skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Evans, R.Medwyn Hughes, Sian Wyn Hughes, Judith Humphreys, Eryl Jones-Williams, Linda Morgan, John Pughe Roberts, W.Gareth Roberts, Mair Rowlands, Gareth Thomas, Hefin Underwood a Catrin Wager.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 166 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mai, 2018 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol yn eitem 11 ar y rhaglen – Adroddiad Blynyddol Craffu 2017/18, oherwydd ei fod yn Is-gadeirydd y Cyngor Iechyd Cymuned a bod y mater yn ymwneud ag iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog wedi ei drafod yn y Cyngor hwnnw.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llongyfarchwyd:-

 

·         Gwenan Ellis Jones, Cydlynydd Siarter Iaith Gwynedd a Môn ar ddod yn fuddugol yn y categori ‘Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli’ yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn ddiweddar.  Enillodd Gwenan y wobr am ei chyfraniad sylweddol wrth lunio a datblygu’r Siarter Iaith a gafodd ei lansio yng Ngwynedd yn 2011. 

 

·         Prosiect Ieuenctid Derwen, sy’n cynnig gweithgareddau amrywiol i bobl ifanc gydag anableddau yng Ngwynedd, ar ddod i’r brig yng ngwobr ‘Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2018 yn ddiweddar.

 

5.

GOEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“A oes arian yn weddill gan yr Adran Gynllunio wrth weithredu swm cymudol ar ddatblygwyr?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Yn fras, y cwbl ydi hyn yw cyfraniadau gan ddatblygwyr mewn perthynas â datblygiadau mawr lle mae yna gyfraniad tuag at welliannau yn lleol.  Er enghraifft, mae yna £1.2m o gyfraniad gan gwmni Redrow yn ymwneud â stad dai mawr ym Mangor ac mae’r rhan fwyaf o hwnnw yn mynd tuag at addysg yn y ddinas.  Felly, i ateb y cwestiwn, ‘rwy’n credu bod yna tua £1.95m o gyfraniadau wedi dod i mewn dros y blynyddoedd diwethaf yn gyfan gwbl, yn cynnwys yr arian Redrow.  Wedyn, mae yna rywfaint o arian heb ei wario, ond mae hwnnw wedi ei glustnodi a bydd yn cael ei wario’n bwrpasol ac mae’r holl drefn, wrth gwrs, yn cael ei reoli gan gytundebau 106.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Ydi’r Aelod yn cytuno gyda mi bod y Cynllun Datblygu Lleol yn gyfle i osod mwy o symiau cymudol ar ddatblygiadau ar gyfer rhoi’n ôl i’r cymunedau ar draws Gwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Nid yw’n bosib’ defnyddio’r symiau yma ar gyfer unrhyw beth heblaw am rywbeth sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio.  Dyna ydi ei bwrpas a dyna sy’n rheoli’r drefn yn fan hyn ac ‘rwy’n siŵr bod y drefn gynllunio yn manteisio yn gyfan gwbl ar yr arian yma o fewn beth sy’n cael ei ganiatáu.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Cai Larsen

 

“Gyda Chanolfannau Hamdden Gwynedd yn cael eu trosglwyddo i Gwmni Cyfyngedig yn yr Hydref, a oes cynnydd wedi bod yn y gwaith o sefydlu’r Cwmni?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ag Iago

 

“Fel ‘rydych chi’n gallu gweld, mae popeth wedi mynd yn iawn felly mae’n bleserus iawn sefyll o flaen pawb heddiw hefo adroddiad positif iawn.  Mae’r cwmni wedi cael ei gofrestru, mae’r Bwrdd Cysgodol yn ei le ac yn weithredol ac ‘rydym yn mynd drwy’r broses TUPE hefo’r staff ar hyn o bryd.  Eto, mae’r ymgynghoriad yma yn bositif iawn ac mae’r undeb wedi bod yn rhan o’r broses o’r cychwyn.  Mae nhw’n ei gefnogi, mae’r staff yn ei gefnogi a hefyd mae’r staff i gyd wedi bod yn rhan o’r broses o ddylunio’r cynlluniau busnes.  ‘Rydym yn dysgu llawer ac mae eu barn hwy yn mynd i fod yn rhan o sut bydd y cynllun yn cael ei redeg.  Mae wedi bod yn ffantastig.  Yr unig beth ‘rydw i’n pryderu amdano ydi’r amserlen, mae’n dynn, mae yna lawer o waith - nid ydw i’n gweld y staff yn cael gwyliau haf.  Os oes yna unrhyw gwestiynau ar ôl y cyfarfod, ‘rydw i’n hapus iawn i drafod.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Faint o adnoddau Cyngor Gwynedd mewn amser y swyddogion ac mewn arian parod sydd wedi’i gyfrannu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL GWYNEDD 2017/18 pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc adroddiad blynyddol y Panel Rhiant Corfforaethol 2017/18 oedd yn amlygu rôl a chyfrifoldebau’r Cyngor i weithredu fel rhieni corfforaethol ar gyfer plant mewn gofal, yn rhannu gwybodaeth am weithrediad y panel dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn amlinellu bwriadau’r panel ar gyfer y dyfodol.

 

Nododd ymhellach yr adroddwyd ar ddiwedd archwiliad llawn o’r Gwasanaeth Plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mai eleni fod ymagwedd y Panel Rhiant Corfforaethol yn gadarnhaol ac yn ddatblygiadol ei natur, ac y byddai hynny, yn ei dro, yn sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal yng Ngwynedd yn cael cefnogaeth addas drwy eu cyfnod mewn gofal a thu hwnt.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i aelodau’r panel am eu gwaith ac i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu diddordeb a’u mewnbwn cadarnhaol tuag at waith yr adran. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, eglurodd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Er bod y cynllun ymestyn lleoliadau maeth “Pan Fydda i’n Barod” wedi’i dargedu ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed, bod y Cyngor yn parhau’n gyfrifol am bobl ifanc hyd at 25 oed, ond bod y cymorth yn ddewisol iddynt erbyn hynny.

·         Y cyflwynwyd y wybodaeth yn yr adroddiad ar ffurf canrannau yn hytrach na niferoedd er osgoi adnabod achosion unigol.

 

Pwysleisiwyd bod gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynorthwyo’r bobl ifanc hyn i gyflawni eu dyheadau.

 

9.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - TREFNIADAU LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo’r trefniadau craffu ar gyfer gweithgaredd y Cyd-bwyllgor Prosiect Twf (“Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru”) i’w ymgorffori yn y Cytundeb Llywodraethu cam cyntaf.

 

Ar gychwyn y drafodaeth, diolchwyd i’r Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am eu gwaith yn y maes hwn ac am fod yn llais cryf dros Wynedd.  Nodwyd mai dyma’r cynllun pwysicaf a ddeuai gerbron y Cyngor hwn, ac o lwyddo, byddai’n creu swyddi lawer i bobl ifanc ein hardaloedd.  Gan hynny, ‘roedd yn bwysig bod pawb yn cefnogi hyn, waeth beth fyddai’r gost i’r Cyngor hwn.

 

I’r gwrthwyneb, mynegwyd amheuon dybryd am y cynllun ar sail nifer o risgiau ariannol a gwleidyddol.  ‘Roedd Llywodraethau San Steffan a Chymru yn hapus i glymu Gogledd Cymru gyda Gogledd Orllewin Lloegr, er y byddai’n llawer mwy synhwyrol a naturiol i Wynedd gydweithio gyda siroedd Gorllewin Cymru, a byddai siroedd fel Wrecsam a Fflint yn cysylltu a Phwerdy’r Gogledd.  Pryderid am yr effaith ar yr economi wledig a’r ffaith y byddai’r cynllun yn boddi Gwynedd yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol.  Hefyd, ‘roedd risg sylweddol ynghlwm â dirprwyo’r hawl i un person arwain ar y gwaith yng Ngwynedd, waeth pwy fyddai yn y swydd honno i’r dyfodol.  Ar sail hyn i gyd, erfyniwyd ar yr aelodau i beidio â chefnogi’r cynllun.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd ei fod yn gwrthod y syniadaeth o gilio, codi amddiffynfeydd a gwrthod gwneud dim â phawb arall, ac i fod yn ffyniannus yn y byd modern, ‘roedd rhaid i Wynedd fod yn hyderus ac yn barod i gydweithio gyda holl siroedd y Gogledd.

 

Mewn ymateb i sylwadau pellach a chwestiynau gan aelodau, nododd yr Arweinydd:-

·         Iddo atgoffa’r Ysgrifennydd Gwladol o’i fethiannau diweddar i ddenu buddsoddiad i Gymru a bod dyfodol yr Ysgrifennydd Gwladol yn ddibynnol ar lwyddiant y cynllun hwn.

·         Nad oedd y cwestiwn o drethi busnes yn rhan o’r mater dan sylw, ond ei fod yn ymwybodol o’r pryderon a bod y sector breifat yn rhan ganolog o’r holl drafodaethau.

·         Ei fod yn ymwybodol iawn o broblemau economaidd yr ardaloedd gwledig ac er na allai’r Cynllun Twf fod yn ateb i bopeth, y byddai ef, ynghyd â’r arweinwyr eraill, yn lleisio barn gref dros brosiectau fydd yn cael effaith ar draws cefn gwlad.

·         Mai nod y Cynllun Twf a strategaeth y Cyngor hwn oedd cynyddu sgiliau pobl Gwynedd yn hytrach na bod yr arian yn mynd allan o’r ardal i’r cwmnïau mawr.

·         Er nad oedd yna gynllun yn ymwneud ag amaethyddiaeth yn uniongyrchol, y cydnabyddid pwysigrwydd sicrhau mewnbwn y ddwy undeb amaethyddol i’r prosiect, yn enwedig o ystyried goblygiadau Brexit.

·         Nad oedd cymeradwyo’r trefniadau yn golygu arwyddo unrhyw siec wag.  Er ei fod yn deall bod yna elfen o sinigiaeth am y cynllun hwn, o gofio am aflwyddiant rhai o gynlluniau’r gorffennol, ni olygai hynny na ddylid ceisio manteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig y tro hwn.

·         Na allai wneud penderfyniad ar nifer o faterion heb gymeradwyaeth y Cyngor llawn.

·         Bod y Cynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2017/18 pdf eicon PDF 55 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r adroddiad perfformiad blynyddol yn ddarlun cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2017/18, a’i fabwysiadu.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith.

 

Mewn ymateb i sylwadau / cwestiynau gan aelodau, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Y byddai’n holi’r Aelod Cabinet Addysg a yw’r gostyngiad o 64.4% yn 2016/17 i 57.4% yn 2017/18 yng nghanran disgyblion 16 oed sydd yn ennill y Dangosydd Pynciau Craidd yn fater o bryder i’r gwasanaeth.

·         Bod yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn gweithio’n galed yn y maes hamdden i greu’r cwmni hyd braich newydd ac y mawr hyderid y byddai’r trefniadau newydd yn rhoi bywyd a chyfeiriad newydd i’r gwasanaeth ac yn denu pobl yn ôl i’r canolfannau hamdden.

·         Nad oedd yn obeithiol y gellid denu arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gydnabod y gwerth ychwanegol mae gwaith arloesol staff y Cyngor hwn ar y Gymraeg, megis y Siarter Iaith, yn ei gynnig i bobl Cymru yn gyfan gwbl.  Ychwanegodd fod rhaid cydnabod hefyd bod cynghorau eraill yn gwneud gwaith sylweddol ar y Gymraeg a bod y Cyngor hwn yn fodlon cynnig help llaw i unrhyw un sydd eisiau cymorth i hyrwyddo’r Gymraeg.

·         Y cydnabyddid bod recriwtio gofalwyr cartref yn ardaloedd gwledig y sir yn broblem gynyddol ac, yn y tymor hir, bod rhaid creu strwythur o yrfa yn y maes gofal lle gallai’r Cyngor fod yn falch o’r gwaith sy’n cael ei wneud.  Cyfeiriodd hefyd at lwyddiant y cydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn y maes gofal henoed gan nodi bod blaenoriaeth yn cael ei roi i anghenion yr oedolyn a’r hyn sydd ei angen arnynt i fedru parhau i fyw’n annibynnol.

·         Bod mabwysiadu’r adroddiad perfformiad blynyddol hwn yn rhan o’r gwaith o genhadu’r gwaith da sy’n cael ei wneud gan staff y Cyngor.  Yn ogystal â chyhoeddi’r adroddiad yn ei gyfanrwydd ar wefan y Cyngor, ‘roedd bwriad hefyd i gyfathrebu negeseuon allan o’r adroddiad ar y cyfryngau digidol.

·         Y byddai’n cael sgwrs gyda’r aelod lleol ynglŷn â’r pryder a fynegwyd ganddo am ddiffyg arian ar gyfer rhedeg adeilad ysgol feithrin Talysarn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad yn adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2017/18, a’i fabwysiadu.

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2017/18 pdf eicon PDF 738 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu 2017/18  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2017/18.  Diolchodd i’r aelodau craffu sy’n mynychu cyfarfodydd y pwyllgorau craffu gan nodi fod y presenoldeb yn uchel iawn.  Ymddiheurodd bod rhai mân wallau yn yr adroddiad gan nodi y byddai’n gofyn i’r swyddogion gywiro’r gwallau hynny cyn cyhoeddi’r adroddiad yn derfynol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau / sylwadau gan aelodau, nododd Cadeirydd y Fforwm Craffu:-

 

·         Ei bod yn fodlon bod y gwaith craffu yn cael clust a bod statws yn perthyn i’r Fforwm Craffu erbyn hyn, gyda’r Prif Weithredwr a swyddogion allweddol yn mynychu’r cyfarfodydd.  Ychwanegodd bod lle i wella craffu o hyd a byddai’r sefyllfa’n cael ei adolygu dros y flwyddyn nesaf er mwyn gweld sut mae’r drefn yn gweithio.

·         Yn absenoldeb anorfod 2 o’r cadeiryddion craffu o’r cyfarfod hwn, mai dymuniad y Fforwm Craffu oedd iddi hi gyflwyno’r adroddiad blynyddol ar ran y 4 cadeirydd. 

·         Y gallai’r Fforwm Craffu edrych ar y sylw a wnaed bod llwyth gwaith y pwyllgorau craffu a’r angen i gwestiynu’n fanwl yn teilyngu neilltuo diwrnod cyfan ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgorau craffu.

 

Holwyd pwy fydd yn cynnal yr archwiliad annibynnol i ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog, a phryd.  Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal, nododd yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts (sydd hefyd yn Is-gadeirydd y Cyngor Iechyd Cymuned) mai ei ddealltwriaeth ef oedd:-

 

·         Y bu i’r Pwyllgor Craffu Gofal wahodd y Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) i gynnal archwiliad annibynnol i ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.

·         Er bod y CIC yn llwyr gefnogol i’r bobl oedd wedi dod â’r mater hwn gerbron, nad oedd ganddynt yr adnoddau i wneud y math hwn o archwiliad.  Hefyd, pwrpas y CIC yw edrych ar faterion unigolion, ac ‘roedd hyn yn rhywbeth llawer mwy.

·         Ei bod yn ymddangos, felly, bod hyn yn fater i Lywodraeth Cymru benderfynu pwy ddylai gynnal yr archwiliad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:-

 

·         Bod y sefyllfa’n gywilyddus gyda phobl resymol yn disgwyl am ateb i’w cais hollol resymol a democrataidd, ond neb yn cymryd sylw ohonynt.

·         Bod angen i’r Pwyllgor Craffu Gofal ail-edrych ar y mater, gyda’r bwriad tebygol o gyfeirio’r mater yn ôl i Lywodraeth Cymru.

 

Diolchwyd i Gadeirydd y Fforwm Craffu am gyflwyno’r adroddiad ar ran y cadeiryddion craffu.

 

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2017/18 pdf eicon PDF 38 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei hadroddiad blynyddol yn cynnig trosolwg o berfformiad 2017/18 ac yn gwerthuso’r ffordd y mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd wedi hybu lles y bobl sydd angen gofal a chymorth a’u gofalwyr yng Ngwynedd. 

 

Nododd y bu’n flwyddyn o berfformiad cadarnhaol, a hyn mewn cyd-destun o alw uwch a chymhlethdod cynyddol.  ‘Roedd llawer iawn wedi’i gyflawni yn y maes yn ystod y flwyddyn, a hynny, i raddau, yn adlewyrchiad o’r berthynas dda sydd gan y Cyngor gyda’i bartneriaid allweddol o fewn y maes.

 

Nododd hefyd y cafodd yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Arolygiad llawn o’u gwasanaethau gan Arolygaeth Gofal Cymru yn ddiweddar, ac er nad oedd yr adroddiad swyddogol wedi’i gytuno a’i gyhoeddi eto, bod yr adborth llafar gan y Prif Arolygwr ar ddiwedd y gwaith maes yn gadarnhaol iawn ac yn canmol y gwaith sy’n digwydd o fewn y Cyngor.

 

Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff, yn fewnol ac allanol, am eu gwaith diflino ac ymroddedig eto eleni.  Diolchodd yn arbennig i Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) fu’n gweithio’n agos gyda hi ar y gwaith o lunio’r adroddiad blynyddol.  Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal am eu gwaith a’u sylwadau adeiladol ac i’r Aelodau Cabinet yn y maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Dilwyn Morgan am eu cefnogaeth dros y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i gwestiynau / sylwadau gan aelodau, nododd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol:-

 

·         O ran morâl y staff, y cydnabyddid ei bod yn gyfnod heriol i bawb, ac er bod rhai staff yn fwy hyderus ac yn gweld y newidiadau yn y gwasanaeth yn haws na’i gilydd, eu bod yn croesawu’r ffaith bod y rheolwyr yn ymddiried ynddynt bellach.  Ychwanegodd fod yr arolygwyr wedi sylwi bod gan y Cyngor staff ymroddgar a  hyderus a bod morâl yn edrych yn uchel.  Hefyd, ‘roedd staff yn aros mewn swyddi, yn hoff o weithio drwy’r Gymraeg ac yn brofiadol yn eu gwaith.

·         Bod y Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol yn edrych ar beth fyddai’r effaith ar y gwasanaeth o bobl yn dychwelyd i Wynedd o’r cyfandir yn sgil Brexit, ond nad oedd ateb hawdd i’r broblem yma.

·         Canmolwyd y ddarpariaeth a’r gefnogaeth wych yn yr Uned Egwyl Fer, Hafan y Sêr, Penrhyndeudraeth.

 

 

13.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd:-

 

·         Yn dilyn derbyn neges y bore hwnnw gan y Cynghorydd Sion Jones yn nodi ei fod yn tynnu ei gais i ymuno â’r Grŵp Annibynnol yn ôl, bod angen addasu’r adroddiad ‘Cydbwysedd Gwleidyddol’ a gynhwyswyd gyda rhaglen y cyfarfod.

·         Yn sgil trafodaeth gyda’r Swyddog Monitro a’r aelodau dan sylw, a hefyd hysbysu Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol o’r datblygiad diweddaraf hwn, y cyflwynid yr argymhelliad a ganlyn, mewn ymgais i sicrhau ateb ymarferol a chynnal aelodaeth mor llawn a chyson â phosib’ ar bwyllgorau’r Cyngor:-

 

(a)     Gofynnir i’r Cyngor benodi’r Cynghorydd Stephen Churchman i’r seddau unigol ar y Pwyllgorau Craffu Cymunedau, y Pwyllgor Cynllunio a’r Pwyllgor Pensiynau.

(b)     Gofynnir i’r Cyngor benodi’r Cynghorydd Sion Jones ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Penodi’r Cynghorydd Stephen Churchman i’r seddau unigol ar y Pwyllgorau Craffu Cymunedau, y Pwyllgor Cynllunio a’r Pwyllgor Pensiynau.

(b)     Penodi’r Cynghorydd Sion Jones ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

 

14.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

15.

Ymateb i Rybudd o Gynnig blaenorol y Cynghorydd Elin Walker Jones pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth - llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Walker Jones i gyfarfod 8 Mawrth, 2018 ynglŷn â threth ar blastigion yng Nghymru  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth:-

 

Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elin Walker Jones i gyfarfod 8 Mawrth, 2018 ynglŷn â threth ar blastigion.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y llythyr.

 

 

16.

Ymatebion i Rybudd o Gynnig blaenorol y Cynghorydd Judith Humphreys pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth – llythyrau gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod blynyddol 3 Mai, 2018 ynglŷn â Dinasyddiaeth Gysylltiol y UE  (ynghlwm). 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llythyrau gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod blynyddol 3 Mai, 2018, ynglŷn â Dinasyddiaeth Gysylltiol yr UE.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y llythyrau.