Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Annwen Hughes yn gadeirydd am 2018/19.

 

Llofnododd y Cynghorydd Annwen Hughes ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2018/19.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen yn is-gadeirydd am 2018/19.

 

Llofnododd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen ddatganiad yn derbyn y swydd o is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Eric Merfyn Jones, Dilwyn Morgan, Nigel Pickavance a Peter Read.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 526 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 13 ar y rhaglen – Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau Etholedig.  Oherwydd natur yr adroddiad, ac er mwyn cydymffurfio â gofynion y Côd Ymddygiad, datganodd y Cadeirydd fuddiant personol yn yr eitem ar ran yr holl aelodau oedd yn bresennol, ond gan nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu, byddai gan yr aelodau yr hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio ar y mater.

 

Datganodd y Cynghorydd W.Gareth Roberts fuddiant personol yn eitem 17(b) ar y rhaglen – Rhybudd o gynnig gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, oherwydd bod ei fab-yng-nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theuluoedd:-

 

·         Beryl Ellis, aelod o staff yr Adran Amgylchedd ers blynyddoedd lawer, a fu farw’n ddiweddar.

·         Y cyn-gynghorydd Tecwyn Thomas, fu’n aelod o’r Cyngor hwn rhwng 1999 a 2004.  Rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Sion Jones.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir sydd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Eric Merfyn Jones, fu’n dioddef o anhwylder yn ddiweddar ac a oedd yn derbyn llawdriniaeth heddiw.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd a Stephen Churchman ar godi £440 tuag at yr Ambiwlans Awyr drwy gyhoeddi a gwerthu’r calendr digri’ o Gynghorwyr Gwynedd ym mis Rhagfyr y llynedd.  Cyflwynwyd yr arian i’r elusen ym Maes Awyr Caernarfon ym mis Chwefror.

 

Nodwyd diolchiadau’r Cynghorwyr Dilwyn Lloyd a Stephen Churchman i bawb, yn enwedig y rhai hynny gytunodd i’w lluniau gael eu cynnwys.

 

Llongyfarchwyd y corau o Wynedd fu’n llwyddiannus yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn ddiweddar.

 

7.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

9.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“O ganlyniad i’r ffaith bod y cyfnod treial gyda Kingdom wedi dirwyn i ben yn gynamserol a lle bu ymgais i ymdrin â phroblem mae Llywodraeth Cymru yn ei disgrifio fel troseddau amgylcheddol e.e. creu sbwriel, gwaredu slei bach a’r mwyaf pryderus, sef baeddu gan gŵn, pa gamau mae swyddogion y Cyngor yn bwriadu cymryd i atal pobl Gwynedd rhag boddi dan fynydd o lanast ci?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“’Roedd y mater yma gerbron y Pwyllgor Craffu Cymunedau bythefnos yn ôl i heddiw ac yn dilyn hynny mae’r pwyllgor craffu wedi cynnig edrych ar dri cham:-

 

i)       Cydweithio gyda siroedd eraill cyfagos i wella ar y ddarpariaeth.

ii)       Ail ystyried y lefelau staffio presennol yn yr Uned Gorfodaeth Stryd.

iii)      Ehangu’r cydweithio rhyngadrannol lle mae staff o adrannau eraill y Cyngor yn derbyn yr hawl dirprwyedig i orfodi ar y stryd.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Beth fedrwn ni wneud i sicrhau bod y swyddogion yn gweithredu ar yr argymhellion yma?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Gareth Griffith

 

“’Rydych chi’n aelod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, ond nid oeddech chi yn y cyfarfod dan sylw o’r hyn ‘rydw i’n gofio.  Yn y cyfnod byr ers y pwyllgor craffu ‘rydw i wedi cyfarfod gyda phennaeth yr adran fore dydd Mawrth a gallaf ddweud fod cyfarfod yn mynd i gymryd lle cyn hir gydag Ynys Môn, sef un o’r cynghorau nesaf atom.  Gallaf ddweud hefyd, o ran y 6 warden sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan yr Adran Forwrol, mae’r mater yna wedi cymryd cam ymhellach.  Unwaith y bydd hyfforddiant wedi ei roi a systemau yn eu lle, ‘rydym yn gobeithio rowlio hyn i mewn, a byddai hynny’n cynnwys eich ardal chi hefyd yn amlwg gan eich bod ar yr arfordir ac mae’r Cyngor, yn y cyfnod byr ers y pwyllgor craffu wedi symud ymlaen hefo hynny.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Pa drafodaethau rhwng aelodau, swyddogion a Llywodraeth Cymru sydd wedi; ac yn cymryd lle ar gyfer sicrhau bod Gwynedd yn cael ei amddiffyn yn dilyn gadael yr UE, a sicrhau parhad o swyddi i’n trigolion a buddsoddiadau i’r sir yn cael ei gyllido gan yr UE?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Cwestiwn amserol iawn.  Mae’n gyfnod hynod o bryderus i ni yng nghefn gwlad Cymru.  Mae’r ansicrwydd a’r diffyg atebion i gwestiynau digon sylfaenol yn peri pryder.  Mae yna restr yn yr ateb ysgrifenedig o bob math o bwyllgorau, gweithgorau a chyfarfodydd sydd wedi bod yn y gorffennol.  Gallaf eich sicrhau mai un o fy mhrif amcanion i fel Arweinydd y Cyngor ydi i fod yn llais dros y Gymru wledig.  Dyna pam ‘rydw i wedi cael fy mhenodi yn Gyd-gadeirydd Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ‘rydw i’n gobeithio defnyddio’r fforwm hwnnw i fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

PAPUR GWYRDD LLYWODRAETH CYMRU - "CRYFHAU LLYWODRAETH LEOL: CYFLAWNI DROS EIN POBL" pdf eicon PDF 249 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (i ddilyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd trafodaeth ar gyfres o egwyddorion y dylai’r Cyngor eu mabwysiadu o ran unrhyw drafodaeth i’r dyfodol fel y gellir llunio ymateb i’r papur ymgynghorol sy’n gyson gyda safbwynt y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Nad yw’n bosib’ i gynghorau cymuned dderbyn rhagor o gyfrifoldebau heb gynyddu eu praeseptau, a byddai hynny, yn ei dro, yn gosod baich ariannol ychwanegol ar deuluoedd sy’n ei chael yn anodd ymdopi yn barod.

·         Bod rhai cynghorau cymuned yn debygol o fod yn fwy parod i helpu nag eraill a sut oedd datrys hynny?

·         Ei bod yn adeg anodd i wireddu’r cynigion hyn gan fod yna fwy o doriadau a heriau ar y gorwel.  Hefyd, ‘roedd y broses o uno cynghorau yn gostus ac nid oedd yn glir o ble ‘roedd yr arian am ddod ar gyfer hynny.

·         Na welwyd tystiolaeth y byddai uno’n well na’r drefn bresennol.

·         Ei bod yn drueni nad yw Comisiwn Williams wedi edrych ar y sector gyhoeddus yn ei chyfanrwydd.

·         Bod yna farn bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhy fawr ac mai dyna pam mae’n wynebu gymaint o broblemau.  Os uno, dylid gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon a pherthnasol i’n trigolion.

·         Bod uno cynghorau a chanoli popeth yn amddifadu pobl ar draws Cymru o’r pŵer i wneud penderfyniadau’n lleol ac mai cydweithio rhwng awdurdodau yw’r ffordd ymlaen.

·         Bod y ddogfen yn amwys iawn.  Gellid dehongli’r cynnwys mewn nifer o ffyrdd gwahanol ac mae angen mwy o gyfeiriad ac i’r amcanion fod yn gliriach. 

·         Bod y ddogfen yn canolbwyntio ar uno, yn hytrach na chydweithio.

·         Bod angen newid radical yn y ffordd mae cynghorau cymuned a thref yn gweithio yng Nghymru gan ystyried pa fath o bwerau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gweithredu dros eu cymunedau.

·         Pryder ynglŷn ag effaith y toriadau ar y 3ydd sector a'r angen i yrru neges glir at y Comisiwn Ffiniau a’r Llywodraeth i ddweud bod yr amser wedi dod i roi’r gorau i ad-drefnu ac i gydweithio a chanolbwyntio ar bobl o fewn ein cymunedau.

·         Bod Cyngor Gwynedd yn barod iawn i wrando i wrando ar lais pobl ifanc. 

·         Y cefnogir yr egwyddor o uno’n wirfoddol gyda Chyngor Ynys Môn yn hytrach na chael ein gorfodi i uno gyda mwy o gynghorau.  Byddai hyn yn arbed arian ac yn osgoi dyblygu gwaith a rhaid cofio hefyd bod gan lawer o’r cynghorau presennol boblogaeth fwy na Gwynedd a Môn gyda’i gilydd.

·         Bod yna ddadleuon dros uno cynghorau ac o bosib’ y byddai yna arbedion yn deillio o hynny, ond byddai angen gweld tystiolaeth o hynny yn gyntaf.

·         Bod yna ormod o orchmynion yn dod o’r canol a dylai’r cynghorau eu hunain gael penderfynu beth yw’r drefn orau, boed yn uno neu gydweithio ag eraill, gan hefyd bennu lefel unrhyw gydweithio.

·         Os yw’r llywodraeth yn mynd yn bellach oddi wrth y bobl o ganlyniad i uno cynghorau sir, rhaid sicrhau bod yna haen agosach o lywodraeth, sef y cynghorau cymuned, ond ni chredir y gallent  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH Y GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 705 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yng nghyswllt y gefnogaeth i aelodau sydd wedi ei gynnig hyd yma dros gyfnod y Cyngor hwn, ynghyd â’r elfennau sy’n parhau i gael eu datblygu.

 

Diolchodd y Pennaeth i gadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Dewi Roberts ac i weddill aelodau’r pwyllgor am eu cefnogaeth a hefyd i’r tîm sy’n cael ei arwain gan y Rheolwr Democratiaeth.

 

Nododd hefyd fod y gwaith a wneir, a’r ddarpariaeth i gefnogi aelodau yn eu rolau, wedi ei asesu yn annibynnol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eleni a’i fod yn falch o adrodd fod Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i ennill “Breinlen Cymru ar gyfer Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr”, sy’n cael ei adnabod ar lafar fel Siarter Aelodau.

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y Cynghorydd Dewi Roberts ychydig eiriau gan ddiolch i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, y Rheolwr Democratiaeth, aelodau’r pwyllgor ac aelodau’r tîm am eu gwaith.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Y sylwir bod y ffigurau gwylio gwe-ddarllediadau yn dangos bod y cyfarfod arbennig o’r Cyngor ym mis Gorffennaf y llynedd i drafod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd wedi bod o ddiddordeb neilltuol i’r cyhoedd.

·         Nad oedd y diffyg ymateb i e-byst gan swyddogion yn dderbyniol ac y dylai’r protocol ar gysylltiadau aelodau a swyddogion fod yn ei le erbyn hyn.

 

12.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

[Yn unol a gofynion adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor Llawn sydd i benodi cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2018/19.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am 2018/19.

 

13.

CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor benderfynu ar yr uwch gyflogau i’w talu am y flwyddyn i ddod a chynigiwyd argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y Cynghorydd Dewi Roberts.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Na chredid ei bod yn ddoeth i’r aelodau dderbyn unrhyw godiad cyflog, yn enwedig o ystyried nad oedd y staff wedi cael llawer o godiad yn eu cyflogau hwy.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr fod y staff yn cael isafswm cynnydd o 2% yn eu cyflogau eleni, gyda’r rhai ar y cyflogau isaf yn derbyn hyd at 9%.  ‘Roedd yr aelodau yn cael cynnydd o 1.49%.  ‘Roedd wedi gweld sylw yn ddiweddar a olygai, o gyfrifo’r holl oriau y mae aelodau’n weithio, eu bod, mewn gwirionedd, yn cael eu talu islaw’r isafswm cyflog.

·         Bod angen talu cyflogau teg i gynghorwyr, yn enwedig os yw’r Cyngor am ddenu pobl o gefndiroedd difreintiedig i fod yn aelodau.

·         Bod yr argymhelliad i bennu’r cyflog dinesig ar gyfer Cadeirydd y Cyngor ar Lefel 1 yn gam yn rhy bell yn yr hinsawdd bresennol a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gadw cyflog y Cadeirydd ar Lefel 2.  I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y Cadeirydd yn cynrychioli’r Cyngor ar bob math o achlysuron pwysig ac felly’n teilyngu cyflog dinesig Lefel 1.

·         Ei bod yn beryglus cychwyn rhoi pwysau ar gynghorwyr i gymryd gostyngiad yn eu cyflogau a bod y cynnydd, er yn fychan, yn haeddiannol.

·         Bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol eu hunain yn dweud, yn ôl yr indecs, y dylai cynghorydd fod ar gyflog sylfaenol o £15,000.

·         Nad oedd rhaid i gynghorwyr gadw’r £200 ychwanegol a’i bod yn rhydd i unrhyw un gyfrannu’r swm tuag at weithgareddau yn eu cymuned pe dymunent.

·         Bod dyletswyddau Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal yn llawer ehangach na’r hyn a restrir yn Atodiad 1.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant i gadw cyflog Cadeirydd y Cyngor ar Lefel 2 a chafodd ei dderbyn.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i dalu uwch gyflogau i’r 18 rôl a restrir ym mharagraff 2.2 o’r adroddiad.

(b)     Y dylid pennu’r cyflog dinesig ar gyfer Cadeirydd y Cyngor ar Lefel 2 (£21,800).

(c)     Y dylid pennu’r cyflog dinesig ar gyfer Is-gadeirydd y Cyngor ar Lefel 2 (£16,300).

 

 

14.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor a materion perthynol.

 

Cyfeiriodd aelod at y ffaith bod dau o aelodau Grŵp Annibynnol Unedig Gwynedd wedi datgan nad ydynt yn dymuno eistedd ar unrhyw bwyllgorau.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod y seddau’n cael eu cynnig i’r grwpiau, ac os na fydd y seddau hynny wedi’u llenwi ar ôl 3 wythnos, bod modd i’r Cyngor adolygu’r sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r dyraniad seddau yn unol â’r hyn a nodir yn yr atodiad i’r cofnodion hyn.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:

 

          Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi              Annibynnol

          Pwyllgor Craffu Cymunedau                            Plaid Cymru

          Pwyllgor Craffu Gofal                                        Annibynnol

 

 

15.

DIWYGIADAU I'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 442 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu addasiadau i’r Cynllun Dirprwyo Cynllunio Adran 13 Atodiad 3 Rhan 11 Pennaeth Rheoleiddio yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Y credir bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn rhesymol, ond bod angen sicrhau bod pobl leol yn cael mewnbwn i unrhyw gais cynllunio.

·         Pryder bod barn a hawliau’r unigolyn a’r cynghorwyr yn cael eu tanseilio.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod hawl yr aelodau i alw cais i mewn yn parhau.

·         Bod rhai ceisiadau’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio’n ddiangen a dyna pam bod y newidiadau bychain hyn i’r cynllun dirprwyo am wneud gwahaniaeth.

·         Nad mater o swyddogion yn cymryd mwy o bwerau ydoedd, eithr mater o reoleiddio’r sefyllfa a bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn gofyn i’r swyddogion dderbyn mwy o gyfrifoldebau am resymau effeithlonrwydd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r addasiadau i’r Cynllun Dirprwyo Cynllunio Adran 13 Atodiad 3 Rhan 11 Pennaeth Rheoleiddio yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

16.

CYNLLUN LLESIANT GWYNEDD A MON pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno adroddiad yr Arweinydd  (i ddilyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Llesiant Gwynedd a Môn.

 

17.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

18.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Judith Humphreys

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Judith Humphreys yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

·         Bod dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi’r hawl i unigolion deithio, gweithio, neu astudio unrhyw le oddi fewn i’r Undeb Ewropeaidd.

·         Bod yr ystod o hawliau sydd gan unigolion yr UE yn rhan greiddiol o’u hunaniaeth Ewropeaidd.

·          Bod miloedd o bobl ar draws Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â’r ffaith bod eu dinasyddiaeth Ewropeaidd yn cael eu cymeryd oddi arnynt o ganlyniad i Refferendwm yr UE 2016 ynghyd â phenderfyniad llywodraeth y DU i adael yr UE.

·          Bod mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd wedi pleidleisio i Aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

·         astudiaeth a ryddhawyd gan Jill Evans ASE ac sydd wedi ei chynnal gan Yr Athro. Volker Roeben o Brifysgol Abertawe sy’n dwyn y teitlDichonolrwydd Dinasyddiaeth  Gysylltiol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Dinasyddion y DU ar ôl Brexit.”/ “The Feasibility of Associate EU Citizenship for UK Citizens Post-Brexit”.

 

Mae‘r Cyngor hwn yn nodi prif ganfyddiadau’r adroddiad hwn hefyd:

 

 

·         Bod parhau â Dinasyddiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn bosibl i ddinasyddion Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr o dan gyfraith Ewropeaidd a chyfraith Ryngwladol gyfredol.

·         Y gellid cyflawni hyn drwy ddeddfwriaeth UE a‘r cytundeb ymadael rhwng y DU a’r UE.

·         Na fydd angen adolygu unrhyw gytundebau Ewropeiadd er mwyn cyflawni hyn.

·         Bod cyfraith ddinasyddiaeth y DU yn hyblyg ac yn derbyn yr egwyddor na ddylai unrhyw un golli ei ddinasyddiaeth yn erbyn ei h/ewyllys.

 

Mae‘r Cyngor yn croesawu:

 

Bod cynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod hawliau dinasyddion y DU i ddinasyddiaeth yr UE yn cael ei gadw wedi ei basio gan Dŷ’r Cyffredin.

 

 

Mae’r Cyngor yn galw ar:

·         Lywodraeth y DU i roi cynnig o Ddinasyddiaeth Gysylltiol yr Undeb Ewropeaidd gerbron yn ystod trafodaethau Brexit.

·         Lywodraeth Cymru i fynnu drwy’r Cyd-Bwyllgor Gweinidogion (Trafodaethau Ewropeaidd)  bod Llywodraeth y DU yn cynnwys Dinasyddiaeth Gysylltiol yr UE fel rhan o’i safiad negydu.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(A)          Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Judith Humphreys o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

·         Bod dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi’r hawl i unigolion deithio, gweithio, neu astudio yn unrhyw le oddi fewn i’r Undeb Ewropeaidd.

·         Bod yr ystod o hawliau sydd gan unigolion yr UE yn rhan greiddiol o’u hunaniaeth Ewropeaidd.

·         Bod miloedd o bobl ar draws Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â’r ffaith bod eu dinasyddiaeth Ewropeaidd yn cael ei gymeryd oddi arnynt o ganlyniad i Refferendwm yr UE 2016 ynghyd â phenderfyniad llywodraeth y DU i adael yr UE.

·         Bod mwyafrif sylweddol o boblogaeth Gwynedd wedi pleidleisio i Aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

·         Bod astudiaeth a ryddhawyd gan Jill Evans ASE ac sydd wedi ei chynnal gan Yr Athro. Volker Roeben o Brifysgol Abertawe sy’n dwyn y teitl “Dichonolrwydd Dinasyddiaeth  Gysylltiol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Dinasyddion y DU ar ôl Brexit.”/ “The Feasibility of Associate EU Citizenship for UK Citizens Post-Brexit

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi prif ganfyddiadau’r adroddiad hwn hefyd:

 

·         Bod parhau â Dinasyddiaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn bosibl i ddinasyddion Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr o dan gyfraith Ewropeaidd a chyfraith Ryngwladol gyfredol.

·         Y gellid cyflawni hyn drwy ddeddfwriaeth UE a’r cytundeb ymadael rhwng y DU a’r UE.

·         Na fydd angen adolygu unrhyw gytundebau Ewropeaidd er mwyn cyflawni hyn.

·         Bod cyfraith dinasyddiaeth y DU yn hyblyg ac yn derbyn yr egwyddor na ddylai unrhyw un golli ei ddinasyddiaeth yn erbyn ei h/ewyllys

 

Mae’r Cyngor yn croesawu:

 

Bod cynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod hawliau dinasyddion y DU i ddinasyddiaeth yr UE yn cael ei gadw wedi ei basio gan Dŷ’r Cyffredin.

 

Mae’r Cyngor yn galw ar:

 

·         Lywodraeth y DU i roi cynnig o Ddinasyddiaeth Gysylltiol yr Undeb Ewropeaidd gerbron yn ystod trafodaethau Brexit.

·         Lywodraeth Cymru i fynnu drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion (Trafodaethau Ewropeaidd) bod Llywodraeth y DU yn cynnwys Dinasyddiaeth Gysylltiol yr UE fel rhan o’i safiad negydu.”

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan nifer o’r aelodau ar y sail eu bod yn teimlo bod ganddynt hunaniaeth Ewropeaidd a hawl fel dinesyddion Ewrop i deithio ac astudio yn Ewrop a chael eu diogelu gan hawliau Ewrop, a’u bod yn anfodlon i’r hawliau hynny gael eu tynnu oddi arnynt.

 

Nododd eraill, er nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cynnig fel y cyfryw, nad oeddent yn credu ei fod yn mynd i newid unrhyw beth.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.

 

18a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan ragdybio o blaid cynnal clybiau ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(B)          Cyn cychwyn trafod yr eitem hon, cyflwynodd y Cynghorydd Jason Parry ddeiseb i’r Cadeirydd.  Diolchodd y Cadeirydd i’r aelod am y ddeiseb gan nodi y byddai’n ei throsglwyddo i’r adran berthnasol.

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod y Cyngor hwn yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan ragdybio o blaid cynnal clybiau ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.”

 

Nododd cynigydd y rhybudd o gynnig ymhellach:-

 

·         Ei fod yn cyflwyno’r cynnig yn sgil penderfyniad y Cabinet i gau holl glybiau ieuenctid Gwynedd a gosod trefn sirol newydd yn ei le, nad sydd wedi ei brofi’n hyfyw nac o unrhyw werth.

·         Y byddai’r clwb sirol yn golygu colli arbenigedd gweithwyr ieuenctid profiadol a chynyddu’r swyddogion llawn amser canolog o’r 5 presennol i bron i 20.

·         Ei bod yn ymddangos bod yr ymgynghoriad gyda’r bobl ifanc yn annilys, ac o bosib’ yn anghyfreithlon gan na soniwyd ynddo am y posibilrwydd o gau’r clybiau presennol.

·         Bod yr ymgynghoriad gyda’r cynghorau cymuned wedi bod yn annigonol, gyda rhai yn cael eu hamddifadu o unrhyw ohebiaeth ar y mater o gwbl.

·         Os bu angen dychwelyd ac ail-ystyried unrhyw bolisi erioed, mai hwn ydoedd.

·         Bod y Cyngor yn fodlon cadw clybiau yn agored ar yr amod bod cyfraniad yn cael ei wneud tuag at hynny gan y cynghorau cymuned, ond na welai bod gan y gwasanaeth sirol newydd unrhyw ffydd bod hynny am lwyddo.

·         Nad oedd yna gofnod o drafodaethau anffurfiol gyda’r heddlu ac asiantaethau sy’n ymwneud â thor-cyfraith wrth lunio’r model sirol newydd.

·         Ei fod yn pryderu bod y drefn newydd yn gwahaniaethu ac yn creu system elitaidd ac yn mynd yn erbyn delfrydau sylfaenwyr y gwasanaeth.

·         Bod y Cyngor yn ymhyfrydu yn llwyddiannau pobl ifanc y sir yn Eisteddfodau’r Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, felly beth oedd y cyfiawnhad dros arbed ychydig arian rhag mynd i’r mudiadau hynny?

·         Bod cyfraniad y mudiadau hyn i hyfywdra’r Gymraeg yn ein cymunedau ac i sefydliad y Siarter Iaith wedi bod yn allweddol, ac y byddai’n flaengar ymestyn y Siarter i’r clybiau ieuenctid hefyd.

·         Bod y ddeiseb a dderbyniwyd yn dangos bod dros 6000 o bobl yn anfodlon gyda’r newidiadau i’r gwasanaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

·         Ei bod yn hanfodol bod y Cabinet yn ail-ystyried gan fod y plant a’r bobl ifanc yn magu hyder o fewn y mudiadau hyn.

·         Bod y gwasanaeth yn cyflawni swyddogaeth hanfodol a bod cau’r clybiau ieuenctid yn ymosodiad ar genedlaethau’r dyfodol.

·         Nad oedd yn briodol cael y clybiau hyn yn yr ysgolion a bod angen adeiladau ar eu cyfer.

·         Oni allai’r 11,000 o fyfyrwyr ym Mangor, sy’n cyfrannu dim i goffrau’r Cyngor, gyfrannu mewn rhyw ffordd, e.e. drwy gynnydd yn eu rhenti?

·         Bod pawb eisiau sicrhau’r gwasanaeth gorau bosib’ o fewn yr hinsawdd anodd.

·         Bod angen teilwrio’r model newydd i ateb gofynion pobl ifanc Gwynedd a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18a

19.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Catrin Wager

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod fod eitemau hylendid misglwyf yr un mor hanfodol â phapur toiled ar gyfer hylendid personol disgyblion benywaidd, ac yn croesawu’r cyllid refeniw a gynigir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu nwyddau hylendid am ddim mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn nodi nad yw’r £29,497 o gyllid a gynigir ar gyfer 2017/18 yn debygol o gwrdd â chost y ddarpariaeth yng Ngwynedd. Mae’r Cyngor felly yn gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ymchwilio i’r costau sydd ynghlwm â hyn, a’r ffordd orau o ddarparu eitemau hylendid am ddim i ferched oedran ysgol, gan sicrhau bod modd i holl ferched ifanc Gwynedd gael gafael ar eitemau hylendid hanfodol heb embaras, waeth beth fo’u hincwm teuluol.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(C)         Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod fod eitemau hylendid misglwyf yr un mor hanfodol â phapur toiled ar gyfer hylendid personol disgyblion benywaidd, ac yn croesawu’r cyllid refeniw a gynigir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu nwyddau hylendid am ddim mewn ysgolion.  Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn nodi nad yw’r £29,497 o gyllid a gynigir ar gyfer 2017/18 yn debygol o gwrdd â chost y ddarpariaeth yng Ngwynedd.  Mae’r Cyngor felly yn gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ymchwilio i’r costau sydd ynghlwm â hyn, a’r ffordd orau o ddarparu eitemau hylendid am ddim i ferched oedran ysgol, gan sicrhau bod modd i ferched ifanc Gwynedd gael gafael ar eitemau hylendid hanfodol heb embaras, waeth beth fo’u hincwm teuluol.”

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan nifer o’r aelodau ar y sail bod merched ifanc yn teimlo’n hynod swil am godi’r pwnc a bod yn well ganddynt fynd adref o’r ysgol yn hytrach na gofyn i’r athrawon am eitemau hylendid misglwyf.  Mynegwyd gobaith y byddai arian ar gael hefyd ar gyfer offer gwaredu priodol.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Addysg y byddai’n barod iawn i edrych i mewn i’r mater hwn ynghyd â’r gwaith ymchwil manwl a gyflawnwyd gan y cynigydd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.