Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:- Craig ab Iago, Dylan Bullard, Anwen
Davies, Aled Evans, Dylan Fernley, Simon Glyn, Selwyn Griffiths, Sian Hughes,
Judith Humphreys, Aeron Maldwyn Jones, Eric Merfyn Jones, Linda Ann Jones, Eryl
Jones-Williams, Dilwyn Morgan, Rheinallt Puw, Peter Read, John Pughe Roberts,
W.Gareth Roberts, Paul Rowlinson, Mike Stevens, Hefin Underwood, Catrin Wager a
Gruffydd Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd ag Aled Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) ar
golli ei fam yn ddiweddar. Nodwyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio hefyd am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli
anwyliaid yn ddiweddar. Safodd y Cyngor fel arwydd o barch. Nodwyd bod mab y Cynghorydd Anwen Davies wedi bod yn ddifrifol wael yn
ddiweddar a dymunwyd iddo adferiad llwyr a buan. Llongyfarchwyd y Ffermwyr Ifanc ar eisteddfod lwyddiannus ym Mhorthmadog yn ddiweddar, ac
yn arbennig i griw y Rhiw ar eu llwyddiant, ac un ohonynt, Sian Heulwen Roberts
o’r Adran Amgylchedd, ar ennill y gadair. Nodwyd y daeth y datganiad dydd Mawrth mai Ardaloedd y Llechi fydd yr enwebiad nesaf i gael ei gyflwyno i
Unesco. Roedd hyn yn newyddion gwych i
Wynedd gyfan fel cyfle i ddathlu ein treftadaeth ddiwydiannol unigryw. Nodwyd
y cynhelid gwasanaeth cyhoeddus byr yng Nghastell Caernarfon am 2.30 yp ar Sul
y Cofio, 11 Tachwedd 2018 i nodi canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Mawr. Yn ystod y gwasanaeth taenid llwch y Croesau
Pabi a osodwyd yng Ngardd Goffa’r Rhyfel Mawr a agorwyd yn y Castell ar 7
Gorffennaf 2016, ar yr union leoliad lle bu’r ardd Goffa. Nodwyd y cynhelid
Bore Coffi gan Liz Saville Roberts AS yn Nhŷ Siamas, Sgwâr Eldon,
Dolgellau am 10.30 yb, dydd Gwener 2 Tachwedd gyda’r Groes Goch a’r Gwasanaeth
Gwirfoddol Brenhinol er mwyn cynorthwyo’r elusennau i recriwtio
gwirfoddolwyr. Eglurwyd eu bod yn
gweithio ar y cyd ar brosiect o’r enw Camau Cadarn ac y byddai Ann Griffith,
Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu yno ac i roi sgwrs fer ar wirfoddoli. Hefyd, nodwyd bod Liz Saville Roberts AS wedi trefnu digwyddiad i gofio Gwrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf,
yng Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog, dydd Sadwrn 17 Tachwedd o 9.30 yb. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu
fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
CYNLLUN TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: Y DDOGFEN GYNNIG PDF 134 KB Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gadarnhau’r
Ddogfen Gynnig er mwyn rhoi mandad i’r arweinyddion ymrwymo i Gytundeb
Penawdau’r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth. Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun gwleidyddol ac ymhelaethodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol ar bwrpas y ddogfen, y prif ystyriaethau a’r camau
nesaf. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cefnogaeth frwd i’r ddogfen gan nifer o
aelodau ar y sail:- ·
Bod y cynllun hwn yn cynnig cyfle gwych ac unigryw i
Wynedd ac y dylid cefnogi’r ddogfen ac ymddiried yn yr Arweinydd i frwydro ar
ein rhan. ·
Bydd y cynllun hwn yn helpu pobl ifanc i gael gwaith
yn eu hardal leol ac yn creu’r amgylchedd i sector breifat y sir ffynnu yn y
dyfodol. ·
Wrth lunio’r cynllun hwn, mae’r ddwy sir bellaf i’r
Dwyrain wedi troi eu golygon yn ôl at siroedd y Gorllewin fel bod y 6 awdurdod
ar draws y Gogledd yn siarad ag un llais. ·
Nid yw’r ‘status quo’ yn opsiwn a rhaid manteisio ar
y cynllun hwn all drawsnewid economi’r Gogledd. ·
Y croesawir y ffaith bod y cynllun yma yn mynd i roi
adeiladau diwydiannol ar safleoedd strategol fel Parc Bryn Cegin, Bangor, sydd
wedi bod yn wag ers 15 mlynedd ac mae’r addewid potensial o 250 o swyddi,
dafliad carreg o ganol y ddinas, yn newyddion cadarnhaol iawn. I’r gwrthwyneb, lleisiwyd pryder am y cynllun gan eraill ar y sail:- ·
Bod amheuaeth nad oedd y cynllun yn gwneud digon i
gefnogi cefn gwlad Gwynedd. ·
Bod Gwynedd yn fach ac eiddil o gymharu â siroedd poblog
y Gogledd Ddwyrain a Glannau Merswy ac y gallem ddifaru cael ein tynnu i mewn i
gynllun o’r fath. ·
Bod yr anghyfartaledd rhwng GVA y Gogledd Ddwyrain
a’r Gogledd Orllewin yn drawiadol, gyda Wrecsam yn cyrraedd 80% bron o
gyfartaledd GVA Cymru a Lloegr (heb gynnwys Llundain a De Ddwyrain Lloegr) tra
bo Môn yn 50% o’r cyfartaledd. Disgwylid
y byddai GVA Gwynedd, fel un o’r ardaloedd tlotaf yn Ewrop, yn isel hefyd, er y
byddai’r swyddi sector cyhoeddus yn ardal Bangor a Chaernarfon yn sgiwio
rhywfaint ar y ffigur hwnnw. ·
Nad yw’r ddogfen yn cyfeirio at effaith dylifiad
alltudion yn ôl i’r wlad yn sgil Brexit. ·
O ran ynni niwclear a chloddfa gwastraff ynni
niwclear Sellafield yn benodol, bod peryg’ i ni gael ein tynnu i mewn i’r
egwyddor, os ydi o’n ddigon da i Cumbria, mae’n ddigon da i Wynedd a Môn hefyd. ·
Bod y ddogfen yn sôn am grantiau Ewropeaidd, ond ni
fydd yna Undeb Ewropeaidd erbyn y bydd y cynllun hwn yn cael ei wireddu. ·
Bod
llawer o sôn am fusnesau a’r arian y bydd busnesau preifat yn rhoi i mewn, ond
nid oes yna fusnesau yng Ngwynedd all gyfrannu, gan mai busnesau meicro sydd
yma yn cyflogi hyd at 10 o weithwyr yn unig. ·
Mai taflu llwch i lygaid pobl yw sôn am ledaenu’r
ffyniant ac nad yw’r egwyddor o economeg rhaeadru erioed wedi gweithio. · Y sylwir bod yr adroddiad yn ‘ ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |