Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Dyfed Edwards, y Cyng.
Mandy Williams-Davies ac Iwan Trefor
Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater
brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater
yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHELIR AR 3 MAI 2016 PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3ydd o Fai 2016. |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2015/16 - ALLDRO REFENIW PDF 79 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Peredur
Jenkins. PENDERFYNIAD 1. Derbyn a nodi sefyllfa
ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2015/16, a chymeradwyo’r sefyllfa er
mwyn galluogi’r Adran Cyllid i symud ymlaen i gynhyrchu, ardystio a chyhoeddi’r
datganiadau ariannol statudol erbyn 30 Mehefin ac i’w cyflwyno i’w craffu gan y
Pwyllgor Archwilio ar 14 Gorffennaf. 2. Cymeradwyo’r symiau i’w
cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1),
sef – ADRAN £’000 Oedolion,
Iechyd a Llesiant (6) Plant
a Theuluoedd (8) Addysg (48) Economi
a Chymuned 5 Priffyrdd
a Bwrdeistrefol (6) Rheoleiddio
(90) Ymgynghoriaeth Gwynedd 34 Tîm
Rheoli Corfforaethol & Chyfreithiol (20) Cyllid
(70) Cefnogaeth
Gorfforaethol (95) Cyllidebau
Corfforaethol 0 3. Cymeradwyo’r
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (amlinellwyd yn Atodiad 2 i’r
adroddiad) – •
Yn unol â chais y Pennaeth Adran Oedolion, trosglwyddo cyllidebau o fewn yr Adran
Oedolion Iechyd a Llesiant fel y rhestrir yn Atodiad 2, tudalen 18 (effaith net
o “£0”). •
Neilltuo £150k o'r sefyllfa tanwariant gros yr Adran Rheoleiddio am 2015/16 mewn
cronfa ar gyfer datblygu trefn archwilio ac asesu cyflwr pontydd, cwlferi a
rhai waliau cynnal. •
Trosglwyddo £150k o'r sefyllfa tanwariant ar Gyllidebau Corfforaethol am
2015/16 i'r
gronfa wrth gefn perthnasol i'r Bartneriaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru
ar gyfer gofynion 2016/17, gyda'r gweddill sydd ei hangen ar gyfer 2017/18 i’w adnabod
wrth ystyried y strategaeth ariannol am y flwyddyn honno. •
Trosglwyddo £769k o danwariant ar Gyllidebau Corfforaethol am 2015/16 i gronfa tuag
at ariannu strategaeth ariannol 2016/17. •
Defnyddio £292k o danwariant Cyllidebau Corfforaethol am 2015/16 tuag at ariannu
strategaeth ariannol 2015/16. 4. Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3
(ynghyd â’r darpariaethau a ryddhawyd yn dilyn
adolygiad). 5. Nodi fod hyn am wneud
defnydd o (£833k) o falansau'r Cyngor, yn hytrach
na'r (£2.019m) gwreiddiol er mwyn cwblhau'r pecyn i ariannu strategaeth
ariannol 2015/16. Awdur: Dafydd Edwards |
|
RHAGLEN GYFALAF 2015/16 - 2017/18 PDF 83 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Peredur
Jenkins. PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2016) o’r rhaglen
gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 yr adroddiad,
sef: • lleihad £3,068,000 mewn defnydd o fenthyca heb
gefnogaeth • cynnydd £2,023,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau • lleihad £22,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf • cynnydd £80,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw • cynnydd £546,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu Awdur: Dafydd Edwards |
|
DARPARIAETH TOILEDAU CYHOEDDUS YNG NGWYNEDD PDF 90 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Yn unol ag argymhelliad y
Pwyllgor Craffu Cymunedau, addasu’r penderfyniad i wneud toriad o £244,000 yn y
gwasanaeth drwy yn gyntaf ymgeisio i sefydlu partneriaethau gyda chymunedau lleol
er mwyn osgoi cau'r cyfleusterau tra’n cyflawni’r un swm o doriad. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|
CYNLLUN ADNEWYDDU PIBELLI DŴR STADAU TAI CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD PDF 75 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD I awdurdodi Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol mewn ymgynghoriad â’r Penaethiaid Cyllid a Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno trefn
ac amodau cydweithio gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) i wireddu Cynllun Rheoli ac Adnewyddu Pibelli Dwr yn
Stadau Tai CCG fel amlinellir yn yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod. I ariannu’r gost o hyd at £300k y flwyddyn sydd ei angen
ar gyfer y Cynllun Rheoli ac Adnewyddu 10 mlynedd hwn drwy ddefnyddio
trosglwyddiadau o’r gronfa o £1.7m o gyn-falansau’r Cyfrif Refeniw Tai i’r perwyl ar
gyfer y blynyddoedd cychwynnol, a’i ariannu drwy ei
gynnwys ar Strategaeth Asedau newydd y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd
olynol. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|
ADOLYGU'R GWASANAETH CASGLU GWASTRAFF GARDD PDF 76 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD I fabwysiadu trefn o godi ffi ar
drigolion am gasglu gwastraff gardd o 1 Ionawr, 2017. I osod ffi o £33 y flwyddyn ar gasglu
biniau gwastraff gardd maint 240 litr (neu 5 sach
pydradwy) a £28 y flwyddyn ar gyfer bob bin ychwanegol neu ar gyfer biniau
maint 140 litr. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|
PROSIECT TRIN GWASTRAFF GWEDDILLIOL GOGLEDD CYMRU PDF 79 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwyo
ariannu camau nesaf o’r Prosiect
drwy drosglwyddo £150k o’r sefyllfa tanwariant
ar Gyllidebau Corfforaethol am 2015/16 i’r gronfa wrth gefn
perthnasol ar gyfer gofynion 2016/17, gyda’r gweddill sydd ei hangen
ar gyfer 2017/18 i’w adnabod wrth
ystyried y strategaeth ariannol am y flwyddyn honno. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|
ARDALOEDD LLESIANT Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 330 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. Dyfed Wyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflfwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig ar ran y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd yr adroddiad gan
y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Argymell opsiwn 8 ardal ar gyfer creu’r
asesiad llesiant drafft i’w ystyried
gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod
ar 17 Mehefin: • Y Bala • Bangor • Caernarfon • Dolgellau • Ffestiniog • Llŷn • Porthmadog • Tywyn Awdur: Janet Roberts |
|
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 PDF 320 KB Cyflwynwyd gan: Cyng./Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts ar ran y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyr yr adroddiad gan
y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad
a gyflwynwyd i’r cyfarfod. Awdur: Hawis Jones |