skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Dylan Bullard, Annwen Daniels, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Hughes, Anne Lloyd Jones, Linda Ann Jones, Roy Owen, Jason Parry, W.Gareth Roberts, Cemlyn Williams, Gethin Glyn Williams a Gruffydd Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 122 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2018 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd a Simon Glyn fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: Diweddariad Ariannol ac Ymgynghoriad 2019/20, oherwydd eu bod yn aelodau o’r Awdurdod hwnnw.  Hefyd, datganodd y Cynghorydd Nia Jeffreys fuddiant personol yn yr un eitem oherwydd bod ei gŵr yn ddyn tân.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymunwyd yn dda i Gwyn Morris Jones, Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar ei ymddeoliad ddiwedd Awst.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Manon Steffan Ros, Gruffudd Owen a Rhydian Gwyn Lewis, a phawb arall o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

·         Edmund Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd ar gael ei benodi’n Gwnstabl Castell Caernarfon.

·         Y criw o Gynghorwyr hynny, dan arweiniad Dilwyn Lloyd, Jason Parry a Roy Owen, fu’n trefnu digwyddiad “Trons dy Dad” i godi arian at Apêl y Prostate yn ddiweddar.  Codwyd dros £3,500, hyd yma, a deellid y byddai cwmni Santander yn dyblu’r swm terfynol.

 

Nodwyd y byddai’n rhaid cynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru am 10.00 o’r gloch, dydd Iau, y 25ain o Hydref.  Byddai gwahoddiad ffurfiol yn cael ei anfon at bawb yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

MATERION BRYS

Nodir unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Pa bwerau sydd gan gymunedau lleol a chynghorwyr i benderfynu pa denantiaid sy’n cael tai cymdeithasol o fewn ein cymuned?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Rwy’n credu mai’r pwnc yma ydi un o’r rhai sy’n achosi’r rhwystr mwyaf i gynghorwyr.  Rydym ni i gyd yn ymwybodol o achosion yn ein wardiau lle mae pobl angen tai ac rydym yn darganfod bod y tŷ, neu’r tai, yn mynd i rywun o’r tu allan i’n cymunedau.  Yn bersonol, hoffwn weld system tai yn cael ei ddylunio gennym ni yma ar sail ein blaenoriaethau.  Mae yna sawl enghraifft ar draws y byd ac yn Ewrop lle mae systemau tai yn gosod tai ar sail pethau fel grŵp ethnig, iaith, cyswllt lleol - ac nid yw’r un ohonynt yn hiliol.  Mae’r Cenhedloedd Unedig a’r Undeb Ewropeaidd wedi cadarnhau hynny.  Ond er mwyn gwneud hynny rydym angen y grym ac nid yw’r grym yna gennym oherwydd bod y llywodraethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain yn dweud hynny.  Felly rydym ni yn y sefyllfa wrthnysig rŵan lle mae Cernyw yn gallu gwneud llawer mwy na ni gyda’u system tai, ond dyma lle rydym ni rŵan ac ni allwn wneud ond yr hyn y gallwn ei wneud.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“A wnaiff yr Aelod Cabinet, hefo fi, sgwennu at y Cynulliad a San Steffan i drio dechrau trafodaeth eto i ni gael system llawer mwy cadarn a gwell o fewn ein cymuned a’r Cyngor?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Y gwir ydi, mae gan y mwyafrif o bobl sy’n cael ein tai gyswllt lleol, ond beth mae cyswllt lleol yn olygu?  Beth ydi’r diffiniad o gyswllt lleol?  Dyna ydi ein problem ni, bod ni ddim yn cael gwneud hynny.  Er y byddwn yn hoffi newid y system i gyd, byddwn yn dweud nad yw’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi dangos unrhyw ddiddordeb ynddo, trwy gynllunio na thai, ac os ydym wir eisiau system tai gwahanol, yr ateb ydi pleidleisio dros blaid wahanol yn ein Llywodraeth ond byddaf yn gwneud fy ngorau i wneud yn siŵr ein bod ni yn gallu gwneud yr hyn y gallwn ei wneud a rhoi pwysau ar bwy bynnag i newid y system.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams

 

“Pam bod rhai o brif swyddogion y Cyngor yn gwrthod rhybudd o gynnig gan gynghorydd dro ar ôl tro, gan ddefnyddio esgusion cloff, e.e. fod y cynnig wedi cyrraedd yr adran anghywir ym mis Gorffennaf ac ym mis Medi dweud ei fod yn “anghyfreithlon”?”

 

Ateb gan Gadeirydd y Cyngor, Y Cynghorydd Annwen Hughes

 

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn caniatáu i aelodau gyflwyno rhybuddion o gynnig yn ddarostyngedig eu bod ynglŷn â materion mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt neu sydd yn effeithio ar les ardal weinyddol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

AWDURDOD TAN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU: DIWEDDARIAD ARIANNOL AC YMGYNGHORIAD 2019/20

Derbyn cyflwyniad gan Brif Swyddog Tân, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd y swyddogion canlynol o’r Awdurdod Tân ac Achub i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ac i ateb cwestiynau’r aelodau:-

 

·         Richard Fairhead (Prif Swyddog Tân Cynorthwyol) (yn gyfrifol am yr ochr weithredol)

·         Shân Morris (Prif Swyddog Cynorthwyol) (yn gyfrifol am bolisi a chynllunio corfforaethol)

·         Helen MacArthur (Prif Swyddog Cynorthwyol) (yn gyfrifol am gyllid ac adnoddau)

 

Yn dilyn y cyflwyniad, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu gwaith ar ran trigolion Gwynedd a nodwyd bod y cyflwyniad yn un grymus iawn oedd yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth a pha mor anodd yw gweithredu yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni. 

·         Nodwyd y bydd unrhyw gynnydd ardoll yn 2018/19 yn golygu y bydd pob cyngor yn gorfod torri mwy ar eu gwasanaethau a holwyd a oedd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn symud ymlaen gyda’r cynllun i arbed costau erbyn 2019/20.  Mewn ymateb, nodwyd bod rhaid i’r holl reolwyr adolygu eu cyllidebau a’u bod yn ymwybodol o’r angen i leihau eu sylfaen costau.  Y nod oedd rheoli’r costau heb newid y gwasanaethau rheng flaen.  Fel rhan o’r gwaith o gynllunio ar gyfer 2019/20, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag aelodau’r Awdurdod lle ystyriwyd nifer o opsiynau i leihau costau, gan gynnwys cau gorsafoedd rhan amser, newid gorsafoedd 24 awr i orsafoedd dydd a newid gorsafoedd dydd i orsafoedd rhan amser.  Fodd bynnag, penderfyniad aelodau’r Awdurdod ym Mehefin eleni oedd i beidio newid y model darparu gwasanaeth yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

·         Gofynnwyd am gadarnhad ynglŷn â sefyllfa Gorsaf Dân Caernarfon a’r gwasanaeth i ardaloedd cefn gwlad Gwynedd.  Mewn ymateb, nodwyd bod Caernarfon yn orsaf ddydd (gyda staff yn bresennol rhwng hanner dydd a 10 o’r gloch yr hwyr, sef yr adeg prysuraf) a bod y gwasanaeth yn cael ei staffio gan weithwyr rhan amser a gweithwyr llawn amser ar ddyletswydd gartref y tu allan i’r oriau hynny.  Cadarnhawyd yr anelir i gadw’r orsaf ar y lefel honno eleni.  Cadarnhawyd hefyd y bydd y pwmp cyfaint uchel newydd a leolir yng Nghaernarfon yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tanau a llifogydd mawr ar draws Gwynedd gyfan.

·         Cwestiynwyd pam y gwelwyd yr angen i lenwi’r swydd dirprwy, gan i’r swydd fod yn wag am flwyddyn gyfan.  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y swydd bresennol yn cyfateb yn union i’r hen swydd.  Edrychwyd ar ymarferoldeb y rôl a’r set sgiliau mewnol, ond roedd angen Cyfrifydd Cymwysedig i gyflawni’r gwaith.

·         Awgrymwyd y gallai’r gwasanaeth arbed £250,000 (sy’n cyfateb i 7.5% o’u costau gweinyddol) drwy ddychwelyd i’r hen drefn lle byddai’r diffoddwyr tân eu hunain yn glanhau’r gorsafoedd rhwng tanau.  Mewn ymateb, eglurwyd yr arferai’r gweithwyr dderbyn tâl ychwanegol am y gwaith hwnnw, felly ‘roedd yna gost i’r gwasanaeth beth bynnag.  Nodwyd ymhellach bod llawer o’r gwaith atal yn cael ei gyflawni gan staff ategol erbyn hyn, yn hytrach na’r diffoddwyr tân eu hunain, a bod hynny’n fwy cost effeithiol i’r gwasanaeth.

·         Nodwyd y gwerthfawrogid y dyfal barhad a’r ffordd mae’r Awdurdod Tân yn ymdrin â’r holl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG YNG NGWYNEDD 2018-23 pdf eicon PDF 40 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys, adroddiad yn argymell i’r Cyngor dderbyn y Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-23 a’r rhaglen waith gysylltiedig ac i gymeradwyo cychwyn ar y gweithredu.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd mai’r Cyngor hwn sy’n arwain ac yn arloesi o ran y Gymraeg ac y dylid ymfalchïo yn y strategaeth hon sy’n un o flaenoriaethau’r Cyngor.

·         Er bod y Cyngor yn gwneud gwaith arloesol o ran y Siarter Iaith Cynradd a’r Strategaeth Iaith Uwchradd, bod yna fwlch o ran yr addysg ôl-orfodol a’i bod yn bwysig bod y Cyngor yn cydweithio gyda’i bartneriaid yn y cyswllt hwnnw hefyd.

·         O ystyried cyfraniad sylweddol rhai o bartneriaid y Cyngor i lwyddiant elfennau penodol o’r strategaeth, holwyd pa ran a gymerwyd gan y partneriaid hynny yn yr ymgynghoriad a sut y bwriedir cydweithio gyda hwy i wireddu’r strategaeth.  Mewn ymateb, nodwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn rhan bwysig o hyn a bod yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn sicr o wthio’r gwaith yn ei flaen.  Nodwyd hefyd bod sgyrsiau wedi’u cynnal eisoes gyda rhai o’r partneriaid oedd wedi ymateb yn uniongyrchol i’r ymgynghoriad er mwyn gweld beth i’w gynnwys yn y rhaglen waith.  Roedd trafodaethau pellach i’w cynnal gyda rhai partneriaid a’r nod oedd sefydlu un grŵp fyddai’n dod â’r holl bartneriaid ynghyd fel man cychwyn i drafod y strategaeth a’r rhaglen waith yn ei chyfanrwydd ac wedyn ei dorri i lawr i’r meysydd thematig a dod â’r partneriaid penodol i mewn.

·         Nodwyd bod y ddogfen yn ddi-ddrwg / ddi-dda, sy’n ateb y gofynion ar y Cyngor i ddarparu cynllun o’r fath ac yn nodi beth sy’n ddisgwyliedig gan gyngor sy’n gweithredu yn yr ardal fwyaf naturiol Gymraeg yn y byd.  Ond oherwydd y sicrwydd demograffig hwnnw mae Gwynedd yn fwynhau, ‘roedd yn hawdd syrthio i gyflwr o hunan gyfiawnder, oedd, yn anffodus, yn britho tudalennau’r ddogfen a bod rhaid wrth angerdd, awydd a dyhead i gael y maen i’r wal.  Ychwanegwyd nad oedd y newidiadau yn y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi’r Gymraeg flaenaf bob tro, e.e. yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ‘roedd y Cyngor wedi mabwysiadu polisïau cynllunio fyddai, o’u gwireddu, yn tanseilio ein cymunedau Cymraeg.  Roedd hefyd wedi cau clybiau ieuenctid, trosglwyddo’r canolfannau hamdden i gwmni hyd braich a mabwysiadu cynllun economaidd, sef meysydd allweddol ddylai fod yn ganolog i’r cynllun yma os yw’r Gymraeg am gael ei normaleiddio yn y sir hon.  Nodwyd ymhellach, o’r £52m a neilltuwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru at addysg Gymraeg, mai ychydig dros £1m yn unig ddaeth i Wynedd, sef tua 2% o’r cyfanswm, a hynny oherwydd mai cais am 2% yn unig a gyflwynwyd i’r Llywodraeth.  Petai gan y Cyngor yr awydd a’r weledigaeth i wneud y Gymraeg yn hanfodol yng Ngwynedd, byddem wedi cyflwyno cynlluniau gwerth o leiaf £20m, ac er y byddai nifer o’r cynlluniau hynny yn debygol o fod wedi’u gwrthod, byddai’r weithred ynddi’i hun wedi anfon y neges i’r Llywodraeth nad yw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2017/18 pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd y swyddogion canlynol o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod i roi gair o gyflwyniad ar y cychwyn ac i ateb cwestiynau’r aelodau.

 

·         Jeremy Evans (Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol)

·         Non Jenkins (Rheolwr Archwilio Perfformiad Llywodraeth Leol) – fyddai’n yn cymryd drosodd gan Jeremy Evans fel y rheolwr newydd ar gyfer Gwynedd o hyn allan.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd beth oedd am ddigwydd yn sgil yr ail argymhelliad ar dudalen 61 o’r rhaglen, sef bod cyrff cyhoeddus yn adolygu eu strategaethau a’u polisïau caffael yn ystod 2017-18 ac yn flynyddol wedi hynny i sicrhau eu bod yn adlewyrchu newidiadau ehangach i bolisïau a deddfwriaeth ac yn cefnogi gwelliant parhaus.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiadau cenedlaethol yn cynnwys cyfres o argymhellion ac mai mater i’r Cyngor oedd penderfynu a oedd hyn yn berthnasol iddynt ac a ddylid newid unrhyw brosesau yn sgil hynny.

·         Nodwyd bod yna ganmoliaeth mawr i waith cyllidol y Cyngor yn yr adroddiad a diolchwyd i staff yr Adran, dan arweinyddiaeth y Pennaeth Cyllid, am eu gwaith trylwyr a chydwybodol.

·         Croesawyd y ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod bod y trefniadau trosolwg a chraffu wedi gwella, ond gofynnwyd pa dystiolaeth oedd yna o hynny.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y Cyngor wedi adolygu ei drefniadau craffu drwy hunanwerthusiad a bod craffu bellach wedi’i ddiffinio’n glir o fewn y Cyfansoddiad o ran rolau aelodau a swyddogion.  Roedd rhywfaint o’r gwaith craffu yn digwydd y tu allan i bwyllgorau ffurfiol, er bod angen datblygu hynny ymhellach er mwyn sicrhau dull cynhwysfawr a chyflawn o weithredu, ac roedd y gwaith cynllunio wedi gwella, er bod lle i wella hynny ymhellach drwy wneud pethau mewn ffyrdd mwy arloesol.  Roedd hefyd angen eglurhad ynglŷn â rôl aelodau yn y cyfarfodydd adolygu perfformiad.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r gost o gynhyrchu’r Adroddiad Gwella Blynyddol, eglurwyd mai £400,000 oedd cyfanswm cost yr holl waith archwilio ar draws y meysydd cyllid a pherfformiad.  ‘Roedd yr adroddiad yn grynodeb o’r gwaith yn unig ac roedd adroddiadau unigol llawer mwy manwl ar gael pe dymunai’r aelodau eu darllen.  Cadwyd y ffioedd ar yr un lefel dros y 7 mlynedd ddiwethaf ac roedd yn ymddangos bod hynny’n ymrwymiad parhaus.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r archifwyr am eu gwaith gan nodi bod argymhellion yr adroddiad naill ai wedi derbyn sylw eisoes, neu fod gwaith ar droed i wneud hynny.

 

Cyflwynodd Non Jenkins ei hun i’r aelodau, fel y rheolwr newydd ar gyfer Gwynedd o hyn allan, gan roi braslun o’i rhaglen waith am eleni.  Nodwyd mai hwn fyddai’r tro diwethaf i Jeremy Evans ymddangos gerbron y Cyngor a dymunwyd yn dda iddo i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn Adroddiad Gwella Blynyddol 2017/18.

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2017/18 pdf eicon PDF 32 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor am 2017/18.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, diolchodd Dr Einir Young i’r Swyddog Monitro a’i dîm am eu harweiniad a’u gwaith cyson a pharhaus gyda’r Cyngor Sir a’r Cynghorau Cymuned.

 

Mewn ymateb i bryder a fynegwyd gan aelod ynglŷn â chynnal y gyfundrefn yn wyneb y lefel is o ymchwilio gan yr Ombwdsmon, eglurodd y Swyddog Monitro fod yr Ombwdsmon bellach yn gweithredu prawf budd cyhoeddus sy’n seiliedig ar flaenoriaethu adnoddau rhwng cwynion ar faterion yn cynnwys iechyd ac awdurdodau cyhoeddus eraill.  ‘Roedd y rhiniog ar gyfer ymchwilio i gwynion Cod Ymddygiad dipyn uwch bellach ac roedd yn rhesymol i ddisgwyl y byddai’r Ombwdsmon yn blaenoriaethu, e.e. marwolaeth mewn ysbyty dros anghydfod mewn cyngor cymuned.  Er hynny, nid oedd y ffaith bod yna ymchwiliad neu beidio yn golygu bod y sawl y cyflwynwyd cŵyn yn ei erbyn yn rhydd o’r Cod Ymddygiad ac roedd yna waith i gyfathrebu a chynnal y Cod Ymddygiad. 

 

Nodwyd nad oedd y fersiynau Cymraeg a Saesneg o Atodiad 1 i’r adroddiad – Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau 2017-18 yn cyd-fynd â’i gilydd.  Nododd y Swyddog Monitro y byddai’n cysoni’r ddwy fersiwn cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.

 

Diolchwyd i’r Dr Einir Young am ei chyflwyniad.

 

12.

PROTOCOL AR GYSYLLTIADAU AELODAU SWYDDOGION pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad, ar ran y Pwyllgor Safonau, yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu cyfres o ddiwygiadau i’r Protocol ar Gysylltiadau Aelodau Swyddogion.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Yn wyneb rhai o’r trafodaethau yn gynharach yn y cyfarfod hwn, tynnwyd sylw at gymal 21.9.1 o’r protocol sy’n pwysleisio pwysigrwydd cadw enw da’r Cyngor a gwneud ymdrech i osgoi beirniadu cyd-aelodau.

·         Croesawyd yr amserlen ar gyfer ymateb i ohebiaeth gan aelod o fewn 5 diwrnod gwaith, er y deellir nad yw hynny’n bosib’ bob amser.

·         Nodwyd ei bod yn bwysig bod swyddogion yn rhoi gwybod i aelodau lleol am unrhyw beth sy’n digwydd yn eu wardiau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r diwygiadau i’r Protocol ar Gysylltiadau Aelodau Swyddogion a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

13.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Catrin Wager

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

           Yn ôl y Cyfrifiad yn 2011, roedd 3,724 o breswylwyr Gwynedd (neu 3.1% o’r boblogaeth) wedi cael eu geni tu allan i’r DU. Mewn rhai ardaloedd ym Mangor, cododd hyn i 20.9% o’r boblogaeth.

           Mae ychydig o dan 30,000 o bobl yn cael eu cadw’n gaeth yn y DU bob blwyddyn dan gyfreithiau mewnfudo; gydag oddeutu 3,000 wedi’u cadw’n gaeth ar unrhyw adeg.

           Y DU yw’r unig wlad yng Ngorllewin Ewrop sy’n cadw unigolion yn gaeth am gyfnod amhenodol dan bwerau mewnfudo.

           Ar gyfartaledd, mae’n costio mwy na £31,000 i gadw person yn gaeth am flwyddyn. Roedd cyfanswm y gost flynyddol yn £164.4 miliwn yn 2013/14. Rhwng 2011-2014, gwariodd y llywodraeth £13.8 miliwn ar iawndal i bobl a gadwyd yn gaeth yn anghyfreithlon.

           Ar hyn o bryd, ceir 10 canolfan gadw yn y DU, sy’n cynnwys cyfleusterau cadw pobl yn gaeth am dymor byr.

           Bydd dros 50% o’r rheiny a gedwir yn gaeth mewn canolfan gadw mewnfudo yn cael eu rhyddhau i’r gymuned yn y DU.

  Mae mewnfudwyr yn cael eu cadw’n gaeth er dibenion gweinyddol.

           2016 Fel rhan o Adolygiad Shaw, cynhaliodd yr Athro Mary Bosworth adolygiad systematig o astudiaethau oedd yn ymchwilio i’r effaith ar iechyd meddwl y bobl a gadwyd yn gaeth. Dangosodd yr astudiaethau mai 30 diwrnod oedd y trobwynt o ran effaith negyddol ar iechyd meddwl.

           Gorffennaf 2018 Paratôdd Stephen Shaw ei Asesiad o gamau gweithredu’r llywodraeth yn dilyn ei Adroddiad yn 2016. Ynddo, mae’n pwysleisio’r angen brys i ddiwygio’r modd y cedwir pobl yn gaeth.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi ymhellach:

           Mawrth 2015 Argymhellodd ymchwiliad ar y cyd gan y GSTB ar Ffoaduriaid a’r GSTB ar Fewnfudo i’r defnydd o Gadw Mewnfudwyr yn Gaeth yn y DU (yr ymchwiliad seneddol cyntaf erioed i’r defnydd o gadw mewnfudwyr yn gaeth yn y DU) fod y llywodraeth yn cyflwyno uchafswm terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer yr amser y gellir cadw unrhyw fewnfudwr yn gaeth.

           Mawrth 2016 Pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer cadw mewnfudwyr yn gaeth ond nid oedd hyn yn cynnwys pobl gyda dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy.

           2016-2017 Mae Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Carchardai EM 2017 yn datgan "bod angen brys o hyd am uchafswm terfyn amser ar gyfer cadw mewnfudwyr yn gaeth"

Mae’r Cyngor hwn yn credu:

           Y dylai llywodraeth San Steffan ddod â’r arfer o gadw mewnfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gaeth am gyfnod amhenodol i ben. 

           Y dylid cyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer cadw pobl yn gaeth dan bwerau mewnfudo.

           Bod yr angen am Ddeddf Mewnfudo newydd fel rhan o weithdrefnau Brexit yn rhoi’r cyfle i gyflwyno terfyn amser.

 

Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:

           Ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn nodi ein bod ni, fel Cyngor Gwynedd, yn dymuno gweld diwedd ar fewnfudwyr  ...  view the full Rhaglen text for item 14.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 Yn ôl y Cyfrifiad yn 2011, roedd 3,724 o breswylwyr Gwynedd (neu 3.1% o’r boblogaeth) wedi cael eu geni tu allan i’r DU. Mewn rhai ardaloedd ym Mangor, cododd hyn i 20.9% o’r boblogaeth.

 Mae ychydig o dan 30,000 o bobl yn cael eu cadw’n gaeth yn y DU bob blwyddyn dan gyfreithiau mewnfudo; gydag oddeutu 3,000 wedi’u cadw’n gaeth ar unrhyw adeg.

 Y DU yw’r unig wlad yng Ngorllewin Ewrop sy’n cadw unigolion yn gaeth am gyfnod amhenodol dan bwerau mewnfudo.

 Ar gyfartaledd, mae’n costio mwy na £31,000 i gadw person yn gaeth am flwyddyn. Roedd cyfanswm y gost flynyddol yn £164.4 miliwn yn 2013/14. Rhwng 2011-2014, gwariodd y llywodraeth £13.8 miliwn ar iawndal i bobl a gadwyd yn gaeth yn anghyfreithlon.

 Ar hyn o bryd, ceir 10 canolfan gadw yn y DU, sy’n cynnwys cyfleusterau cadw pobl yn gaeth am dymor byr.

 Bydd dros 50% o’r rheiny a gedwir yn gaeth mewn canolfan gadw mewnfudo yn cael eu rhyddhau i’r gymuned yn y DU.

  Mae mewnfudwyr yn cael eu cadw’n gaeth er dibenion gweinyddol.

 2016 Fel rhan o Adolygiad Shaw, cynhaliodd yr Athro Mary Bosworth adolygiad systematig o astudiaethau oedd yn ymchwilio i’r effaith ar iechyd meddwl y bobl a gadwyd yn gaeth. Dangosodd yr astudiaethau mai 30 diwrnod oedd y trobwynt o ran effaith negyddol ar iechyd meddwl.

  Gorffennaf 2018 - Paratôdd Stephen Shaw ei Asesiad o gamau gweithredu’r llywodraeth yn dilyn ei Adroddiad yn 2016. Ynddo, mae’n pwysleisio’r angen brys i ddiwygio’r modd y cedwir pobl yn gaeth.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi ymhellach:

  Mawrth 2015 - Argymhellodd ymchwiliad ar y cyd gan y GSTB ar Ffoaduriaid a’r GSTB ar Fewnfudo i’r defnydd o Gadw Mewnfudwyr yn Gaeth yn y DU (yr ymchwiliad seneddol cyntaf erioed i’r defnydd o gadw mewnfudwyr yn gaeth yn y DU) fod y llywodraeth yn cyflwyno uchafswm terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer yr amser y gellir cadw unrhyw fewnfudwr yn gaeth.

  Mawrth 2016  - Pleidleisiodd Tŷ’r Arglwyddi i gyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer cadw mewnfudwyr yn gaeth ond nid oedd hyn yn cynnwys pobl gyda dedfryd o garchar o 12 mis neu fwy.

  2016-2017 -  Mae Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Carchardai EM 2017 yn datgan "bod angen brys o hyd am uchafswm terfyn amser ar gyfer cadw mewnfudwyr yn gaeth"

Mae’r Cyngor hwn yn credu:

  Y dylai llywodraeth San Steffan ddod â’r arfer o gadw mewnfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gaeth am gyfnod amhenodol i ben. 

  Y dylid cyflwyno terfyn amser o 28 diwrnod ar gyfer cadw pobl yn gaeth dan bwerau mewnfudo.

  Bod yr angen am Ddeddf Mewnfudo newydd fel rhan o weithdrefnau Brexit yn rhoi’r cyfle i gyflwyno terfyn amser.

Mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:

·  Ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn nodi ein bod ni, fel Cyngor Gwynedd, yn dymuno gweld diwedd ar fewnfudwyr yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.