Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sophie Hughes  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Prif Weithredwr, Dilwyn Williams a’r Swyddog Monitro, Iwan Evans.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd buddiant personol gan y Cynghorydd Gareth Thomas ar Eitem 7 “StrategaethMwy na Llyfrau” y Gwasanaeth Llyfrgelloherwydd fod ganddo berthynas sy’n gyflogedig gan y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.  Gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr eitem hon.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12FED O ORFFENNAF 2016 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12fed o Orffennaf 2016.

6.

GWELEDIGAETH AR GYFER TWF YR ECONOMI YNG NGOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r “Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru” fel sail ar gyfer cynnal trafodaethau gyda Llywodraethau Prydain a Chymru am gais “Cynllun Twf” i’r rhanbarth.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Mandy Williams-Davies.

 

Eiliwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru” fel sail ar gyfer cynnal trafodaethau gyda Llywodraethau Prydain a Chymru am gais Cynllun Twf i’r rhanbarth.

 

TRAFODAETH

 

Croesawyd y ddogfenGweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru” gan nifer helaeth o’r Aelodau Cabinet gan nodi’n gryf y dyhead i gydweithio ac adeiladu perthynas ymysg y nifer o awdurdodau. 

 

Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau budd i Ogledd Orllewin Cymru yn benodol drwy ymdrechu’n galed i dynnu buddsoddiad i’r ardal.  Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet cyfrifol bod Gwynedd yn flaenoriaeth ac y gobeithir y bydd argaeledd arbenigedd yn y Sir yn cryfhau gydag amser wrth i ni sicrhau gwell gydlynu trafodaethau a chydweithio. Ychwanegodd Iwan Trefor Jones mai gwasgaru twf ar draws y Gogledd yw’r nod er mwyn sicrhau bod y budd yn lledaenu.

 

Nodwyd pryder nad oes cyfeiriad amlwg tuag at gydweithio gyda Llywodraeth Cymru a pwysleisiwyd yr angen i gryfau’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Gogledd.  Cadarnhaodd Iwan Trefor Jones bod trafodaethau parhaus wedi eu cynnal gyda’r Gweinidogion Mark Drakeford AC a Ken Skates AC a bod dyhead i gryfhau’r berthynas rhwng Llywodraeth San Steffan a Swyddfa Cymru yn Llundain.

 

Eglurwyd mai’r cam nesaf fydd i drafod ymhellach gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gan obeithio y bydd y Canghellor yn darparu ei gefnogaeth i’r egwyddor yn ei ddatganiad ar 23 Tachwedd 2016.

Awdur: Iwan Trefor Jones

7.

STRATEGAETH "MWY NA LLYFRAU" Y GWASANAETH LLYFRGELL pdf eicon PDF 412 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Strategaeth “Mwy na Llyfrau” ar gyfer Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd.

Cofnod:

Datganwyd buddiant gan y Cyng. Gareth Thomas a gadawodd y cyfarfod.

 

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

Eiliwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu StrategaethMwy na Llyfrauar gyfer Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd bod dyletswydd ar y Cyngor yn sgil toriadau gan Lywodraeth y DU a phenderfyniad y Cyngor i dorri 25% o’r gyllideb prynu llyfrau i weithredu o fewn y gyllideb sydd ar gael.

 

Pwysleisiwyd, yn benodol o ystyried y sefyllfa ariannol anodd, bod y Strategaeth yn golygu gallu darparu gwasanaeth i drigolion Gwynedd a fydd yn gynaliadwy i’r dyfodol.  Cydnabuwyd fodd bynnag er bod y strategaeth yn un Sirol sy’n golygu y bydd darpariaeth yn newid i bawb ar draws y Sir, bod yr effaith i’w deimlo yn amlycach mewn rhai cymunedau.

 

Cydnabuwyd bod amharodrwydd cyffredinol tuag at y newidiadau i’r ddarpariaeth wedi bod yn amlwg ond wrth drafod ymhellach fod y rhan fwyaf o ardaloedd yn fodlon trafod ymhellach a negydu’r manylion.  Datganwyd cefnogaeth penodol i’r cyfeiriadau at gryfhau’r gwasanaeth Llyfrgell deithiol gan nodi ei budd, yn enwedig yn yr ardaloedd fwyaf gwledig ar draws y Sir.

 

Nodwyd fod Llyfrgell Porthmadog sydd bellach wedi ei lleoli yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn yn enghraifft gadarnhaol o sut gellir defnyddio ased arall gan y Cyngor i gynnal y ddarpariaeth, ac er nad yw’r math yma o addasiad yn bosibl ymob ardal, fe gadarnhawyd fod yr Aelod Cabient a’r Swyddogion yn gwyntyllu unrhyw gyfleoedd sy’n codi.

 

Croesawyd y strategaeth fel ffordd ymlaen gan nodi bod trafodaethau sydd dal i’w cael mewn rhai cymunedau.  Diolchwyd i bartneriaid a thrigolion Gwynedd am eu parodrwydd i gydweithio, ac i’r Swyddogion am eu gwaith.

Awdur: Catrin Thomas

8.

SYMUD TUAG AT SWYDDFEYDD ARDAL ADDYSG pdf eicon PDF 522 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo gweithredu model Swyddfeydd Ardal Addysg.

 

Cymeradwyo cais am gostau o oddeutu £275,000 blynyddol am hyd at dair blynedd, gan awdurdod i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Aelod Cabinet Adnoddau i gadarnhau y cyfanswm yn sgil canlyniadau arfarnu swyddi’r staff.

 

Cymeradwyo i’r Adran Gefnogaeth Gorfforaethol a’r Adran Addysg greu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ym maes Adnoddau Dynol er mwyn diffinio natur y gwasanaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo gweithredu model Swyddfeydd Ardal Addysg.

 

Cymeradwyo cais am gostau o oddeutu £275,000 gan awdurdod i’r Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Aelod Cabinet Adnoddau i gadarnhau y cyfanswm yn sgil canlyniadau arfarnu swyddi’r staff.

 

Cymeradwyo i’r Adran Gefnogaeth Gorfforaethol a’r Adran Addysg greu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ym maes Adnoddau Dynol er mwyn diffinio natur y gwasanaeth.

 

TRAFODAETH

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg, Arwyn Thomas bod angen rhagor o gefnogaeth ar lefel fwy lleol er mwyn cefnogi Prifathrawon i arwain eu hysgolion a’u rhyddhau i wneud hynny, a chefnogi athrawon i ganolbwyntio ar yr addysgu, a fydd yn ei dro yn arwain at wella safon addysg i blant y Sir.

 

Croesawyd y cynnig gan bwysleisio bod pwysau gormodol wedi bod ar ysgolion, Prif Athrawon a Llywodraethwyr ers rhai blynyddoedd heb gefnogaeth ganolog digonol a bod angen buddsoddi er mwyn cryfhau addysg y disgyblion.

 

Nodwyd y gall ysgolion fod yn gystadleuol yn aml a pwysleisiwyd yr angen i annog cydweithio a rhannu arfer da.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Dafydd Edwards petai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cais am gostau y bydd angen adolygu’r cyllidebau er mwyn cael y ffigwr untro a byddai’n rhaid ei adfer o’r balansau petai adrannau yn gorwario.  Fodd bynnag, gobeithir y bydd yr adran Addysg yn eu tro yn gwneud arbedion er mwyn cyllido’r costau i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod llwyddiannau sylweddol ein hysgolion yng nghanlyniadau Haf 2016 yn gosod y cyd-destun ar gyfer cryfhau’n strwythurau ac annog gwelliant pellach.  Llongyfarchwyd holl ddisgyblion a staff y Sir ar eu gwaith caled drwy’r flwyddyn.

Awdur: Arwyn Thomas

9.

TREFNIADAU NEWYDD Y GWASANAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD GWYNEDD A MÔN pdf eicon PDF 220 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1. Mabwysiadu un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad gyffredin ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a fydd yn cyfarch anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc mewn modd effeithiol ac effeithlon i fod yn weithredol erbyn Medi 2017.

 

2. Ymuno mewn partneriaeth ffurfiol efo Cyngor Sir Ynys Môn i weithredu’r Strategaeth a mabwysiadu trefn llywodraethu newydd y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn, a fydd yn disodli’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (CBAAA).

 

3. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau Cytundeb Ffurfiol gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y bartneriaeth.

 

4. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gwblhau cytundeb/memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer y cyfnod interim cyn arwyddo’r Cytundeb ffurfiol, fydd yn datgan ymrwymiad y ddau awdurdod i weithredu’r drefn newydd, ac yn caniatáu gwneud y gwaith sydd ei angen er mwyn cyrraedd y pwynt hynny.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

1. Mabwysiadu un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad gyffredin ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a fydd yn cyfarch anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc mewn modd effeithiol ac effeithlon i fod yn weithredol erbyn Medi 2017.

 

2. Ymuno mewn partneriaeth ffurfiol efo Cyngor Sir Ynys Môn i weithredu’r Strategaeth a mabwysiadu trefn llywodraethu newydd y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn, a fydd yn disodli’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (CBAAA).

 

3. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gytuno a chwblhau Cytundeb Ffurfiol gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y bartneriaeth.

 

4. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad efo’r Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyllid i gwblhau cytundeb/memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer y cyfnod interim cyn arwyddo’r Cytundeb ffurfiol, fydd yn datgan ymrwymiad y ddau awdurdod i weithredu’r drefn newydd, ac yn caniatáu gwneud y gwaith sydd ei angen er mwyn cyrraedd y pwynt hynny.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod trafodaethau cadarnhaol iawn wedi eu cynnal gyda Chyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu strategaeth ar y cyd a fyddai yn ei dro yn galluogi i’r ddau awdurdod gyrraedd y disgyblion priodol yn llawer cynt.  Eglurwyd y bydd adroddiad cyffelyb yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn yn y dyfodol agos am eu cymeradwyaeth hwy.

 

Croesawyd y cydweithio sydd wedi ei amlygu rhwng y ddau awdurdod a’r cyfle sydd yma i greu arbenigedd a chyfleoedd gyrfa yn ogystal â rhannu’r heriau.

 

Cwestiynwyd beth fyddai’r system graffu a mesur perfformiad wrth i ni gydweithio â Môn a cadarnhaodd Arwyn Thomas y bydd Penaethiaid adrannau Addysg Gwynedd a Môn ynghyd a’r ddau Aelod Cabinet/Deilydd Portffolio priodol yn craffu’n ddyddiol ond y bydd cyfle i graffwyr Gwynedd alw i mewn petaent yn gweld yr angen.  Cadarnhawyd y bydd y Gwasanaeth ar y cyd hwn yn atebol i’r ddau awdurdod.

 

Diolchodd y Cyng. Gareth Thomas i’r Swyddogion yn y ddau awdurdod am eu gwaith a’u parodrwydd i gydweithio.

Awdur: Eleri Owen

10.

ADRODDIAD AR WAITH Y PANEL STRATEGOL DIOGELU PLANT AC OEDOLION BREGUS pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mair Rowlands

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a gyflwynwyd ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a gyflwynwyd ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion.

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd y cynnydd sydd wedi bod mewn ymwybyddiaeth a cyfeiriadau sydd wedi eu gwneud gan staff rheng flaen o dan y prosiect D1, sy’n awgrymu llwyddiant mewn ymdrechion i godi ymwybyddiaeth.

 

Pwysleisiwyd bod y maes diogelu plant lawer fwy aeddfed na’r maes diogelu oedolion ble mae’r gwaith yn fwy newydd.  Fodd bynnag, nodwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu ar ein trefniadau ym maes oedolion a gobeithir gallu cyflwyno rhagor o wybodaeth i sylw’r Aelodau Cabinet yn fuan.

 

Nodwyd mai Gwynedd yw un o’r Siroedd cyntaf i roi trefniadau diogelu mewnol ar waith, a thra’n cydnabod fod llawer o waith dal i’w wneud i sicrhau bod ein trefniadau’n glir a chryf, ac yn fwy effeithiol o fewn yr adran oedolion, pwysleisiodd Morwena Edwards i’r Cyngor wneud gwaith llwyddiannus hyd yn hyn.

 

Pwysleisiodd y Cyng. John Wynn Jones pa mor effeithiol oedd yr hyfforddiant diogelu a dderbyniodd fel Llywodraethwr ysgol yn ei ward.  Cytunodd Aelodau eraill bod diogelu ym mlaen eu meddyliau lawer mwy erbyn hyn.

 

Cwestiynwyd sut mae’r Cyngor yn bwriadu ymdrin â’r defnydd o dechnoleg a nododd Morwena Edwards bod ymdrechion yn digwydd i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr technoleg a sicrhau bod rhieni ac athrawon yn ymwybodol o’r risgiau a bod ganddynt y sgiliau i reoli’r peth.  Nodwyd nad oes ateb amlwg i’r peryglon o ddefnyddio technoleg ond bod llawer o gydweithio yn digwydd gyda’r Heddlu i rannu’r ymarferion gorau.

 

Cwestiynwyd a yw’r Cyngor yn bodloni bod y gwaith rhanbarthol sy’n mynd rhagddo yn effeithiol ac yn dylanwadu ar weithredu ar lefel leol.  Cydnabuwyd ei bod yn anoddach sicrhau’r gwaith ar lefel rhanbarthol a bod y trefniadau sy’n ein cyrraedd o dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Gartref yn gallu creu gorgyffwrdd, ond nodwyd bod y Cyngor yn fodlon fod y trefniadau rhanbarthol yn cryfhau’r agenda.

Awdur: Morwena Edwards

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 pdf eicon PDF 163 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2015/16 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfed Edwards.

 

Eiliwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2015/16 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd balchder bod Cyngor Gwynedd wedi ymddangos ymhlith yr uchaf am berfformiad effeithiol mewn cymhariaeth â Chynghorau eraill a chroesawyd yr adroddiad gweladwy, dealladwy i danlinellu’r perfformiad hwnnw.  Ategwyd bod Cyngor Gwynedd ymysg y gorau yng Nghymru ym myd addysg, a bydd yn ymfalchïo yn hynny.

 

Noder mai’r prawf mewn gwirionedd yw profiad y dinesydd a chroesawyd yr adborth a roddir am hyn wrth adrodd ar y Panel Trigolion.

 

Cydnabuwyd bod lle i wella mewn sawl maes ond bod perfformiad Cyngor Gwynedd yn dda ar y cyfan.

 

Pwysleisiwyd y byddai’n ddogfen ddefnyddiol iawn i Aelodau’r Cyngor ddefnyddio yn eu cymunedau.  Gofynnwyd a oes modd derbyn rhai o’r delweddau sydd wedi eu defnyddio yn yr adroddiad i’r perwyl o’u defnyddio i gyfathrebu negeseuon allweddol a sicrhau dealltwriaeth o’r sialensiau sy’n wynebu’r Cyngor a’i allu i ddelio â hwy.  Cytunwyd bod angen ystyried bob dull bosibl o gyfathrebu’r neges, gan gydnabod nad yw pawb yn defnyddio Technoleg Gwybodaeth.

 

Cadarnhawyd bod y Cabinet yn fodlon bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg a chytbwys am berfformiad y Cyngor.  Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu hymroddiad i’r gwaith.

Awdur: Hawis Jones

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS YR AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 327 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. John Wynn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyfeiriwyd at y mesur perfformiad WMT/004 Canran y gwastraff trefol yrrwyd i’w dirlenwi ble nodir bod y cyfleuster Triniaeth Biolegol Fecanyddol wedi torri ers mis Ebrill, a chwestiynwyd pam nad yw wedi ei drwsio ynghynt.  Nododd y Cyng. John Wynn Jones y byddai’n holi am eglurhad fel sy’n briodol.

 

Cyfeiriwyd at y mesur perfformiad PB59 Canran Arolwg Bodlonrwydd Cwsmer wedi eu bodloni gydag ymateb yr Adran a chwestiynwyd pam nad oes data wedi ei gofnodi.  Awgrymwyd y gall fod o ganlyniad i’r canran uchel sydd wedi ei nodi ar gyfer mesurydd PB57 Canran galwad Bwrdeistrefol a ddiwallwyd tro cyntaf, ond cadarnhaodd y Cyng. John Wynn Jones y bydd yn sicrhau eglurdeb ar hyn.

 

Cyfeiriwyd at y ffigurau yn yr adroddiad sy’n nodi’r nifer o gasgliadau gwastraff/ailgylchu sy’n cael eu methu, a chwestiynwyd a oes patrwm i’r rhesymau bod hyn yn digwydd.  Gan fod y mesur yn un newydd sy’n cael ei ddatblygu, nododd y Cyng. John Wynn Jones ei bod yn ddyddiau cynnar ond fod yr adran yn edrych ar hyn ar hyn o bryd.  Ychwanegwyd bod technoleg GPS mewn lorïau yn golygu y gallent dracio eu bod wedi bod ar eu teithiau priodol, ac mae hyn gam ymlaen.

 

Cyfeiriwyd at fesurydd THS/011c Canran ffyrdd (dosbarth C) sydd mewn cyflwr gwael a chwestiynwyd o ystyried y toriadau sy’n wynebu’r adran, a fydd yn bosibl cynnal y ffigwr a nodir ar gyfer 2015-16 neu a yw’r ffyrdd yn debygol iawn o ddirywio yn raddol. Cydnabuwyd y risgiau a chadarnhaodd y Cyng. John Wynn Jones y bydd yr adran yn monitro’r ffigwr yma i sicrhau nad ydynt yn colli rheolaeth arno.

 

Diolchwyd i’r Cyng. John Wynn Jones am ei waith.

Awdur: Dilwyn Williams

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS GYNLLUNIO A RHEOLEIDDIO pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Tynnodd y Cyng. Dafydd Meurig sylw at y cynnydd sylweddol ym mesurydd PLA004b Canran yr holl geisiadau Cynllunio perthnasol wedi eu penderfynu o fewn 56 diwrnod a pa mor sydyn meant yn cael eu penderfynu ar gyfartaledd gan nodi ei fod yn falch iawn o’r canlyniad.

 

Cyfeiriwyd ar fesur Cludiant02 Canran o gwsmeriaid a ddywedodd eu bod yn fodlon â’r lefel gwasanaeth a nodir nad yw’r ffigwr o 43% yn ddymunol.  Eglurodd y Cyng. Dafydd Meurig bod y mesur yn cymryd i ystyriaeth y teithiau mae’r Cyngor yn eu sybsideiddio a’r rheiny sy’n gwbl fasnachol.  Nid oes gan yr uned drafnidiaeth unrhyw reolaeth dros y teithiau masnachol ac felly gall hyn wyro’r ffigurau. Cadarnhaodd ei fod wedi gwneud cais i’r adran fod yn ystyried y rhain ar wahân i’r dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurydd Parcio4 Canran o apeliadau i’r beirniad annibynnol sy’n cael eu caniatáu. Nodwyd pryder bod y ffigwr o 100% yn awgrymu bod y gost wedi bod yn afresymol i ddechrau. Cadarnhawyd bod y Cyng. Dafydd Meurig wedi codi’r mater ac yn disgwyl ymateb ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriwyd at fesurydd Eiddo2 Canran cwsmeriaid y ddesg gymorth cynnal a chadw sy’n fodlon gyda’r gwasanaeth a dderbyniwyd dros y 6 mis diwethaf a chwestiynwyd a yw’r adran yn defnyddio’r data yna ymhellach wedyn.  Cadarnhawyd bod yr adran yn holi’r cwsmeriaid yn gyson am y rhesymau nad oeddent yn hapus gyda’r gwasanaeth ac yn ceisio dysgu gwersi ohono.  Ychwanegwyd bod yr Aelodau Cabinet yn cael cyfarfodydd rheoli perfformiad yn gyson ac mae hwnnw’n ffordd o sicrhau bod trafodaeth yn cymryd lle a bod negeseuon yn cyrraedd y Penaethiaid.

 

Cyfeiriwyd at fesurydd Eiddo 6 Canran o adeiladau newydd (neu addasiadau) sy’n cael eu cyflawni o fewn yr amserlen a’r gyllideb. Llongyfarchwyd yr adran ar y cynnydd sylweddol i 100% ar y mesurydd hwn.

 

Diolchwyd i’r Cyng. Dafydd Meurig am ei waith.

Awdur: Dilwyn Williams

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS DAI, GOFAL CWSMER A LLYFRGELLOEDD, AMDDIFADEDD A CHYDRADDOLDEB pdf eicon PDF 263 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyfeiriodd y Cyng. Ioan Thomas at y prosiect T7 – Cydymdrechu yn erbyn tlodi. Nododd bod tlodi yn flaenoriaeth i Llywodraeth Cymru ac mae angen i’r Cyngor gyfarch yr agenda.  Nodwyd nad yw’n gwbl gyfforddus bod y Cabinet yn mynd i allu sicrhau ein bod yn deall yr oblygiadau i wahanol adrannau/meysydd portffolio. Yn sgil hynny, mae bwriad i’r Cyng. Thomas drafod gyda’r Aelod Cabinet a’r Swyddog perthnasol er mwyn ystyried beth yn union mae’r adran yn ei wneud i gyfarch yr agenda.  Bydd hyn yn caniatau’r Cabinet i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cyflwyno ac yn eu galluogi i fonitro eu llwyddiant.

 

Wrth gyfeirio at y prosiect T9 – Strategaeth Cyflenwad Tai a’r ddarpariaeth ar gyfer unigolion digartref, nododd y Cyng. Ioan Thomas bod y Pwyllgor Craffu perthnasol wedi nodi bod angen ystyriaeth pellach yn y maes ac annog mwy o ddatblygiadau oherwydd mae yno gryn alw am ddarpariaeth.

 

Nodwyd pryder am y mesurydd Gofal Cwsmer CYSCW02 Canran y gwalwadau ffôn sy’n cael eu hateb o fewn 15 eiliad ar draws y Cyngor gan ei fod yn gostwng.  Cwestiynwyd a yw’r ffaith bod galwadau allan o swyddfeydd y Cyngor i gyd yn dangos rhif ffôn Galw Gwynedd yn hytrach na rhif ffôn y swyddog a geisiodd gysylltu yn creu problemau.  Ychwanegwyd bod angen hyfforddi staff i drosglwyddo eu llinellau ffôn a sicrhau ymateb. Nodowyd bod y gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ond ei bod yn gynamserol adrodd arno.

 

Diolchwyd i’r Cyng. Ioan Thomas am ei waith.

Awdur: Morwena Edwards

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD: AELOD CABINET DROS YR ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Mandy Williams-Davies

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Croesawodd yr Aelodau Cabinet y cyfle a gafwyd yn ddiweddar i gwrdd â’r Athro Dermot Cahill o Brifysgol Bangor gan nodi’r gwerth a gawsant o’r cyflwyniad.

 

Cyfeiriwyd at y cynllun peilot i ddarparu wi-fi cyhoeddus yn Aberdaron o dan y prosiect T3 Gwynedd Digidol gan nodi bod data’n cael ei gofnodi yno ynghylch y math o ddefnyddwyr gwasanaeth a bod hynny yn caniatáu i fusnesau ei ddefnyddio i dargedu cwsmeriaid pan fod angen.

 

Wrth drafod Gŵyl Rhif 6 2016, pwysleisiwyd yr angen i gofio gwahaniaethu rhwng yr ŵyl a oedd yn llwyddiant mawr a’r trafferthion a ddaeth yn sgil y trefniadau parcio.  Nodwyd bod gwyliau o’r fath yn boblogaidd iawn ar hyn o bryd, ond bod angen cadw mewn cof y gallai’r diddordeb ddirywio i’r dyfodol ac felly bod angen ffocysu ar amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.

 

Wrth drafod y mesurau, croesawyd y nifer o swyddi sydd wedi eu creu gyda chefnogaeth yr adran a chwestiynwyd a oes gan yr adran wybodaeth am natur y swyddi ac ym mha sectorau maen nhw.  Nododd y Cyng. Mandy Williams-Davies bod rhai ohonynt yn y maes technoleg ym Mharc Menai.  Ychwanegodd bod gostyngiad wedi bod yn y ffigurau o ganlyniad i ddiffyg adnodd o fewn yr adran, ond ei bod yn bwysig ffocysu ar y potensial i greu swyddi rŵan ac ystyried y ffyrdd gorau bosibl o wneud hynny.

 

Ychwanegodd y Cyng. Mandy Williams-Davies ei bod yn awyddus i edrych ar brofiadau dydd i ddydd y cwsmer a busnesion sydd angen cyngor gan yr adran ac fe fydd yn trafod y posibiliadau ymhellach.

 

Diolchwyd i’r Cyng. Mandy Williams-Davies am ei gwaith.

Awdur: Iwan Trefor Jones

16.

BLAENRAGLEN WAITH CABINET CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 293 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, yn amodol ar wneud yr addasiadau isod:-

-           Cyng. Dyfed Edwards ddim i gyflwyno eitem ‘Cynllun Strategol 2017/18 ar 4 Hydref 2016.

-           Cyng. Dafydd Meurig ddim i gyflwyno eitem ‘Goblygiadau Penderfyniad y Cyngor i gau swyddfeydd Frondeg, Pwllheli a Felinheli ar 4 Hydref 2016, ond ei ohirio i gyfarfod y Cabinet ar 1 Tachwedd 2016.

Cofnod:

Cyflwynwyd y flaenraglen gan y Cyng. Dyfed Edwards.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, yn amodol ar wneud yr addasiadau isod:-

-       Cyng. Dyfed Edwards ddim i gyflwyno eitemCynllun Strategol 2017/18 ar 4 Hydref 2016.

-       Cyng. Dafydd Meurig ddim i gyflwyno eitemGoblygiadau Penderfyniad y Cyngor i gau swyddfeydd Frondeg, Pwllheli a Felinheliar 4 Hydref 2016, ond ei ohirio i gyfarfod y Cabinet ar 1 Tachwedd 2016.

 

Nodwyd bod cais wedi cyrraedd i drafod materion Hamdden yn Harlech ac Ardudwy ond bod trafodaethau ar y ffordd ymlaen yn parhau ar hyn o bryd.