skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Linda Wyn Jones, Christopher O’Neal a Peter Read.

2.

COFNODION pdf eicon PDF 447 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2015 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2015, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ychwanegu o dan rhif 5 ‘Rhoi’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar Waith’:

 

“Nododd aelod ei bod yn anghyfforddus â unieithrwydd Saesneg y ffilm a bod staff y Cyngor yn siarad Saesneg.”

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 10 ar y rhaglen ‘Materion Cyllidebol’. Rhoddwyd arweiniad pellach i’r aelodau y dylent ddatgan buddiant pe rhoddir sylw penodol i fater mewn cynnig neu welliant yn ystod y drafodaeth.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Materion Cyllidebol, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd W. Roy Owen - oherwydd ei fod yn ymddiriedolwr Canolfan Noddfa.

·         Y Cynghorydd W. Tudor Owen - oherwydd ei fod yn is-gadeirydd bwrdd Canolfan Noddfa.

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams - oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Cae Chwarae Nefyn a oedd wedi gwneud cais am gymhorthdal gan Fantell Gwynedd a Chist Gwynedd.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant.

 

          Nododd y Swyddog Monitro y byddai’r prif swyddogion oedd yn bresennol, ac eithrio’r Prif Weithredwr, yn datgan buddiant ac yn gadael y siambr drwy gydol y drafodaeth ar eitem 9 ‘Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor’. Ychwanegwyd y byddai’r Prif Weithredwr yn datgan buddiant ac yn gadael y siambr pe cyfyd trafodaeth yng nghyswllt swydd y Prif Weithredwr.

 

Datganodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog Monitro buddiant personol yn yr eitem hon gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. ‘Roeddent o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Gwellhad Buan

 

          Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Peter Read a oedd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

 

(2)     Cydymdeimlad

 

Talwyd teyrnged gan y Cynghorydd John Wynn Jones i’r diweddar gyn-Gynghorydd Eddie Dogan, fu’n cynrychioli Ward Dewi am flynyddoedd lawer, a chydymdeimlwyd â’i deulu yn eu profedigaeth.

         

          Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-Gynghorydd Mair E. Williams (Mair Vanwil) a fu’n aelod gweithgar o’r cyngor hwn am sawl blwyddyn ac yn gyn-Faer Tref Caernarfon.

         

Nodwyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

(3)     Cyfarfod Arbennig

 

Adroddwyd y derbyniwyd cais i gynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn i drafod asesiad iaith y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Cynhelir y cyfarfod ar fore dydd Gwener, 18 Mawrth.

 

(4)     Mynediad i swyddfeydd y Cyngor

 

Nodwyd yn dilyn mwy nag un achos lle'r oedd aelodau’r cyhoedd wedi cael mynediad heb awdurdod i swyddfeydd staff, y cychwynnwyd ar waith i osod system mynediad newydd ar y prif fynedfeydd a rhai drysau allweddol eraill. Dosbarthwyd cardiau adnabod newydd i’r aelodau cyn y cyfarfod i’w galluogi i gael mynediad i adeiladau’r Cyngor lle mae ystafelloedd cyfarfod.

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddwyd, er gwybodaeth, y derbyniwyd ymateb gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon parthed galwad y Cyngor yn ei gyfarfod blaenorol i wrthwynebu’r toriad yng nghyllideb S4C. Roedd yr ymateb a dderbyniwyd ar ddiwedd Ionawr yn pwysleisio bod yn rhaid i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd a bod y gostyngiad arfaethedig yng nghyllideb S4C yn llai na sefydliadau eraill. Nodwyd ar ddechrau mis Chwefror, y cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai S4C yn cael y £400,000 o nawdd oedd disgwyl iddo golli, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Wittingdale y bydd adolygiad hefyd yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 11 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Be mae'r Arweinydd yn ei wneud i sicrhau bod contractau sero awr yn Cyngor Gwynedd yn cael ei atal?

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Arweinydd i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wedi anelu at ddileu contractau dim oriau ac o fewn trwch blewyn i wneud hynny. Dyna’r peth iawn i wneud a dw i’n falch iawn bod y Cyngor wedi gallu gweithio tuag at y nod yna.” 

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

“A all yr Arweinydd roi addewid mewn chwe mis y bydd bob contract sero awr wedi mynd ac y bydd y Cyngor yn ail-edrych ar y sefyllfa o ran gweithwyr tymhorol gyda phroblemau yn codi i rai unigolion o ran cael morgais?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor

 

“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn ddoeth i osod amserlen ar unrhyw weithredu, byddai hynny’n gamgymeriad oherwydd mae’n cyfyngu unrhyw bosibiliadau. Gadewch i ni edrych ar y sefyllfa, os oes ‘na broblem mae yna ddyletswydd arnom ni fel cyflogwr i ystyried beth yw’r problemau hynny. Dw i ddim yn ymwybodol o’r problemau hynny, mae angen gwneud ychydig bach o waith.

 

Mae’r Cynghorydd yn iawn i gydnabod bod gwahaniaeth rhwng contractau dim oriau a chontractau eraill, dw i’n falch ei fod yn cydnabod hynny, rhywbeth dydi o ddim wedi gwneud bob amser yn y gorffennol, felly mae hynny’n gam ymlaen.

 

Gadewch i ni fynd ati a dw i yn rhoi’r addewid yma i’r Cyngor, fe awn i ati i ymchwilio i unrhyw anawsterau ac unrhyw broblemau sydd yn codi o’r math o gytundebau mae’r Cynghorydd wedi cyfeirio atyn nhw ac fe adroddwn yn ôl i’r man priodol gydag unrhyw ddatblygiadau yn y maes. Dw i’n meddwl mai dyna ydi’r ffordd briodol ymlaen.”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron M. Jones

 

“Gyda nifer helaeth yng Ngwynedd sydd mewn busnes neu’n rhedeg busnes bychain, pa mor llwyddiannus mae’r Cyngor wedi bod wrth weithredu’r Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol o ran cadw gwariant gan y Cyngor gyda chontractwyr lleol?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae o’n faes pwysig iawn, fel y gwelwch chi o’r ystadegyn 40%. Mae o’n faes cymhleth, mi ydach chi’n gallu cael rhai cwmnïau sydd efo pencadlys tu allan i’r Sir ond efo canghennau o fewn y Sir sydd yn cyflogi yma ac yn gwario yma ac os ydych yn ystyried rheiny mae’n codi’r canran i 54%.

 

Mi ydan ni’n cyd-weithio yn fewnol o ran newid i sut yr ydan ni’n prynu i reolaeth categori yn hytrach nag adrannau. Er dweud hynna, dw i yn ymwybodol mai Strwythur mewnol ydy hynna, mae yna ddau ran i mi, mae’r pethau mewnol, ond yn allanol mae gweithio efo’r busnesau bach yn benodol yn bwysig ac i mi yn fanno mae’r ffyniant. Mi rydan ni wedi gwneud gwaith trwy’r Panel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN STRATEGOL GWYNEDD 2016-17 pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Strategol penodol ar gyfer y flwyddyn i ddod gan dynnu sylw at y prosiectau oedd wedi eu cyflawni a’u hychwanegu ers llynedd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Croesawir y cynllun ond fod ei gyflawni yn ddibynnol ar y penderfyniad o ran y toriadau.

·         Bod y gwaith o ran adfywio cymunedol yn hynod bwysig a’i fod yn beth da nad oedd y Cabinet yn argymell cynnwys yr Uned Adfywio Cymunedol fel rhan o’r toriadau.

·         Gan gyfeirio at Ysgol Bro Llifon, nododd yr Aelod Cabinet Addysg yr estynnir gwahoddiad i’r aelodau i ymweld â’r adnodd arbennig hwn. Diolchwyd am waith swyddogion yr Adran Addysg a’r Uned Eiddo yng nghyswllt y prosiect.

·         Nododd yr Is-gadeirydd bod y drwg deimlad a achoswyd wrth sefydlu’r ysgol newydd wedi mynd a dylai’r aelodau fanteisio ar y gwahoddiad i ymweld â’r ysgol.

·         Gan gyfeirio at brosiect G7 ‘Capasiti a chynaliadwyedd y gyfundrefn gofal ac iechyd’, nododd aelod ei fod yn croesawu cynnwys y prosiect yn y Cynllun Strategol gan fod y cyflwr dementia yn mynd i effeithio ar holl wardiau Gwynedd yn y blynyddoedd i ddod. Nododd bod Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi £30 miliwn i atal dementia, roedd o’r farn y dylid dyrannu ychydig o’r arian ar gyfer unigolion a oedd eisoes wedi derbyn diagnosis oherwydd diffyg gwlâu dementia mewn rhai rhannau o’r Sir.

·         Gan gyfeirio at brosiect T7 ‘Digwyddiadau proffil uchel a strategol’, gwerthfawrogiad o dynnu sylw at Festival No.6 a chroesawu cyfeiriad yn y Cynllun at waith da’r Uned Trwyddedu.

·         Bod y cynllun yn gosod uchelgais i’r Cyngor er mwyn cyflawni ar gyfer pobl Gwynedd.

·         Bod y Cyngor yn cydweithio yn draws sector ac efo mudiadau’r trydydd sector yng nghyswllt gwasanaethau ataliol er sicrhau’r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc y Sir.

·         Na fyddai’r canlyniadau yn deillio o’r cynllun yn digwydd yn gyflym yn y maes Economi ond y buddsoddir ar gyfer y dyfodol.

·         Y cynhelir gweithdai o ran digwyddiadau mawr yn y Sir gan hefyd edrych ar gyfleoedd i dyfu busnesau ac y gwerthfawrogir brwdfrydedd pobl busnes y Sir.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Strategol.

 

 

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2016/17. Nodwyd bod y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion wedi ystyried y Polisi Tâl yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror 2016 ac yn argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2016/17 (Atodiad 1 i’r adroddiad).

10.

MATERION CYLLIDEBOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd mai efo calon drom y gwneir y penderfyniadau anodd o ran toriadau ond mewn adeg o doriadau cenedlaethol, roedd rhaid i’r Cyngor wneud y penderfyniadau anodd yma. Diolchodd am waith trylwyr y cynghorwyr a chyfeiriodd at frwdfrydedd trigolion Gwynedd yn ystod ymgynghoriad Her Gwynedd a’u gwaith lobio dros yr wythnosau a misoedd diwethaf a oedd wedi bod yn hanfodol i allu dod i gasgliad ar y toriadau.

 

Cyfeiriodd at ddeiseb a dderbyniwyd cyn y cyfarfod. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Economi ei bod wedi derbyn deiseb yng nghyswllt y celfyddydau ‘Peidiwch â thorri’r celfyddydau yng Ngwynedd’ gyda 1,225 o enwau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn parthed costau uwchraddio drysau mynediad diogelwch i swyddfeydd y Cyngor, nododd y Pennaeth Cyllid bod bid am £60,000 wedi ei gyflwyno gan yr Adran Rheoleiddio er mwyn gwella diogelwch trefniadau mynediad i swyddfeydd o ganlyniad i ddigwyddiadau. Nodwyd yr ariennir y gwaith yn hafal gan yr Adran Rheoleiddio a’r arian bid.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet Adnoddau argymhellion y Cabinet ar gyllideb 2016/17 a’r Dreth Gyngor. Pwysleisiodd bod rhaid i’r Cyngor osod cyllideb gytbwys a hyfyw. Tywysodd yr aelodau drwy’r adroddiad gan nodi bod y strategaeth yn ceisio gwarchod y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor i bobl Gwynedd a chadw’r cynnydd yn y Dreth Cyngor i’r lleiafswm. Eiliwyd y cynnig.

 

          Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o’r nodyn a ddosbarthwyd ganddo yn manylu ar drefn ymdrin â’r mater hwn. Gwahoddwyd yr aelodau i ddatgan unrhyw welliannau i argymhelliad y Cabinet gan gyfeirio at rif y cynllun dan sylw a chan gofio fod yn rhaid i unrhyw welliant nodi sut y byddai’n sicrhau cyllideb hafal. 

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y drefn o sefydlu cyllideb a gosod Treth Cyngor, nododd y Swyddog Monitro yn unol â’r drefn statudol bod y Cabinet yn argymell cyllideb a Threth Cyngor i’r Cyngor Llawn.

 

          Nododd aelod bod yr Aelodau Cabinet wedi derbyn mwy o wybodaeth na’r aelodau eraill i ddod i benderfyniad. Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr bod y Cabinet wedi derbyn gwybodaeth gynhwysfawr er mwyn iddynt fedru llunio rhestr o doriadau posib cyn rhyddhau’r rhestr i ymgynghori gyda’r cyhoedd. Derbyniodd mai crynodeb yn unig a roddwyd i’r aelodau pan ymgynghorwyd a hwynt yn yr haf y llynedd er mwyn ceisio peidio boddi aelodau a tharo balans priodol o ran y wybodaeth oedd ei angen. Nododd bod y wybodaeth ychwanegol ar gael i’r aelodau eraill pe dymunir.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Gwerthfawrogiad o waith y swyddogion a’r cyhoedd fel rhan o ymgynghoriad Her Gwynedd.

·         O ystyried bod y Cynllun Strategol yn nodi bod oddeutu 6.9 miliwn o ymwelwyr wedi ymweld â Gwynedd yn 2014 gan greu £975 miliwn mewn refeniw, a oedd ystyriaeth wedi ei roi i ail leoli'r canolfannau croeso?

·         Bod Gweithgor Craffu wedi argymell codi ffi am ddefnydd o doiledau’r Sir, ystyried un ai eu trosglwyddo i eraill neu agor rhai yn dymhorol ond nad oedd hyn wedi ei weithredu.

·         Bod Amgueddfa Lloyd George yn adnodd pwysig o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

10a

ARGYMHELLION Y CABINET I'R CYNGOR AR GYLLIDEB 2016-17 A'R DRETH GYNGOR

PENDERFYNIAD

      i.        Y dylid mabwysiadu’r gyllideb a grybwyllir yn adroddiad yr aelod cabinet ar gyfer 2016/17 sy’n golygu sefydlu cyllideb o £227,227,120 ar gyfer 2016/17, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £166,950,760 a £60,276,360 o incwm Treth Cyngor fyddai’n golygu cynyddu’r Dreth Gyngor 3.97%, sef cynnydd £46.09 yn y Dreth Gyngor Band D o £1,161.07 i £1,207.16 y flwyddyn.

 

    ii.        Derbyn hefyd y strategaeth ariannol tymor canolig, ac yn sgil hynny y dylid cynllunio hefyd i gynyddu’r Dreth Gyngor 3.97% yn 2017/18 fyddai’n golygu gorfod darganfod bwlch ariannol o £4.94m dros y ddwy flynedd nesaf ar ôl darganfod yr arbedion effeithlonrwydd o £14.054m a nodir yng nghymal 21 o’r adroddiad “Cyllideb 2016/17 a Strategaeth Ariannol 2016/17- 2019/20”.

 

   iii.        Sefydlu rhaglen gyfalaf o £22.141m yn 2016/17 a £12.286m yn 2017/18 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r atodiad i’r adroddiad “Cyllideb 2016/17 a Strategaeth Ariannol 2016/17- 2019/20”.

 

   iv.        Er mwyn cyfarch y bwlch o £4.94m a nodir yn rhan (ii) uchod, y dylid gweithredu ar y rhaglen doriadau canlynol –

 

Rhif

Toriad posib

Swm

£

C2

Dileu 2 swydd allan o 7.5 yn yr Uned cefnogi Systemau o fewn y Gwasanaeth Oedolion

80,000

C3

Dileu 3 swydd allan o 20.6 yn yr Uned Cefnogi Gweithlu sy’n gwasanaethu oedolion a phlant

90,000

C4

Dileu 2 swydd allan o 10.5 yn yr Uned datblygu gweithlu o fewn y Gwasanaeth oedolion

75,000

C5

Dileu 1 swydd allan o 2.5 yn y maes Rheolaeth a Strategaeth Tai

37,500

C7

Dileu 1 swydd allan o 3 yn yr Uned Gwasanaeth Gwybodaeth sy’n delio gyda’r Ddeddf Diogelu data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

30,000

C8

Cau adeiladau Frondeg Pwllheli ac Adeilad Ffordd y Traeth yn y Felinheli ond gofyn i’r Gwasanaeth adrodd yn ôl i’r Cabinet ar achos busnes cynllun C8 (Frondeg) cyn symud ymlaen i’w wireddu er mwyn sicrhau fod yna atebion derbyniol i anghenion y rhai sydd yno ar hyn o bryd

60,000

C9

Dileu 1 swydd allan o 8.5 yn yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau

28,000

C10

Dileu 1.5 swydd allan o 7.2 yn yr Uned Stadau a Chyfleusterau

40,000

C11

Dileu 2 swydd allan o 37.62 yn yr Unedau Cyfrifeg

50,000

C12

Rhoi’r gorau i gefnogaeth yr Uned Technoleg Gwybodaeth i systemau y tu allan i oriau gwaith arferol

39,500

C13

Dileu Cynllun Hyfforddeion Gwynedd a Chynllun Hyfforddeion Proffesiynol

258,720

C14

Dileu 2 swydd allan o 8.8 yn yr uned Iechyd a Diogelwch

80,000

C15

Ail fodelu’r partneriaethau rhwng Gwynedd a Môn yn sgil y newid i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

130,000

C16

Dileu cyfraniad y Cyngor i Bartneriaeth Amgylchedd Gwynedd

7,620

C18

Dileu cyllideb ar gyfer cefnogi gwaith alcohol a chyffuriau

28,900

C19

Dileu 1 swydd allan o 2 yn y maes Rheolaeth Prosiect

31,060

1

Torri gwair prif lecynnau trefi 6 gwaith y flwyddyn yn hytrach nag 8 gwaith ond dylid ystyried os gellir darganfod mwy o arbedion effeithlonrwydd ar Gynllun rhif 1 (Torri gwair canol Trefi) drwy leihau’r toriadau sylfaenol ymhellach a chan  ...  view the full Rhaglen text for item 10a

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gweler cofnod eitem 10 uchod.

10b

STRATEGAETH ARIANNOL 2016/17 - 2019/20 A CHYLLIDEB 2016/17 pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gweler cofnod eitem 10 uchod.

 

10c

TORIADAU I GYFARCH Y BWLCH ARIANNOL pdf eicon PDF 239 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau i’r Cabinet ar 16 Chwefror, 2016 (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gweler cofnod eitem 10 uchod.

 

11.

RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2016/176 pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r strategaethau arfaethedig. 

 

Cadarnhaodd cadeirydd y Pwyllgor Archwilio fod y pwyllgor hwnnw wedi trafod y strategaethau mewn seminar ac mewn cyfarfod pwyllgor ffurfiol, ac yn cefnogi’r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, y Strategaeth Darpariaeth Lleiafswm Refeniw a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2016/17 (Atodiad A), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B) a’r Atodlenni Rheolaeth Trysorlys (Atodiad C).

 

12.

POLISI IAITH AR GYFER CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 220 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad gan nodi bod y drefn bresennol o gynlluniau iaith statudol yn dod i ben gyda dyfodiad y Safonau Iaith newydd yn Ebrill 2016. Nodwyd bod y polisi gerbron yn addasiad a diweddariad o’r hen Gynllun Iaith a oedd wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Iaith ar 14 Ionawr 2016.

         

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan aelodau:-

·        Tra’n croesawu’r polisi, y dylid mynnu a dim annog consortia a chyrff allanol i gydymffurfio a Pholisi Iaith y Cyngor.

·        Bod dogfennau’r amlosgfa, er y cydnabyddir mai ffurflenni’r Swyddfa Gartref ydynt, sydd yn arddangos logo’r Cyngor yn uniaith Saesneg.

·        Y derbynnir gohebiaeth gan y Cyngor drwy’r post gyda’r iaith Saesneg yn amlwg weithiaf yn hytrach na’r iaith Gymraeg.

·        Bod y polisi yn nodi bod unrhyw hysbysiadau neu bosteri gan gyrff a chwmnïau eraill a arddangosir yn adeiladau’r Cyngor yn gorfod bod yn ddwyieithog. Felly, roedd yn gwahardd posteri uniaith Gymraeg.

·        Nad oedd holl sylwadau’r Pwyllgor Iaith ar y polisi wedi eu cynnwys yn ddigonol yn y ddogfen.

·        Ei fod yn ddogfen gref a theg oedd yn gwthio’r ffiniau cyfreithiol.

·        Ni ddylid gorfodi dwyieithrwydd ar gymdeithasau neu grwpiau cymunedol sydd yn derbyn nawdd gan y Cyngor a oedd yn gweithredu yn uniaith Gymraeg.

·        Lle penodir unigolyn sydd ddim yn cyrraedd y gofynion ieithyddol llawn i swydd, dylid bod modd i ddod ac amser unigolyn yn y swydd i ben pan fo diffyg ymrwymiad neu ddiffyg gallu i wella sgiliau ieithyddol dros gyfnod o amser i’r safon angenrheidiol ar gyfer anghenion y swydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn cydnabod y pwyntiau a godwyd. Nododd bod Polisi Iaith y Cyngor yr un mwyaf blaengar ond bod lle i wella. Ychwanegodd mai ond hyrwyddo’r iaith y gall y Cyngor ac y byddai’n edrych i mewn i weld os oes modd cryfhau darnau o’r polisi a rhoi sylw i’r elfennau personél. Cadarnhaodd y cynhelir deialog parhaus efo’r Pwyllgor Iaith.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Cymeradwyo ychwanegu’r Polisi Iaith at y rhestr o bolisïau sydd o fewn y Fframwaith Bolisi i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn;

(ii)    Mabwysiadu’r polisi sydd ynghlwm fel atodiad i’r adroddiad fel Polisi Iaith Cyngor Gwynedd.

 

13.

PENODI AELOD ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor ystyried a phenderfynu ar argymhelliad y Panel Ymgynghorol i benodi aelod annibynnol i’r Pwyllgor Safonau yn sgil y ffaith bod gwasanaeth un o aelodau annibynnol y Pwyllgor wedi dod i ben.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau parthed yr unigolyn a argymhellir ei benodi, nododd y Swyddog Monitro fod y Panel Ymgynghorol wedi dilyn proses fanwl a statudol ac nad oedd aelodaeth unigolyn o blaid wleidyddol yn ystyriaeth oddi mewn i’r meini prawf.

 

PENDERFYNWYD penodi Aled Jones yn aelod annibynnol ar Bwyllgor Safonau Cyngor Gwynedd i wasanaethu am gyfnod o 6 mlynedd.

 

14.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 72 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor. Nodwyd yr argymhellir dyrannu sedd a glustnodwyd i Grŵp Plaid Cymru ar y Pwyllgor Pensiynau i’r Grŵp Llafur gan fod y Cyngor newydd gwrdd â chostau penodol i hyfforddi aelod etholedig o’r Grŵp Llafur i wasanaethu ar y Pwyllgor hwn. Eglurwyd gan nad oedd Grŵp Plaid Cymru yn dechnegol wedi penodi aelod i’r Pwyllgor roedd yn agored i’r Cyngor benodi.  

 

PENDERFYNWYD penodi aelod o’r Grŵp Llafur i’r Pwyllgor Pensiynau gan newid y dyraniad yn y modd a ddangosir yn y tabl.

 

PWYLLGORAU CRAFFU

 

 

  Plaid

  Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

Corfforaethol

 

9

5

2

1

1

 

Cymunedau

 

10

5

1

1

1

 

Gwasanaethau

 

10

4

2

1

 

1

Archwilio

 

10

5

2

1

 

 

 

PWYLLGORAU ERAILL

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Gwasanaethau Democratiaeth

 

8

4

2

1

 

 

 

Iaith

 

8

4

2

1

 

 

 

Cynllunio

 

8

4

1

1

1

 

 

Trwyddedu Canolog

8

5

2

 

 

 

 

Apelau Cyflogaeth

 

3

1

1

1

 

1

 

Penodi Prif Swyddogion

8

4

1

1

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer y seddau

82

41

16

9

4

2

154

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Pensiynau

 

3

2

0

1

1

 

 

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

6

2

1

2

 

 

 

Cydbwyllgor Addysg Anghenion Arbennig

3

2

1

 

 

1

 

Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

4

(3 sedd ac un eilydd)

2

1

1

 

 

 

CYSAG

 

4

2

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Seddau

102

51

20

13

5

3

194

 

(newidiadau wedi’u hamlygu mewn llwyd)

 

 

15.

CALENDR PWYLLGORAU 2016/17 pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2016/17.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2016/17.

 

16.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD - AMSERLEN DDIWYGIEDIG I'W CHYNNWYS YN Y CYTUNDEB CYFLAWNI pdf eicon PDF 180 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Cynllunio  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cynllunio adroddiad yn manylu ar amserlen ddiwygiedig y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan yr aelodau yng nghyswllt cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nododd yr Aelod Cabinet Cynllunio mai’r amserlen yn unig yr ystyrir yn y cyfarfod hwn.        

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r amserlen ddiwygiedig (Atodiad 1 i’r adroddiad) i baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd er mwyn cydymffurfio gyda gofynion deddfwriaeth.

 

17.

RHYBUDDION O GYNNIG pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan y Trysorlys mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i’r cyfarfod blaenorol yn gwrthwynebu polisiau ariannol y Trysorlys  (ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan y Trysorlys mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i’r cyfarfod blaenorol yn gwrthwynebu polisiau ariannol y Trysorlys.

 

Adroddwyd y derbyniwyd ymateb gan Liz Saville Roberts AS yn datgan cefnogaeth i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Mandy Williams-Davies yn gwrthwynebu’r Mesur Undebau Llafur newydd.

Atodiadau pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol: