Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Ymddiheuriadau –

Cyng. Peredur Jenkins, Cyng. Louise Hughes (Aelod Lleol – ar gyfer eitem 6).

Yr Aelodau Lleol canlynol yn ymddiheuro a datgan buddiant ar eitem 6 – Linda Morgan, Gethin Glyn Williams, John Pughe Roberts.

Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol), Dafydd Edwards (Prif Swyddog Cyllid), Arwyn Thomas (Prif Swyddog Addysg).

 

 

2.

Datgan Buddiant Personol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn fuddiant personol yn eitem 6 ar y rhaglen (Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nalgylch y Gader), oherwydd bod ei Fab yn ddisgybl yn Ysgol y Gader Dolgellau, ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol y Gader Dolgellau ac yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Dolgellau.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

Materion Brys

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

Materion yn Codi o Bwyllgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu.

 

5.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 5ed o Fai 2015 pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Mai 2015.

 

6.

Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nalgylch Ysgol y Gader - penderfyniad statudol pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNIAD

 

Gweithredu ar y cynnig i gau Ysgol Y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Brithdir, Ysgol Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Ysgol Dinas Mawddwy, Ysgol Llanelltyd, Ysgol Friog, Ysgol Clogau (Bontddu) ac Ysgol Ganllwyd ar 31 Awst 2017 a sefydlu un Ysgol Ddilynol Ddalgylchol cymunedol cyfrwng Cymraeg 3-16 oed ar safleoedd presennol ysgolion Y Gader, Cynradd Dolgellau, Ieuan Gwynedd (Rhydymain), Dinas Mawddwy, Llanelltyd a Friog ar 1 Medi 2017.

 

Yn sgil pwysigrwydd penodi pennaeth a’r angen iddo/iddi gael ei b/phenodi ymlaen llaw, cymeradwyo sefydlu corff llywodraethol cysgodol yn ystod Tymor yr Haf 2015 ac yna cyllido pennaeth yr Ysgol Ddilynol Ddalgylchol o arbedion y cynllun cyn gynted a phosibl.

 

Gohirio cadarnhau rhybudd statudol Ysgol Machreth (Llanfachreth) er mwyn cael mwy o eglurdeb yn dilyn datblygiadau diweddar. Gellir ail gyflwyno cais i gadarnhau rhybudd statudol i Ysgol Machreth ger bron y Cabinet yn y dyfodol heb amharu ar yr amserlen a nodir uchod.

 

7.

Mabwysiadu a Hyrwyddo Enw Parth .cymru pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas

Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands .

 

PENDERFYNIAD

 

Prynu www.gwynedd.llyw.cymru a www.gwynedd.gov.wales pan fyddant ar gael.

Hyrwyddo www.gwynedd.llyw.cymru yn unig ar gyfer y wefan.

Parhau i ddefnyddio terfyniadau Cymraeg a Saesneg.

Cyfeiriadau cyfeillgar er mwyn cyfeirio cwsmeriaid i’r dudalen yn eu dewis iaith ar y wefan.  (e.e. www.gwynedd.gov.uk/cynllunio a www.gwynedd.gov.uk/planning).

Mabwysiadu cyfeiriadau uniaith Gymraeg yn unig (@gwynedd.llyw.cymru) ar gyfer e-byst.

Mabwysiadu cyfeiriadau uniaith Gymraeg yn unig ar gyfer blychau e-bost generig sydd ar dudalennau Cymraeg a Saesneg y wefan (e.e.trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru) .

Disodli cyfeiriadau www.gwynedd.gov.uk ar ddeunyddiau a chyhoeddiadau gyda  www.gwynedd.llyw.cymru pan fyddant yn dod i ben.