Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

To receive apologies for absence

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu.

 

5.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15fed o Fedi 2015 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Medi 2015.

6.

Llys Ynadon Dolgellau - Ymateb i'r Ymgynghoriad Llysoedd pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell bod y Cyngor yn gwrthwynebu'r cynnig o fewn y ddogfen ymgynghorol i gau Llys Ynadon a Llys y Goron Dolgellau, gan nodi hefyd pe byddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cadw presenoldeb yn Nolgellau efallai y byddai modd cydweithio i sicrhau lleoliad priodol ar gyfer darpariaeth Gwasanaeth Cyfiawnder yn ardal Dolgellau.

 

7.

Blaenraglen Waith Cabinet Cyngor Gwynedd pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfed Edwards.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Flaenraglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod, gan ychwanegu:

·      eitem i drafod y trefniadau cyswllt rhwng y Cabinet a Phwyllgorau Craffu.

·      eitem i drafod y cyswllt rhwng cynrychiolwyr y Cyngor ar Gyrff Allanol a’r Cabinet