skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Lesley Day, Gweno Glyn, Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Eric Merfyn Jones, Beth Lawton, June E.Marshall, Dafydd Meurig, Linda Morgan, W.Roy Owen, Nigel Pickavance, Peter Read a Mike Stevens.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 74 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2015 fel rhai cywir.

.

 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Aeron Jones fuddiant personol yn eitem 12 ar y rhaglen - Taflen Benderfyniad Brys Aelod Cabinet - oherwydd ei fod yn rheolwr ar gwmni yng Nghaernarfon all gael buddiant o’r cynnig dan sylw.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 13(B) ar y rhaglen – Rhybudd o gynnig y Cynghorydd Ioan Thomas, am y rhesymau a nodir:-

 

·        Y Cynghorydd W.Tudor Owen – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Gisda.

·        Y Cynghorydd Siân Gwenllian – oherwydd ei bod yn aelod o Fwrdd Rheoli Gisda.

·        Y Cynghorydd Gwen Griffith – oherwydd ei bod yn Gadeirydd Mantell Gwynedd.

·        Y Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn aelod o Gwmni Seren.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cydymdeimlad

 

Cyfeiriwyd at farwolaeth ddisymwth y Cynghorydd Bob Wright fu’n cynrychioli Ward De Pwllheli ar y Cyngor hwn ers 2008, a chyn hynny yn aelod o Gyngor Dosbarth Dwyfor am sawl blwyddyn cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996.  Darllenodd y Cadeirydd deyrnged iddo a baratowyd gan y Cynghorydd Peter Read, a chydymdeimlwyd â’r teulu yn eu profedigaeth.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Robin Llyr Evans, 20 oed o Lanbedrog, a fu farw yn dilyn damwain erchyll yn Tsieina.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn dymuno cofio hefyd am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

(2)     Gwellhad Buan

 

          Dymunwyd gwellhad buan i’r Cynghorydd Linda Morgan oedd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd ac hefyd i’r Cynghorwyr Peter Read a Louise Hughes yn dilyn anhwylder diweddar.

 

(3)     Dymuniadau Gorau

 

          Estynnwyd dymuniadau gorau i’r cyn-gynghorwyr Eddie Dogan a Llywarch Bowen Jones, oedd wedi gorfod rhoi’r gorau i’w gwaith fel cynghorwyr oherwydd afiechyd.

 

          ‘Roedd Eddie Dogan wedi gwasanaethu llywodraeth leol ers dros ddeugain mlynedd gan ddechrau gyda’r hen Gyngor Gwyrfai a bu wedyn yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Arfon cyn cael ei ethol i gynrychioli Ward Dewi ar y Cyngor hwn yn 1996.  Bu hefyd yn aelod o Gyngor Dinas Bangor am 43 o flynyddoedd.  ‘Roedd Llywarch Bowen Jones wedi’i ethol i gynrychioli Ward Llanaelhaearn yn 2012 a bu yntau’n aelod gwerthfawr o’r Cyngor hwn.

 

          Nodwyd y gwelid colled fawr ar eu holau ac ‘roedd y Cyngor am anfon eu dymuniadau gorau, ynghyd â’u diolchiadau, at y ddau.

 

          Nodwyd bod cynlluniau ar waith i gynnal isetholiadau Dewi a Llanaelhaearn ar 19 Tachwedd ac isetholiad De Pwllheli ar 26 Tachwedd.

 

          Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Roy Owen a’r teulu yn dilyn y digwyddiadau diweddar a nodwyd hefyd bod meddyliau pawb gyda’r Cynghorydd Eric Merfyn Jones a’r teulu.

 

(4)     Croeso

 

          Croesawyd y Cynghorydd Sian Hughes, yr aelod newydd dros Ward Morfa Nefyn, i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor.

 

(5)     Llongyfarchiadau

 

          Llongyfarchwyd Elfyn Evans ar sicrhau’r canlyniad gorau erioed i Gymro mewn Pencampwriaeth Rali’r Byd.  Llwyddodd Elfyn Evans i ddod yn ail yn y Tour de Corse, sef rownd Ffrengig Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA eleni a dymunwyd bob llwyddiant iddo yn Rali Cymru Prydain Fawr ar 12-15 Tachwedd.

 

          Llongyfarchwyd y Tîm Cenedlaethol am wneud mor dda yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd a dymunwyd yn dda iddynt yn eu gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn nesaf.  Dymunwyd yn dda hefyd i’r Tîm Pêl-droed Cenedlaethol sy’n chwarae gêm allweddol yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Sadwrn a nodwyd bod y Cyngor yn ymfalchïo yn llwyddiant yr aelodau hynny o’r ddwy garfan sydd â chysylltiad agos â Gwynedd.

 

(6)     Nodyn

 

          Nodwyd bod cynigion drafft y Panel Annibynnol ar Gyflogau a Threuliau Aelodau i law ac y bwriedid cylchredeg y ddogfen trwy Rhaeadr gan wahodd yr aelodau i gynnig sylwadau.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn

arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

MATERION BRYS

          Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19

o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Beth yw barn yr Arweinydd ar wastraffu arian cyhoeddus gydag ymgynghorwyr allanol?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Arweinydd i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae’n debyg ein bod i gyd yn y Siambr yn gallu datgan nad ydym yn awyddus i weld gwastraffu arian cyhoeddus ym mha bynnag sefyllfa.  ‘Rwy’n credu bod gwaith gennym i gyd i sicrhau bod unrhyw wariant cyhoeddus yn digwydd yn y ffordd fwyaf priodol a mwyaf effeithlon.  Fel mae’r ateb yn amlinellu mae yna le bob amser i holi a stilio a chraffu ar wariant y Cyngor ac yn wir dyna ydi gwaith y pwyllgorau craffu a’r Pwyllgor Archwilio ac mae’r Pwyllgor Archwilio wedi penderfynu gwneud darn o waith i edrych ar wariant gydag ymgynghorwyr allanol a daw’r adroddiad yna gerbron yr aelodau maes o law.  Nid wyf yn rhagdybio beth fydd canlyniad y gwaith hwnnw ond ‘rydw i wedi dweud bod yna le i ni gomisiynu gwaith gan gyrff allanol ac asiantaethau allanol i’n cynorthwyo yn y broses.  Yr enghreifftiau ‘rwy’n meddwl amdanynt yw lle mae’r Cyngor yn ceisio creu newid.  Yn amlwg, mae’n rhaid i ni gael rhywun hyd braich i fod ynghanol y gwaith hwnnw ac i ni beidio bod yn ddwy ochr y ddadl ar yr un pryd.  Nid yw hynny’n bosib’.  Mae angen cael presenoldeb pobl annibynnol yn y sefyllfa yna er tegwch i bawb, ac ynghlwm â hynny, wrth gwrs, mae yna wariant.  Gadewch i ni weld beth fydd ffrwyth gwaith y gweithgor sy’n edrych ar hwn.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Mae’r Arweinydd yn dweud yn ei ymateb ysgrifenedig, os nad yw’r sgiliau arbenigol neu gapasiti angenrheidiol i'w gael o fewn y Cyngor, y byddwn yn defnyddio ymgynghorwyr allanol.  ‘Rwy’n meddwl bod hynny’n reit sarhaus.  Mae gennym 7000 o staff yn gweithio i Gyngor Gwynedd ac ‘rwy’n credu bod yna sgiliau ffantastig yn y Cyngor yma i ddelio gyda’r gwaith sydd angen ei wneud gan yr ymgynghorwyr allanol yma.  Ydi’r Arweinydd yn barod i ymddiheuro am wastraffu arian cyhoeddus?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd y Cyngor

 

“Nid sarhaus yw cydnabod nad oes gennym y sgiliau i gyd bob amser.  Onid realiti’r sefyllfa ydi hynny?  Nid ydym i gyd yn arbenigwyr ar bob dim.  Mae yna sefyllfaoedd lle ‘rydym angen cymorth a chyngor arbenigol.  Onid y peth cyfrifol i wneud yn y sefyllfa yna ydi sicrhau ein bod yn cael cyngor priodol annibynnol ac addas.  Yn wir, oni bai ein bod yn gwneud hynny, mae yna le i ni gael ein herio.  Byddai Swyddfa Archwilio Cymru ar ein pennau ac mi fyddai yna sefyllfaoedd lle gallem gael ein herio.  Mae yna fymryn bach o realiti hefyd, sef wrth i ni leihau’r gweithlu, nid oes gennym y capasiti i wneud pob dim.  Mae’n amhosibl.  Nid oes yna ddigon o oriau yn y dydd i wneud pob dim ac mae hynny yn isgynnyrch o wynebu toriadau sy’n golygu ein bod yn lleihau niferoedd staff.  Ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2014/15 pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r ddogfen yn ddarlun cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2014/15, a’i fabwysiadu.

 

          Diolchodd yr Arweinydd i’r swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith.

 

          PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad yn adlewyrchiad cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2014/15, a’i fabwysiadu.

 

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL TROSOLWG A CHRAFFU GWYNEDD 2014-15 pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwyno:-

 

(a)        Adroddiadau Blynyddol y tri Phwyllgor Craffu ar gyfer 2014/15  (ynghlwm).

(b)        Rhaglen Waith y tri Phwyllgor Craffu ar gyfer 2015/16 (ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiadau blynyddol y tri phwyllgor craffu ar gyfer 2014/15 ynghyd â’u rhaglenni gwaith ar gyfer 2015/16.

 

Pwyllgor Craffu Corfforaethol

 

Manylodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Cynghorydd Dyfrig Jones, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2014/15, gan ddiolch i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Jason Humphreys, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau

 

Yn absenoldeb Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau, manylodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2014/15, gan ddiolch i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Read a’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·        Cyfeiriwyd at lwyth gwaith hynod o drwm y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau a nodwyd yr angen i adolygu’r Cyfansoddiad fel bod y tri phwyllgor craffu yn rhannu’r gwaith yn decach.  Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol fod y drefn bresennol yn seiliedig ar fodel a orfodwyd ar y Cyngor yn dilyn yr etholiad diwethaf ac y byddai’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn cefnogi ymgais i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng llwyth gwaith y gwahanol bwyllgorau craffu.

·        Holwyd a oedd yr Arweinydd a’r Cabinet yn talu digon o sylw i argymhellion y pwyllgorau craffu?  Awgrymwyd bod yr aelod yn codi’r mater yn uniongyrchol gyda’r Arweinydd a’r Cabinet.  Nodwyd ymhellach nad oedd y pwyllgor craffu yn cael gwybod faint o weithiau mae’r Cabinet yn derbyn / gwrthod eu hargymhellion.

·        Canmolwyd y prosiect Vanguard yn Ysbyty Alltwen a mynegwyd dymuniad i weld adroddiad gan Morwena Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, yn hysbysu pobl Gwynedd o lwyddiant y peilot.

·        Nodwyd bod y pwyllgor craffu wedi holi droeon faint o arian sy’n cael ei wario ar ymgynghorwyr, ond heb gael ymateb.

 

Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

Manylodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Angela Russell, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2014/15 gan ddiolch i’r Is-gadeiryddion yn ystod y flwyddyn, y Cynghorwyr Mandy Williams-Davies a Caerwyn Roberts, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Diolchodd yr Arweinydd i gadeiryddion, is-gadeiryddion ac aelodau’r tri phwyllgor craffu am eu holl waith gan nodi bod yr adroddiad yn amlygu’n glir pa bynciau gafodd eu craffu, beth oedd diben y craffu a beth sydd wedi digwydd i’r argymhellion yn deillio o hynny.

The annual reports of the three scrutiny committees for 2014/15 were submitted together with their work programmes for 2015/16.

 

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGOR SAFONAU CYNGOR GWYNEDD 2014/15 pdf eicon PDF 64 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r Cyngor i gyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau am 2014/15.

 

Manylodd Dr Einir Young ar brif bwrpas y pwyllgor o hybu a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig Cyngor Gwynedd a chynghorau cymuned a thref Gwynedd gan gyfeirio at aelodaeth y pwyllgor a’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2014/15.  Diolchodd i Gwilym Ellis Evans, fu’n Gadeirydd y pwyllgor am 10 mlynedd, am ei waith diwyd a’i ymroddiad ac hefyd i Sam Soysa, fu’n Is-gadeirydd, cyn i’w gyfnod ar y pwyllgor ddod i ben.  Diolchodd hefyd i’r Swyddog Monitro a’r swyddogion eraill sy’n rhoi cefnogaeth i’r pwyllgor.

 

Diolchwyd i Dr Einir Young am gyflwyno’r adroddiad.

 

11.

YMGYNGHORIAD I'R CYFARWYDDIADAU DRAFFT GAN LYWODRAETH CYMRU I'R ADOLYGIAD GAN Y COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 65 KB

Cyflwyno’r ddogfen ymgynghorol a sylwadau drafft y Pwyllgor Gwasanaethau

Democrataidd er ystyriaeth gan y Cyngor llawn (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tom Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn nodi, fel rhan o’r rhaglen diwygio llywodraeth leol, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol newydd arfaethedig.  Gofynnwyd i’r Cyngor ystyried argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar y mater ynghyd â barn y pwyllgor ar y newidiadau sydd dan sylw ar gyfer etholiadau 2017.

 

Mynegodd aelod ddiffyg hyder yn yr holl broses ar y sail bod cynnig llwgrwobr i gynghorwyr o flwyddyn ychwanegol heb unrhyw fandad ac ar dâl llawn yn dangos pa mor isel mae’r broses wedi disgyn.

 

PENDERFYNWYD

(a)       Cyflwyno’r sylwadau ar gynnwys y Cyfarwyddiadau Drafft i’r Comisiwn Ffiniau sydd wedi eu crynhoi yn Atodiad A i’r cofnodion hyn.

(b)     Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddatgan y farn y byddai’n anaddas gweithredu’r newidiadau sydd dan sylw ar gyfer etholiadau 2017 gyda newid mor sylfaenol o ran ffiniau i ddilyn mor fuan yn sgil yr ad-drefnu.

 

12.

TAFLEN BENDERFYNIAD BRYS AELOD CABINET pdf eicon PDF 7 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Economi (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi adroddiad er gwybodaeth yn nodi y cyflwynwyd taflen benderfyniad Aelod Cabinet ynghylch Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor a Chaernarfon Arfaethedig - Pleidleisiau Cyngor Gwynedd fel penderfyniad brys yn unol â rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad fel na fyddai’r drefn galw i mewn yn berthnasol yn yr achos hwn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn medru cyflwyno pleidleisiau cyn y dyddiad cau.  Nododd fod y drefn yma’n caniatáu gwneud penderfyniad gyda chydsyniad Cadeirydd y Cyngor, ond ‘roedd yn ofynnol adrodd ar hynny i’r Cyngor nesaf.  Derbyniwyd cytundeb y Cadeirydd fod y mater dan sylw yn un brys a bod y penderfyniad a gynigid yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·        Croesawyd y ffaith bod y cynllun yn ei le a diolchwyd i’r Aelod Cabinet am ei gwaith.

·        Nodwyd bod y Llywodraeth ganolog yn Lloegr wedi penderfynu bod cynghorau lleol Lloegr am gael cadw’r dreth fusnes i gyd er mwyn ei fuddsoddi’n lleol ac awgrymwyd cysylltu gyda Llywodraeth Cymru i ofyn am gyflwyno’r un amodau yng Nghymru.  Atebodd y Prif Weithredwr y byddai’n rhaid i bwyllgor craffu edrych ar hyn yn gyntaf er mwyn gweld a fyddai trefn o’r fath yng Nghymru yn arwain at fudd i Wynedd neu beidio.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

13.

RHYBUDDION O GYNNIG pdf eicon PDF 74 KB

(A)       Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Galwaf ar fy nghyd-gynghorwyr i gefnogi cais i ysgrifennu at John Penrose, AS i ofyn am newid yn y ddeddf i ganiatáu i ni sy'n dymuno adnabod ein hunain fel Cymry yn hytrach nag fel Prydeinwyr ar Gofrestr Etholiadol, pasports, ac unrhyw ddogfennaeth swyddogol arall berthnasol.

 

Yn ddiweddar, anfonwyd Ffurflen Ymholiad Etholiadol i bob cartref yng Ngwynedd.  Un o'r pethau sy'n cael ei gofrestru ar y Ffurflen yw cenedligrwydd, ond nid oes hawl gan Gymro/ Gymraes i gofnodi ei hun fel Cymro / Cymraes.  Anfonir y Ffurflen gan ein Cyngor i bob cartref yng Ngwynedd, ac er fod y Cyngor â chyfrifoldeb am weinyddu’r Gofrestr Etholiadau yng Ngwynedd, mae’n gyfundrefn sy’n gweithredu trefn statudol ar gyfer cynnal etholiadau.  Rhaid dilyn y gyfundrefn ar gyfer cynnal y gofrestr etholiadol er mwyn sicrhau hawliau dinasyddion Gwynedd i bleidleisio.

 

Nid Gwynedd sy'n gyfrifol am y gyfundrefn. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gyfundrefn.  Os am newid y drefn, rhaid cysylltu efo John Penrose, AS, chwip y Llywodraeth yn San Steffan, Comisiynydd yr Arglwydd o Drysorlys ei Mawrhydi ac Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog ar gyfer Diwygio Cyfansoddiadol).

 

Galwaf ar fy nghydgynghorwyr i gefnogi hawl Cymry i alw eu hunain yn Gymry. Galwaf ar fy nghydgynghorwyr i ddatgan cefnogaeth i ni, fel Cyngor Gwynedd, ysgrifennu at John Penrose i newid y ddeddf.”

 

(B)       Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Ioan Thomas yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn:-

(1)        Cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da y mae Gwynedd wedi ei wneud o ran darparu ystod o lety a / neu wasanaethau cefnogi i bobl ddiamddiffyn i’w helpu i gynnal neu adennill eu lle yn y gymuned yng Ngwynedd.

(2)        Cefnogi parhad rhaglen ataliol Cefnogi Pobl a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chefnogi pobl ddiamddiffyn a phobl ar yr ymylon i fyw’n annibynnol a chydag urddas yn eu cymunedau drwy ddarparu cefnogaeth gyda thai a gwasanaethau’r Cyngor.

(3)        Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl, yn hytrach na’i leihau ymhellach.

(4)        Cefnogi ymgyrch ar y cyd Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru, “Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl”, i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl.

(5)        Gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol Cynulliad Cymru i gefnogi’r cynnig hwn.”

 

(C)    Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Alun Cairns AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Wyn Williams i’r cyfarfod blaenorol ynghylch datganoli pwerau Ystad y Goron  (ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.

 

“Galwaf ar fy nghyd-gynghorwyr i gefnogi cais i ysgrifennu at John Penrose, AS i ofyn am newid yn y ddeddf i ganiatáu i ni sy'n dymuno adnabod ein hunain fel Cymry yn hytrach nag fel Prydeinwyr ar Gofrestr Etholiadol, pasborts, ac unrhyw ddogfennaeth swyddogol arall berthnasol.

 

Yn ddiweddar, anfonwyd Ffurflen Ymholiad Etholiadol i bob cartref yng Ngwynedd.  Un o'r pethau sy'n cael ei gofrestru ar y Ffurflen yw cenedligrwydd, ond nid oes hawl gan Gymro/ Gymraes i gofnodi ei hun fel Cymro / Cymraes.  Anfonir y Ffurflen gan ein Cyngor i bob cartref yng Ngwynedd, ac er bod y Cyngor â chyfrifoldeb am weinyddu’r Gofrestr Etholiadau yng Ngwynedd, mae’n gyfundrefn sy’n gweithredu trefn statudol ar gyfer cynnal etholiadau.  Rhaid dilyn y gyfundrefn ar gyfer cynnal y gofrestr etholiadol er mwyn sicrhau hawliau dinasyddion Gwynedd i bleidleisio.

 

Nid Gwynedd sy'n gyfrifol am y gyfundrefn. Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y gyfundrefn.  Os am newid y drefn, rhaid cysylltu efo John Penrose, AS, chwip y Llywodraeth yn San Steffan, Comisiynydd yr Arglwydd o Drysorlys ei Mawrhydi ac Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog ar gyfer Diwygio Cyfansoddiadol).

 

Galwaf ar fy nghyd-gynghorwyr i gefnogi hawl Cymry i alw eu hunain yn Gymry. Galwaf ar fy nghyd-gynghorwyr i ddatgan cefnogaeth i ni, fel Cyngor Gwynedd, ysgrifennu at John Penrose i newid y ddeddf.”

 

          Cefnogwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig.

 

(b)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Ioan Thomas, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn:-

(1)     Cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith da y mae Gwynedd wedi ei wneud o ran darparu ystod o lety a / neu wasanaethau cefnogi i bobl ddiamddiffyn i’w helpu i gynnal neu adennill eu lle yn y gymuned yng Ngwynedd.

(2)     Cefnogi parhad rhaglen ataliol Cefnogi Pobl a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chefnogi pobl ddiamddiffyn a phobl ar yr ymylon i fyw’n annibynnol a chydag urddas yn eu cymunedau drwy ddarparu cefnogaeth gyda thai a gwasanaethau’r Cyngor.

(3)     Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl, yn hytrach na’i leihau ymhellach.

(4)     Cefnogi ymgyrch ar y cyd Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru, “Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl”, i ddiogelu’r grant Cefnogi Pobl.

(5)     Gwahodd Aelodau Etholaeth a Rhanbarthol Cynulliad Cymru i gefnogi’r cynnig hwn.”

 

          Cefnogwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig.

 

(c)     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Alun Cairns, AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Wyn Williams i’r cyfarfod diwethaf ynghylch datganoli pwerau Ystâd y Goron.

 

PENDERFYNWYD nodi’r llythyr â siomedigaeth.