Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Louise Hughes, Linda Morgan, Jason Parry, Gareth A.Roberts, W.Gareth Roberts, Hefin Underwood a Gareth Williams.

 

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 258 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2017, fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2017 fel rhai cywir, yn amodol ar nodi bod y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Edgar Owen a Cemlyn Williams yn bresennol a chywiro enw Grŵp Llais Annibynnol Gwynedd yn y tabl cydbwysedd gwleidyddol yn eitem 12 i ddarllen “Annibynnol Unedig Gwynedd”.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2018/19.

 

Atgoffwyd yr aelodau i ddychwelyd eu ffurflenni datgan buddiant.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2018/19 am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Eirwyn Williams – oherwydd bod ei wraig yn anabl ac yn derbyn gostyngiad yn y dreth o ganlyniad i hynny.

·         Y Cynghorydd Dafydd Owen – oherwydd ei fod yn derbyn lwfans tai.

·         Y Cynghorydd Nia Jeffreys – oherwydd bod aelod agos o’i theulu yn cael ei effeithio gan y cynllun.

·         Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes – oherwydd bod aelod agos o’r teulu yn derbyn gostyngiad person sengl.

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams – oherwydd ei fod yn derbyn gostyngiad person sengl.

·         Y Cynghorydd Sion Jones – oherwydd ei fod yn derbyn gostyngiad person sengl.

·         Y Cynghorydd Mair Rowlands – oherwydd ei bod yn derbyn gostyngiad person sengl.

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman – oherwydd ei fod o’r farn bod ei gartref yn derbyn lleihad treth cyngor (seiliedig ar incwm).

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â phawb o Wynedd sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Annwen Hughes, ar fod yn Nain.

·         Haf Thomas, Adran Cefnogaeth Gorfforaethol ar ennill Gwobr Pencampwr Cymunedol yng Ngwobrau Cymunedol Scottish Power.

·         Robin Williams, Cwmni Brighter Foods, Tywyn, ar ennill Entrepreneur y Flwyddyn yng Ngwobrau SME (Cwmnïau Bychan a Chanolig) yn ddiweddar.

·         Iwan Roberts o Flaenau Ffestiniog ar ei lwyddiant yn dod yn Bencampwr Byd Treialon Beicio.

·         Elfyn Evans o Ddolgellau ar ennill rali geir Prydain a gorffen yn y pumed safle yn y byd dros y flwyddyn.

·         St. David’s Leisure Ltd, ar eu llwyddiant diweddar yn ennill gwobr Busnes Twristiaeth y Flwyddyn mewn digwyddiad Gwobrau Llwyddiant Busnes y Daily Post 2017.

 

Gwahoddwyd yr aelodau i enwebu unigolion neu dîm o fewn gweithlu’r Cyngor ar gyfer Gwobr y Bobl, fel rhan o’r Seremoni Wobrwyo flynyddol Y Cyngor ar ei Orau. 

 

Tynnwyd sylw at nodyn gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc, yn annog yr holl aelodau i fynychu’r Hyfforddiant Rhiantu Corfforaethol yn Siambr Dafydd Orwig ar fore’r 10fed o Ionawr, 2018.

 

Rhoddwyd teyrnged i’r diweddar John Albert Jones gan y Cynghorydd Owain Williams.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Catrin Wager

 

“Yn dilyn y sylw mawr diweddar sydd wedi bod ynglŷn â materion o ymddygiad amhriodol mewn gwleidyddiaeth, pa weithdrefnau sydd gan y Cyngor mewn lle yng nghyswllt adrodd ac ymdrin â materion o aflonyddu ymysg swyddogion ac Aelodau?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

Mae’r pwyslais o fewn y Cyngor ar geisio sicrhau amgylchedd gwaith ple nad oes sefyllfaoedd o aflonyddu ac mae’r nifer o achosion yr ymdrinnir â hwy yn isel ar draws y Cyngor.

 

Mae gan y Cyngor Gôd Ymddygiad unigol ar gyfer Aelodau ac ar gyfer Swyddogion, yn ogystal â Phrotocol ar gysylltiadau rhwng Aelodau a Swyddogion.  Mae parch a chwrteisi yn seiliau hanfodol i’r cod, ac yn diogelu'r Cyngor, ei aelodau a’i staff. 

 

Mae ‘Safon Gwynedd’ ar gyfer Aelodau yn egluro’r safonau a ddisgwylir ohonom ac mae’n cynnwys trefn ar gyfer ymdrin â honiadau fod Aelod wedi torri’r protocol yna.  Pendraw’r weithdrefn hon yw cyflwyno achos i gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau ond mae camau i’w cymryd cyn hynny er mwyn ceisio adnabod datrysiad i’r honiadau a wneir yn anffurfiol.

 

Yn yr un modd mae’r Cod Ymddygiad ar gyfer swyddogion yn nodi’r angen iddynt ymdrin ag eraill yn gydymdeimladol, effeithlon a heb ddangos tuedd.  Ymhellach, mae Amodau Gwaith Lleol y Cyngor yn cynnwys polisïau a chanllawiau ar Urddas yn y gwaith a Chanu’r Gloch, Trefn Gwyno a’r Drefn Disgyblu.

 

Ymdrechir i geisio datrys rhai o’r honiadau a wneir yn anffurfiol ond mae difrifoldeb rhai honiadau yn arwain at ymdrin â materion yn ffurfiol ac, mewn sefyllfaoedd eithriadol, at atal unigolion o’u gwaith tra bo ymchwiliad yn cael ei gynnal.

 

Mae trefniadau ynghlwm â'r sefyllfaoedd hyn oll ple cynigir cefnogaeth i unigolion sy’n cyflwyno honiad yn ogystal â’r rhai y gwneir yr honiad yn eu herbyn.  Gwneir hyn trwy gynnig gwasanaethau cwnsela annibynnol, iechyd galwedigaethol a hefyd, pan fo’r naill ochr a’r llall yn cytuno, i geisio datrys trwy gyflafareddu.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Catrin Wager

 

“Y tu allan i’r gweithdrefnau ‘rydych chi wedi eu trafod, oes yna unrhyw brotocol gan y Cyngor i drio annog pobl i deimlo bod nhw’n saff i ddod â chwynion o aflonyddu rhywiol, yn arbennig, ymlaen?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“Un weithdrefn y cyfeiriais ati yn yr ymateb oedd y polisi ar ganu’r gloch ac ‘rydw i’n falch o fedru adrodd bod yr ymwybyddiaeth a’r ymddiriedaeth yn y weithdrefn yma wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae hyn yn caniatáu i rywun wneud cŵyn yn ddienw ac ‘rwy’n gallu datgan bod hynny ar sail canlyniadau arolwg blynyddol sy’n cael ei gynnal gan yr Uned Archwilio Mewnol.  Digwyddodd hyn yn sgil pryderon oedd wedi’u lleisio rai blynyddoedd yn ôl ynglŷn â’r diffyg ymwybyddiaeth o’r broses honno ac mae yna gardiau mae pob aelod o’r staff yn dderbyn yn nodi’r manylion ar ganu’r gloch.  Maent yn cael eu cynnwys mewn pecynnau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2018/19 pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2018.

 

Tynnwyd sylw gan yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc at waith sy’n mynd rhagddo yn y Panel Rhiantu Corfforaethol o ran cyflwyno eithriad o’r Dreth Cyngor i bobl ifanc sy’n gadael gofal.  Nid oedd yr eithriad yn disgyn o fewn y cynllun hwn, ond byddai eitem yn mynd ymlaen i’r Cabinet, a diolchwyd i’r Aelod Cabinet Cyllid am ei gymorth gyda’r gwaith.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cyllid y byddai modd cyflwyno eithriad rhag Treth Cyngor i bobl ifanc sy’n gadael gofal i’r Cabinet am benderfyniad dilynol ar ôl gwaith costio asesiad effaith priodol ac ystyriaeth yn y Panel Rhiantu Corfforaethol.  Gan na ddisgwylid i’r gost berthnasol fod yn waharddol, byddai’r Adran Gyllid yn hapus i weithredu beth bynnag fyddai argymhelliad y panel i’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2018 fel ag yr oedd yn ystod 2017/18.  Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

(i)      Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

(ii)     Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig.

(iii)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

(b)     Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2018/19, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

9.

DIWYGIO'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 333 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu diwygiadau i’r Cyfansoddiad.

 

Cyfeiriwyd at yr angen i wneud dau fân gywiriad i Baragraff 4.20.4 yn yr Atodiad, sef:-

 

·         Is-baragraff (i) – Newid y gair ‘improper’ i ‘inappropriate’ yn y fersiwn Saesneg.

·         Is-baragraff (ii) – Cywiro’r geiriau cyntaf i ddarllen “Er gwaethaf (i) ni osodir ....”

 

Gan gyfeirio at Baragraff 4.20.4, sy’n trafod gwirio rhybuddion o gynnig o safbwynt priodoldeb, cwestiynodd rhai aelodau'r angen am y gair ‘amhriodol’ yn Is-baragraff (i) ar y sail ei fod yn tanseilio hawliau’r aelodau a bod y geiriau ‘anghyfreithlon’ ac ‘allan o drefn’ yn cwmpasu’r cyfan.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro fod ‘amhriodol’ yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at rybudd o gynnig sy’n trafod manylion personol rhywun neu faterion enllibus neu gynnig sy’n ffeithiol anghywir.  Byddai’n bryderus ynglŷn â’i ddileu gan fod y Cyfansoddiad yn datgan yn glir beth all fod yn destun rhybudd o gynnig priodol a bod rhaid hidlo pob cynnig yn erbyn hynny er mwyn sicrhau nad yw’r Cyngor yn gwneud penderfyniad anghyfreithlon.  Nododd hefyd fod y gwaith sy’n digwydd gydag aelodau i geisio gwella geiriad eu cynigion yn ymyrraeth gadarnhaol gan ei fod yn ffordd o ddileu unrhyw amhriodoldeb er mwyn caniatáu i’r cynigion hynny fynd yn eu blaenau.

 

PENDERFYNWYD addasu’r Cyfansoddiad yn unol â’r adroddiad, gyda’r mân gywiriadau i Baragraff 4.20.4 a nodwyd ac yn ddarostyngedig bod y diwygiad i Baragraff 9.12.3 yn dod yn weithredol wedi cyfarfod blynyddol y Cyngor yn 2018.

 

10.

PENDERFYNIAD BRYS CABINET pdf eicon PDF 214 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad, er gwybodaeth, ar benderfyniad brys gan y Cabinet ar 24 Hydref, 2017 i gymeradwyo cais i addasu les safle Gorsaf Reilffordd Ucheldir Cymru, Caernarfon er caniatáu defnydd gwerthu bwyd a manwerthu a hepgor gofyn ar gyfer premiwm ychwanegol canlynol yn y ddogfen.  Eglurwyd y bu’n ofynnol gwneud penderfyniad brys yn unol â Rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad i eithrio’r mater o’r drefn galw i mewn i graffu er sicrhau bod y Cyngor yn medru darparu penderfyniad i’r cwmni o fewn amserlen y grant.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

 

11.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

12.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Owain Williams

Yn unol a’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Owain Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn galw am drefniant fel y bydd hanes Cymru yn cael blaenoriaeth mewn gwersi hanes ym mhob ysgol yng Nghymru.  Mae’r sefyllfa bresennol lle mae diffygion yn dysgu ein hanes a’n hunaniaeth i bob pwrpas yn annerbyniol.

 

Felly galwn ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau angenrheidiol i wireddu y diffyg hwn a hynny yn ddiymdroi.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Owain Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn galw am drefniant fel y bydd hanes Cymru yn cael blaenoriaeth mewn gwersi hanes ym mhob ysgol yng Nghymru.  Mae’r sefyllfa bresennol lle mae diffygion yn dysgu ein hanes a’n hunaniaeth i bob pwrpas yn annerbyniol.

 

Felly galwn ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau angenrheidiol i gywiro’r diffyg hwn a hynny yn ddiymdroi.”

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Addysg at ddatblygiad y cwricwlwm cenedlaethol newydd, Dyfodol Llwyddiannus, fydd yn debygol o arwain at ddewis ehangach i athrawon o ran yr hyn maent yn ddysgu.  Fodd bynnag, nid oedd yr adnoddau ar gael ar hyn o bryd i ddysgu hanes Cymru, a chynigiodd welliant i’r cynnig fel a ganlyn:-

 

·         Ychwanegu “Mae datblygiad y cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yn gyfle i unioni’r cam yma a bydd angen datblygu adnoddau angenrheidiol dwyieithog i alluogi i athrawon ddysgu hanes Cymru i’r plant” fel ail baragraff.

·         Cynnwys y geiriau “yn cynnwys datblygu adnoddau dwyieithog” ar ôl y gair angenrheidiol yn y paragraff olaf.

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Mynegodd sawl aelod eu cefnogaeth i’r gwelliant drwy nodi:-

 

·         Bod yr amserlen o ran cael adnoddau Cymraeg ar gyfer y cwricwlwm newydd yn gŵyn gyffredinol ar draws yr holl bynciau.

·         Bod cenhedlaeth o athrawon sydd ddim wedi derbyn yr addysg yma am hanes Cymru eu hunain a bod angen codi’r ymwybyddiaeth yma yn ogystal â hyfforddi athrawon yn y maes.

·         Dylid manteisio ar yr adnoddau a’r arbenigedd yn Adran Hanes Cymru, Prifysgol Bangor, i helpu i ddatblygu’r cwricwlwm.

·         Bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwerslyfrau Cymraeg ar gyfer yr ysgolion, ond nad oedd unrhyw werslyfrau Cymraeg wedi cyrraedd ysgolion uwchradd Gwynedd.  Galwyd ar yr aelodau hynny sy’n llywodraethwyr ysgolion i fynnu bod eu hysgolion yn defnyddio’r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd y Cyngor a’r eilydd.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD bod Cyngor Gwynedd yn galw am drefniant fel y bydd hanes Cymru yn cael blaenoriaeth mewn gwersi hanes ym mhob ysgol yng Nghymru.  Mae’r sefyllfa bresennol lle mae diffygion yn dysgu ein hanes a’n hunaniaeth i bob pwrpas yn annerbyniol.

 

Mae datblygiad y cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yn gyfle i unioni’r cam yma a bydd angen datblygu adnoddau angenrheidiol dwyieithog i alluogi i athrawon ddysgu hanes Cymru i’r plant.

 

Felly galwn ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau angenrheidiol, yn cynnwys datblygu adnoddau dwyieithog, i gywiro’r diffyg hwn a hynny yn ddiymdroi.”

 

13.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Craig ab Iago

Yn unol a’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Craig ab Iago yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Noda’r Cyngor:

 

Fod y Credyd Cynhwysol, sy’n gyfrifoldeb llywodraeth Toriaid San Steffan, yn ddiffygiol ac yn creu caledi i deuluoedd ac unigolion mwyaf anghenus ein cymdeithas. Ofnir y bydd cynnydd sylweddol mewn ôl-daliadau yn arwain at fwy o ddigartrefedd a mwy o bwysau ar ein gwasanaethau.

 

Nid oes digon o bwysau gwleidyddol wedi ei roi gan Lywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd ar San Steffal i ddatganoli’r drefn lles i Gymru.  Credwn yn gryf y dylai’r drefn budd-daliadau gael ei ddatganoli’n llwyr i Gymru ond yn y cyfamser gellid datganoli gweinyddiaeth y drefn lles i Gymru fel y mae yn yr Alban, er mwyn rhoi hyblygrwydd i liniaru effeithiau’r dreth anghyfiawn hwn.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Craig ab Iago o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Noda’r Cyngor:

 

Fod y Credyd Cynhwysol, sy’n gyfrifoldeb llywodraeth Torïaid San Steffan, yn ddiffygiol ac yn creu caledi i deuluoedd ac unigolion mwyaf anghenus ein cymdeithas.  Ofnir y bydd cynnydd sylweddol mewn ôl-daliadau yn arwain at fwy o ddigartrefedd a mwy o bwysau ar ein gwasanaethau.

 

Nid oes digon o bwysau gwleidyddol wedi ei roi gan Lywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd ar San Steffan i ddatganoli’r drefn lles i Gymru.  Credwn yn gryf y dylai’r drefn budd-daliadau gael ei ddatganoli’n llwyr i Gymru ond yn y cyfamser gellid datganoli gweinyddiaeth y drefn lles i Gymru fel y mae yn yr Alban, er mwyn rhoi hyblygrwydd i liniaru effeithiau’r dreth anghyfiawn hwn.”

 

Mynegodd sawl aelod eu cefnogaeth i’r cynnig drwy nodi:-

 

·         Bod yr ymgyrch i symleiddio’r drefn i’w gymeradwyo, ond bod y realiti yn wahanol iawn i’r syniadaeth.

·         Bod ymatebion nifer o elusennau i’r credyd cynhwysol ac ystadegau’r elusen banciau bwyd yn tanlinellu effaith y newidiadau ar y mwyaf bregus a thlawd o fewn cymdeithas.

·         Y dylai unrhyw un sy’n pryderu am y llai ffodus, neu sydd ag unrhyw fath o gydwybod gymdeithasol, neu’n poeni am yr effaith hirdymor ar y Cyngor a’i staff, gefnogi’r cynnig hwn.

·         Bod angen datganoli’r drefn, nid yn unig o safbwynt gweinyddu, ond y dylem gael yr hawl i greu ein system fudd-daliadau ein hunain fel y gellir darganfod ateb sy’n gweithio i bobl Cymru.

·         Bod y trefniadau newydd yn effeithio ar landlordiaid hefyd ac yn creu ansicrwydd i bawb.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.

 

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

Yn unol a’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor yn mynegi pryder sylweddol at y modd y mae Llywodraeth Sbaen wedi carcharu 10 o aelodau etholedig Llywodraeth Catalwnia Mae’r fath erledigaeth yn ymosodiad ar brosesau democrataidd cyflawn ac yn tanseilio egwyddorion llywodraethu'r Undeb Ewropeaidd. Gan fod rhai o drigolion Gatalwnia yn byw yng Ngwynedd galwn ar Lywodraeth Cymru i ddatgan yn glir eu gwrthwynebiad i’r fath gamwedd ac i yrru neges i Lywodraeth Sbaen nad yw eu hymddygiad yn gydnaws ac egwyddorion hawliau dynol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Mae’r Cyngor yn mynegi pryder sylweddol at y modd y mae Llywodraeth Sbaen wedi carcharu 10 o aelodau etholedig Llywodraeth Catalwnia.  Mae’r fath erledigaeth yn ymosodiad ar brosesau democrataidd cyflawn ac yn tanseilio egwyddorion llywodraethu’r Undeb Ewropeaidd.  Gan fod rhai o drigolion Catalwnia yn byw yng Ngwynedd galwn ar Senedd San Steffan i ddilyn esiampl Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddatgan yn glir eu gwrthwynebiad i’r fath gamwedd ac i yrru neges i Lywodraeth Sbaen nad yw eu hymddygiad yn gydnaws ag egwyddorion hawliau dynol.”

 

Eglurodd yr aelod fod geiriad gwreiddiol ei gynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan eu gwrthwynebiad i’r sefyllfa a gyrru neges i Lywodraeth Sbaen, ond gan fod y cynnig wedi’i roi i mewn cyn i’r Cynulliad gael pleidlais ar y mater, yr hoffai addasu’r cynnig i alw ar Senedd San Steffan i ddilyn esiampl Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy weithredu ar y llinellau hynny.

 

Caniataodd y Cyngor i’r cynigydd ddiwygio ei gynnig.

 

Mynegodd sawl aelod eu cefnogaeth i’r cynnig diwygiedig drwy nodi:-

 

·         Bod heddlu Sbaen wedi defnyddio trais difrifol i rwystro pobl rhag mynegi eu barn ac y dylid cefnogi’r egwyddor sylfaenol bod gan bob cenedl yr hawl i benderfynu ar ei thynged ei hun.

·         Bod y cynnig yn gyfle i gydnabod y ffordd ofnadwy y cafodd Catalwniaid heddychlon eu trin am ymarfer eu hawliau democrataidd i bleidleisio.

·         Bod y fath erledigaeth yn ymosodiad ar brosesau democrataidd ac yn tanseilio trefniadau llywodraethu’r Undeb Ewropeaidd.

 

Nodwyd y cynhelid Rali i gefnogi Catalwnia am 6.30yh y noson honno ar Faes Caernarfon.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD mae’r Cyngor yn mynegi pryder sylweddol at y modd y mae Llywodraeth Sbaen wedi carcharu 10 o aelodau etholedig Llywodraeth Catalwnia.  Mae’r fath erledigaeth yn ymosodiad ar brosesau democrataidd cyflawn ac yn tanseilio egwyddorion llywodraethu’r Undeb Ewropeaidd.  Gan fod rhai o drigolion Catalwnia yn byw yng Ngwynedd galwn ar Senedd San Steffan i ddilyn esiampl Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddatgan yn glir eu gwrthwynebiad i’r fath gamwedd ac i yrru neges i Lywodraeth Sbaen nad yw eu hymddygiad yn gydnaws ag egwyddorion hawliau dynol.