Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Iwan
Trefor Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater
brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion
yn codi o Bwyllgorau Craffu. Awdur: Vera Jones |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 16eg O CHWEFROR 2016 PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 16eg o Chwefror 2016. |
|
STRATEGAETH LETYA POBL HŶN PDF 131 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. W Gareth Roberts. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Mabwysiadu
Strategaeth Letya Pobl Hŷn. Awdur: Elliw Llŷr |
|
MODEL ARIANNOL AR GYFER TAI FFORDDIADWY PDF 216 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. W Gareth Roberts. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Er mwyn cyflawni prosiectau
strategol i ddiwallu rhai o’r anghenion tai yn y Sir, bwrw ymlaen i ddarparu
benthyciadau o fewn Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol, Darpariaeth ar Gyfer y
Digartref, Ymddiriedolaeth Tir a Tai Gwag i Ddefnydd, lle ceir sicrwydd trwy
ernes neu warant briodol ac amodau cymesur sydd i’w pennu mewn ymgynghoriad
gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol ar gyfer pob cynllun
unigol. Rhoi hawl i’r Uwch Reolwr Tai
weithredu gyda chymeradwyaeth y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol. Awdur: Elliw Llŷr |
|
CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2016-20 PDF 91 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Ioan Thomas. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands. PENDERFYNIAD Cymeradwyo Cynllun
Cydraddoldeb Strategol 2016-20 Cyngor Gwynedd. Awdur: Geraint Owen |
|
TROSOLWG PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 PDF 314 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfed Edwards. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod. Awdur: Geraint Owen |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. W Gareth Roberts. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. PENDERFYNIAD 1. Cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn ymarfer y disgresiwn a
ganiateir gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i
godi tâl am Wasanaethau Gofal i Oedolion o’r 6/04/2016 ymlaen. 2. Mabwysiadu Polisi Codi Tâl newydd y Gwasanaeth
Oedolion fydd yn weithredol o’r 6/04/2016. 3. Cymeradwyo’r ffioedd am wasanaethau gofal ar gyfer
2016/17. 4. Rhoi caniatâd i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i
gychwyn ymgynghoriad ym mis Mai 2016 ar newidiadau sydd eu hangen i’r Polisi
Codi Tâl. Awdur: Meilys Smith |
|
CYNLLUN RHEOLI ASEDAU EIDDO PDF 297 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r Cynllun Rheoli Asedau Eiddo
a Pholisiau Eiddo er mwyn atgyfnerthu
a chefnogi’r hyn sydd eisioes wedi
ei gyflawni drwy’r Strategaeth Eiddo Corfforaethol, gyda’r amod o –
Awdur: Dafydd Gibbard |
|
GWERTHIANT CYN SAFLE YSGOL YR HENDRE, CAERNARFON PDF 178 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Defnyddio pwerau
Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i werthu cyn safle Ysgol yr Hendre,
Caernarfon, yn uniongyrchol i Gartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) am lai na gwerth
y farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd neu
amgylcheddol. Awdur: Dafydd Gibbard |
|
BLAENRAGLEN WAITH CABINET CYNGOR GWYNEDD PDF 206 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. |