Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr
Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Eric Merfyn Jones, Linda Ann Jones, Beth
Lawton, Dewi Owen, Peter Read ac Owain Williams. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr,
2017 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 9 ‘Adolygiad Blynyddol – Polisi
Tâl y Cyngor 2018/19’ ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol gan fod yr
adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. ‘Roedd
o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac, ynghyd â’r Pennaeth Cyllid
a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r
Cynghorydd Simon Glyn ar golli ei dad. Cydymdeimlwyd
hefyd a theuluoedd dau aelod o staff, sef:- ·
Iwan Huws o’r Adran Ymgynghoriaeth a fu farw drwy ddamwain yn ddiweddar. ·
Daffni Eynon Williams o’r Adran Gwasanaeth Plant a
fu farw yn eithaf sydyn tua phythefnos yn ôl. Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am
bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Safodd y Cyngor
fel arwydd o barch. Llongyfarchwyd:- ·
Y Cynghorydd Ioan Thomas ar ddod yn daid i ferch
fach. ·
Sue Owen, siop flodau Lili Wen Porthmadog ar ennill
cystadleuaeth Welsh Weddings Award
Cymru am y siop flodau orau yng Ngogledd Cymru. Diolchwyd i’r
aelodau am eu hyblygrwydd yn sgil gorfod newid trefniadau’r cyfarfod hwn o’r
Cyngor ar fyr rybudd a diolchwyd i staff y Cyngor oedd wedi mynd y filltir
ychwanegol i gefnogi cymunedau’r sir yn ystod y tywydd garw diweddar. Diolchwyd i’r
aelodau am gytuno i gael tynnu eu lluniau i ddathlu’r ffaith bod heddiw yn
Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Hefyd,
anogwyd pawb i edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld lluniau o nifer o
ferched enwog o Wynedd ac i ymuno yn y dathliadau drwy enwebu mwy. Cyfeiriwyd at y
fideo ‘Dathlu ein Cymreictod’ a ddangoswyd i’r aelodau cyn dechrau’r
cyfarfod. Eglurwyd mai’r Adran Addysg
oedd wedi comisiynu’r gwaith ‘Cewri Cymru’ i gefnogi’r Strategaeth Iaith
Uwchradd er mwyn hyrwyddo’r ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig. |
|
CYFLWYNO DEISEB Nodi bod
cais i gyflwyno deiseb wedi’i dderbyn gan y Cynghorydd Cemlyn Williams. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Cynghorydd Cemlyn Williams ddeiseb i’r Cadeirydd ar ran bron
i 300 o blant a phobl ifanc cylch Caernarfon yn galw ar y Cyngor i gadw
Canolfan Ieuenctid Penrallt yn agored. Diolchodd y Cadeirydd i’r aelod am y ddeiseb gan nodi y byddai’n ei
throsglwyddo i sylw’r adran berthnasol. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu
fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys “Pa gamau mae
Cyngor Gwynedd yn eu cymryd i orfodi datblygwyr sy’n berchen tir neu adeiladau
yng Ngwynedd i edrych ar ôl eu safleoedd gan eu cadw yn daclus ac yn ddiogel?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig “Mae yna rywfaint
o offer yn y bocs tŵls gan y Cyngor ar gyfer pethau fel hyn, ond yn amlwg,
os ydym ni’n sôn am dir preifat, cyfrifoldeb y perchennog ydyw yn y bôn ond mae
yna rywfaint o dŵls penodol. Yn
Neddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 mae yna bwerau gwarchod y cyhoedd os ydi
rhywbeth yn creu perygl i iechyd i fedru gwneud rhywbeth amdano fo, i
orfodi. Hefyd mae yna bwerau o dan Adran
215 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Mae yna bwerau gorfodi os ydi rhywle yn flêr ofnadwy ond ‘rwy’n tybio
efallai mai’r hyn sydd y tu ôl i hyn yw’r ffaith bod yr aelod wedi bod yn poeni
am flerwch ar safle’r Colisiwm ym Mhorthmadog, ac ‘rwy’n meddwl, er bod hwnnw’n
dir preifat, bod yna symudiad wedi bod yno a bod pethau wedi eu datrys
bellach.” Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Nia Jeffreys “Beth mae’r Cyngor
yn gallu wneud am adeiladau, e.e. adeilad yr Hen Felin neu adeilad Capel Seion
yn fy ward i lle mae gan bobl leol bryder am ddiogelwch y cyhoedd am fod yr
adeiladau yma yn denu plant a phobl ifanc i mewn iddynt a hefyd oes yna rywbeth
rhagweithiol y gall y Cyngor ei wneud hefo safle, e.e. Tŷ Moelwyn ym
Mhorthmadog i rwystro’r adeilad fynd i’r fath stad yn y lle cyntaf unwaith y
bydd y staff Cyllid a Thollau wedi gadael yr adeilad?” Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig “O ran diogelwch,
mater yn benodol i’r tirfeddiannwr ydi gwneud yn siŵr bod y safle yn
ddiogel. Gall y Cyngor ddefnyddio
disgresiwn y pwerau yma i fynd ar ôl y perchennog, os oes angen gwneud hynny,
ond ‘rwy’n meddwl, fel gyda llawer o faterion fel hyn, mai mater ydyw o
gysylltu hefo’r adran a hefo minnau i fynd ar ôl pethau fel hyn os ydyn nhw’n
codi, ond yn sicr fe wnawn hynny os oes yna broblem.” (2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones “Be ydy barn yr Aelod Cabinet ar ddyfodol
cynghorau cymuned a thref ein Sir?” Ateb gan Arweinydd y
Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn “Nid wy’n siŵr faint o bwys ydi o beth ydy fy marn i, ac mae gen i farn ers blynyddoedd lawer fel aelod o Gyngor Tref Dolgellau. Mae’r ateb yna ac yn ddarllenadwy. Mi roedd sôn ar un pryd bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn mynd i roi cyfrifoldeb am ad-drefnu cynghorau cymuned i’r cynghorau sir a phan wnes i glywed hynny, ‘roeddwn yn gwaredu, oherwydd fyddwn i ddim yn dymuno cael y cyfrifoldeb yna ar y Cyngor, ond hwyrach wedyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2018/19 PDF 218 KB Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor
gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2018/19. Yn ystod y drafodaeth, ymatebwyd i gwestiynau gan aelodau mewn perthynas
â chyrhaeddiad y Cyngor o ran yr ymrwymiad i dalu cyflog byw i’w staff a’r
rhesymeg y tu cefn i’r addasiad i’r polisi costau teithio ar gyfer swyddogion. Hefyd, mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd na
fyddai’r addasiadau i’r polisi costau teithio yn effeithio ar ofalwyr cartref. PENDERFYNWYD
cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r
Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 - 2020/21 PDF 137 KB Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:- ·
Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei
chymeradwyo ar gyfer 2018/19. ·
Cynllun tymor canolig i ddygymod â’r bwlch ariannol
2018/19 – 2020/21. ·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad
y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 4.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel
y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned. Diolchodd i holl
staff yr Adran Gyllid, o dan arweinyddiaeth y Pennaeth Cyllid, am eu gwaith
trylwyr drwy gydol y flwyddyn yn paratoi ac yn arwain y Cyngor at sefydlu
cyllideb hafal. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Pryder ynglŷn â’r tan-gyllido o ganlyniad i
Fformiwla Barnett a’r angen i gynyddu’r pwysau sy’n cael ei roi ar Lywodraeth
Cymru i gael gwell setliad ariannu i Wynedd.
Nodwyd bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy ac awgrymwyd y dylai’r
Cyngor hwn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad o’r system
drethi yn ei chyfanrwydd. Awgrymwyd
hefyd, yn ogystal â’r lobïo parhaus sy’n cael ei wneud gan yr Arweinydd, yr
Aelodau Cabinet, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid, y byddai’n fuddiol
gyrru dirprwyaeth o gynghorwyr i lawr i Gaerdydd i gyfarfod y Gweinidog. Anogwyd yr holl aelodau i ddwyn pwysau ar eu
Haelodau Cynulliad yn ogystal. ·
Y ffaith mai cynnydd o 0.6% yn unig dderbyniwyd yng
ngrant y Llywodraeth ar gyfer 2018/19, er i Lywodraeth Cymru dderbyn cynnydd
grant o 2.6% gan Lywodraeth San Steffan, a’r angen i wneud yn glir i’r
trethdalwyr na fyddai’r Cyngor yn gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor petai wedi
derbyn grant digonol gan Lywodraeth Cymru. ·
Pryder ynglŷn â dull y Llywodraeth o gyllido
addysg drwy roi gydag un llaw a thynnu gyda’r llall a’r diffyg cysondeb rhwng
negeseuon y Gweinidog a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. ·
Yr angen i roi holl drigolion Gwynedd yn ganolog i
bob un o wasanaethau’r Cyngor er gwaethaf yr hinsawdd anodd. ·
Pryder
bod pobl yn ei chael yn gynyddol anodd talu’r Dreth Gyngor a chyfeiriwyd yn
benodol at y bobl hynny sydd fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Cymorth Treth y
Cyngor. ·
Pryder y bydd mwy a mwy o berchnogion tai gwyliau yn
trosglwyddo i’r dreth fusnes er mwyn osgoi’r Premiwm Treth Cyngor ar eu tai. ·
Pryder am effaith y Premiwm Treth Cyngor ar bobl
sy’n ceisio gwerthu tai a etifeddwyd ganddynt yn sgil marwolaeth aelod o’r
teulu. ·
Bid refeniw i benodi dau arolygwr Treth Cyngor
ychwanegol – cadarnhawyd na fyddai’r Pennaeth Cyllid yn derbyn unrhyw gyllid
ychwanegol am gyfrifoldeb y dasg newydd yma, ond y byddai swyddog trethiant
fydd yn ymgymryd â’r dyletswyddau goruchwyliaeth ychwanegol yn derbyn cynnydd
bychan iawn i adlewyrchu hynny. ·
Yr angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd amgen o gynyddu
incwm, e.e. drwy godi tâl am wasanaethau ar berchnogion carafanau a chynnig
morgeisi i bobl leol sydd angen tai.
Nodwyd hefyd bod gorbwyslais ar breifateiddio gwasanaethau pan fyddai’r
Cyngor yn gallu gwneud y gwaith ei hun a chael elw ohono. · Honiadau o wastraff gan y Cyngor. Atebodd y Prif Weithredwr mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r
strategaeth arfaethedig. Gan gyfeirio at y ffaith bod y Cyngor hwn yn rhoi benthyciadau i
awdurdodau lleol yn Lloegr, holwyd oedd yna berygl y gallai rhai o’r cynghorau
hynny fynd yn fethdalwyr. Mewn ymateb,
eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y cynghorau hynny yn cael eu credyd-raddio a bod
y risg wedi ei wasgaru’n eang. Hefyd,
‘roedd y benthyciadau yn rhai dros dro ac ‘roedd bron yn amhosib’ i gyngor fynd
yn fethdalwr oherwydd y gallai godi mwy o dreth. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, a’r Strategaeth
Buddsoddi Flynyddol am 2018/19 (Atodiad A i’r adroddiad), y Dangosyddion
Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r
trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol. |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018/23 PDF 216 KB Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd
2017/23. Diolchwyd i’r
swyddogion am eu holl waith yn paratoi’r adroddiad. Ymddiheurwyd bod cynllun yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol wedi’i adael allan o’r Cynlluniau Adran trwy amryfusedd. ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn copi ar wahân a
byddai’r ddogfen wedi’i hymgorffori yn y fersiwn terfynol o Gynllun y Cyngor
fydd yn cael ei gyhoeddi. Byddai angen
cywiro rhai mân wallau golygyddol hefyd ynghyd ag ychwanegu paragraff yn datgan
bod yr holl faterion yn y cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Ariannol y Cyngor,
er y gallai fod yn amhosib’ gwireddu’r holl flaenoriaethau oherwydd y
cyd-destun ariannol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd bod rhieni wedi derbyn neges destun gan
bennaeth ysgol gynradd ar ôl 9yb ar ddau achlysur yn ddiweddar yn dweud bod yr
ysgol yn cau oherwydd diffyg nwy ac yn gofyn iddynt ddychwelyd i nôl eu
plant. Holwyd pam na allai’r rhieni gael
gwybod am sefyllfaoedd fel hyn ynghynt gan fod yr ysgol yn gwybod am y broblem
nwy cyn 9yb. Atebodd yr Arweinydd mai
mater i’r Llywodraethwyr oedd hyn. ·
Holwyd
a oedd gan Dîm Derwen gynlluniau i ymestyn eu meini prawf i sicrhau bod pob
plentyn ag anableddau yng Ngwynedd yn gallu manteisio ar wasanaeth arbenigol
sy’n cael ei gynnig ganddynt. Nododd yr
Arweinydd y byddai’n cyfeirio’r cwestiwn ymlaen i’r Tîm ac y byddai’r aelod yn
derbyn yr ateb yn uniongyrchol. ·
Holwyd
faint o bwysau mae’r Cyngor yn rhoi i sicrhau cyflenwad digonol o dai ar
rent. Atebodd yr Arweinydd fod mater tai
yn flaenoriaeth sylfaenol ganddo a bod trafodaethau wedi digwydd eisoes gyda
chymdeithasau tai i symud hyn ymhellach.
O adnabod lle mae’r angen a beth ydi’r angen, gellid ymchwilio i sut y
gall y Cyngor gynorthwyo’r cymdeithasau tai ac ‘roedd yn awyddus i weld
adeiladau ar eu traed ac wedi eu gosod. ·
Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Arweinydd nad
rhestr o ddymuniadau’n unig oedd y cynllun a bod yna lawer mwy o fanylder i’w
gael ar y cynlluniau unigol na’r hyn a gynhwyswyd yn y ddogfen. Cynllun gweithredu ydoedd ac ‘roedd yna
ddatblygu ar fanylion. Byddai’n cael ei
ddatblygu’n gyson ac o bosib’ y byddai yna newid cyfeiriad. ·
Holwyd a gysylltwyd â’r Adran Gynllunio ynglŷn
â Blaenoriaeth Gwella 4 – Sicrhau mwy o gyflenwad o dai addas ar gyfer ein
trigolion. Atebodd yr Arweinydd fod y
polisi cynllunio wedi’i drafod fel mater cwbl ar wahân. ‘Roedd materion cynllunio yn effeithio ar
faterion fel hyn, ond nid oedd gan y Cyngor ddewis ond gweithredu o fewn ei
bolisïau. ‘Roedd y cwestiwn cynllunio
wedi codi yn y trafodaethau ar dwf economaidd ac ‘roedd cynllunio yn cyffwrdd â
phopeth. Os oedd polisïau cynllunio’r
Cyngor yn rhy gaeth, ‘roedd lle i adolygu rhain hefyd a gallai’r Pwyllgor
Polisi Cynllunio ar y Cyd edrych arnynt. ·
Mynegwyd
pryder bod polisïau cynllunio lleol yn aml yn cael eu cyfyngu gan bolisïau
cenedlaethol a hynny’n cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniadau Arolygwyr
Cynllunio. · Croesawyd y cynllun peilot ‘Plant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR GWYNEDD PDF 77 KB Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn
gwahodd y Cyngor i ymateb i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol ar gyfer yr arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- ·
Bod cynigion drafft y Comisiwn yn mynd yn erbyn
argymhellion y Cyngor hwn a’r cynghorau cymuned. ·
Pryder ynglŷn ag uno rhai wardiau – cadarnhaodd
y Prif Weithredwr y byddai’n cyflwyno dadl gref i’r Comisiwn yn erbyn
etholaethau dau aelod. ·
Pryder bod yr amserlen ar gyfer ymateb i gynigion
drafft y Comisiwn mor dynn. ·
Aneglurder ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gytuno
ynglŷn â Ward Abersoch a rhai wardiau eraill ac, yn wyneb hynny, awgrymwyd
gwrthod adroddiad y Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Atebodd y Prif Weithredwr nad
oedd gwrthod yr adroddiad yn opsiwn a’r unig ddewis arall oedd cadarnhau’r
cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron y Comisiwn ym Mehefin 2017. Fodd bynnag, ‘roedd yr argymhelliad i gynnal
trafodaethau gyda’r aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn
ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen yn rhoi cyfle i aelodau yn yr
ardaloedd hynny gael gwell canlyniad. ·
Pryder y byddai cynnwys Llanfrothen oddi fewn i Ward
Tremadog yn golygu y byddai’r ward newydd yn cynnwys rhannau o 4 cymuned wahanol
ac yn pontio ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd. ·
Nad oedd rhai o gynigion y Comisiwn yn cymryd y ffin
naturiol rhwng wardiau i ystyriaeth. ·
Bod cynnig y Comisiwn i gadw Ward Dyffryn Ardudwy
fel y mae ac uno Wardiau Llanbedr a Harlech yn well na’r hyn roddwyd ymlaen gan
y Cyngor yn wreiddiol, sef uno Dyffryn Ardudwy gyda Llanbedr. Atebodd y Prif Weithredwr, petai aelodau’n
teimlo bod rhai o gynigion y Comisiwn yn rhagori ar yr hyn a roddwyd gerbron
gan y Cyngor, y gellid peidio gwthio cynigion y Cyngor mor gryf, ond bod angen
y drafodaeth. PENDERFYNWYD (a) Bod y Cyngor yn cytuno i ymateb drwy ail
ddatgan cynigion y Cyngor a phwyso’r Comisiwn i dderbyn yr hyn oedd yn ein
cynigion gwreiddiol, ond gan awdurdodi’r Prif Weithredwr i gynnal trafodaethau
gydag aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn ystyried y
byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen, ac awdurdodi’r Cabinet i gynnwys y dewis
amgen hwnnw yn yr ymateb ffurfiol os yw’r holl aelodau lleol yn unfrydol yn eu
barn. (b) Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Cabinet i
awgrymu enwau gwahanol ar gyfer wardiau i’r hyn sydd yn nghynigion y Comisiwn
os oes dymuniad lleol i wneud hynny. |
|
CALENDR PWYLLGORAU 2018/19 PDF 297 KB Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y
Dirprwy Arweinydd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer
2018/19. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau
ar gyfer 2018/19. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Walker Jones Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd
oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones
yn cynnig fel a ganlyn:- “Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod: ·
Llygredd plastig yn broblem
amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol. ·
12.7 miliwn tunnel o blastig yn mynd
i mewn i’n moroedd bob blwyddyn. Mae hyn
gyfwerth â llond tryc o wastraff bob munud. ·
Darnau o blasting yn achosi
marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO. ·
Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd,
traethau a moroedd prydferth Cymru. Noda’r Cyngor ymhellach bod: ·
Gweithrediad arloesol Cymru o godi
ffi ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71% yn nefnydd bagiau
untro o fewn tair blynedd gyntaf y cynllun. ·
Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol
megis Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i
godi toll ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu. ·
Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid
gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar
blastigion untro yng Nghymru. Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru: I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll ar
blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried codi toll ar bob plastig i
helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn
fioamrywiol.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod: ·
Llygredd plastig yn broblem
amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol. ·
12.7 miliwn tunnel
o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â llond tryc o
wastraff bob munud. ·
Darnau o blastig yn achosi marwolaeth
miliwn o adar môr
a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO. ·
Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd,
traethau a moroedd prydferth Cymru. Noda’r Cyngor
ymhellach bod: ·
Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi
ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71%
yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y
cynllun. ·
Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis
Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll
ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu. ·
Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid
gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar
blastigion untro yng Nghymru. Mae’r Cyngor hwn yn
galw ar Lywodraeth Cymru: I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll
ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried
codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel,
yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol.” Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan sawl aelod a chynigiwyd
ychwanegu’r geiriad a ganlyn at y cynnig gwreiddiol:- “Ein bod yn cynnal
ymchwiliad i ddefnydd Cyngor Gwynedd o blastigion defnydd untro
er mwyn asesu sut a ble y gallwn leihau’r defnydd hwnnw gyda’r nod o ddod yn
gyngor di-blastig.” Cytunodd cynigydd
y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y
Cyngor. Diolchwyd i Cadw Gymru’n Daclus am drefnu sesiwn glanhau Traeth Porth Neigwl
yn ddiweddar. PENDERFYNWYD Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod: ·
Llygredd plastig yn broblem
amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol. ·
12.7 miliwn tunnel
o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â llond tryc o
wastraff bob munud. ·
Darnau o blasting
yn achosi marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO. ·
Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd,
traethau a moroedd prydferth Cymru. Noda’r Cyngor
ymhellach bod: ·
Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi
ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71%
yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y
cynllun. ·
Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis
Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll
ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu. ·
Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid
gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar
blastigion untro yng Nghymru. Mae’r Cyngor hwn yn
galw ar Lywodraeth Cymru: I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll
ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried
codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel,
yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol. Ein bod yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16. |
|
YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth:- (a) Llythyr
gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â’r sefyllfa yng Nghatalwnia. (b) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Owain Williams
i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas ag addysgu hanes Cymru. (c) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago
i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol. PENDERFYNWYD nodi
cynnwys y llythyrau. |
|
Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Dyfrig Siencyn i'r cyfarfod blaenorol PDF 178 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth - llythyr gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Dyfrig Siencyn i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn
perthynas â’r sefyllfa yng
Nghatalwnia (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Owain Williams i'r cyfarfod blaenorol PDF 199 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth
Cymru, mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd Owain
Williams i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas ag addysgu hanes Cymru
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago i'r cyfarfod blaenorol PDF 270 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth - llythyr gan Lywodraeth
Cymru, mewn ymateb i rybudd
o gynnig y Cynghorydd Craig
ag Iago i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: |