Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Dilwyn Morgan ar gyfer eitem
6, oherwydd bod ei ŵyr yn mynychu Ysgol Bro Tegid. Roedd yn fuddiant sydd
yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 13 MAWRTH PDF 182 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 13 Mawrth 2018, fel
rhai cywir |
|
DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH Y BERWYN PDF 391 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gweithredu
ar y cynnig a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2018 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno
Sant ac Ysgol y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2019 a sefydlu Campws Dysgu
3-19, Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol
y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNWYD Gweithredu ar y
cynnig a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2018 i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant
ac Ysgol y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2019 a sefydlu Campws Dysgu 3-19,
Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol y
Berwyn i agor ar 1 Medi 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ar 13 Chwefror, bu i’r Cabinet gymeradwyo i’r cynnig i gau
Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn yn 31 Awst 2019 a Sefydlu’r
Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1
Medi 2019. Yn dilyn hyn bu cyfnod o wrthwynebiad a cyhoeddwyd rhybuddion
statudol ar y cynnig i gau’r ysgolion. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad yn
ystod y cyfnod gwrthwynebu. Ychwanegwyd mai hwn
fydd cam olaf yn y broses o agor y Campws newydd. Nodwyd y byddai Bwrdd
Llywodraethu Cysgodol yn cael ei ffurfio yn dilyn penderfyniad y Cabinet a fydd
yn penodi Pennaeth newydd i’r Campws Dysgu. Esboniwyd y bydd yr adeilad yn
barod fis Medi 2018, bydd cyfnod pontio
ble fydd modd i’r ysgolion ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn yr adeilad
newydd. Awdur: Garem Jackson |
|
AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADAOL GWYNEDD PDF 325 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd
ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod ein bod yn cyfhau pwynt 36 yn yr
ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw y wardiau ym Mangor yn sgil
mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a Menai. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd ymateb Cyngor Gwynedd i gynigion drafft y
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2018 gyda’r amod
ein bod yn cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad gan bwysleisio amgylchiadau unigryw
y wardiau ym Mangor yn sgil mewnlifiad sylweddol y myfyrwyr i Ward Garth a
Menai. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr ymatebiad drafft i ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol, wedi ei greu ar sail y cyfarwyddyd clir a roddwyd yn y
Cyngor Llawn. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi penderfynu ymateb i’r cynigion
drafft gan gynnig cynigion amgen yn benodol ar gyfer Gerlan ac Ogwen a
Dolgellau ac i ail ddatgan cynigion y Cyngor. Esboniwyd fod
gwaith sylweddol wedi ei wneud yn ymgysylltu gyda’r aelodau ac yn benodol
gyda’r Aelodau lleol yn y llefydd hynny ble mae’r aelodau lleol yn ystyried y
byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod yr adroddiad yn cynnig atebion synhwyrol i Gynigion drafft y Comisiwn
Ffiniau. Wrth edrych ar ardal Porthmadog mae’r ffiniau sydd wedi eu cynnig yn
diystyru ffiniau hanesyddol yr hen siroedd sydd wedi codi anfodlonrwydd yn
lleol. -
Nodwyd fod sylwadau wedi eu derbyn yn nodi fod y Comisiwn wedi
anwybyddu’n llwyr y nifer myfyrwyr fyddai yn ward Garth a Menai y rhan fwyaf
o’r flwyddyn a bod angen cryfhau pwynt 36 yn yr ymatebiad. Awdur: Vera Jones |
|
CYNLLUN GOLEUADAU STRYD PDF 123 KB Cyflwynwyd gan: Cyng Gareth Griffiths Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo ceisio am arian o gronfa Twf Gwyrdd
Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill goleuadau stryd y
Cyngor i dechnoleg LED. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNIAD Cymeradwyo ceisio am arian o
gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn gwireddu cynllun i newid gweddill
goleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn
awyddus i geisio cais am fuddsoddiad o £1,398,795 o Gronfa Twf Gwyrdd Llywodraeth
Cymru er mwyn newid 7778 o oleuadau stryd i dechnoleg LED. Nodwyd mai
benthyciad ariannol yw hwn a fydd i’w ad-dalu yn ddi-log i’r Llywodraeth.
Ychwanegwyd fod y cais cyntaf am yr arian wedi ei gymeradwyo, a bod angen sêl
bendith y Cabinet cyn symud ymlaen a’r cais. Nodwyd mai dilyniad i’r cynllun 4 blynedd, £1.4m presennol fydd y
cynllun yma, a oedd yn cael ei ariannu drwy ddefnydd cronfa Buddsoddi i Arbed
Llywodraeth Cymru. Yn rhan o’r prosiect hwn bydd y Cyngor erbyn Medi 2018 wedi
newid 10,279 o oleuadau stryd i dechnoleg LED. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
cefnogaeth i’r cynllun, a chafwyd trafodaeth am bris yr allyriadau carbon y
bunt o ystyried y gwahaniaethau rhwng yr allyriadau carbon y byddem yn ei arbed
i’r dyfodol o’i gymharu a’r gorffennol, a’r arbediad ariannol gymharol o wneud
hynny. Awdur: Gwyn Morris Jones |
|
CYNLLUN GWYNEDD 2018-2023 Adnoddau i'r Cynllun 'Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion' PDF 276 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
i.
Ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor yn ystod blwyddyn
ariannol 2018-19 er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion
i Wynedd’.
ii.
Adolygu cynnydd y weithgaredd ac ymrwymiadau pellach i gefnogi
gweddill oes y Cynllun cyn diwedd 2018. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais i ymrwymo £50,000 o Gronfa Trawsffurfio’r
Cyngor yn ystod 2018-19 oedd y cais er mwyn gwireddu’r Cynllun ‘Cynyddu budd
Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’. O ganlyniad i’r prosiect dros y bum mlynedd
diwethaf nodwyd fod £3.13m o wariant yn uniongyrchol yng Ngwynedd gan drefnwyr
digwyddiadau. Yn ychwanegol at hyn nodwyd fod £163,000 o fuddsoddiad gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi digwyddiadau wedi digwydd yn sgil cyfraniad gan
Gyngor Gwynedd, a bod budd economaidd o £24.24m i Wynedd wedi ei gynhyrchu gan
ddigwyddiadau. Mynegwyd nad yw’n fwriad yn y dyfodol i Gyngor Gwynedd roi ‘grantiau’ i
drefnwyr digwyddiadau ond yn hytrach i gydweithio gyda hwy i fuddsoddi yn eu
digwyddiadau er mwyn cael y deilliannau gorau i’r sir. Nodwyd os na fydd
cyllideb ar gael ar gyfer buddsoddi mewn digwyddiadau, ni fydd modd i’r Cyngor
gydweithio mor effeithlon gyda threfnwyr na dylanwadu cystal er mwyn cynyddu’r
buddion i’r Sir. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth -
Trafodwyd
os oedd yr ardaloedd sydd yn cael buddsoddiad drwy ddigwyddiadau mawrion yn
ymwybodol fod y Cyngor yn buddsoddi. Nodwyd fod presenoldeb y Cyngor i’w gweld
yn y digwyddiadau ac ar holl ddeunydd marchnata’r digwyddiad, ond efallai fod
lle i wella. Nodwyd yn rhan o’r cynllun fod y staff yn ceisio codi proffil y
Cyngor ac annog trefnwyr i wario yn lleol. |
|
BLAENRAGLEN Y CABINET PDF 268 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau
i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod. TRAFODAETH Cyflwynwyd y blaen
raglen gan nodi y bydd rhai ychwanegiadau i’r Blaen raglen yn nes ar y
dyddiadau. |