Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Sophie Hughes 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. William Gareth Roberts, y Cyng. Mair Rowlands ac Iwan Trefor Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU PDF 190 KB Argymhellion y Pwyllgor Craffu Corfforaethol Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Cyng. Dyfrig Jones i’r cyfarfod gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. Croesawyd y cyfle i gryfhau cyfathrebu uniongyrchol rhwng y Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu gan yr holl Aelodau a oedd yn bresennol. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn cynnwys argymhellion gan y Pwyllgor Craffu Corfforaethol ar dair eitem. Ymateb i’r adroddiad – A. Eitem – Strategaeth
Caffael Cyngor Gwynedd: Rheolaeth Categori a Chadw’r Budd yn Lleol Nododd y Cyng. Mandy Williams-Davies y dyhead i gynyddu’r budd a gedwir yn lleol ac fe eglurodd yr angen i godi ymwybyddiaeth, o fewn a thu allan i’r Cyngor. Nododd hefyd ei pharodrwydd i ddiweddaru’r Pwyllgor Craffu bob 6 mis a croesawodd unrhyw drafodaethau pellach. Cadarnhawyd y byddai’r Aelodau’n ailymweld â chynnydd y strategaeth gaffael, â sylw penodol i reolaeth gategori, yn cael ei fonitro ymhen 6 mis. B. Eitem – Strategaeth
Technoleg Gwybodaeth Ddrafft Croesawodd y Cyng. Peredur Jenkins y pwyntiau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Craffu a diolchodd i’r Pwyllgor am eu rhan yn y trafodaethau. C. Eitem – Budd i Wynedd o Gadw’r Treth Fusnes Croesawodd y Cyng. Dyfrig Siencyn y pwyntiau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor, a nododd yr argymhelliad na ddylai’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i ofyn am yr un telerau i Gymru a sy’n bodoli yn Lloegr. Diolchodd y Cyng. Dyfrig Siencyn i’r Cyng. Dyfrig Jones a’r Pwyllgor am eu gwaith a croesawodd y drafodaeth defnyddiol. Awdur: Vera Jones |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 15fed O FAWRTH 2016 PDF 299 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 15fed o Fawrth 2016. |
|
STRATEGAETH TECHNOLEG GWYBODAETH (2016-18) PDF 144 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Peredur Jenkins Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD 1. Mabwysiadu’r
Strategaeth Technoleg Gwybodaeth ac i’r perwyl o wireddu’r
strategaeth, ariannu dwy swydd Rheolwr
Cyfrif (gyda sgiliau dadansoddwr busnes/rheoli prosiect)
am £74,000 yn barhaol, drwy ddefnyddio tanwariant y flwyddyn flaenorol ar gyfer
2016/17 a rhagfarnu llwyddiant
cais am adnoddau erbyn 2017/18. 2. Er
mwyn cyfarch pryderon y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y dylid ychwanegu ffrwd gwaith ychwanegol
i’r Strategaeth o dan y gweithgaredd “Technoleg fel galluogwr i drawsnewid a chyflawni” i ystyried a yw’r cydbwysedd rhwng diogelwch ac hwylustod defnyddio’r dechnoleg yn gywir. Awdur: Huw Ynyr |
|
YMATEB I OFYNION RHAN 8 O DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014 PDF 94 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. William Gareth Roberts a Cyng/Cllr. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn ar ran y Cyng. W Gareth Roberts a’r Cyng. Mair Rowlands. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas. PENDERFYNIAD Mabwysiadu a gweithredu’r
Protocol a gyflwynwyd fel Atodiad 1 i’r adroddiad
i sicrhau ein bod yn ymateb yn
llawn i ofynion Rhan 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Awdur: A. Morwena Edwards |
|
YMATEB I OFYNION RHAN 9 O DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT (CYMRU) 2014 PDF 111 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. William Gareth Roberts a Cyng/Cllr. Mair Rowlands Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn ar ran y Cyng. W Gareth Roberts a’r Cyng. Mair Rowlands. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.
PENDERFYNIAD 1. Derbyn
nodi sefydlu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yn unol â Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 2. Cefnogi
sefydlu'r Bwrdd Cysgodol Partneriaeth Rhanbarthol am y cyfnod hyd nes bydd
y trefniadau ffurfiol wedi eu cadarnhau. 3. Enwebu
y Cyng. William Gareth Roberts, Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, sydd â chyfrifoldeb o fewn y maes gwasanaethau cymdeithasol, i eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol. Enwebu’r Cyng. Mair Rowlands, Aelod Cabinet
Plant, Pobl Ifanc a Hamdden fel dirprwy. 4. Ymrwymo
i ariannu'r costau i gefnogi’r trefniadau rhanbarthol o 2017/18, yn unol â’r lefel
trefniadau presennol. 5. Cyn
cytuno i unrhyw strwythur arfaethedig y dylid gofyn am ragor o waith er
mwyn manylu ymhellach ar gyfansoddiad
y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, y drefn llywodraethu, ac yn arbennig y llinellau atebolrwydd a’i berthynas gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Awdur: A. Morwena Edwards |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd yr adroddiad gan y Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod.. Awdur: Hawis Jones |