Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd am 2015/16.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dilwyn Morgan yn gadeirydd am 2015/16.

 

Llofnododd y Cynghorydd Dilwyn Morgan ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2015/16.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn is-gadeirydd am 2015/16.

 

Llofnododd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones ddatganiad yn derbyn y swydd o is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Eddie Dogan, Gwynfor Edwards, Gweno Glyn, Simon Glyn, Linda Wyn Jones, Llywarch Bowen Jones, Dilwyn Lloyd, Linda Morgan, Peter Read, Gareth Thomas, Gethin Glyn Williams, Gruffydd Williams ac Eurig Wyn.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 471 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth, 2015 fel rhai cywir.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

·         Datganodd y Cynghorydd Aeron M.Jones fuddiant personol yn eitem 13(a) ar y rhaglen – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sian Gwenllian – oherwydd ei fod wedi cynnig gofod swyddfa i Trinity Mirror.

 

·         Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fuddiant personol yn eitem 13(a) ar y rhaglen – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sian Gwenllian – oherwydd ei fod yn gweithio fel newyddiadurwr.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(1)     Croeso

 

Croesawyd y Cynghorydd Glyn Thomas, yr aelod newydd dros Ward Cadnant, i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor.

 

(2)     Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Liz Saville Roberts a Hywel Williams ar gael eu hethol yn Aelodau Seneddol.  Gan mai hwn oedd ei chyfarfod olaf fel aelod o’r Cyngor hwn, rhoddodd y Cynghorydd Liz Saville Roberts anerchiad byr gan nodi y bu’n fraint bod yn aelod o Gyngor Gwynedd dros nifer o flynyddoedd a’i bod wedi dysgu llawer o’r profiad.

·         Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy a ddaeth yn drydydd yn yr Ariannin ym mhencampwriaeth ralio’r byd, ac a oedd ar hyn o bryd yn bedwerydd yn y bencampwriaeth.  Nodwyd mai dyma’r tro cyntaf i Gymro gyrraedd y fath safon.

·         Grŵp Gwerin 9bach ar eu llwyddiant diweddar yn ennill albwm y flwyddyn gyda’r albwm ‘Tincian’ yng Ngwobreuon Gwerin Radio 2 yn Stadiwm y Mileniwm.

·         Clwb Pêl Droed y Bala ar gyrraedd cystadleuaeth Cwpan Europa am yr ail dymor yn olynol.

 

(3)     Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Glyn Thomas ar golli ei fam.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am eraill o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

(4)     Dymuniadau Gorau

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorwyr Eddie Dogan a Linda Morgan oedd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd.

 

(5)     Cyffredinol

 

Tynnu sylw at lythyr a anfonwyd at yr aelodau ynglŷn â’r gyfres o weithdai craffu aelodau ar y toriadau ac anogwyd pawb i fynychu’r sesiynau hollbwysig hyn. 

 

Nodwyd bod y Cynghorydd Aeron M.Jones yn chwilio am 12 cynghorydd neu aelodau o staff i redeg neu gerdded am gyfnod o 2 awr ar gaeau Treborth, Bangor ym mis Mehefin er mwyn codi arian tuag at Apêl Nyrsus Macmillan yng Ngwynedd.

 

Atgoffwyd yr aelodau y byddai 2016 yn ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon.  Nodwyd y cynhelid digwyddiadau o gwmpas mis Mehefin y flwyddyn nesaf i gofio’r adeg pan gyrhaeddodd y carcharorion y gwersyll-garchar yn Fron-goch, Y Bala a phwysleisiwyd ei bod yn amserol i gysylltu â Llywodraeth Iwerddon er mwyn hybu twristiaeth yn yr ardal.

 

7.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan y Rheolau Gweithdrefn.

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

DIWYGIO CYNLLUN HAWLIAU DIRPRWYEDIG SWYDDOGION pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad ar yr angen i addasu’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yn dilyn ail strwythuro’r Adrannau Adnoddau Dynol a Strategol a Gwella er creu Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, diwygio’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yn unol ag Atodiad 1 i’r adroddiad a dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau golygyddol i’r Cyfansoddiad sydd yn deillio o’r newidiadau.

 

11.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor gan ychwanegu y byddai’r mater hwn gerbron y Cyngor nesaf hefyd yn sgil datblygiadau y bore hwnnw.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r tabl isod:-

 

PWYLLGORAU CRAFFU

 

 

Plaid

Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

Corfforaethol

 

9

4

3

1

1

 

Cymunedau

 

8

4

3

1

1

1

Gwasanaethau

 

9

4

3

1

 

1

Archwilio

 

8

5

3

2

 

 

 

PWYLLGORAU ERAILL

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Gwasanaethau Democratiaeth

 

7

4

3

1

 

 

 

Iaith

 

7

4

3

1

 

 

 

Cynllunio

 

7

3

3

1

1

 

 

Trwyddedu Canolog

7

4

3

 

 

1

 

Apelau Cyflogaeth

 

3

1

1

1

 

1

 

Penodi Prif Swyddogion

7

4

2

1

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nifer y seddau

72

37

27

10

4

4

154

 

 

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

 

Pensiynau

 

2

2

1

1

1

 

 

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

6

2

2

1

 

 

 

Cydbwyllgor Addysg Anghenion Arbennig

3

2

1

 

 

1

 

Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd

4

(3 sedd ac un eilydd)

2

1

1

 

 

 

CYSAG

 

3

2

2

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y Seddau

90

47

34

13

5

5

194

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GAN Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AR RAN Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD YNG NGHYSWLLT CEFNOGAETH I AELODAU pdf eicon PDF 368 KB

(a)     Cyflwyno adroddiad y Cynghorydd Lesley Day - Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2014/15  (ynghlwm).

(b)     Dewis Cadeirydd ar gyfer 2015/16.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(a)     Cyflwynodd y Cynghorydd Lesley Day, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adroddiad blynyddol yn diweddaru’r aelodau ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael, y datblygiadau sydd wedi’u gwireddu a’r rhai sydd ar waith.

 

Ar bwynt o gywirdeb, nododd fod angen cynnwys y Cynghorydd Beth Lawton, Pencampwr Iechyd Meddwl, yn y fersiwn Saesneg o’r rhestr pencampwyr (paragraff 2 o’r adroddiad).

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Lesley Day am ei gwaith yn symud yr agenda hwn yn ei flaen.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Mynegwyd siomedigaeth nad oedd adroddiad yr Ymchwiliad Craffu O’r Ysbyty i’r Cartref (rhan 2) wedi’i gyhoeddi, er iddo gael ei gyflwyno yn Rhagfyr y llynedd.  ‘Roedd aelodau’r ymchwiliad wedi gweithio’n galed iawn ac ‘roedd yr adroddiad, oedd yn feirniadol o’r Gwasanaeth Iechyd ac Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ei lastwreiddio ers hynny.

·         Nodwyd y bu’r cyfweliadau datblygiad personol yn fuddiol dros ben ac anogwyd aelodau eraill i fanteisio ar y cyfle hwn.

 

(b)     Adroddwyd bod angen dewis Cadeirydd ar gyfer 2015/16.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Thomas Ellis yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2015/16.

 

13.

RHYBUDDION O GYNNIG pdf eicon PDF 47 KB

(a)     Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan y Rheolau Gweithdrefn, bydd y Cynghorydd Sian Gwenllian yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Rwy’n galw ar y cyngor i ddatgan siom ynghylch penderfyniad Trinity Mirror, cyhoeddwyr papurau newydd, i gau swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon gan roi terfyn ar bresenoldeb yn y dref sy’n ymestyn dros 180 mlynedd,  a dangos cefnogaeth lwyr i'r newyddiadurwyr a'r aelodau staff eraill sy'n cael eu heffeithio.

 

Dyma swyddfa ar gyfer y Daily Post, y Caernarfon and Denbigh Herald, yr Holyhead and Anglesey Mail, y Bangor and Anglesey Mail ac Yr Herald Gymraeg. Mae Caernarfon yn gartref traddodiadol i’r wasg ac yn ganolbwynt pwysig yn fwrdeistrefol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Ceir llys y goron, llys sirol a llys ynadon yn y dref; yn ogystal â chrwner gogledd orllewin Cymru a phencadlys Cyngor Gwynedd.

 

Galwaf hefyd ar y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau parhad presenoldeb staff Trinty Mirror mewn swyddfa yng Nghaernarfon. Mae gohebwyr yn gweithio yn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, o stafell newyddion lleol, yn creu newyddiaduraeth dda - elfen hanfodol o ddemocratiaeth leol a ffynhonnell wybodaeth werthfawr i drigolion Gwynedd a thu hwnt.  Pryderaf y byddai cau'r swyddfa bresennol yn cynrychioli lleihad pellach yn ymrwymiad Trinity Mirror i newyddiaduraeth leol yn y rhanbarth a’i fod yn arwain y ffordd at gau papurau newydd yr ydym yn eu gwerthfawrogi ac sydd wrth galon y gymuned.”

 

(b)     Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan y Trysorlys, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i gyfarfod Rhagfyr ynghylch osgoi talu treth  (ynghlwm).

 

(c)     Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Brif Weinidog Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd R.H.Wyn Williams i’r cyfarfod diwethaf ynghylch Trident  (ynghlwm).

 

(ch)   Cyflwyno, er gwybodaeth, lythyr gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago i’r cyfarfod diwethaf ynghylch ymgyrch Traws Linc Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(a)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Sian Gwenllian, yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, ac fe’i heiliwyd.

 

            Rwy’n galw ar y cyngor i ddatgan siom ynghylch penderfyniad Trinity Mirror, cyhoeddwyr papurau newydd, i gau swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon gan roi terfyn ar bresenoldeb yn y dref sy’n ymestyn dros 180 mlynedd,  a dangos cefnogaeth lwyr i'r newyddiadurwyr a'r aelodau staff eraill sy'n cael eu heffeithio.

 

            Dyma swyddfa ar gyfer y Daily Post, y Caernarfon and Denbigh Herald, yr Holyhead and Anglesey Mail, y Bangor and Anglesey Mail ac Yr Herald Gymraeg. Mae Caernarfon yn gartref traddodiadol i’r wasg ac yn ganolbwynt pwysig yn fwrdeistrefol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Ceir llys y goron, llys sirol a llys ynadon yn y dref; yn ogystal â chrwner gogledd orllewin Cymru a phencadlys Cyngor Gwynedd.

 

            Galwaf hefyd ar y Cyngor i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau parhad presenoldeb staff Trinty Mirror mewn swyddfa yng Nghaernarfon. Mae gohebwyr yn gweithio yn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, o stafell newyddion lleol, yn creu newyddiaduraeth dda - elfen hanfodol o ddemocratiaeth leol a ffynhonnell wybodaeth werthfawr i drigolion Gwynedd a thu hwnt.  Pryderaf y byddai cau'r swyddfa bresennol yn cynrychioli lleihad pellach yn ymrwymiad Trinity Mirror i newyddiaduraeth leol yn y rhanbarth a’i fod yn arwain y ffordd at gau papurau newydd yr ydym yn eu gwerthfawrogi ac sydd wrth galon y gymuned.”

 

          Cefnogwyd y cynnig yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynnig.

 

(b)     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan y Trysorlys, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Sian Gwenllian i gyfarfod Rhagfyr ynghylch osgoi talu trethi.

 

PENDERFYNWYD nodi’r llythyr.

 

(c)     Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Brif Weinidog Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd R.H.Wyn Williams i’r cyfarfod diwethaf ynghylch Trident.

 

PENDERFYNWYD nodi’r llythyr.

 

(ch)   Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago i’r cyfarfod diwethaf ynghylch ymgyrch Traws Linc Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Gogledd a De Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r llythyr.