Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2024/25. |
|
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2024 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 240 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. |
|
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth
ar gyfer 2024/25. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei
gynrychioli ar y weithrediaeth.] |
|
ADOLYGIAD O DDATGANIAD O BOLISI DRAFFT - DEDDF TRWYDDEDU 2003 PDF 187 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDDION O GYNNIG |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:- Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys
aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach
na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol
er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden. Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi
datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein. Y ffordd i
wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu
torri. Mae’r Cyngor yma
yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion
Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y
Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o
drenau trwy’r flwyddyn. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a
ganlyn:- Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na
ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref
clyd, addas a phwrpasol. Dyma yw amcan y
Cyngor yma. Rydym ni yn galw ar
Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd
gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a
lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai
ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig
fel a ganlyn:- Mae canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru sydd yn gwasanaethu
trigolion Gwynedd ar hyn o bryd wedi eu lleoli yn Ninas Dinlle ac yn y
Trallwng. Gall cau y canolfannau hyn, a’u canoli, fod yn negyddol iawn, hyd yn
oed yn andwyol, i bobl Gwynedd - yn enwedig i’r rhai sy’n byw yn y llefydd
mwyaf diarffordd. Mae angen sicrhau mai bywydau pobl sy’n cael y flaenoriaeth
fan hyn. Credaf fod y penderfyniad hyn yn groes i ddymuniad y cyhoedd, yn
enwedig y cyhoedd yma yng Ngwynedd. |
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 147 KB Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybuddion o
gynnig y Cynghorwyr Gruffydd Williams a Dewi Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2024 o’r
Cyngor ynglŷn â
chefnogaeth i ffermwyr. |