ombwdsmon os ydynt yn
anfodlon gydag ymateb ffurfiol y Cyngor. Tynnwyd sylw at lythyr diwygiedig a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon
a oedd yn dangos bod y Cyngor yn cymharu’n ffafriol
yn genedlaethol gydag awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Iechyd o ran yr amser a gymerir
i ddatrys cwynion. Nodwyd y gwelwyd gostyngiad
o 44% yn y nifer o gwynion a gyfeiriwyd at yr Ombwdsmon. Cyfeiriodd y Prif
Weithredwr at yr ystadegau yn y llythyr diwygiedig a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon lle
dangosir nad
oedd y Cyngor wedi ymateb i
geisiadau am wybodaeth gan yr Ombwdsmon
cyn cyfnod o dair wythnos. Eglurodd
tra bod angen sicrhau gwybodaeth i’r Ombwdsmon fedru
ystyried cwyn yn briodol, ni ellir cyfiawnhau rhoi blaenoriaeth i hynny bob tro gan
ei fod yn
golygu tynnu swyddogion allan o’u gwaith dyddiol
i gynhyrchu’r wybodaeth i ymateb
i un cais, gan y byddai’n cael effaith ar
y gwasanaethau a ddarperir i drigolion. O ystyried diffyg adnoddau disgwylir llithriad yn yr
amser a gymerir i ymateb. Ategwyd y
sylw uchod gan yr aelodau
gan nodi bod angen cydbwysedd o ran ymateb yn amserol
a darparu gwasanaethau. Nodwyd diolch i’r Swyddog Gwella Gwasanaeth am ei brwdfrydedd o ran delio â chwynion er mwyn gwella. Awdur: Iwan Evans |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 171 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. W. Gareth Roberts. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Tynnodd y
Cyng. W. Gareth Roberts sylw
penodol at Brosiect G7 ‘Capasiti a Chynaliadwyedd y gyfundrefn gofal ac iechyd’, gan nodi bod y prosiect wedi ei
ychwanegu i’r Cynllun Strategol eleni oherwydd y pryder mawr o ran y problemau presennol sydd yn bodoli
o ran darpariaethau gofal
ac iechyd o fewn y maes pobl hŷn
yn benodol. Nodwyd bod diffyg staff yn y maes
i ddarparu’r gwasanaeth gan gynnwys nyrsys a gofalwyr cartref. Nodwyd yr amlygir
y problemau gan y perfformiad o dan mesur SCA/001 - Cyfradd
oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol
fesul 1,000 o'r boblogaeth sy’n 75+ oed. Eglurwyd bod cyfradd uchel o achosion o oedi yn ardal
De Meirionnydd lle mae diffyg darpariaeth a bod y Cyngor yn mynd i’r
afael a’r broblem yma. Nododd bod cyd-weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn holl bwysig
i ddarparu gwasanaethau mewn dull gwahanol a bod angen edrych ar y broblem
o recriwtio gan adnabod y rhwystrau yn genedlaethol. Cyfeiriodd y Cyng. Dyfrig Siencyn at y bwriad i ddatblygu Cartref Preswyl Llys Cadfan er mwyn gallu cynnig mwy o gefnogaeth nyrsio a fyddai’n caniatáu unigolion i aros yn y cartref preswyl yn hirach ac osgoi mynediad i gartref nyrsio. Croesawodd y bwriad gan nodi bod y model gofal newydd yn ceisio cyfarch y bwlch yn y ddarpariaeth. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS BLANT, POBL IFANC A HAMDDEN PDF 173 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: • Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. • Anfon llythyr at Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant a Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd
Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn tynnu sylw
effaith ymarferol derbyn gwybodaeth hwyr ynglŷn â grantiau ar waith
ataliol, gan ofyn am fwy o sicrwydd
o ran ariannu gwasanaethau ataliol ar gyfer
grwpiau o blant a phobl ifanc bregus
y Sir. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Tynnodd y Cyng.
Mair Rowlands sylw penodol at Brosiect P8 ‘Ymyrraeth Gynnar ar gyfer grwpiau
o blant a phobl ifanc bregus Gwynedd’, gan nodi bod arian grant teuluoedd yn gyntaf yn
dod i ben diwedd mis Mawrth
2017 a bod ansicrwydd o ran ariannu
yn y dyfodol. Roedd hyn yn
creu ansefydlogrwydd i staff gan greu
risg o golli staff a oedd wedi
datblygu arbenigedd gyda hynny yn
gallu llifo drwodd wedyn i
lesteirio’r gwasanaeth ataliol a ddarperir. Adroddwyd bod trefniadau pontio mewn lle
i alluogi rhoi ychydig o sicrwydd i staff. Nodwyd y bwriedir cyflwyno diweddariad i’r Tîm Arweinyddiaeth yn ystod mis
Tachwedd. Ychwanegodd Iwan
Trefor Jones (Cyfarwyddwr Corfforaethol) bod Llywodraeth Cymru yn adolygu
grantiau ar hyn o bryd ac fe ystyrir uno’r grantiau cefnogi pobl a gyda’n gilydd. Nodwyd bod y cyngor yn awyddus i
sicrhau parhad y cynlluniau ataliol yma er ceisio
atal plant a phobl ifanc rhag mynd
yn ddibynnol ar wasanaethau statudol. Awgrymodd
y Prif Weithredwr y dylid ystyried anfon llythyr at Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd Cabinet
dros Gymunedau a Phlant a Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn tynnu
sylw effaith ymarferol derbyn gwybodaeth hwyr ynglŷn â grantiau ar waith ataliol,
gan ofyn am fwy o sicrwydd o ran ariannu gwasanaethau ataliol ar gyfer
grwpiau o blant a phobl ifanc bregus
y Sir. Cyfeiriwyd at y mesur perfformiad IEU05 ‘Nifer o achrediadau mae pobl ifanc yn eu derbyn trwy’r Gwasanaeth Ieuenctid’, canmolwyd y gwaith a chyfeiriwyd at y cynnydd o 27% yn y nifer o achrediadau a dderbyniwyd yn ystod 2015-16. Nododd y Cyng. Mair Rowlands y byddai’n cyfleu’r neges i’r swyddogion. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 244 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Tynnodd y
Cyng. Gareth Thomas sylw penodol at ganlyniadau amodol Haf 2016 a oedd yn
dangos bod perfformiad
Gwynedd yn gyffredinol dda ar draws y cyfnodau allweddol. Amlygwyd bod lle i wella perfformiad
Cyfnod Sylfaen gan fod canlyniadau wedi aros yn
statig dros y blynyddoedd diwethaf a bod ffigyrau Lefel A 2016 yn dangos bod 96.2% wedi ennill lefel
A A*-E sydd yn -1.1% yn is na’r ffigwr
cenedlaethol a’r ffigwr isaf yng
Ngogledd Cymru. Cyfeiriwyd at Gyfnod
Allweddol 4, nodwyd y gwelwyd cynnydd sylweddol o +5.2% yn y ganran oedd wedi
llwyddo i groesi trothwy Lefel 2+ (cyfwerth a phump TGAU graddau A i C yn
cynnwys Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg).
Roedd y perfformiad yn awgrymu y gall Gwynedd fod yn safle
2 o blith holl awdurdodau Cymru. Tynnwyd sylw bod cynnydd o 13.5% ym mesurydd perfformiad TL+2 ers cychwyn cyfnod
y cyngor presennol yn 2012 a oedd
yn gynnydd sylweddol ym mherfformiad
disgyblion mewn TGAU. Cymerwyd
y cyfle i ddiolch i staff yr holl ysgolion
a’r Adran Addysg am eu gwaith
o ran rhoi sylw i safonau. Ni fyddai’r cynnydd wedi bod yn bosib
heb eu hymroddiad. Nodwyd bod cynnydd rhagorol yng nghanran presenoldeb
yr ysgolion uwchradd. Roedd Gwynedd yr awdurdod cyntaf i gyrraedd presenoldeb
uwch na 95% ar gyfer ysgolion
uwchradd ac arbennig, gyda’r ysgolion uwchradd yn adrodd
ar gymedr o 95.16% gan osod Gwynedd yn gyntaf o ran awdurdodau Cymru. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod pam fod Ysgol Morfa
Nefyn o dan gategori monitro awdurdod er bod yr ysgol wedi
derbyn barn rhagorol ar yr holl
feini prawf o dan arolygiad ESTYN, eglurodd y Cyng. Gareth Thomas bod presenoldeb disgyblion yn cael ystyriaeth
gan ESTYN ac os oedd presenoldeb is bod ysgol yn mynd
syth i mewn
i gategori monitro awdurdod. Canmolwyd gwaith yr ysgolion gan nodi yr anogir y gwelliant. Awdur: Iwan Trefor Jones |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS ADNODDAU PDF 172 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Peredur
Jenkins. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Nododd y Cyng. Peredur Jenkins bod angen cywiro dau
beth yn yr
adroddiad, sef:
Cyfeiriwyd
at brosiect C1 ‘Rhoi Ffordd Gwynedd ar waith’, nodwyd y lleihawyd y nifer o adolygiadau a gynhelir yn ystod 2016-17 o 12 i 7 er mwyn
sicrhau y gwneir gwaith manwl. Tynnwyd
sylw at brosiect C2 ‘Rhaglen Datblygu Arweinwyr’, eglurwyd er bod y gwaith ar lefel uwch
swyddogion yn mynd yn ei
flaen yn unol â’r disgwyl
bod pryder ynghylch ei addasrwydd i’r
Aelodau Cabinet. Nodwyd y penderfynwyd bod y prosiect yn canolbwyntio ar yr uwch
swyddogion dros y misoedd nesaf gan
ail ymweld ag anghenion yr Aelodau Cabinet yn ddiweddarach yn 2017. Cadarnhawyd y gwireddir yr arbedion effeithlonrwydd
a gynlluniwyd erbyn diwedd Mawrth 2017 ac fe ddarganfyddir cynlluniau effeithlonrwydd pellach i’w gwireddu
yn unol â’r
un amserlen. Mewn ymateb i sylw gan aelod bod perfformiad yr Adran Addysg o ran talu anfonebau o fewn 30 diwrnod yn effeithio ar fesur perfformiad Canran yr anfonebau a dalwyd o fewn 30 diwrnod (ar draws y Cyngor), nodwyd y cynhaliwyd trafodaethau efo’r Aelod Cabinet Addysg a bod rhaglen waith wedi ei sefydlu i ddelio gyda’r mater. Ychwanegodd y Cyng. Gareth Thomas y byddai sefydlu’r swyddfeydd ardal addysg yn lleihau’r baich ar y Penaethiaid a’i fod yn ffyddiog y byddai’r perfformiad yn gwella. Awdur: Dilwyn Williams |