Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet, y Cyng. Angela Russell a
Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cyng. Mair Rowlands. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O BWYLLGORAU CRAFFU PDF 188 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Cymunedau, y Cyng. Angela Russell, i’r cyfarfod gan y Cyng. Dyfrig
Siencyn. Croesawyd y cyfle, gan yr holl
Aelodau oedd yn bresennol, i gryfhau’r llinellau cyfathrebu rhwng y Cabinet a Phwyllgorau
Craffu. Nodwyd mai arbrawf oedd cyflwyno’r adroddiad oedd ger bron, er mwyn
rhannu argymhellion Pwyllgorau a Gweithgorau Craffu gydag Aelodau’r Cabinet, ac
er mwyn derbyn ymateb ffurfiol Aelodau’r Cabinet i’r argymhellion hynny. Ymatebion i’r adroddiad a
gyflwynwyd – A. Eitem – Yr Iaith Gymraeg
a’r Drefn Gynllunio Cadarnhaodd y Cyng. Dafydd
Meurig y byddai yn croesawu mewnbwn y Pwyllgor Iaith a’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau i’r broses o greu’r Canllaw Polisi Cynllunio newydd o fewn y Cynllun
Datblygu Lleol. B. Eitem – Cytundebau Adran
106 Cadarnhaodd y Cyng. Dafydd
Meurig ei fod yn croesawu argymhelliad y Pwyllgor Craffu Cymunedau i greu
gweithgor o Gynghorwyr a Swyddogion fyddai’n cydweithio â phobl broffesiynol yn
y maes er mwyn edrych ar amrywiol opsiynau o sut i weithredu Cytundebau Adran
106. C. Eitem – Cludiant Ôl-16 Amlinellwyd bryderon y Pwyllgor
Craffu Cymunedau, sef eu bod yn dal i aros am ymateb i’w argymhellion a
gyflwynwyd i’r Aelod Cabinet Addysg fis Rhagfyr 2014. Ymatebodd y Cyng. Gareth Thomas
i’r ymholiadau yn y drefn y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad i’r cyfarfod – a) i. Unwaith y
bydd yr Adran Addysg yn ymwybodol o sefyllfa o orlenwi, maent yn ymateb iddi’n syth, fel arfer drwy ddarparu mwy o fysus. ii. Mae’n trafodaethau’n
parhau gyda chwmnïau bysus er mwyn ceisio datrys y sefyllfa. iii. Mae hwn yn fater sy’n dod o dan reolaeth Llywodraeth
Cymru, a chytunodd yr Aelod Cabinet Rheoleiddio i gysylltu â’r
Llywodraeth er mwyn ceisio datrys y sefyllfa. iv. Gan nad oedd hwn yn argymhelliad a gyflwynwyd gan y
Gweithgor Craffu, cytunodd y Cyng. Gareth Thomas i wneud ymholiadau pellach ac
adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu cyn Medi 2016, yn y gobaith y byddai modd
gweithredu system newydd erbyn dechrau blwyddyn addysgol 2016/17. Cadarnhawyd y byddai’r Aelod
Cabinet yn ail ymddangos ger bron y Pwyllgor Craffu i gadarnhau pa argymhellion
sydd wedi eu gwireddu er mwyn eu gweithredu o fis Medi 2016, ac hefyd y
byddai’r Aelod Cabinet yn cynnig adroddiadau yn y cyfamser pe byddai materion
yn codi ble byddai mewnbwn Craffu o gymorth. Cytunwyd i barhau gyda’r drefn o drafod materion sy’n codi o Bwyllgorau Craffu mewn cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol. Byddai cofnod o’r drafodaeth hon yn cael ei gylchredeg ymysg aelodau Pwyllgorau Craffu. Awdur: Arwel Ellis Jones |
|
COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 24ain O DACHWEDD 2015 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y Cabinet a gynhaliwyd ar 24ain o Dachwedd
2015. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Wyn Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Wyn Edwards. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd yr
wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r cyfarfod. Awdur: Geraint Owen |
|
DATGANIAD ANSAWDD BLYNYDDOL CARTREFI PRESWYL A NYRSIO GWYNEDD 2014/15 PDF 70 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts. Eiliwyd gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Mae’r Cabinet yn derbyn y ‘Datganiad Ansawdd Blynyddol’ ar
gyfer 2014/15 (Atodiad 1 i’r adroddiad i’r cyfarfod). Cytunwyd i dderbyn ‘Datganiad
Ansawdd Blynyddol’ fel eitem flynyddol barhaus i’r Cabinet yn y dyfodol. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD GWERTHUSO PERFFORMIAD AROLYGAETH GOFAL A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014/15 PDF 67 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts. Eiliwyd gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyn yr Adroddiad Gwerthuso
Perfformiad 2014/15 a gyflwynwyd fel Atodiad 1 i’r cyfarfod. Awdur: Morwena Edwards |
|
BLAENRAGLEN WAITH CABINET CYNGOR GWYNEDD PDF 211 KB Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr. Dyfed Wyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Wyn Edwards. PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. |