Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Richardson 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Dyfrig Siencyn ac Iwan Trefor Jones. |
|
Datgan Buddiant Personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd
Gareth Thomas fuddiant personol yn Eitem 6 ar y rhaglen oherwydd bod ei
fab-yng-nghyfraith yn gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor. Roedd yr
aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem hon. |
|
Materion Brys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu. |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 6ed o Hydref 2015 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6
Hydref 2015. |
|
Ymgynghoriad ar Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgelloedd PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Gohirio’r penderfyniad terfynol ar
Strategaeth Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd tan ar ôl Her Gwynedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards. Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts. PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad i’r cyfarfod, gan
ddiolch i staff y Cyngor am gynnal lefelau perfformiad. Gweithredu ar y canlynol – ·
Cynnal
trafodaethau gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy
Weinidog Iechyd er mwyn amlygu’r pryderon recriwtio fel ag y nodir yng nghymal
4.3 o’r adroddiad, a cheisio datrysiad. ·
Parhau i geisio
darganfod dulliau o wella perfformiad, gan ganolbwyntio ar ganfod datrysiadau
ar gyfer meysydd ble nad ydi’r Cyngor yn llwyddo i ateb gofynion pobl Gwynedd. |