Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Linda Ann Wyn Jones, Peter Read a Gareth A. Roberts, Ann Williams, W. Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant).  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd Gareth James, Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu fuddiant yn Eitem 5 – Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Addysg, oherwydd bod ei ferch yn athrawes Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Bethel, Caernarfon.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fyddiant sy’n rhagfarnu ac fe adawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem dan sylw.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 266 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017, fel rhai cywir.  

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017 yn ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol:

 

(a)  Eitem 2 (a) - Datganiad gan y Cadeirydd 

 

Mynegodd y Cynghorydd Alwyn Griffith  y dylai’r cofnod gyfeirio’n benodol at y ffaith bod y Pennaeth Addysg wedi ei benodi i reoli GwE yn rhan amser dros dro yn ogystal â chyfeirio at y gwaith o ymchwilio i drefniadaeth GwE.       

 

(b)          Eitem 6 – Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg – Adroddiad Cynnydd

 

Mynegodd y Cynghorydd Alwyn Griffith:

 

(i)            ei ddymuniad i gynnwys y ffaith ei fod wedi nodi yn y cyfarfod diwethaf wrth drafod cyfeiriadau a gwahanol sylwadau yn adroddiad Mr Alun Charles, Ymgynghorydd allanol, yn deillio o’i astudiaeth i weithrediad polisi iaith y Cyngor, “ei fod yn wrthun y gellir cael addysg Gymraeg o’r Cyfnod Sylfaen hyd at radd yng Nghaerdydd ond ni cheir hyn yn Wynedd”.

 

(ii)        ei anfodlonrwydd i ddefnydd y gair “cymeradwyo” yn y penderfyniad ac mai “derbyn” yr adroddiad fyddai mwyaf priodol oherwydd nad oedd yr astudiaeth uchod wedi ymestyn y ddadl o gwbl ond yn hytrach yn cyfiawnhau’r “status quo”. 

 

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol mai ei ddealltwriaeth ef ydoedd bod y Pwyllgor wedi diolch am yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion  heblaw am un argymhelliad sef 9.1 yn ymwneud â diffinio ysgolion uwchradd Gwynedd yn ôl iaith y cyfrwng addysg a dysgu dan un categori, sef ysgolion dwyieithog -  a bod angen gwaith pellach yn y maes hwn.  Fe brofwyd hyn gyda’r Pwyllgor Craffu ar y diwrnod ac fe gymeradwywyd cynnwys yr adroddiad. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Craffu ymateb i’r sylwadau uchod a phe na fyddir yn cyflwyno cynnig gwahanol roedd penderfyniad y cyfarfod diwethaf ar y mater hwn yn gywir yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Craffu ar y diwrnod hwnnw. 

 

Yn dilyn trafodaeth pellach, cadarnhaodd y Pwyllgor Craffu bod y cofnod yn gywir. 

 

(c)  Eitem 6 (ii) pwynt (i)

 

Diddymu’r geiriau “Teimlwyd nad oedd Popdy – Canolfan Iaith Bangor ...... a newid geiriad y sylw wnaed i egluro ac i ddarllen:

 

“Mai swyddogaeth Popdy – Canolfan Iaith Bangor, yw datblygu menter iaith gymunedol i gyfarch yr iaith ymhob mathau o gyd-destunau.  Nodwyd mai pwynt y drafodaeth ydoedd bod angen Canolfan Drochi yn ymwneud ag addysg yn benodol ym Mangor”. 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH ADDYSG pdf eicon PDF 1 MB

Aelod Cabinet:   Y Cyng. Gareth Thomas

 

I ystyried adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg gan yr Aelod Cabinet Addysg. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol y Gwasanaeth Addysg gan yr Aelod Cabinet Addysg gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

                (i)         Perfformiad

·         Cynnydd sylweddol yn y dangosydd TL2+

·         Gwelliant ym mherfformiad disgyblion Prydau Ysgol am Ddim a’r bwlch wedi lleihau rhwng dysgwyr PYD / Dim PYD

·         Perfformiad dysgwyr ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 yn enwedig yn y dangosydd pwnc craidd

·         Cynnydd mewn presenoldeb dysgwyr yn yr uwchradd a’r cynradd

 

O safbwynt datblygu perfformiad, nodwyd bod angen:

·         Rhoi sylw buan i’r Cyfnod Sylfaen

·         Gwella perfformiad yn y Gymraeg ymhob cyfnod allweddol

·         Gwella perfformiad dysgwyr Prydau Ysgol am Ddim

·         Gwella perfformiad dysgwyr ôl-16 mewn cyrsiau penodol

 

(i)             Darpariaeth Addysg

·         Hyrwyddo lles a diogelwch disgyblion

·         Cefnogaeth  i arweinwyr a rheolwyr

·         Modelau arweinyddiaeth a fydd yn cynnig amodau i dynnu pwysau enfawr oddi ar Benaethiaid

·         Proffil arolygiadau wedi amlygu gwelliant gyda ‘run Ysgol mewn categori statudol

·         Cyflwyno rhaglen Moderneiddio Addysg ar gyflymder da

·         Polisi Iaith y Sir – sicrhau adnoddau i ehangur’r Siarter Iaith i’r sector uwchradd

·         Gwella seilwaith TGCh ymhellach

·         Data Perfformiad – tracio yn holl bwysig i fedru adnabod disgyblion sydd yn llithro

·         Cefnogi llywodraethwyr i fod yn effeithiol

 

Cyfeiriwyd at yr argymhellion o safbwynt sicrhau’r safonau uchaf posibl ymhob cyfnod allweddol a thynnwyd sylw at yr hyn a ofynnir i GwE ei wneud ar ran yr awdurdod addysg o ran y ddarpariaeth addysgu, strategaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynwysiad ac arweinyddiaeth a rheolaeth ysgolion.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)             O brofiad diweddar o Aelodau Etholedig yn cysgodi Ymgynghorwyr Her GwE, gwelwyd tystiolaeth bod ysgolion yn derbyn llawer o gymorth a chefnogaeth gan GwE.  Nodwyd ymhellach bod y profiadau wedi bod yn fuddiol iawn i Aelodau ac i uchafu eu dealltwriaeth o waith a threfniadaeth GwE

(i)            Drwy fynd oddi wrth ddefnyddio’r gair “herio” gwelir bod ysgolion yn barod i gydweithio a nodwyd pwysigrwydd parhau i wella’r berthynas rhwng GwE a’r ysgolion

(ii)           Bod athrawon y sir i’w llongyfarch am y safonau da.

 

Gofynnwyd am elgurder ar rai o’r pwyntiau isod ac sydd angen sylw pellach ac ymatebodd y Pennaeth Addysg iddynt:

 

(iii)          Croesawyd yr adroddiad cynhwysfawr gerbron a chanmolwyd y cynnydd a

wnaed ond pryderwyd bod rhai ysgolion yn y category coch a gofynnwyd pa gamau a wneir i gefnogi’r ysgolion hyn?

 

·                     Bod diwylliant yr adroddiad gerbon yn adnabod cryfderau a hefyd yn adnabod  lle i wella ac o ran y broses, fel y byddir yn datblygu gellir mynd i’r rafael a’r materion hynny lle mae angen gwella.  Gwelir yma ganfyddiadau fydd yn ffurfio manyleb ar gyfer cynllun busnes rhwng yr awdurdod a GwE  ar gyfer y flwyddyn i ddod

 

·                     Bod yr adroddiad yn adnabod cryfderau’r Gwasanaeth ac yn gosod sail gadarn i

weithio fel Tim ac mewn partneriaeth.  Nodwyd ymhellach bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn wedi ychwanegu gwerth drwy herio a chraffu’n effeithiol.  

 

·                     Beth bynnag fydd y drefn bydd wastad ysgolion da, ac ysgolion sydd angen fwy o gefnogaeth a nodwyd bod gweithdrefnau yr awdurdod a GwE wedi bod yn dda yn hyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADOLYGIAD GWE pdf eicon PDF 161 KB

Aelod Cabinet:    Y Cyng. Gareth Thomas

 

I ystyried adroddiad ar yr uchod. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ar ganfyddiadau’r adolygiad a gomisiynwyd o drefniadau gweithredu GwE.

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg bod ymadawiad Rheolwr Gyfarwyddwr blaenorol GwE wedi cynnig cyfle i adolygu effeithiolrwydd a chysondeb yr arfer bresennol o ran gwella ysgolion y rhanbarth a hefyd i ymchwilio pa mor addas i bwrpas oedd trefniadau arwain a llywodraethu. 

           

O’r dystiolaeth gwelwyd bod:

 

·         Aneglurder o ran cyfeiriad strategol GwE

·         Strwythur atebolrwydd presennol ar lefel swyddogion yn aneglur

·         Anghysondeb ym mherfformiad awdurdodau unigol

·         Angen newid y model presennol ar gyfer y sector uwchradd i ffocysu ar CA4

·         Asesiadau athrawon yn anghyson ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol

·         Angen strategaeth glir ar gyfer gweithio gyda’r sector Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol, nododd y Pennaeth Addysg fel a ganlyn:

 

·         Bod rhai prosesau o ran yr argymhellion yn rhwydd i’w cyflawni ac mai’r gwaith mwyaf ydoedd mynd i’r rafael â’r anghysondebau

·         Nodwyd bwysigrwydd i rannu arferion da o awdurdod i awdurdod. 

·         O ran capasiti GwE, byddai’n rhaid ystyried beth fyddai angen i gefnogi ysgolion a rhaid i’r awdurdodau lleol sicrhau tim o unigolion sydd yn gallu cyflawni blaenoriaethau.

·         O safbwynt y tymor hir, ni ragwelir y byddir yn creu un gwasanaeth ar draws y 6 awdurdod

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn, a diolch am yr adroddiad a dymuno’n dda i’r Pennaeth Addysg i’r dyfodol yn ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

 

7.

YMCHWILIAD CRAFFU I DDARPARIAETH GOFALWYR pdf eicon PDF 201 KB

Aelodau Cabinet:      Y Cyng. W. Gareth Roberts

                                    Y Cyng. Mair Rowlands

 

I dderbyn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i ddarpariaeth gofalwyr. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu i’r ddarpariaeth Gofalwyr ac fe gymerodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd R H Wyn Williams, y cyfle i ddiolch i’r aelodau a swyddogion canlynol am eu cyfraniad i’r adroddiad cynhwysfawr gerbron:

 

Y Cyng. E. Selwyn Griffiths

Y Cyng. Siân Wyn Hughes

Y Cyng. Linda Ann Wyn Jones

Y Cyng. Eryl Jones-Williams

Y Cyng. Ann Williams

Y Cyng. Eirwyn Williams

 

Gareth James – Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu

Bethan Adams – Swyddog Cefnogi Aelodau

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod y gwaith ymgymerwyd gan yr Ymchwiliad yn waith cryno ond er hynny yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol.  Tynnwyd sylw RRbod 227 o unigolion wedi ymateb i holiadur manwl ac fod hyn yn gymorth i roi hygrededd i ganfyddiadau’r Ymchwiliad.  Nodwyd bod cyfraniad oddeutu 20 unigolyn a gyfwelwyd wedi bod yn werthfawr iawn a bod yr Ymchwiliad yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda’r Weithrediaeth o ran datblygu polisi a fydd yn cyfrannu at wella’r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr yn y Sir.

 

Mewn ymateb, diolchodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc am y gwaith gyflawnwyd gan yr Ymchwiliad ac fe nododd y prif bwyntiau canlynol

 

(i)            Nad oedd yn hollol eglur os oedd pob un o’r argymhellion yn cael eu cyfeirio at 2 Aelod Cabinet sef Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc ac Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

(ii)           O safbwynt argymhelliad 1 tra’n cytuno bod llawer o waith i’w gyflawni nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i geisio adnabod y gofalwyr cudd.                

 

(iii)          Yng nghyd-destun argymhelliad 4, nodwyd bod angen sylw o ran cael y darlun ehangach ond cwestiynwyd a fyddai comisiynu gwaith yn cyflawni hyn.  Hyderir y gellir rhannu / hyrwyddo gwybodaeth yn fwy effeithiol a thrwy hyn y byddai gennym well trefniadau ar gyfer  adnabod y gofalwyr.

 

(iv)         O ran ymgysylltu â phawb ac yn enwedig rhieni plant anabl, nodwyd bod angen mwy o waith yn hyn o beth. 

 

Amlygwyd y pwyntiau ychwanegol isod gan Aelodau unigol:

 

·         Er bod yr ymchwiliad wedi ei gyflawni mewn cyfnod byr, croesawyd mwy o ymchwiliadau o’r fath i’r dyfodol.

·         Pryderwyd am y toriadau i wasanaeth cerbydau i gario unigolion am ofal ysbaid a nodwyd enghraifft megis Cartref Preswyl Plas Pengwaith, Llanberis.

·         Sicrhau bod y gwasanaeth yn ddwyieithog ac oni fyddai’n berthnasol i Bwyllgor Iaith y Cyngor ymgymryd âg ymchwiliad pellach yn hyn o beth.

·         Diolchwyd i’r Adran am y gwariant ar gyfer estyniad yn Llys Cadfan, Tywyn ar gyfer gwasanaeth gofal dydd ac ysbaid. 

·         Dylid cydweithio’n agos gyda Cholegau lleol i hyrwyddo gyrfa ym maes gofal.

·         Bod ymyrraeth buan yn holl bwysig ac y dylid cydweithio mewn partneriaeth gyda asiantaethau / awdurdodau fel y gellir cyflwyno dadleuon ar y cyd i’r Llywodraeth i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i ymateb i sefyllfaoedd.  

 

Mewn ymateb i  rai o’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

(a)  Bod yr Adran wedi edrych ar ddefnydd effeithiol y fflyd cerbydau a thrwy wneud hyn darganfuwyd nad oedd parhau defnyddio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.