Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sophie Hughes  01286 679729

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dyfed Edwards a Ioan Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU pdf eicon PDF 345 KB

Arbedion Effeithlonrwydd PellachAdran Rheoleiddio

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

PENDERFYNIAD

 

Yn dilyn iddynt gael eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu yn unol â’r gofyn, cymeradwyo i’r Adran Rheoleiddio fwrw ymlaen â’r camau canlynol:

 

1. Ymrwymo i wneud yr Uned Difa Pla mor hunan gyllidol a phosib drwy gynyddu incwm o oddeutu £40,000 y flwyddyn, yn hytrach na diddymu’r gwasanaeth Difa Pla yn ei gyfanrwydd.

 

2. Diddymu swydd Uwch Reolwr Gwarchod y Cyhoedd ac addasu swydd gyfredol yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd i gynnwys cyfrifoldeb am y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ogystal, er mwyn cwrdd â’r arbediad Cam 2 Gwarchod y Cyhoedd (£69,000).

 

3. Bwrw ymlaen i gyfarfod arbediad o £278,440 fel y manylir yn 5.2 o’r adroddiad a gyflwynwyd, drwy weithredu ar gynllun amgen. Fe fydd y cynllun amgen yn canolbwyntio ar gynyddu incwm (yn deillio yn bennaf o’r ymdrechion i sefydlu Gorchymyn Parcio newydd), newid strwythur a lleihau risgiau sydd yn rhwystro arbedion sydd wedi eu cymeradwyo rhag cael eu gwireddu.

Awdur: Dafydd Wyn Williams

5.

COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MEHEFIN 2016 pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28ain o Fehefin 2016.

6.

CYLLIDEB REFENIW 2016/17 - ADNABOD RISGIAU CYNNAR pdf eicon PDF 57 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r risgiau cyllidebol sydd wedi’u hadnabod yn gynnar yn 2016/17 a gofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu rheolaeth.

Awdur: Dafydd Edwards

7.

RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad y chwarter gyntaf (sefyllfa 30 Mehefin 2016) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod, sef:

       cynnydd £3,276,000 mewn amryw ffynhonnell i ariannu gwir lithriadau o 2015/16

       cynnydd £3,459,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

       cynnydd £29,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

       cynnydd £82,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

       cynnydd £441,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

Awdur: Dafydd Edwards

8.

EGWYDDORION CYFUNDREFN ADDYSG ADDAS I BWRPAS pdf eicon PDF 796 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

PENDERFYNIAD

 

Caniatáu’r Aelod Cabinet Addysg i ymgynghori gyda Llywodraethwyr ac ysgolion am addasrwydd yr egwyddorion a fydd yn sylfaen i gyfundrefn addysg ar gyfer y dyfodol i Wynedd.

 

Derbyn yr adroddiad ar Arweinyddiaeth fel sail i hyrwyddo trafodaeth am gyfundrefn addysg addas i bwrpas.

Awdur: Arwyn Thomas

9.

GORCHYMYN PARCIO ODDI AR Y STRYD pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, symud ymlaen i gwblhau’r broses statudol i gadarnhau’r Gorchymyn Parcio newydd ar gyfer Gwynedd.

 

Sefydlu Tocyn Parcio Lleol newydd a fydd yn caniatáu i breswylwyr brynu tocyn parcio blynyddol ar gyfer y maes parcio agosaf at eu cartref am bris gostyngedig o £60 y flwyddyn.

Awdur: Dafydd Wyn Williams