Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Gareth Thomas, Cyng. W Roy Owen a’r Cyng. Gethin
Glyn Williams. |
|
Datgan Buddiant Personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd
Ioan Thomas fuddiant personol yn Eitem 6 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod
o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon. Roedd yr aelod o’r farn
nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac fe gymerodd ran yn y drafodaeth ar yr
eitem. |
|
Materion Brys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion brys. |
|
Materion yn Codi o Bwyllgorau Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 3ydd o Dachwedd 2015 PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cywirwyd y cofnodion a gyflwynwyd gyda phapurau’r cyfarfod i nodi presenoldeb swyddog, ac yna llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2015. |
|
Gorchymyn Parcio oddi ar y Stryd PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Dafydd Meurig. Eiliwyd gan y Cyng.
Mandy Williams-Davies. PENDERFYNIAD Yn dilyn y broses ymgynghori, derbyn y newidiadau a nodir ym
mharagraff 2.4 yr adroddiad a bwrw ‘mlaen i sefydlu Gorchymyn Parcio newydd. Dirprwyo hawl i Bennaeth Adran Rheoleiddio mewn ymgynghoriad
a'r Aelod Cabinet dros Rheoleiddio, Pennaeth Cyfreithiol a'r Pennaeth Cyllid i wneud
unrhyw fan addasiadau o fewn y strategaeth sydd eu hangen i’r cynllun er
cwblhau y gorchymyn. Cynnwys meysydd parcio staff y Cyngor yn y Gorchymyn Parcio
er mwyn gallu rheoli cam ddefnydd ac agweddau iechyd a diogelwch yn fwy
effeithlon. |
|
Rhaglen Gyfalaf 2015/16 - Adolygiad Ail Chwarter PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y
Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad
diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2015) o’r rhaglen gyfalaf, a
chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 2.2 – 2.8 o’r adroddiad,
sef: · cynnydd £965,000 mewn defnydd o fenthyca heb gefnogaeth, · cynnydd £3,278,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, · cynnydd £154,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, · cynnydd £300,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, · lleihad £17,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, · cynnydd £847,000 mewn defnydd o
gronfeydd adnewyddu, · trosglwyddo £200,000 rhwng cynllun Llyfrgell Bala a chynllun Ysgolion
dalgylch y Berwyn. |
|
Cyllideb Refeniw 2015/16 - Adolygiad Ail Chwarter PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd
yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2015) o’r Gyllideb Refeniw, ac wedi ystyried
y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth,
gofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau
priodol ynglŷn â materion o dan eu arweiniad/rheolaeth. Nodi'r amrywiol adolygiadau o
drefniadau crybwyllwyd yn yr adroddiad a’r camau i’w cymryd gan adrannau i gadw
rheolaeth ar eu cyllidebau. Wedi ystyriaeth o’r sefyllfa, cymeradwyo, yn benodol, yr
addasiadau a throsglwyddiadau argymhellwyd mewn perthynas â’r Adrannau Addysg,
Economi a Chymuned, Rheoleiddio a Chyllidebau Corfforaethol. |
|
Strategaeth Ariannol 2016/17 - 2019/2020 PDF 219 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins. Eiliwyd gan y
Cyng. John Wynn Jones. PENDERFYNIAD Derbyn y diweddariad a’r crynodeb o
Strategaeth Ariannol 2016/17 – 2019/20 a pharhau gyda’r cynllun ymateb
cyfredol, ‘Her Gwynedd’, ar gyfer 2016/17 – 2017/18, gan ddatgan: a) Bod Cabinet
Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’r toriadau yn ei dyraniad grant sy’n cael ei
orfodi ar y Cyngor gan Lywodraethau San Steffan a Chymru. b) Y bydd Cabinet
Cyngor Gwynedd yn gwireddu ei chyfrifoldeb statudol i gytuno ar gyllideb
gytbwys rhag iddi, yn y pen draw, redeg allan o arian a methu talu ei gweithwyr
a’i chyflenwyr. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd gan y
Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd
yn yr adroddiad i’r cyfarfod. |
|
'Eich Gwasanaethau Chi, Eich Dewisiadau Chi' - Ymgynghoriad gan yr Awdurdod Tân PDF 268 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. Eiliwyd gan y
Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Y dylai’r
Cyngor ymateb i’r ymgynghoriad drwy groesawu’r bwriad i gyfyngu ar wariant yr
Awdurdod Tân dros y tair mlynedd nesaf, ond gan bryderu na dderbyniwyd
tystiolaeth ariannol ynglŷn a gallu’r awdurdod i gyflawni arbedion
effeithlonrwydd, ac yn tynnu sylw at effaith hynny ar allu’r Cabinet i graffu
yr Ymgynghoriad. Gofyn am ystyriaeth i gyfundrefn graffu
rhanbarthol gael ei sefydlu er mwyn craffu gwerth am
arian a geir gan yr Awdurdod Tân. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mair Rowlands. Eiliwyd gan y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn ac W Gareth
Roberts. PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant
ac Oedolion Bregus (Atodiad 1). Cymeradwyo’r
Polisi Corfforaethol Diogelu Plant ac Oedolion Bregus sydd wedi ei adolygu a’i
ddiweddaru (Atodiad 2). |