Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganwyd
fuddiant personol gan y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a
Peredur Jenkins yn Eitem 8
y rhaglen oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys diweddariad ar brosiect i
sefydlu un Ysgol Ddalgylchol cyfrwng Cymraeg 3-16 oed yn nalgylch Ysgol
y Gader. Mae gan y Cyng. Siencyn blentyn yn yr ysgol
ac mae’n aelod o Gyrff Llywodraethol Ysgol y Gader ac Ysgol Gynradd Dolgellau. Mae’r Cyng. Jenkins yn aelod o Gorff Llywodraethol
Ysgol y Gader ac yn is-Gadeirydd Corff Cysgodol yr ysgol ddalgylchol
newydd, Ysgol Bro Idris. Cynghorodd y Swyddog Monitro oni bai bod trafodaeth benodol ar y testun hwnnw, ei fod yn ddigonol eu bod wedi datgan buddiant ac nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU PDF 141 KB Argymhellion yn codi o’r Pwyllgor Craffu
Gwasanaethau Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawodd y Cyng. Dyfrig Siencyn y Cyng. Beth Lawton, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau i’r cyfarfod. Croesawodd y Cyng. Siencyn y cyfle i gryfhau’r cyfathrebu uniongyrchol rhwng y Cabinet a’r Pwyllgor Craffu. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn cynnwys argymhellion a sylwadau gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau ar bedwar eitem. Ymateb i’r adroddiad - A. Eitem – Strategaeth Lletya Pobl Hyn Nododd y Cyng. W Gareth Roberts yr argymhellion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ac fe fydd yn trafod materion yn ymwneud â’r gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol sydd ei angen gyda’r swyddogion perthnasol. Nododd y bwriad i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu yn dilyn hyn a croesawodd unrhyw drafodaethau pellach. B. Eitem – Adroddiad Blynyddol AGGCC
(Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) 2014-15 – Rhaglen Waith Pwysleisiodd y Cyng. Beth Lawton yr angen i enwebu’r aelodau a enwir yn yr adroddiad i’r cyfarfod i gynorthwyo’r swyddogion a’r Aelod Cabinet perthnasol wrth lunio briff ar gyfer y cynllun strategol mewn perthynas â chymorth i ofalwyr, a nododd y diffyg datblygiad ar y gwaith yma. Nododd y Cyng. W Gareth Roberts y bydd yn trafod yr argymhellion ymhellach gyda’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu yn dilyn y trafodaethau hynny. Gwnaeth y Cyng. Mair Rowlands gais bod gofalwyr ifanc yn derbyn ystyriaeth wrth lunio briff i’r cynllun strategol mewn perthynas â’u cefnogaeth, a nododd ei pharodrwydd i fod yn rhan o drafodaethau o’r fath. C. Eitem – Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Addysg Nododd y Cyng. Beth Lawton y bwriad i’r Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau Cefnogol Addysg gyflwyno adroddiad ar ei waith i’r Aelod Cabinet Addysg yn y dyfodol agos. Fe nododd hefyd bod trefniadau bellach wedi eu gwneud i’r Aelod Cabinet Addysg gyflwyno adroddiad interim yn ôl i’r Pwyllgor Craffu er mwyn gweld beth yw patrwm canlyniadau arholiadau’r haf. Bydd hyn yn cymryd lle ym Medi 2016. Eglurodd y Cyng. Gareth Thomas yr anhawster i adrodd ar yr holl faterion perthnasol mewn un adroddiad blynyddol a’r cytundeb, felly, i wahanu ei gynnwys i ddau wahanol adroddiad yn y dyfodol. Croesawodd y sylw penodol fydd y Pwyllgor yn ei roi i Addysg Arbennig yn ei raglen waith ar gyfer flwyddyn nesaf, ac mae’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Pwyllgor. CH. Eitem – Polisi Cludiant – Adran Oedolion a Llesiant Pwysleisiodd y Cyng. Beth Lawton y diffyg eglurdeb ar y broses apêl, a nododd ddymuniadau’r Pwyllgor i wneud trefniadau gyda’r Aelod Cabinet a’r swyddogion perthnasol i drafod hyn ymhellach. Cadarnhaodd y Cyng. W Gareth Roberts y bydd yn gwneud yr ymholiadau perthnasol ac yn trafod gyda’r Pwyllgor er mwyn gwneud y trefniadau priodol. Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet hefyd sicrhau bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb priodol yn cael ei gynnal, gan roi sylw penodol i unrhyw faterion cyn cyflwyno’r polisi i’r Cabinet am gymeradwyaeth. Diolchodd y Cyng. Dyfed Edwards i’r Cyng. Beth Lawton a’r Pwyllgor am eu gwaith, a croesawodd y drafodaeth ddefnyddiol. Awdur: Gareth James |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 7FED MEHEFIN 2016 PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7fed o Fehefin 2016. |
|
CYNLLUN CYFLOGAETH LLŶN AC EIFIONYDD PDF 162 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Mandy Williams-Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Mandy
Williams-Davies. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Mabwysiadu
‘Cynllun Cyflogaeth Llŷn ac Eifionydd’ fel sail ar gyfer
cyfeirio ymdrechion y Cyngor a’i bartneriaid
i gynnal a chreu gwaith yn
ardal Dwyfor. Awdur: Sioned Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Cefnogi’r
cynllun i’w weithredu fel rhan
o raglen gyfalaf yr Adran Rheoleiddio
yn 2016/17 gan ddefnyddio’r grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Lleol a chyllid adrannol sydd wedi
ei adnabod at ddibenion y prosiect. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD PDF 493 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth a
gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r cyfarfod, gan weithredu ar unrhyw argymhellion. Awdur: Hawis Jones |
|
BLAENRAGLEN WAITH CABINET CYNGOR GWYNEDD PDF 276 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd y Flaenraglen Waith gan y Cyng. Dyfed
Edwards. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r
Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, yn amodol ar wneud yr
addasiadau isod: -
Cyng.
Dafydd Meurig ddim i gyflwyno ‘Safle Glyn Rhonwy’ i’r Cabinet ar 12 Gorffennaf
2016. -
Cyng.
Peredur Jenkins ddim i gyflwyno ‘Adolygu Strategaeth Ffordd Gwynedd’ ar 12
Gorffennaf 2016, ond ei ohirio i gyfarfod o’r Cabinet yn ystod Chwarter 4
2016/17. |