skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Dylan Bullard, Gareth Griffith, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Elin Walker Jones, Keith Jones, Beth Lawton, Dafydd Meurig, Linda Morgan, W.Roy Owen, Nigel Pickavance, Peter Read, W.Gareth Roberts, Ioan Thomas, Hefin Underwood a Gruffydd Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 170 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2019 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn Gynghorydd a chyn Gadeirydd y Cyngor hwn, William Arthur Evans, a fu farw ym mis Awst.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Elain Heledd, prifathrawes Ysgol Llanegryn, a fu farw’n ddiweddar.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Guto Dafydd ar ennill y Goron a Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni. 

·         Pawb arall o Wynedd a fu’n fuddugol, neu a gafodd eu anrhydeddu yn yr Eisteddfod, gan gynnwys y cyn Brif Weithredwr, Geraint R.Jones, a gafodd ei urddo’n Gymrawd yr Eisteddfod.

 

Dymunwyd yn dda i Paula Sky Tunnadine, aelod o staff Canolfan y Pafiliwn, Harlech, fyddai’n teithio i Hawaii i gystadlu yng nghystadleuaeth Ironman, wedi iddi ennill cystadleuaeth Ironman Cymru yn ddiweddar.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Dylan Fernley

 

“Pa gamau mae’r Cyngor hwn yn bwriadu gymryd i hyrwyddo’r defnydd o gludiant cyhoeddus gan weithwyr?  A ddylem ni gymell y defnydd o fysiau a chosbi’r defnydd o geir gan y sawl sy’n byw ar lwybrau bws.  Onid drwg o beth yw talu i bobl yrru car pan mae yna gludiant cyhoeddus addas ar gael.”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

 

“Croesawir y cwestiwn yma, ac mae sicr lle i leihau teithiau swyddogion a lle i edrych ar drafnidiaeth mwy cost effeithiol a chynaliadwy i deithio o  gwmpas ein Sir.

 

Fel cam cyntaf, ‘rydym ar hyn o bryd yn adolygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Gwynedd a byddwn yn amlygu cyfleoedd i deithio rhwng swyddfeydd ardal y Cyngor.

 

Ar yr un pryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r gwasanaeth Trawscymru gyda’r gobaith o gael mwy o amlder rhwng Aberystwyth a Bangor. Bwriedir cael gwasanaeth cyflym rhwng Dolgellau a Bangor ar amseroedd brig. h.y. ni fydd y bws yn gwyro i bentrefi, sydd yn golygu y bydd hyn yn fwy deniadol i weithwyr.

 

Mae’r Cyngor a chwmni Arriva wedi bod yn cydweithio i gael tocyn rhatach i staff Cyngor Gwynedd sydd yn annog gweithwyr i deithio ar fws yn ardaloedd Bangor, Caernarfon a Bethesda lle mae’r cwmni yn rhedeg.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Dylan Fernley

 

“Beth ydym ni am wneud am y sefyllfa?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd)

“Diolch am roi her i ni fel Cyngor i edrych ar y mater.  Mae’n gwestiwn dilys iawn - pam na fedrwn ni ddyfeisio rhyw drefn sy’n annog, boed o’n weithwyr neu’n gynghorwyr, i ddefnyddio bws yn lle car, ac rwy’n meddwl bod yna le i ni edrych ar hynny.  Un broblem fawr, wrth gwrs, fel un sy’n byw mewn ardal hynod o wledig, yw nad yw’r drafnidiaeth gyhoeddus yn addas i bwrpas yn aml iawn i gyrraedd cyfarfodydd ar yr amseroedd iawn, ac yn y blaen, ac mae’n bosib’ y dylem fod yn edrych ar ein hamserlenni bysiau a threfnu ein cyfarfodydd i siwtio’r amserlenni bysiau hynny.  Rwy’n credu bod yna le i ni weithio ar hynny.  Ond, wrth gwrs, yn y pen draw, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn creu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, di-garbon, os medrwn ni, ac mae hynny’n golygu ein bod angen buddsoddiad sylweddol i wneud hynny, ac mi fuaswn i’n gefnogol i hynny.” 

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Paul Rowlinson

 

“Mae’n bum mlynedd ers i’r Cyngor basio’r cynnig isod (09.10.2014):

 

“O ganlyniad i’r ymosodiadau diweddaraf ar diriogaeth y Palesteiniaid sy’n byw ar Lain Gaza gan Wladwriaeth Israel, mae’r Cyngor hwn yn galw am waharddiad masnachu ar Israel ac yn condemnio’r gor-ymateb a’r mileindra a ddefnyddiwyd.

 

Ymhellach i hyn, ’rydym yn cadarnhau a thanlinellu penderfyniad y Cyngor hwn i beidio buddsoddi yn Israel na sefydliadau’r wlad honno.

 

Credwn os bydd Gwynedd yn arwain y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2018-19 pdf eicon PDF 51 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd y swyddogion canlynol o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod i roi gair o gyflwyniad ar y cychwyn ac i ateb cwestiynau’r aelodau.

 

·         Alan Hughes (Arweinydd Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol)

·         Jeremy Evans (Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol)

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau ar gynnwys yr adroddiad.

 

Gan gyfeirio at yr Archwiliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (tudalen 27 o’r rhaglen), oedd yn manylu ar y graddau mae’r Cyngor wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth sefydlu’r Gwasanaeth Ieuenctid newydd, codwyd pryder gan sawl aelod ynglŷn â chasgliad y Swyddfa Archwilio bod y Cyngor angen gwneud mwy o waith i sefydlu’r pum ffordd o weithio yn llawn.  Cwestiynwyd sylw’r Archwilwyr bod darpariaeth y gwasanaeth wedi’i hysgogi’n bennaf gan gyfyngiadau ariannol yn hytrach na dealltwriaeth o’r galw hirdymor am y gwasanaeth. 

 

Pwysleisiodd y cyn-Aelod Cabinet fu’n gyfrifol am gychwyn y broses o ad-drefnu’r Gwasanaeth Ieuenctid mai diben yr ail-fodelu oedd edrych ar y tymor hwy, gan ystyried sut i foderneiddio’r gwasanaeth a’i wneud yn fwy cynaliadwy ac yn fwy addas ar gyfer anghenion pobl ifanc heddiw ac i’r dyfodol.  Roedd hefyd o’r farn bod ystyriaeth wedi’i roi i’r pum ffordd o weithio a’r amcanion llesiant a chyfeiriodd at yr ymgynghori gyda’r bobl ifanc a’r cydweithio gyda mudiadau lleol eraill yn y maes ieuenctid fel rhai enghreifftiau o hynny.

 

Ategwyd sylwadau’r cyn-Aelod Cabinet ac eraill gan yr Arweinydd a bwysleisiodd ei bod yn amlwg bod yna deimlad cryf iawn ymhlith yr aelodau bod canfyddiad y Swyddfa Archwilio yn hollol anghywir.  Dadleuodd y gellid dweud bod pob newid mae’r Cyngor wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf wedi’i ysgogi gan doriadau ariannol.  Er hynny, roedd y Cyngor wedi bod yn canfod ffyrdd newydd o weithio sy’n cyfarch gofynion y Ddeddf Llesiant, ac roedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn enghraifft glasurol o hynny ac wedi’i ganmol fel model effeithiol ac arloesol a ddylai fod yn esiampl i gynghorau eraill ei ddilyn.  Ychwanegodd fod yr hyn roedd yr aelodau wedi’i glywed yn tanseilio eu hymddiriedaeth yn y Swyddfa Archwilio i ddod i’r casgliadau cywir a galwodd am ddeialog rhwng y Cyngor a’r Swyddfa Archwilio ar y pwynt penodol yma er mwyn symud ymlaen i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol fod gan y Swyddfa Archwilio safbwynt gwahanol i’r Cyngor ar y mater penodol hwn.  Eglurodd fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda nifer o swyddogion gwahanol o fewn y Cyngor wrth fynd drwy’r broses a bod tystiolaeth y Swyddfa Archwilio yn seiliedig ar y cyfweliadau hynny.  Roedd hefyd yn fodlon â thrylwyredd y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.  Er hynny, roedd yn cydnabod y gallai ail-ymweld â’r sefyllfa arwain at farn wahanol a gellid rhoi ystyriaeth i gynnal adolygiad dilynol ar y pwynt yma yn y dyfodol, gan gynnal trafodaethau llawnach gyda’r swyddogion, defnyddwyr y gwasanaeth a’r cyn-Aelod Cabinet fel rhan o’r gwaith hwnnw.

 

Gan gyfeirio at yr adolygiad Darparu Gwasanaethau Llywodraeth Leol i Gymunedau Gwledig: Trosglwyddo Asedau Cymunedol (tudalen 45 o’r rhaglen), holwyd beth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.