Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Peter Read yn Gadeirydd i’r  Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail-ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16.

 

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynghorwyr Alan Jones Evans, Dewi Owen, Mrs Rita Price (Eglwys Gatholig), Mr Neil Foden (Undeb Athrawon).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones fuddiant personol yn Eitem 8  – Newidiadau yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu ond ni fyddai’n gadael y Siambr oni bai bod trafodaeth benodol ynghylch anabledd dysgu yn ystod trafodaeth ar yr eitem.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 247 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Ebrill  2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2015.

7.

NEWIDIADAU YN Y GWASANAETHAU ANABLEDD DYSGU pdf eicon PDF 337 KB

Aelod Cabinet:  Y Cyng. Gareth Roberts

 

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd mewn ymateb i gyfres o gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor Craffu yn deillio o’r newidiadau yn y Gwasanaeth Anabledd Dysgu.

 

(b)  Adroddodd yr Aelod Cabinet bod angen trawsffurfio’r gwasanaeth uchod er mwyn sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn cyrraedd eu potensial gan sicrhau bod y gefnogaeth a gynigir yng Ngwynedd yn arloesol.  Yn ogystal bod angen cyflwyno newidiadau sydd yn mynd i ganfod arbedion ond yn bwysicach yn gwella’r canlyniad ar gyfer yr unigolyn.  Bydd y cyfathrebu a hyrwyddo’r newidiadau a sicrhau cefnogaeth a dealltwriaeth unigolion a’u teuluoedd, staff a darparwyr mewnol ac allanol yn allweddol ac yn arwain at gydweithio effeithiol tuag at gyrraedd y nod er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer anghenion unigolion.

 

 

(c)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)            Dylid pwyso am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru am gyllid i ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer unigolion awtistig

(ii)           Pwysigrwydd i hysbysebu rhieni / unigolion / defnyddwyr y gwasanaeth pan mai’n ofynnol i ail-drefnu cyfarfodydd

(iii)          Tra’n cefnogi’r weledigaeth i hybu unigolion i fod yn annibynnol, pryderwyd am yr effaith ar lawr gwlad ac yn benodol cefnogi unigolion ag anabledd dysgu sydd yn mynd i fyd gwaith ac o ganlyniad yn colli budd-daliadau

(iv)         Gofynnwyd beth mae Cyngor Gwynedd yn mynd i wneud yn sgil bod deilydd swydd (Gweithiwr Allweddol Awtistiaeth) wedi ymddiswyddo, i sicrhau bod yr unigolion gydag anabledd dysgu yn cael gwasanaeth teilwng

(v)          Croesawir yr adroddiad ond nodwyd bod gwersi i’w dysgu a chyfeiriwyd at weithgareddau a gynigwyd yn flaenorol ar gyfer unigolion gydag anabledd dysgu yn benodol yn Ysgol Botwnnog â’r feithrinfa goed yng Nglyn Llifon a oedd yn rhoi hunanwerth ac yn fuddiol i’r unigolion.

(vi)         Byddai  toriadau i wasanaeth  anableddau dysgu  yn cael effaith andwyol i unigolion

(vii)        Dylid annog pob Aelod i dderbyn hyfforddiant ar awtistiaeth a sut i ddelio ag unigolion

(viii)       Nad oedd cyfeiriad at rieni / teuluoedd yn yr adroddiad a theimlwyd eu bod yn cael eu diystyru.

(ix)         Cais i gynrychiolwyr gydag anabledd dysgu / iechyd meddwl / awtistiaeth i gwrdd â’r Pwyllgor Craffu er mwyn clywed barn a dod i ddeall a chodi ymwybyddiaeth y pwyllgor o’u hanghenion

(x)          Pryder yn sgil newidiadau rhwng Gwynedd / Ynys Môn, i unigolion golli allan ar wasanaethau.

 

(ch)      Ymatebodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau a wnaed gan Aelodau unigol fel a ganlyn:

 

(a)  Esboniwyd bod model “Key Ring” yn un cenedlaethol ac yn caniatáu cefnogaeth hyd fraich gan wirfoddolwyr i unigolion gydag anabledd dysgu a’u bod ar gael pe byddai argyfwng yn codi. Nid oedd y cynllun yn weithredol yng Ngwynedd ond nodwyd ymhellach bod angen i fod mwy blaengar mewn cynlluniau sydd ar gael ond rhaid cofio nad yw pob un yn addas ar gyfer Gwynedd oherwydd natur ddaearyddol y Sir.

(b)  Eglurwyd o safbwynt cyllid pellach i ariannu swydd Cefnogaeth a Monitro Cymunedol, cydnabuwyd bod y sefyllfa’n anodd a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

YMCHWILIAD CRAFFU O'R YSBYTY I'R CARTREF RHAN 2 pdf eicon PDF 2 MB

I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Gofal, Y Cynghorydd Peter Read, ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r eitem uchod er mwyn i’r Cadeirydd, Y Cynghorydd Peter Read, gyflwyno'r  adroddiad uchod a chroesawyd Meinir Williams a Ffion Johnstone o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i ymateb i ymholiadau / sylwadau’r Pwyllgor Craffu.

 

(b)  Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft gan y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu O’r Ysbyty i’r Cartref, a oedd yn canolbwyntio ar drefniadau rhyddhau a throsglwyddo cleifion o’r ysbyty i’r cartref.  Diolchodd y Cadeirydd am y cydweithrediad ardderchog gyda staff y Bwrdd Iechyd ynghyd â swyddogion gwahanol Adrannau’r Cyngor a oedd wedi ychwanegu gwerth at ganlyniadau ac argymhellion yr Ymchwiliad.

 

(c)  Nododd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod yr adroddiad drafft gerbron  yn ffrwyth llafur yr Ymchwiliad Craffu a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Craffu hwn a thynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:

 

·         Bod natur yr adroddiad yn wahanol i’r arferol oherwydd yn bennaf dau adroddiad  ynglŷn â darpariaeth a gwaith craffu diffygiol a ddaeth yn amlwg yn Lloegr.   Derbyniwyd  arweiniad i dreialu ffyrdd gwahanol o gynnal ymchwiliadau craffu i geisio uchafu llais pobl sydd yn y gwasanaeth ac fe welir o’r adroddiad bod mwy o ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata sydd yn arwain at y prif argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd ac i’r Bwrdd Iechyd.

·         Ymddiheurwyd am hepgor cyfeiriad yn yr adroddiad at ymweliad dau aelod o’r Ymchwiliad i  Ganolfan Heneiddio’n Dda yng Nghricieth

 

(ch)      Croesawyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor Craffu ar y prif ganfyddiadau amlinellir yn yr adroddiad ac fe nodwyd y pwyntiau isod:

 

1.         Tra’n derbyn bod Gwynedd yn perfformio’n dda ar y cyfan o ran cymhariaeth genedlaethol ar y mesurydd trosglwyddo cleifion yn amserol o’r ysbyty i’r gymuned nodwyd bod problemau yn amlygu yn ystod y penwythnosau.

 

Mewn ymateb, eglurodd cynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd bod y penwythnosau yn profi’n anodd o ran trosglwyddo cleifion yn ystod cyfnod yr haf oherwydd diffyg Gweithwyr Cymdeithasol yn yr ysbyty dros y penwythnos ond ei fod wedi gweithio’n dda yn ystod y gaeaf. Nodwyd ymhellach bod gwaith yn mynd rhagddo ar yr uchod ond bod gan y Bwrdd Iechyd fwy o sialensiau yn ymwneud â chartrefi yn methu derbyn cleifion yn ôl dros y penwythnosau oherwydd lefelau staffio ynghyd â throsglwyddo cleifion i’r ysbytai cymunedol. 

 

2. Cydnabuwyd gan gynrychiolydd y Bwrdd Iechyd bod llunio cynllun gofal yn flaenoriaeth ganddi'r flwyddyn yma. 

 

1.    Yr angen am gydweithio gyda’r Trydydd Sector yn enwedig yn ardaloedd Dwyfor / Meirionnydd.

 

2.    Cytunwyd  bod lle i wella o safbwynt rhyddhau claf ar y penwythnosau.

 

3.    Bod angen cysoni’r trefniadau a chael cynllun o safbwynt rhyddhau claf, a phecynnau iddynt fynd adref  o Ysbyty Bronglais i Dde Gwynedd

 

4.    O safbwynt prinder meddygon teulu a nyrsys, mynegwyd:

 

·         anfodlonrwydd nad oedd cydymffurfiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o’r polisïau ysgrifenedig i’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Darganfuwyd bod protocol newydd lle rhyddheir y claf o’r ysbyty ac os yw’r claf angen gofal nyrsio mae’n ofynnol i’r unigolion sy’n gofalu chwilio, o fewn 5 diwrnod,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DIWEDDARIAD - ADOLYGIAD STRATEGOL ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD pdf eicon PDF 577 KB

I dderbyn adroddiad cynnydd ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)  Cyflwynwyd diweddariad cryno gan yr Aelod Cabinet Addysg yn deillio o’r adolygiad yn y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. 

 

(b)  Eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg bod cynnydd da wedi ei gyflawni gyda chefnogaeth i’r adolygiad.  Er hynny, roedd o’r farn bod angen cyflawni mwy o waith o safbwynt cyflwyno eglurder i’r gweithlu ynglyn â’r model.  Roedd bwriad i gyflwyno adroddiad i’r Cabinet ym mis Mehefin ond teimlwyd bod yr amserlen yn gynamserol a bellach bwriedir cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet ym mis Medi 2015.  Yn y cyfamser, nodwyd bod cyfarfod arbennig wedi ei drefnu ar 11 Mehefin 2015 gyda gwahoddiad wedi ei estyn i aelodau’r Grŵp Tasg Anghenion Dysgu Ychwanegol (a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau) ynghyd ag aelodau Gwynedd o’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig a rhai o Aelodau’r Cabinet.  Nodwyd ymhellach bod dyddiad wedi ei bennu ar gyfer 15 Mehefin 2015 i’r Grwp Tasg Anghenion Dysgu Ychwanegol i ystyried unrhyw sylwadau pellach y dymunent drafod yn deillio o’r cyfarfod ar 11 Mehefin.

 

(c)  Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Addysg bod adolygiad y strategaeth yn amserol a bod angen rhoi sylw i’r tair elfen isod:

·         Uwchsgilio athrawon i ddarparu ar gyfer anghenion y disgyblion er mwyn gwneud gwahaniaeth

·         Cydweithio gyda rhieni i’w galluogi i gynorthwyo mewn rhyw fodd

·         Cefnogi’r plant ar lawr y dosbarth

 

(ch)      Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod o ran niferoedd a fynychwyd y ffeiriau gwybodaeth ac mai siomedig oedd y presenoldeb, nodwyd bod cyfuniad o resymau am hyn.

 

(d)     O safbwynt aelodaeth y Grwp Tasg Anghenion Dysgu Ychwanegol,

cymeradwywyd i’r Cynghorydd Gweno Glyn barhau yn aelod yn dilyn ei hymadawiad diweddar o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau. 

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

           

(b)       Cymeradwyo i’r Cynghorydd Gweno Glyn barhau

yn aelod ar y Grwp Tasg Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

 

10.

GWELEDIGAETH A CHYFEIRIAD GWASANAETHAU OEDOLION I'R DYFODOL

Aelod Cabinet – Y Cyng. Gareth Roberts

 

I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad newydd ar gyfer y Gwasanaeth Oedolion gan ganolbwyntio’n benodol ar faes gofal pobl hŷn. 

 

Amlinellodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd y cefndir gan nodi bod newid enfawr i ddigwydd nid yn unig yng Ngwynedd ond drwy Gymru gyfan.  Nododd bod newid cyfeiriad yn hynod bwysig ac mai  gyrrwr allweddol y newidiadau ydoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ynghyd â barn pobl hŷn am y math o wasanaethau a darpariaethau maent am eu gweld ar gyfer cyfnod eu henaint hwy.  Bydd angen cynnal gwaith cynhwysfawr gyda’r defnyddwyr ac yr un pryd ni ellir anwybyddu’r toriadau cyllidol ac os am geisio amddiffyn y sefyllfa bresennol golygai arbedion ariannol mewn meysydd eraill.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(a)  Trafodwyd cofrestriad deublyg yn y gorffennol ar sawl achlysur a mynegwyd pryder ynglŷn â’r drefn bresennol gyda chleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbytai i gartrefi preswyl ar gyfer gofal canolradd a’r staff heb gymwysterau priodol i warchod anghenion y cleifion.  Teimlwyd ymhellach bod hyn yn fodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael cleifion allan o’r ysbytai ynghynt.

(b)  Anfodlonrwydd bod unigolion sydd wedi gweithio a chyfrannu yn ariannol ar hyd eu bywydau yn gorfod talu am ofal a rhai eraill yn ei dderbyn yn rhad ac am ddim.

(c)  Bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn annibynnol am gyn hired â phosibl a bod eu hiechyd yn dirywio erbyn y diwedd.

(d)  Cytunwyd â’r sylw uchod gan ychwanegu nad oedd yr isadeiledd yn gywir a bod unigolion yn dod at y gwasanaeth pan fyddent mewn argyfwng.

(e)  Awgrymwyd y byddai o fudd i Aelodau’r Pwyllgor hwn dderbyn copi o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ynghyd â hyfforddiant ar oblygiadau’r ddeddf.

(f)   Bod cynnwys yr adroddiad yn ddiystyriol ac mewn rhai rhannau yn gwamalu o safbwynt anghenion pobl hŷn 

(g)  Tra’n cydnabod bod egwyddorion o’r weledigaeth yn wych, rhannwyd pryder ar sut y byddir yn ei weithredu ar lawr gwlad a sut y byddir yn sicrhau atebolrwydd

(h)  Tra’n cytuno bod unigolion yn awyddus i fyw yn annibynnol rhaid cydnabod bod cyfrifoldeb ar y gwasanaeth os ydynt yn dioddef hefyd ac yn y pen draw yn fwy costus

(i)    Pryder nad yw meddygon ifanc yn awyddus i weithio fel meddygon teulu yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. 

(j)    Mynegwyd bod yr angen am ddarpariaeth gofal yn cynyddu ar gyfer mewnfudwyr sy’n symud i gefn gwlad ac angen darpariaeth gofal oherwydd nad oes ganddynt gefnogaeth deuluol yn byw yn agos

(k)  Bod gwasanaeth teleofal yn hanfodol i lawer o bobl hŷn  

(l)    Nad oedd darpariaeth gofal ysbaid digonol yn ardal Arfon a bod gwir angen darpariaeth o’r fath ar gyfer y gofalwyr

(m) Pwysigrwydd i gydweithio gyda’r trydydd sector a chyfeiriwyd at gynlluniau megis “Cynllun Ffrindiau” sydd yn ddarpariaeth lwyddiannus

 

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau uchod fel a ganlyn:  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.