skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Endaf Cooke, Trevor Edwards, Jean Forsyth, Chris Hughes, Dyfrig Jones, Mair Rowlands, Gareth Thomas, Eirwyn Williams, Gethin Glyn Williams a John Wyn Williams.

2.

COFNODION pdf eicon PDF 333 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r  Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2015 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2015 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn â’r eitemau canlynol:-

 

Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2016/17 (eitem 9 ar y rhaglen)

Treth Cyngor: Disgresiwn i ganiatáu disgowntiau – 2016/17 (eitem 10 ar y rhaglen)

Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003 (eitem 11 ar y rhaglen)

 

Rhoddwyd arweiniad ar lafar i’r aelodau ynglŷn â’r eitem ganlynol:-

 

Dyfodol S4C (eitem 14 ar y rhaglen).

 

(1)     Datganodd y Cynghorydd Linda Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2016/17 oherwydd ei bod yn rhedeg cwmni Seren, sy’n cael gostyngiad treth cyngor.

 

          ‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau – 2016/17, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies - oherwydd bod ei gŵr yn berchen ar eiddo gwag drwy etifeddiaeth.

·         Y Cynghorydd Wyn Williams - oherwydd ei fod yn gydberchennog eiddo sydd yn wag yn Nhalafon, Abersoch.

·         Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn rhedeg cwmni Seren, sy’n cael gostyngiad treth cyngor.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sy’n wag.

·         Y Cynghorydd Beth Lawton – oherwydd ei bod yn bwriadu cyflwyno cais am ddisgownt Treth Cyngor y flwyddyn nesaf gan mai hi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo erbyn hyn.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

·         Y Cynghorydd Gwen Griffith – oherwydd ei bod yn Gadeirydd Mantell Gwynedd sy’n cynrychioli mudiadau sy’n ceisio disgownt treth y Cyngor am eu bod yn elusennau.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

(3)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 11 ar y rhaglen – Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Selwyn Griffiths – oherwydd ei fod ar gorff rheoli Canolfan Porthmadog.

·         Y Cynghorydd Ioan Thomas – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr mewn adeilad sydd â thrwydded gwerthu alcohol.

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Clwb Rygbi Dolgellau.

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr Clwb Trwyddedig y Tŵr, Trefor.

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd Bentref Garndolbenmaen.

·         Y Cynghorydd Sion Jones – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Neuadd Bethel.

·         Y Cynghorydd Aeron Jones – oherwydd ei fod yn Aelod o Bwyllgor Neuadd Felinwnda.

·         Y Cynghorydd Eric Merfyn Jones – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Neuadd Groeslon.

·         Y Cynghorydd Jason Humphreys – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Porthmadog.

·         Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn rhedeg gwesty sy’n cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Croeso

 

          Croesawyd y Cynghorwyr Aled Wyn Jones, Gareth Anthony Roberts a Hefin Underwood i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor.

 

          Croesawyd y Cynghorwyr Louise Hughes, Linda Morgan a Peter Read yn ôl yn dilyn anhwylder diweddar.

 

(2)     Llongyfarchiadau

 

          Llongyfarchwyd Ffermwyr Ieuainc Meirionnydd ar gynnal Eisteddfod Genedlaethol Ffermwyr Ieuainc Cymru eleni yn Aberystwyth.  Hefyd, llongyfarchwyd Ffermwyr Ieuainc Meirionnydd a Ffermwyr Ieuainc Eryri ar ddod yn gydradd ail a diolchwyd i bawb am eu gwaith caled ar ran ieuenctid y sir.

 

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd ei fod yn annog aelodau, os ydynt yn dymuno derbyn gwybodaeth yn unig, i gysylltu yn uniongyrchol gydag adrannau.

 

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

(Eglurodd yr aelod fod pwyllgor o Unllais Cymru wedi gofyn iddo gyflwyno’r cwestiwn oherwydd eu bod wedi methu cael gwybodaeth gan y Cyngor.)

 

“Ydi’r Awdurdod Priffyrdd wedi sylweddoli beth yw effaith eu polisi newydd o ofyn i gynghorau tref a chymuned gymryd drosodd a / neu dalu am lenwi’r biniau halen yn eu wardiau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Gan fod y cynghorydd wedi egluro pam mae’n gofyn y cwestiwn, mi fuaswn yn awgrymu iddo y gallai fod wedi cysylltu â’r adran a byddai wedi cael yr un esboniad ag sydd yn yr ateb ysgrifenedig.

 

Mae hyn yn rhan o’r arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd yn Rhagfyr 2014 ac mae hynny’n rhywbeth i ni ei ystyried.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

“Wnewch chi ail ystyried hyn a chael trafodaeth iawn hefo’r cynghorau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“’Rydym ni fel Adran wedi gyrru llythyr at bob cyngor cymuned, tref a phlwy, ac wedi gofyn iddynt ystyried hyn a dod yn ôl atom.  Mae hynny’n rhywbeth y gallent wneud o hyd ac mae hynny yn agored o hyd ac ‘rwy’n falch o ddweud bod llawer o gynghorau cymuned wedi manteisio ar hyn ac wedi dod yn ôl atom ac mae ‘na drafodaeth wedi digwydd.  Felly byddwn yn annog pob aelod sydd yma sy’n aelod o gyngor cymuned i wneud yr un peth, fel eu bod yn mynd yn ôl at yr Adran Briffyrdd ac yn mynegi eu barn.  Mae rhai wedi gwneud hynny’n barod ac wedi ei drafod yn ddwys.  Mae hynny’n golygu ein bod yn mynd i arbed £100,000 y flwyddyn sy’n swm nid ansylweddol ac mi fuaswn yn awgrymu mai dyna’r ffordd i gario ‘mlaen.”

 

(2)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Be yw'r sefyllfa bresennol o gadw Pont Aber, Caernarfon yn agored?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Fedrwch chi gadarnhau i mi, os ydi’r bont yma’n mynd drosodd i Ymddiriedolaeth yr Harbwr, bod yr amodau yn aros yr un fath, bod y staff yn saff yn eu gwaith ac na fydd yr Ymddiriedolaeth yn codi toll ar y bont?”

 

Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd

 

“Yn anffodus, mae’r trafodaethau yn mynd ymlaen, ac ar hyn o bryd ni allaf roi unrhyw warant i’r aelod o gwbl.  Yr unig beth fedraf ddweud yw bod hwn yn un o hyd at hanner cant o bethau sydd dan ystyriaeth hefo Her Gwynedd.  ‘Rwy’n falch ofnadwy ei fod yn dangos digon o ddiddordeb yn Her Gwynedd ac yn y mater yma ac ‘rwy’n gobeithio y bydd yn dangos yr un diddordeb yn y bron i hanner  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHOI'R DDEDDF GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A LLESIANT AR WAITH

Derbyn cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd y cyd-destun gan egluro mai pwrpas yr eitem hon oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sy’n dod yn weithredol o Ebrill 2016.  Nododd fod y ddeddf yn eang iawn ac yn cynnwys egwyddorion hynod bwysig, ond y bwriedid canolbwyntio ar un elfen o’r maes yn unig yn y cyfarfod hwn, sef y gwaith o gefnogi pobl gydag anableddau dysgu.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyniad i’r ddeddf ac o ran rhoi’r ddeddf ar waith, gan nodi:-

 

·         Bod y ddeddf yn ymateb i newidiadau demograffig enfawr a’r galw cynyddol ar wasanaethau gofal mewn cyfnod pan mae’r wasgfa ariannol yn hynod heriol.

·         Bod hwn y math o newid sydd ond yn digwydd mewn cenhedlaeth gan fod y newidiadau mor sylfaenol a phell gyrhaeddol, ond ei fod yn cynnig llawer o gyfleoedd i ail-edrych ar y mathau o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor a’i bartneriaid.

·         Mai un newid sylfaenol yw’r llais a’r rheolaeth mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi i unigolion drwy roi anghenion a dymuniadau unigolion yn ganolog i bopeth.

·         Bod pwyslais hefyd ar atal, ymyrryd yn gynnar, cyd-gynhyrchu yn ogystal â’r elfennau amlasiantaethol.

·         Bod yr holl newidiadau hyn yn golygu cryn newid mewn diwylliant a’i fod yn mynd i gymryd amser i gyrraedd y nod a’r disgwyliadau sydd gan y Llywodraeth ohonom.

·         Mai bwriad yr eitem oedd cyflwyno fideo i’r aelodau o’r gwaith dyddiol yng Nghynllun Cymunedol Arfon yn Frondeg, fel enghraifft o waith sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ac ysbryd y ddeddf newydd, ond sydd hefyd yn amlygu bod yna waith dal i fyny mewn lleoliadau eraill.

·         Ei fod yn falch o groesawu Andrew Guy, Goruchwylydd Gofal Dydd yn Frondeg a’i gyd-weithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth i’r cyfarfod.

·         Bod angen i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r effaith o ran y gwasanaethau a chyfeiriwyd at sesiwn hyfforddiant a drefnwyd ar eu cyfer yn Ysbyty Alltwen ar fore’r 21ain o Ionawr.

 

Fel yr uwch reolwr â chyfrifoldeb am y maes penodol sy’n cael sylw yn y fideo, rhoddodd yr Uwch Reolwr Gweithredol gefndir o’r gwaith a’r meddylfryd y tu cefn iddo.

 

Yna, bu i’r Cynghorydd Lesley Day ddweud gair o ran ei phrofiad hi pan ddangoswyd y fideo hwn mewn cynhadledd yng Nghaernarfon, gan nodi iddi wneud cais am gyflwyno’r fideo i’r Cyngor llawn.

 

Yn dilyn gweld y ffilm, diolchodd y Cadeirydd i Andrew Guy a’r tîm yng Nghynllun Cymunedol am eu holl waith.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Mynegwyd gwerthfawrogiad ac edmygedd mawr o waith y tîm.

·         Nodwyd, er ei bod yn amlwg bod defnyddwyr y gwasanaeth yn gallu defnyddio eu mamiaith yn y ganolfan, bod y cydbwysedd ieithyddol ar y fideo yn fater o bryder.

·         Na wnaed unrhyw sylw yn y cyflwyniad ynglŷn ag allanoli er bod y ddeddf yn sôn am hynny hefyd.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd:-

 

·         Nad oedd y gwaith hwn yn unigryw, a bod yna waith da yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2016/17 pdf eicon PDF 144 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet – Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2016.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2016 fel ag yr oedd yn ystod 2015/16.  Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

(i)      Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

(ii)     Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig.

(iii)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

(b)     Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2016/17, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

10.

TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU - 2016/17 pdf eicon PDF 193 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn gofyn am gadarnhad ffurfiol am 2016/17 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag.

 

PENDERFYNWYD

(a)      Bod Cyngor Gwynedd ar gyfer 2016/17 yn caniatáu DIM disgownt yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 i’r ddau ddosbarth o ail gartrefi (dosbarthiadau A a B) fel y diffinnir yn Rheoliadau Treth Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig o Anheddau)  (Cymru) 1998.

(b)     Bod Cyngor Gwynedd ar gyfer 2016/17 yn caniatáu DIM disgownt yng nghyswllt eiddo gwag (dosbarth C).

 

11.

ADOLYGU DATGANIAD O BOLISI TRWYDDEDU - DEDDF TRWYDDEDU 2003 pdf eicon PDF 142 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Datganiad o Bolisi Trwyddedu newydd, yn unol ag Adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Holwyd a oedd y ffioedd ychwanegol sy’n rhaid i ddigwyddiadau hynod o fawr eu talu yn cyfeirio at eisteddfodau hefyd (tudalen 24 o’r polisi).  Atebodd yr Aelod Cabinet fod y lefelau ffioedd wedi’u haddasu ar gyfer y siroedd unigol, ond y gallai ddod yn ôl at yr aelod ar y pwynt penodol hwn.

·         Nodwyd nad oedd y polisi’n cyfarch y pryder ynglŷn â’r gost ar y trethdalwyr o ganlyniad i ddiffyg rheolaeth ar werthu alcohol yn ein trefi a’n cymunedau a nodwyd ei bod yn bwysig bod y neges yn cael ei phasio ymlaen i’r sawl sy’n llunio’r ddeddfwriaeth yma.  Atebodd yr Aelod Cabinet fod y polisi drafft wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu a bod pob cais am drwydded i werthu alcohol yn cael ei ystyried yn ôl ei haeddiant gan yr is-bwyllgor pwrpasol.

·         Diolchwyd i staff yr uned am eu holl waith caled dros y misoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu newydd.

 

12.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 134 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y cyd-destun, gan egluro:-

 

·         Bod yr adroddiad oedd gerbron y tro hwn ychydig yn wahanol i’r arferol oherwydd bod gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif clir ar y Cyngor erbyn hyn.

·         O weithredu’r rheolau sy’n ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol yn llawn, byddai gan Grŵp Plaid Cymru yr hawl i gael mwyafrif ar bob pwyllgor unigol, ond cytunwyd mewn cyfarfod o’r Grŵp Busnes y dylid ceisio rhoi sylw i arbenigedd a phrofiad, yn hytrach na gweithredu’r rheolau yn haearnaidd ym mhob achos.

·         O ganlyniad, ‘roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys tri phwyllgor lle nad oedd gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif, sef y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth a’r Cyd-Bwyllgor Addysg Anghenion Arbennig.

·         Er mwyn cymeradwyo’r argymhellion, a hynny oherwydd nad oedd y rheolau’n cael eu gweithredu’n llawn, byddai’n rhaid i’r Cyngor eu cymeradwyo’n ddiwrthwynebiad.  Fel arall, byddai’n rhaid cyflwyno ffigurau diwygiedig i’r Cyngor a olygai y byddai’r grwpiau Annibynnol, Llais Gwynedd a Llafur yn colli ymhellach ar rai pwyllgorau.

 

Nododd ymhellach:-

·         Y derbyniwyd rhybudd yn ystod y cyfarfod fod y Cynghorydd Louise Hughes yn ymuno â’r Grŵp Annibynnol ac erfyniwyd ar y grwpiau i gyflwyno’r math yma o rybuddion yn llawer cynt yn y dyfodol.

·         Mai canlyniad y newid ar y cydbwysedd gwleidyddol ac argymhellion yr adroddiad oedd bod y Grŵp Annibynnol yn ennill dwy sedd, y naill ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r llall ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog, a hynny ar draul yr aelodau unigol, ond gan mai’r Cynghorydd Louise Hughes oedd yr aelod unigol ar y ddau bwyllgor dan sylw, nid olygai unrhyw newid pellach yn aelodaeth y pwyllgorau hynny.

 

Rhoddodd yr Arweinydd esboniad pellach, gan nodi:-

 

·         Bod gan bob aelod, ar draws yr holl grwpiau gwleidyddol gyfraniad i’w wneud a gyda phrin 16 mis tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf, y cytunwyd y dylid parhau gyda’r diwylliant o gydweithio ac o weld cyfraniadau yn dod ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

·         Y golygai hynny fod pwysau ar yr holl aelodau i bresenoli eu hunain mewn cyfarfodydd.

·         Bod angen edrych eto ar ddyraniad y seddau ar y Pwyllgor Pensiynau gan fod yr aelod o’r Grŵp Llafur fyddai’n colli ei sedd ar y pwyllgor wedi derbyn hyfforddiant yn y maes.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid y cynnig: (58) Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Annwen Daniels, Anwen Davies, Lesley Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis, Alan Jones Evans, Aled Evans, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllian, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles W.Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, W.Roy Owen, William Tudor Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W.Gareth Roberts,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR pdf eicon PDF 209 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd nad oedd angen i’r Cyngor drafod yr eitem hon gan fod yr aelod dan sylw, sef y Cynghorydd Peter Read, wedi medru bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

 

14.

DYFODOL S4C

Ystyried ymateb gan y Cyngor i gyhoeddiad diweddar y Canghellor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Eric Merfyn Jones, yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon, oherwydd buddiant y Cadeirydd.

 

Ystyriwyd – ymateb gan y Cyngor i’r cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref y Canghellor y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.

 

Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun gan awgrymu fod llythyr ar y llinellau a ganlyn yn cael ei anfon at Edward Vaizey, AS, Gweinidog yn Adran Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan:-

 

“Yn ogystal â bod yn sefydliad sy’n hanfodol i dwf yr iaith Gymraeg, mae S4C hefyd wedi gwneud cyfraniad allweddol i economi Gwynedd am dros ddeng mlynedd ar hugain.  Mae Cyngor Gwynedd yn dymuno mynegi ei wrthwynebiad cryf i’r toriad diweddar yn y cyllid mae S4C yn dderbyn gan Lywodraeth San Steffan.  ‘Rydym hefyd yn pwyso ar y Llywodraeth a’r Gweinidog, Edward Vaizey, ac ymddiriedolwyr y BBC, i ddod i gytundeb buan ar y cyllid mae S4C yn dderbyn o ffi’r drwydded.  Ni fyddai’n dderbyniol torri ar y swm mae S4C yn dderbyn ar hyn o bryd o ffi’r drwydded a dylid rhoi ymrwymiad cyllidol i’r sianel sy’n cyfateb â chyfnod siarter newydd y BBC.”

 

Croesawyd yr awgrym a chymeradwywyd geiriad y llythyr arfaethedig, gyda dau ychwanegiad:-

 

·         Y dylid nodi, yn ogystal â bod yn sefydliad sy’n hanfodol i dwf yr iaith Gymraeg, bod S4C hefyd yn hanfodol i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg eu hiaith.

·         Y dylid nodi nad yw darlledu yn faes sydd wedi’i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mai barn y Cyngor hwn yw y dylid datganoli darlledu fel mater polisi i’w benderfynu gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr at Edward Vaizey, AS, ar y llinellau a nodir uchod.

 

 

15.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

15a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod y berthynas adeiladol a’r cyfraniad mae Undebau a’u haelodau yn ei wneud yn y gweithlu a’u hymrwymiad i gynnig safon uchel o wasanaeth cyhoeddus. ‘Rydym felly yn gwrthwynebu’r mesur undebau llafur a gyflwynwyd yn ddiweddar. Mae’r mesur yn golygu cyflwyno trothwy pledleisio uwch ar gyfer streicio; tynhau’r rheolaeth dros bicedu, cyfathrebu cymdeithasol a sut y caiff tanysgrifiadau i undebau ei gasglu.

 

Ystyria’r Cyngor hwn fod rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd oherwydd fod gan y D.G. rai o’r cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd.

 

Galwaf ar Gyngor Gwynedd i ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn nodi ein bod yn gwrthwynebu’r mesur.” 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.

 

“Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod y berthynas adeiladol a’r cyfraniad mae Undebau a’u haelodau yn ei wneud yn y gweithlu a’u hymrwymiad i gynnig safon uchel o wasanaeth cyhoeddus. ‘Rydym felly yn gwrthwynebu’r mesur undebau llafur a gyflwynwyd yn ddiweddar.  Mae’r mesur yn golygu cyflwyno trothwy pleidleisio uwch ar gyfer streicio; tynhau’r rheolaeth dros bicedu, cyfathrebu cymdeithasol a sut y caiff tanysgrifiadau i undebau ei gasglu.

 

Ystyria’r Cyngor hwn fod rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd oherwydd bod gan y D.G. rai o’r cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd.

 

Galwaf ar Gyngor Gwynedd i ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn nodi ein bod yn gwrthwynebu’r mesur.”

 

Cefnogwyd y cynnig.

 

Nodwyd bod hawliau gweithwyr yn cael eu tanseilio’n ormodol a chynigiwyd ac eiliwyd i gryfhau’r ail baragraff drwy addasu’r geiriad fel a ganlyn:-

 

Ystyria’r Cyngor hwn fod rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd ac yn tanseilio’r egwyddor o gydfargeinio, sy’n un o amcanion sefydlol mudiad yr Unedau Llafur yn y D.G., sydd â rhai o’r cyfreithiau Unedau Llafur mwyaf llym yn y byd.”

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd y Cyngor a’r eilydd.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i addasu fel a ganlyn:-

 

“Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod y berthynas adeiladol a’r cyfraniad mae Undebau a’u haelodau yn ei wneud yn y gweithlu a’u hymrwymiad i gynnig safon uchel o wasanaeth cyhoeddus. ‘Rydym felly yn gwrthwynebu’r mesur undebau llafur a gyflwynwyd yn ddiweddar.  Mae’r mesur yn golygu cyflwyno trothwy pleidleisio uwch ar gyfer streicio; tynhau’r rheolaeth dros bicedu, cyfathrebu cymdeithasol a sut y caiff tanysgrifiadau i undebau ei gasglu.

 

Ystyria’r Cyngor hwn fod rheolaeth o’r fath yn tanseilio hawliau sifil ein gweithwyr ym meysydd iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd ac yn tanseilio’r egwyddor o gydfargeinio, sy’n un o amcanion sefydlol mudiad yr Undebau Llafur yn y D.G., sydd â rhai o’r cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd.

 

Galwaf ar Gyngor Gwynedd i ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn nodi ein bod yn gwrthwynebu’r mesur.”

 

15b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sian Gwenllian

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Siân Gwenllian yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol. Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib o dan amgylchiadau erchyll. Ar waetha hyn rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r dyfodol.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(b)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Siân Gwenllian, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.

 

Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol.  Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond ‘rydym yn ceisio gweithredu mor deg a thryloyw a phosib’ o dan amgylchiadau erchyll.  Ar waetha hyn ‘rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol dros y sir ac yn awyddus i greu llwyddiant i’r dyfodol.”

 

Cefnogwyd y cynnig.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Adnoddau at gyhoeddiad y Gweinidog y diwrnod cynt ynglŷn â setliad 2016/17 gan bwysleisio nad oedd yna unrhyw le i ymhyfrydu yn y sefyllfa gan fod y Cyngor yn wynebu 2% o doriad yn ei gyllideb yn 2016/17, ac felly’n parhau yn y sefyllfa o orfod canfod tua £7m o doriadau yn y flwyddyn nesaf.

·         I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y Gweinidog wedi datgan, er y toriadau erchyll gan Lywodraeth San Steffan, na fyddai’r setliad i gynghorau mor ddrwg ag a ragwelwyd ac y mawr hyderid na fyddai Addysg, y Gwasanaethau Cymdeithasol nac adrannau eraill ar draws y Cyngor yn wynebu cymaint o doriad.

·         Awgrymwyd nad ffigur ddoe oedd yr un pwysig, eithr y ffigur cronnus, a bod llywodraeth leol wedi derbyn toriad o 16% yn ei gyllideb ers 2009.

·         Nodwyd, yn ogystal â thoriadau, bod y Cyngor yn wynebu newidiadau mawr, megis dyfodiad y Credyd Cynhwysol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ychwanegu at y cynnig bod y Cyngor hwn hefyd yn condemnio Llywodraeth y D.U. am allu canfod cyllid i’w roi at fomiau ac awyrennau rhyfel tra’n dadlau nad oes arian ar gael ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd y Cyngor a’r eilydd.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Nodwyd bod y drafodaeth wedi mynd yn eang ac y byddai’n well petai’r holl fater o effaith y setliad wedi’i godi fel mater brys o dan eitem 6 ar y rhaglen.

·         Mynegwyd y farn bod yr ychwanegiad i’r cynnig yn cymylu’r holl fater ac na ellid cyplysu’r ddau beth gyda’i gilydd mewn un cynnig.

·         Awgrymwyd bod yr ychwanegiad yn ddilys gan mai datganiad mewn egwyddor ydoedd, sy’n condemnio arfogi a gwario ar arfau rhyfel.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig gwreiddiol, wedi’i addasu fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor hwn yn datgan gwrthwynebiad chwyrn i bolisïau ariannol y Trysorlys am eu bod nhw'n taro'r rhai mwyaf anghenus, yn chwalu'r gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein gorfodi ni fel pob Cyngor i wneud toriadau enbyd fydd hefyd yn effeithio yn sylweddol ar yr economi leol.  Nid toriadau Cyngor Gwynedd yw'r toriadau ond toriadau'r Torïaid; ‘rydym yn erbyn yr ideoleg sy'n gyrru'r toriadau, ond  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15b