skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Annwen Daniels, Linda Ann Jones, Dafydd Meurig, Rheinallt Puw ac Owain Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 129 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2018 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Aled Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 16(B) – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd - oherwydd bod perthynas iddo yn gweithio i’r Canolfannau Iaith.

 

Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 8 - Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor 2019/20 - ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

‘Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorwyr Dewi Owen, Beth Lawton a Rheinallt Puw ar golli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Y criw o Gynghorwyr a enwebwyd gan Prostate Cymru am wobr ar ôl codi dros £8,000 i Elusen Prostate Cymru yn ystod digwyddiad “Trôns dy Dad” yn Awst 2018.  Nodwyd y byddai’r Cynghorwyr Dilwyn Lloyd, Roy Owen a Steven Churchman yn mynd i’r seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ym mis Ebrill.

·         Ysgol Gynradd Dolbadarn Llanberis ar ennill cystadleuaeth Côr yr Ŵyl, rhaglen Heno ym mis Rhagfyr.

·         Ysgol Bro Idris, Dolgellau ar ennill un o wobrau cystadleuaeth GTPM (STEM) 'Ffermfeisio' yr NFU - un o naw ysgol gynradd i ennill ystod o wobrau cystadleuaeth Ffermfeisio.  Nodwyd bod y disgyblion bellach yn cynllunio ar gyfer arddangos eu dyluniad yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain, pan fyddai’r panel o feirniaid yn penderfynu ar bencampwyr y gystadleuaeth gyfan.

·         Jess Kavanagh, Swyddog Pobl Ifanc Egnïol yn yr Adran Economi a Chymuned ar ei llwyddiant diweddar yn y maes rygbi.

·         Darren Bingham o Ddeiniolen ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn dartiau am y tymor.

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorwyr Peredur Jenkins (Aelod Cabinet Cyllid) a W.Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant) fyddai’n camu i lawr o’r Cabinet ddiwedd y mis ar ôl cyfnod hir o wasanaeth. 

 

Nodwyd, mewn rali yng Nghaernarfon yn ddiweddar, y bu i Is-gadeirydd y Cyngor dderbyn deiseb yn gofyn i’r Cyngor hwn ddatgan argyfwng hinsawdd, a bod cynnig ar y mater yma eisoes ar raglen y cyfarfod hwn.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol er mwyn datblygu llwybrau beicio, yn cynnwys llwybr beicio o Fethel i Gaernarfon.  Mae ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon eisoes wedi cychwyn adeiladu.  Oes modd sicrhau bod y cynllun llwybr beicio Bethel i Gaernarfon yn cael ei wireddu, ac oes angen mwy o arian gan y Llywodraeth, i ddechrau’r trafodaethau cyn gynted â phosib’?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae’r ateb ysgrifenedig gan y gwasanaeth yn amlygu eu hymdrechion hwy i geisio cael y llwybr beicio i gyd-redeg, neu i fod yn rhan, o’r cynllun ffordd osgoi newydd a hefyd y sawl cais grant mae nhw wedi gyflwyno i gael y llwybr beicio yma a llwybrau beicio eraill yn ogystal ar draws y sir.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Os oes angen i ni gael mwy o arian ar gyfer gwireddu’r cynlluniau llwybrau beicio yma, oes modd i’r Arweinydd gysylltu â mi, i geisio cysylltu hefo’r Gweinidog, ar gyfer symud hyn ymlaen ar ran Bethel a Chaernarfon, ond hefyd ar ran y sir?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Yn sicr, os byddwn ni angen help llaw i yrru’r neges yn ôl i’r mannau priodol mi wnawn gysylltu â’r aelod a byddwn yn falch iawn o gael ei help.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Elwyn Jones

 

“Blwyddyn ers cychwyn ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid, ac yn unol â’r weledigaeth oedd yn Opsiwn 3, ydi’r Aelod Cabinet, sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaeth yn gallu cadarnhau fod yna bellach 19 o weithwyr ieuenctid llawn-amser – 14 yn ychwanegol i’r 5 a gadwodd eu swyddi – a 21 o weithwyr rhan-amser wedi eu penodi i symud y Gwasanaeth yn ei flaen?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Fel y gwelwch o’r ateb ysgrifenedig byr, mae gennym ni lond tŷ hefo’r gweithwyr llawn amser, ond ddim cweit yna hefo’r gweithwyr rhan amser.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Elwyn Jones

 

“Ydi’r £50,000 a glustnodwyd llynedd ar gyfer clybiau gwirfoddol, cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol, ayb, wedi ei hawlio?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Mae’r gwasanaeth newydd yn mynd o nerth i nerth a dim ond pethau positif rwy’n glywed.  Rydym ni’n cydweithio’n galed iawn hefo clybiau cymunedol i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn lle bynnag yn cael be mae nhw angen.  Os ydych chi eisiau ffigurau penodol am faint o bres yn union sydd wedi’i wario o’r pot yna, gallwn ffendio allan i chi, dim problem.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones

 

“Mae polisi Canu Gloch y Cyngor yma i ddiogelu staff a defnyddwyr y Cyngor.   Roedd hwn yn rhywbeth rwyf i yn bersonol wedi bod yn gwthio’r Cyngor hwn ers 2008 i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2019/20 pdf eicon PDF 66 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2019/20.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd y cynnydd cyffredinol o 2% ar gyflogau 2019/20, gyda staff ar y graddfeydd isaf yn derbyn canrannau uwch, sy’n golygu y bydd isafswm cyflog y Cyngor o fis Ebrill 2019 ymlaen uwchlaw Cyflog Byw Sefydliad y Cyflog Byw.

·         Croesawyd y ffaith bod y Cyngor yn lleihau’r bwlch rhwng cyflogau’r uwch swyddogion a’r cyflogau isaf, ac felly’n lleihau anghyfartaledd cymdeithasol.

·         Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y gymhareb rhwng uchafswm ac isafswm cyflog yng Ngwynedd ymhlith yr isaf yng Nghymru ac y byddai’n gostwng ymhellach ar ôl y newidiadau fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2019/20 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

9.

CYNLLUN Y CYNGOR 2018-23 - ADOLYGIAD 2019-20 pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2018-23 (Adolygiad 2019/20).

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd y cynllun a nodwyd ei fod yn dangos bod y Cyngor yn ceisio cyflawni i bobl Gwynedd, a hynny mewn cyfnod o gynni ariannol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gosod cyfeiriad newydd i’r maes trechu tlodi, eglurodd yr Arweinydd y bwriedid creu Bwrdd Llesiant Pobl, yn cynnwys cynrychiolaeth o’r gwasanaethau plant, ieuenctid, ayb, i edrych ar y maes tlodi a chefnogaeth teuluoedd ar draws holl waith y Cyngor.  Gobeithid y byddai hynny’n rhoi cyfeiriad a phwyslais newydd i’r Cyngor yn y maes pwysig yma, yn arbennig mewn ardal sy’n dioddef o dlodi nad sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.

·         Nodwyd bod tua 38% o arian y Cyngor yn cael ei wario y tu allan i’r sir, a holwyd pa waith sydd ar droed i geisio uchafu’r ganran sy’n cael ei wario’n lleol. Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd fod hyn yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor ac y credai bod Gwynedd ar flaen y gad o safbwynt caffael yn lleol.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweledigaeth yr Arweinydd ar gyfer addysg ôl-16, manylwyd ar y cydweithio rhwng y Cyngor hwn, Cyngor Ynys Môn a Grŵp Llandrillo Menai gyda’r nod o ddod â gwahanol opsiynau gerbron maes o law.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y gellir denu mwy o ferched i ddod ar y Cyngor, nododd yr Arweinydd ei fod yn llwyr ymwybodol o’r broblem, a hefyd y broblem o ddenu pobl ifanc, pobl mewn swyddi, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl o gefndiroedd eraill ar y Cyngor.  Roedd wedi lleisio ei farn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, oedd hefyd yn ymwybodol iawn o’r broblem.  Ychwanegodd fod llwyth gwaith cynghorwyr, yn enwedig Aelodau Cabinet a chadeiryddion craffu, wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd, fel ei fod fwy neu lai yn waith llawn amser erbyn hyn, ac roedd yn anodd iawn i aelodau gynnal gyrfa a chyflawni swydd cynghorydd ar yr un pryd.  Credai fod yr ateb yn ymwneud yn rhannol â thelerau’r swydd, ond ni ragwelai unrhyw newid mawr yn y cyfeiriad, heb uno’r cynghorau a lleihau niferoedd cynghorwyr yn sylweddol.  Pwysleisiodd ei bod yn bwysig bod aelodau â chyfrifoldebau gofalu yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, er mwyn cryfhau’r gynrychiolaeth ddemocrataidd.  Nododd hefyd y byddai yna ymgyrch ar adeg pob etholiad i geisio denu pobl o bob cefndir i sefyll etholiad.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r cynllun prentisiaethau a bod yna gyfleoedd da iawn ymhob gwasanaeth.  Er bod y Cyngor wedi colli £70m (25%) o’i gyllideb dros y 10 mlynedd ddiwethaf, roedd yna enghreifftiau gwych o bobl ifanc yn cychwyn gyrfa gyda’r Cyngor fel prentisiaid ac yn symud ymlaen i swyddi o safon uchel.

·         Mewn ymateb i sylw ynglŷn â siopau gweigion a busnesau’n cau yn y trefi, nododd yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYLLIDEB 2019/20 pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2019/20;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 5.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y disgwylid cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y diwrnod hwnnw ynglŷn ag ariannu’r cynnydd o £1.6m mewn cyfraniadau cyflogwr i’r cynllun pensiwn athrawon.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid yr argoelid y byddai’r Cyngor yn derbyn swm grant agos at ariannu’r gofyn yn llawn, fel roedd Llywodraeth Lloegr wedi’i addo i ysgolion yno.  Ni dderbyniwyd cadarnhad o’r union swm yng Nghymru hyd yma, ond cafwyd arweiniad y byddai rhwng 80% a 100% o’r cyfanswm.

 

Yn ystod y drafodaeth, nododd rhai aelodau na allent gefnogi’r argymhelliad i godi’r dreth 5.8%, oherwydd effaith hynny ar drigolion sir dlawd fel Gwynedd.  Bu i nifer o aelodau eraill ddatgan, er yn gwbl anhapus ynglŷn â’r sefyllfa, nad oeddent o’r farn bod gan y Cyngor ddewis ond derbyn y gyllideb yn y sefyllfa sydd ohoni.

 

Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd pryder ynglŷn ag effaith y cynnydd treth ar y bobl hynny sydd ar gyflogau bach, ond fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Gostyngiad Treth Cyngor, a chynigiwyd y dylai grŵp o aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol ar y Cyngor fynd i lawr i Gaerdydd i gefnogi’r Arweinydd yn ei ymgyrch i lobïo’r Llywodraeth am ragor o arian.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn ag ariannu tair rhagdybiaeth yn yr adroddiad, eglurodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

Ø  Ei fod yn ffyddiog y byddai’r bwlch rhwng yr arian grant a ddisgwylir gan y Llywodraeth a chyfraniad y cyflogwr at bensiwn athrawon yn gyraeddadwy, ac os ddim, yna byddai trafodaethau pellach gyda’r ysgolion.

Ø  Bod y £2.7m o dreth ychwanegol o’r premiwm ar ail gartrefi a thai gweigion wedi’i glustnodi mewn cronfa tuag at y Strategaeth Tai, a bod y gyllideb gerbron yn hafal heb arall-gyfeirio’r cynnyrch premiwm.

Ø  O ran ariannu unrhyw chwyddiant o ganlyniad i Brexit, bod y Cyngor ar dir cadarn gan ei fod yn adeiladu hyblygrwydd i mewn i’w gyllideb, a phetai’r gofyn yn mynd y tu hwnt i hynny, gellid ystyried defnyddio elfen o’r balansau.

·         Nodwyd na ddymunid rhoi pwysau ychwanegol ar drigolion y sir, sy’n wynebu heriau dyddiol, ond bod y Cyngor yn wynebu ei heriau cynyddol ei hun hefyd, a hynny o ganlyniad i bolisïau anwaraidd Llywodraethau Cymru a San Steffan.

·         Gyda’r llywodraethau’n gadael pobl i lawr gyda grant annigonol i gwrdd â chwyddiant, heb sôn am gynnydd mewn galw am wasanaethau awdurdodau lleol, bod gwarchod gwasanaethau, yn enwedig Addysg a Gofal Cymdeithasol, yn bwysicach nag erioed.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod cefnogaeth ar gael i unigolion sy’n gwneud cais am gymorth.  Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid y gallai sicrhau bod swyddogion Cyllid yn barod iawn i helpu unrhyw un sy’n cael problem talu’r dreth.

·         Mynegwyd siomedigaeth bod cymaint  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CYNLLUN ASEDAU 2019-29 pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Asedau am y cyfnod 2019/20 – 2028/29.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau arian wrth gefn er mwyn gallu elwa ar unrhyw grantiau sydd ar gael.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Cynllun Asedau ynghlwm i’r adroddiad fel ei Gynllun Asedau am y cyfnod 2019/20 – 2028/29.

 

12.

STRATEGAETH CYFALAF 2019-20 pdf eicon PDF 350 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

Gan mai hwn oedd ei gyfarfod olaf fel Aelod Cabinet Cyllid, diolchodd y Cynghorydd Peredur Jenkins i’r Pennaeth Cyllid a’r Uwch Reolwyr am bob cymorth ar hyd y blynyddoedd ac i’r Prif Weithredwr am ei arweiniad.  Diolchodd hefyd i’r aelodau am eu cefnogaeth barod bob amser.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2019/20.

 

13.

DATGANIAD O BOLISI HAPCHWARAE CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2019-2022 pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Amgylchedd, cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn cyflwyno Datganiad o Bolisi Hapchwarae Drafft ar gyfer 2019-22, yn unol â’r gofyn yn Adran 349 Deddf Hapchwarae 2005 i Awdurdodau Trwyddedu, bob 3 blynedd, baratoi a chyhoeddi datganiad o egwyddorion Trwyddedu maent yn dymuno eu rhoi ar waith wrth ymgymryd â’u swyddogaethau yn unol â’r Ddeddf honno.

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a’r tïm am eu holl waith.

 

Nododd aelod fod y Pwyllgor Trwyddedu wedi ysgrifennu at y Llywodraeth yn galw am wahardd hysbysebion gamblo cyn 9 o’r gloch.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad o Bolisi Hapchwarae fel ei fod yn weithredol ar gyfer 2019-22, yn unol â chylch adolygiad statudol y Ddeddf.

 

14.

GWEITHREDU IS-DDEDDFAU DRAENIO TIR pdf eicon PDF 92 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol adroddiad yn gofyn i’r Cyngor ystyried cymeradwyo Is-ddeddfau Traenio Tir Drafft (yn y ffurf a argymhellid gan Lywodraeth Cymru) a bod y cyfryw is-ddeddfau yn cael eu gwneud yn ffurfiol yn enw’r Cyngor.

 

Croesawyd yr Is-ddeddfau hyn a nodwyd y byddai agor mwy o ffosydd o gymorth i atal a rheoli llifogydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Is-ddeddfau Traenio Tir Drafft (yn y ffurf a argymhellir gan Lywodraeth Cymru) a bod y cyfryw is-ddeddfau yn cael eu gwneud yn ffurfiol yn enw’r Cyngor.

 

15.

CALENDR PWYLLGORAU 2019/20 pdf eicon PDF 42 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

          PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2019/20.

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

17.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Sion Jones

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Sion Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Bod y Cyngor hwn yn cefnogi ymgyrch ‘Lucy’s Law’ i wahardd gwerthu cŵn gan werthwyr masnachol trydydd parti.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Sion Jones o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn cefnogi ymgyrch ‘Lucy’s Law’ i wahardd gwerthu cŵn gan werthwyr masnachol trydydd parti.”

 

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig gan aelodau a nododd:-

 

·         Yr ategir yr alwad ar i gynghorwyr Gwynedd ymuno â chynghorau eraill yng Nghymru i gefnogi’r ymgyrch i ddod â dioddefaint anifeiliaid sy’n cael eu defnyddio mewn ffermydd cŵn bach a chathod bach i ben.

·         Ei bod yn annerbyniol bod pobl yn gallu gwneud arian heb ystyried anghenion a lles yr anifeiliaid sy’n cael eu defnyddio i fridio yn y modd hwn.

·         Nad oes gan y diwydiant hwn le mewn cymdeithas waraidd, ac anogir Llywodraeth Cymru i ddod â deddfwriaeth gerbron mor fuan â phosib’ er mwyn dirwyn yr arfer creulon hwn i ben.

·         Y dylid cwrdd â’r galw am gŵn a chathod bach mewn ffordd drugarog.  Ni ddylid ei wneud at ddibenion ymelwa ac mae Deddf Lucy yn gyfle gwych i sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n ddiogel i’r anifeiliaid.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.

 

18.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Gan gydnabod mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater, bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd, yn wyneb eu llwyddiant digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i fewnfudwyr fel y bo iddynt gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(2)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Gan gydnabod mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater, bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd, yn wyneb eu llwyddiant digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i fewnfudwyr fel y bo iddynt gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion.”

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig, sef:-

 

“Gan gydnabod a chondemnio yn llwyr y toriadau ariannol erchyll mae Llywodraeth Cymru wedi orfodi ar gynghorau lleol, yn benodol y toriad i’r grant gwella addysg i Wynedd, ac mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater, bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd fyddai’n cael effaith andwyol ar eu gallu digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i fewnfudwyr ac i gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion.  Mae’r Cyngor hefyd yn galw ar y Cabinet i sefydlu trefn fonitro gref – boed newid neu beidio – er sicrhau’r canlyniadau gorau bosib’ i’r dysgwyr.”

 

Esboniodd cynigydd y gwelliant ei fod yn croesawu sylwadau cadarnhaol cynigydd y cynnig gwreiddiol, ond ei fod o’r farn bod y cynnig hwnnw yn ymrwymo’r Cyngor i beidio gwneud unrhyw newid byth i gyfansoddiad, trefniadaeth na staffio’r canolfannau iaith.  O bosib’ y byddai angen ehangu’r gwasanaeth yn y dyfodol petai yna fwy o fewnfudwyr, neu gellid bod yna lai o alw am y gwasanaeth, ac ‘roedd y methodoleg o ddysgu ieithoedd yn datblygu hefyd ac yn sicr o ddatblygu ymhellach eto i’r dyfodol.  Hefyd, roedd angen amlygu’r ffaith mai Llywodraeth Cymru, ac nid y Cyngor hwn, sy’n torri’r grant.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Bod angen lobïo Llywodraeth Cymru am fwy o arian i’r cynghorau.

·         Bod yr alwad ar y Cabinet i sefydlu trefn fonitro gref yn cryfhau’r cynnig gwreiddiol.

·         Bod Llywodraeth San Steffan yn cynnig gwersi Saesneg am ddim i fewnfudwyr ac y dylid galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau’r un ddarpariaeth yng Nghymru o ran yr iaith Gymraeg, yn enwedig os am wireddu’r weledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Hefyd, yn Ngwynedd, mae’n rhaid i blant sy’n mewnfudo i’r sir gael cwrs Cymraeg cyn gallu ymdopi â’r gwersi yn yr ysgolion.

·         Bod Canolfannau Iaith Gwynedd yn enghraifft lachar o ymarfer da, ac yn hytrach na chwtogi, dylai’r Cyngor hwn arddel a meithrin y gwasanaeth.

·         Dylai Cabinet y Cyngor ddiogelu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn a galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi ar gyfer dyfodol yr iaith.

·         Bod y Canolfannau Iaith yn tynnu pwysau oddi ar yr athrawon yn yr ysgolion i ddysgu Cymraeg i’r plant. 

·         Er bod y gwelliant i’w groesawu, nad oedd yn ddi-wall chwaith a bod y geiriau ‘a fyddai’n cael effaith niweidiol ar eu gallu ...’ yn agored i gael eu camddehongli oherwydd y gellid dadlau nad yw’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18.

18a

Rhybudd o Gynnig y Cynghorydd Catrin Wager

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:-

 

 

Bellach, mae’r dystiolaeth yn argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd.

Mae newid hinsawdd yn gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefelau’r môr, sychder a llifogydd. Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn nhymheredd y byd mor eithafol fel bod yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif flaenoriaeth.

Mae canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym mis Hydref wedi datgan fod gan ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar newid hinsawdd.

Mae dyletswydd ar bob llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar effeithiau negyddol Newid Hinsawdd.

Mae goblygiadau ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i ystyried effaith unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod.

Yn ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i warchod y cyhoedd.

 

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

Bod effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y sir yn barod.

Mae 23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo.

Dros y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m.

Yn barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob blwyddyn.

Mae tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a lliniaru llifogydd dŵr ffo.

 

Felly, penderfyna’r Cyngor i:

Wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

Ddatgan Argyfwng Hinsawdd

Ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol di-garbon

Chwilio am ffyrdd arloesol o gyflawni targedau di-garbon

Adrodd yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i leihau allyriadau carbon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(3)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bellach, mae’r dystiolaeth yn argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae newid hinsawdd yn gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefelau’r môr, sychder a llifogydd. Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn nhymheredd y byd mor eithafol fel bod yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif flaenoriaeth.  Mae canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym mis Hydref wedi datgan fod gan ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar newid hinsawdd.  Mae dyletswydd ar bob llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar effeithiau negyddol Newid Hinsawdd.  Mae goblygiadau ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i ystyried effaith unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod.  Yn ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i warchod y cyhoedd.

 

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

·         Bod effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y sir yn barod.

·         Mae 23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo.

·         Dros y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m.

·         Yn barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob blwyddyn.

·         Mae tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a lliniaru llifogydd dŵr ffo.

 

Felly, penderfyna’r Cyngor i:

Wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

·         Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.

·         Ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol di-garbon.

·         Chwilio am ffyrdd arloesol o gyflawni targedau di-garbon.

·         Adrodd yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i leihau allyriadau carbon.

 

Nodwyd bod plant a myfyrwyr yn gwbl effro i’r sefyllfa a phwysleisiwyd y dylai aelodau etholedig, fel arweinwyr gwleidyddol, chwarae eu rhan hefyd.  Ar sail hynny, cynigiwyd ac eiliwyd i ychwanegu’r geiriad a ganlyn at y cynnig gwreiddiol:-

 

“Galw ar Lywodraeth Cymru a San Steffan i ddarparu’r pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r targed o Wynedd ddi-garbon erbyn 2030.”

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig wedi’i ddiwygio gan aelodau a nododd:-

 

·         Bod allyriadau carbon yn cael effaith ar fioamrywiaeth a’r eco-system hefyd a bod plastigion yn gwneud eu ffordd drwy’r gadwyn fwyd.  Tynnwyd sylw at ail weithdy amgylcheddol i’w gynnal ym Mhlas Tan y Bwlch ar 17 Mai.

·         Hyd yn oed pe byddem yn cymryd camau pendant ar newid hinsawdd o fewn 12 mlynedd, byddem yn dal i weld yr hinsawdd yn newid am flynyddoedd y tu hwnt i hynny, a bydd plentyn sy’n 10 oed heddiw yn profi rhywbeth na fydd yr un ohonom ni byth yn ei brofi. 

·         Mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i ddyfodol dynolryw a rhaid i ni chwarae ein rhan, fel awdurdod lleol,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18a

19.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

20.

Ymateb i Rybudd o Gynnig blaenorol y Cynghorydd Judith Humphreys pdf eicon PDF 436 KB

Cyflwynoer gwybodaethllythyr gan yr Adran Dros Adael yr Undeb Ewropeaidd mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod 6 Rhagfyr, 2018 ynglŷn ag ymadawiad y DU o’r UE  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethllythyr gan yr Adran Dros Adael yr Undeb Ewropeaidd mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Judith Humphreys i gyfarfod 6 Rhagfyr, 2018 ynglŷn ag ymadawiad y DU o’r UE.

 

Atodiadau 1-3 pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol: