skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Stephen Churchman, Anwen Davies, Eddie Dogan, Aled Evans, Christopher Hughes, Llywarch Bowen Jones, Sion Jones, Linda Morgan a John Wyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 264 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2015 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mai, 2015 fel rhai cywir.

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(1)     Cydymdeimlad

 

Nodwyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

(2)     Dymuniadau gorau

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Eddie Dogan yn dilyn anhwylder diweddar ac i’r Cynghorydd Linda Morgan oedd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd.

 

(3)     Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Yr holl bobl ifanc a phlant o Wynedd fu’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili.

·         Ysgol Glanaethwy ar eu llwyddiant yn dod yn drydydd yn y gystadleuaeth ‘Britain’s Got Talent’.

·         Ysgol Abererch, ar ennill y Wobr Menter Bwyta’n Iach gyda’r prosiect SMŴ-FI.  ‘Roedd y rhain yn wobrau cenedlaethol ac ‘roedd dros 2,500 o ysgolion wedi cystadlu.

·         Ymdrech a llwyddiant Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn ar ennill y Wobr Platinwm Eco-Sgolion, sef yr ysgol gyntaf drwy Wynedd i dderbyn y wobr hon.

·         Ysgol Edern ar ennill Gwobr Masnach Deg cwmni Devine.

·         Y Cynghorydd Dewi Owen ar gael ei ethol ar Fwrdd Gogledd Cymru o Undeb Amaethwyr Cymru.

 

Nodwyd hefyd bod Ysgol Craig y Deryn, Llanegryn ar y rhestr fer ar gyfer Medal Aur Pensaernïaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod a hefyd wedi ennill Gwobr Prydain Sefydliad Cynllunio Tref Frenhinol yn ddiweddar, yn dilyn ennill Gwobr Cymru yn 2014.

 

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diolchodd yr Aelod Cabinet Adnoddau i bawb, yn aelodau a swyddogion, fu’n rhan o’r Gweithdai Craffu Toriadau gan nodi y byddai prif sylwadau’r sesiynau wedi’u hymgorffori yn yr argymhellion i’r Cabinet ar 30 Gorffennaf.

 

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

CYNLLUN STRATEGOL CYNGOR GWYNEDD 2015-17 pdf eicon PDF 53 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Strategol penodol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at y Prosiect Gwynedd Digidol, holwyd a fyddai’n bosib’ ymestyn y band eang yn ysgolion gwledig y sir i adeiladau a thrigolion cyfagos fel bod y gymuned ehangach yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth.  Nododd y Cadeirydd fod hwn yn bwynt y gellid edrych i mewn iddo.  Gofynnwyd hefyd am sicrwydd y bydd y Cyngor yn dwyn pwysau ar BT Openreach i sicrhau bod band eang cyflym yn cyrraedd yr holl ardaloedd gwledig.  Nododd y Cadeirydd fod hynny’n fater fydd yn cael sylw.

·         Gan gyfeirio at y templed Cynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn Atodiad 2, nododd aelod iddi dderbyn cŵyn yn ddiweddar bod y pecyn priodi ar gyfer cyplau un rhyw yn cynnwys y geiriau ‘priodferch’ a ‘phriodfab’ wedi’u croesi allan a ‘phartner 1’ a ‘phartner 2’ wedi’u gosod yn eu lle, a hefyd yn cynnwys y geiriau ‘ef’ a ‘hi’.  ‘Roedd ar ddeall hefyd nad oedd yna gyfle i rywun dywys y partneriaid i lawr yr eil.  Ychwanegodd fod hyn yn eithrio pobl a gofynnodd am i’r mater gael ei drafod mewn pwyllgor craffu.  Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd bod y rhain yn faterion y tu allan i’r Cynllun Strategol, ond yn faterion sydd angen sylw, ac y byddai’r neges yn cael ei phasio ymlaen i’r adran berthnasol.

·         Llongyfarchwyd y Cabinet a’r swyddogion ar y Cynllun Strategol.  Nodwyd bod y ffocws yn glir iawn yn y ddogfen a chytunwyd mai dyma’r prif feysydd y dylai’r Cyngor fod yn edrych arnynt yn strategol dros y cyfnod hynod o heriol sydd i ddod.

·         Gofynnwyd i’r swyddogion wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Gwynedd yn elwa ar gyfran deg o’r £9m o arian Rhaglen Datblygu Gwledig a glustnodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd a chymunedau gwledig.  Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei basio ymlaen i’r Cabinet.  Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus ei fod yn denu cymaint â phosib’ o arian o gronfeydd Ewrop.  ‘Roedd record Cyngor Gwynedd yn y maes yma’n arbennig o dda a diau y byddai’r gwaith hwnnw’n parhau er sicrhau cymaint o fudd ag y gellir i economi wledig y sir.

·         Nodwyd bod rhaid i’r Cyngor ei hun gymryd camau i gryfhau’r economi leol, ond ‘roedd y system gynllunio bresennol yn milwrio yn erbyn datblygiadau economaidd, a phwysleisiwyd y dylai’r Cyngor allu cefnogi busnesau bach yn eu bro eu hunain, yn hytrach na’u gyrru i stadau diwydiannol yn y trefi.  Cytunodd y Dirprwy Arweinydd â’r sylw gan nodi bod gweithgor o un o’r pwyllgorau craffu yn edrych i mewn i’r sefyllfa er mwyn gweld sut y gellir creu trefn gynllunio gadarnhaol sy’n annog, yn hytrach nag yn rhwystro, yr economi.

·         Nodwyd bod agor ysgol newydd Y Groeslon wedi golygu cau ysgol Carmel, oedd â dros 60  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014/15 pdf eicon PDF 106 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol a Chyfarwyddwr Corfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2014/15.

 

Yn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr amlinelliad o berfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn a fu, gan adrodd ar berfformiad da ynghyd â meysydd lle mae angen gwella, a hynny o fewn cyd-destun lle mae angen trawsffurfio a newid er mwyn ymateb i ofynion deddfwriaethol ac ariannol.  Ymhelaethodd hefyd ar yr hyn sy’n wynebu’r Gwasanaethau Cymdeithasol dros y cyfnod nesaf ac i ba raddau mae’r perfformiad yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa gref neu beidio.

 

Cymerodd y cyfle hefyd i ddiolch i holl staff yr adrannau a hefyd y gweithwyr gofal ar hyd a lled Gwynedd, yn fewnol ac allanol, am eu gwaith caled ac ymroddiad llwyr i’r gwaith pwysig hwn.  Diolchodd yn benodol i’r ddau Aelod Cabinet, y Cynghorwyr Gareth Roberts a Mair Rowlands am eu cefnogaeth ac i’r cyn-aelod Cabinet, y Cynghorydd Wyn Williams am ei waith yn ystod y flwyddyn.  Diolchodd hefyd i Aled Davies am sefyll yn y bwlch fel Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, gan ddymuno gwellhad buan i Gwenan Parry.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, ymatebodd y Cyfarwyddwr i gyfres o gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Yr angen am dri Phencampwr Gofal - un dros Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.  Nodwyd, gyda’r newidiadau mawr sydd ar y gorwel, y byddai’n anodd i’r Pencampwr Gofal presennol barhau i weithredu dros Wynedd gyfan a chan fod yna gyswllt agos rhwng y rôl a gwaith y Cyngor Iechyd Cymdeithas, awgrymwyd y gallai’r ddau aelod sy’n cynrychioli ardaloedd Arfon a Dwyfor ar y corff hwnnw ymgymryd â rhywfaint o waith y Pencampwr Gofal yn yr ardaloedd hynny.  Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei basio ymlaen i’r gwasanaeth ei ystyried.

·         Siomedigaeth bod y Cyngor wedi gwneud i ffwrdd â swydd y Swyddog Anableddau yn dilyn ymddeoliad cyn-ddeilydd y swydd a chais i ail-sefydlu’r swydd.  Nododd y Cadeirydd y byddai’r sylw’n cael ei basio ymlaen i’r gwasanaeth ei ystyried.

·         Cydweithio gyda’r gwasanaeth iechyd yn wyneb trafferthion presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

·         Llwyddiant y Prosiect yn Alltwen.

·         Morâl y staff a sut mae monitro hynny.

·         Y cyfle i hyrwyddo ffyrdd gwahanol o weithio ac arloesi a symud yr agenda trawsffurfio yn ei flaen.

·         Llwyddiant y Tîm Trothwy Gofal sy’n edrych ar drawsnewid y gwasanaeth plant.

·         Yr her o gadw’r staff presennol a denu staff newydd o’r ysgolion, y prifysgolion a’r colegau lleol yn y sefyllfa ariannol sydd i ddod.

·         Pwy a beth sy’n gwneud i gost y gwasanaeth fod mor uchel, o gofio nad yw llawer o bobl byth yn mynd ar ofyn y gwasanaeth?

·         Pam bod lefelau cancr mor uchel yng Ngwynedd?  Atebodd y Cyfarwyddwr y gallai hi a’r Aelod Cabinet Oedolion ac Iechyd godi’r math yma o gwestiwn yn y Fforwm Sirol gyda swyddogion a rheolwyr y Bwrdd Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r trydydd sector.

 

Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr a’i staff am eu holl waith yn ystod y flwyddyn.

10.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r tabl isod:-

 

PWYLLGORAU CRAFFU

 

 

Plaid  Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

Corfforaethol

 

9

4

3

1

1

 

Cymunedau

 

9

4

2

1

1

1

Gwasanaethau

 

9

4

3

1

 

1

Archwilio

 

9

5

2

2

 

 

 

PWYLLGORAU ERAILL

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Gwasanaethau Democratiaeth

 

8

4

2

1

 

 

 

Iaith

 

8

4

2

1

 

 

 

Cynllunio

 

8

3

2

1

1

 

 

Trwyddedu Canolog

8

4

2

 

 

1

 

Apelau Cyflogaeth

 

3

1

1

1

 

1

 

Penodi Prif Swyddogion

7

4

2

1

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer y seddau

78

37

21

10

4

4

154

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Pensiynau

 

3

2

0

1

1

 

 

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

6

2

2

1

 

 

 

Cydbwyllgor Addysg Anghenion Arbennig

3

2

1

 

 

1

 

Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

4

(3 sedd ac un eilydd)

2

1

1

 

 

 

CYSAG

 

4

2

1

 

 

 

 

Cyfanswm y Seddau

98

47

26

13

5

5

194

 

11.

ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Linda Morgan o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd ei bod yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd, sy’n debygol o effeithio ar ei gallu i fynychu cyfarfodydd ffurfiol o’r awdurdod am gyfnod.

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd a nodwyd y byddai ei chyd-gynghorwyr yn cynnig pob gwasanaeth all fod o gymorth iddi yn ei hardal.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Linda Morgan o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd yr amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei galluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

12.

RHYBUDDION O GYNNIG pdf eicon PDF 91 KB

(A)    Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd R.H.Wyn Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

          Galwn ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau Comisiwn y Goron i Lywodraeth Cymru fel bod Cymru'n manteisio ar incwm a geir o diroedd ac arfordir Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd Cymru yn fwy llewyrchus drwy fod yn berchen ar yr hawliau i bysgota, mwyngloddio, chwilio am nwy ac olew, ynni'r llanw a thonnau'r môr a ffermydd gwynt, aur ac arian, a'r holl ynni a'r adnoddau sydd o fewn dyfroedd a ffiniau tiriogaethol dynodedig Cymru. Rydym hefyd yn gofyn i Awdurdodau Lleol eraill Cymru gefnogi'r cais."

 

(B)    Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Mark Thomas, Golygydd y Daily Post, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i’r cyfarfod diwethaf ynghylch penderfyniad Trinity Mirror i gau Swyddfa’r Herald yng Nghaernarfon.  (ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd R.H.Wyn Williams, dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd.

 

            Galwn ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau Comisiwn y Goron i Lywodraeth Cymru fel bod Cymru'n manteisio ar incwm a geir o diroedd ac arfordir Cymru.  Bydd hyn yn golygu y bydd Cymru yn fwy llewyrchus drwy fod yn berchen ar yr hawliau i bysgota, mwyngloddio, chwilio am nwy ac olew, ynni'r llanw a thonnau'r môr a ffermydd gwynt, aur ac arian, a'r holl ynni a'r adnoddau sydd o fewn dyfroedd a ffiniau tiriogaethol dynodedig Cymru. Rydym hefyd yn gofyn i Awdurdodau Lleol eraill Cymru gefnogi'r cais."

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:-

 

·         Er y croesawid yr egwyddor y tu ôl i’r cynnig, nad oedd hyn mor syml ag y mae’n swnio gan y byddai’n rhaid i Gymru fod yn wlad annibynnol o’r bron i gael yr hawliau yma. 

·         Bod hyn am ddigwydd yn yr Alban.

·         Y cefnogid y cynnig, a phetai hyn yn cael ei wireddu a bod yr arian yn dod i Gymru, y dylai fynd i’r ardaloedd hynny o ble mae’r arian yn dod, ac nid i Gaerdydd.

 

          Cefnogwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig.

 

(b)     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Mark Thomas, Golygydd y Daily Post, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i’r cyfarfod diwethaf ynghylch penderfyniad Trinity Mirror i gau Swyddfa’r Herald yng Nghaernarfon.

 

PENDERFYNWYD nodi’r llythyr.