Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Alan Jones Evans, Berwyn P. Jones, Charles W. Jones, Mike Stevens.

 

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 481 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2017 a 28 Gorffennaf 17 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion Cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2017, a chyfarfod Arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â theuluoedd y cyn Gynghorwyr  Trevor Edwards a Brian Jones. Nodwyd y bu’r ddau yn gynghorwyr cydwybodol a gweithgar, gan wasanaethu eu cymunedau a’r sir mewn modd clodwiw iawn. Talwyd teyrnged i’r cyn Gyng Trevor Edwards gan y Cyng Eric M. Jones, a’r cyn Gyng Brian Jones gan y Cyng Sion Jones.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

(2)     Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn ddiweddar, yn enwedig Gwion Hallam  ar ennill y Goron, ac Osian Rhys Williams ar gipio’r Gadair.

 

Hefyd, diolch i’r holl staff a fu’n ymwneud a’r trefniadau llwyddiannus ar gyfer taith baton y Gymanwlad yng Ngwynedd fis diwethaf.

 

 

 

 

 

 

 

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

“Yn fy ward fy hun (Abersoch) mae pryder mawr ynglŷn â’r cynigion i gau Meddygfa cangen.


Bydd Pwyllgor Lleol Gwynedd o’r Cyngor Iechyd Cymuned yn gwahodd cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd i drafod materion gofal iechyd sylfaenol yng Ngwynedd. Credaf fod y sefyllfa recriwtio a chadw Meddygon Teulu yng Ngwynedd yn argyfwng sy’n aros i ddigwydd. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau gofal yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

Sut mae’r Cyngor ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd yn paratoi ar gyfer sefyllfa fregus gyda gwasanaeth meddygon yng Ngwynedd ar hyn o bryd, a pha gynlluniau sydd ar y gweill yn y tymor byr a’r hirdymor i ddatrys recriwtio staff meddygol - oes yna ymateb a neu drafodaethau i sicrhau gwasanaeth addas meddygol i gleifion a chyhoedd y Sir?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

Rwyf yn ymwybodol iawn o’r cefndir ac yn deall pam bod y Cynghorydd Dewi Roberts yn codi’r cwestiwn yma. Mae'r heriau sy'n wynebu gofal cychwynnol yn genedlaethol ac yn lleol yn sylweddol.  Mae poblogaeth sy'n heneiddio, daearyddiaeth wasgaredig, galw cynyddol, anhawster cyson i recriwtio a chadw staff, a'r angen i ddatblygu patrymau darparu gwasanaeth newydd yn creu sefyllfa heriol yn y maes iechyd a gofal.

 

Nid oes ateb syml i’r cwestiwn yma, mae hi’n gynyddol amlwg nad yw’r dulliau traddodiadol o weithredu bellach am ddiwallu’r angen ac o ganlyniad rhaid cychwyn ar daith o newid a datblygu’r hun sydd am fodloni’r galw cymhleth ohoni.

 

Mewn gwirionedd, cwestiwn sy’n ymwneud a recriwtio meddygon a staff iechyd yw hwn ac wrth gwrs, rôl y Bwrdd Iechyd fyddai cydlynu ymdrechion i ymateb yn ffurfiol i’r sefyllfa yma.

 

Wedi dweud hyn, un o flaenoriaethau’r Cyngor yma ydi ymateb i’r angen i wella’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi oedolion sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal. Mae’r gwaith o atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf neu ymateb mor fuan â phosib pan fo materion yn codi yn un o brif egwyddorion y Ddeddf, ac rwyf yn hyderus y bydd y gwaith partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau gofal ac ataliol yng Ngwynedd yn arwain at ysgafnhau'r baich a’r angen am ofal clinigol.

 

Mae llawer iawn o waith yn digwydd wrth ymateb i’r angen i wella’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal. Ond mae gofyn i ni feddwl yn wahanol, a rhan o hyn yw edrych ar draws yr holl ystod o wasanaethau a chyfleodd sydd mewn cymunedau. Rydym ar siwrne uchelgeisiol a heriol ond rwy’n grediniol ein bod yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith o wella hyn, er bod llawer o waith pellach i’w wneud.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

“Gan gyfeirio at Llythyr Dr EL Jessup ar ran y Pwyllgor Meddygon Teulu  Gogledd Cymru i Aelodau Senedd ar y 7fed  Awst 2017 lle maen nhw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 205 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ei hadroddiad am 2016/17.

 

Nododd fod llwyth gwaith y Pwyllgor yn dyst i safonau ymddygiad uchel ym mywyd cyhoeddus, a bod pwyslais y Pwyllgor wedi bod ar hyfforddiant a gwella ymwybyddiaeth aelodau Gwynedd mewn cyfnod ariannol anodd, a chyfnod gwleidyddol cythryblus.

 

9.

AELODAETH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 234 KB

Penodi Aelodau Etholedig i’r Pwyllgor Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands adroddiad yn nodi fod angen penodi dau aelod etholedig i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cynigiwyd a eiliwyd argymhelliad Grŵp Busnes y Cyngor fod y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Beth Lawton yn cael eu penodi’n aelodau o’r Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD

Penodi'r Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Beth Lawton yn Aelodau o’r Pwyllgor Safonau

 

10.

Y DREFN O GANFOD ARBEDION I'R DYFODOL

Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Cyllid fod y Cyngor yn parhau mewn cyfnod heriol. Atgoffodd y Cyngor fod cyflawni arbedion Her Gwynedd bron a’u cwblhau, a’i fod wedi bod yn drefn lwyddiannau er mwyn canfod yr arbedion angenrheidiol. Fodd bynnag ‘roedd wedi dod i’r amlwg fod angen trefn arbedion newydd i’r dyfodol

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Prif Weithredwr. Nododd fod y Cyngor wedi bod yn canfod arbedion ers 2006 er mwyn cwrdd ag effeithiau chwyddiant a phwysau ar wasanaethau. Gydag effaith toriadau Llywodraeth y DU yn parhau, yn ogystal ag ansicrwydd Brexit, ‘roedd yn gynyddol amlwg fod angen dechrau cynllunio arbedion i’w gweithredu o 2019/20 ac ymlaen.

 

‘Roedd yr adran Cyllid wedi taflunio nifer o sefyllfaoedd cyllidol, a byddai’r Cabinet yn penderfynu ar dargedau arbedion gwahaniaethol i’r adrannau er mwyn cwrdd â’r sefyllfaoedd mwyaf tebygol. Byddai’r penaethiaid adran wedyn yn cyflwyno arbedion posib i gwrdd a’r targedau hynny i’r Pwyllgorau Craffu herio’r cynlluniau ar ran pobl Gwynedd. Wedi i’r Aelodau gael cyfle i leisio’u barn byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal, cyn mynd ymlaen i benderfynu a gweithredu ar y cynlluniau arbedion terfynol.

 

Yn dilyn y cyflwyniad manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau:

 

Nodwyd fod y darlun yn ymddangos yn un difrifol iawn a bod cyfrifoldeb torfol i wneud y gorau o’r sefyllfa a chymryd rhan.

 

Nodwyd ei fod yn ymddangos fod codiad treth Cyngor yn cael ei gyfyngu i 5% gan y Cynulliad.  Cwestiynwyd a fyddai cyfyngiad o’r fath yn parhau, a beth fyddai codiad treth cyngor o 5% yn ei olygu? Pe bai’r Cyngor yn dilyn model Sgandinafaidd, faint o godiad yn y dreth fyddai ei angen i wella gwasanaethau?

 

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd wedi craffu modelau sgandinafaidd, a thra byddai codiad o 5% yn golygu tua £3.5 miliwn ychwanegol i goffrau’r Cyngor, ni fyddai hynny yn cwrdd â chwyddiant. Nododd y Prif Weithredwr na fu erioed gyfyngiad ffurfiol mewn lle, ac ‘roedd yn amau y byddai yna awdurdod lleol yn rhywle yn wynebu’r pwysau i groesi’r 5% cyn y byddai Gwynedd yn wynebu hynny, gan fod y sefyllfa yn mynd yn eithriadol o fregus mewn aml i le.

 

Nodwyd bod rhai gwasanaethau eisoes o dan bwysau enbyd a holwyd ble oedd y llinell lle na ellid torri ymhellach?

 

Mewn ymateb nododd y Prif Weithredwr nad oedd yn eglur eto ble oedd y llinell honno, ond fod angen sicrhau fod pob gwastraff ac opsiwn arall wedi ei ganfod a’i wyntyllu cyn ei chyrraedd.

 

Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal er mwyn cydweithio gyda chynghorau Tref a Chymuned er mwyn cynnal gwasanaethau, ond bod adnoddau’r Cynghorau Cymuned eu hunain yn brin ac y byddai cymryd baich oddi ar y Cyngor yn golygu cynnydd pellach yn eu preseptau hwythau.

 

Wrth drafod cydweithio nododd y Prif Weithredwr fod cynllunio a blaenoriaethu ariannol yn fater i’r Cynghorau eu hunain, ond byddai’r Cyngor yn annog cydweithio ac edrych ar bob opsiwn i warchod gwasanaethau.

 

11.

YMATEB I YMGHYNGHORIAD DIWYGIO ETHOLIADOL YM MAES LLYWODRAETH LEOL YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwyno Adroddiad y Dirprwy Arweinydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mair Rowlands, Diprwy Arweinydd y Cyngor sylwadau drafft  a baratowyd ar ran y Cyngor.

 

Cynigwyd ac eiliwyd cyflwyno’r sylwadau fel ymateb i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD Cyflwyno’r sylwadau fel ymateb i’r ymgynghoriad.

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR ARCHWILIWR DOSBARTH pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn adroddiad blynyddol ar waith Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyngor Gwynedd yn ystod 2016/17, gan nodi ei fod yn adroddiad cadarnhaol. Nododd Mr Jeremy Evans Rheolwr Llywodraeth Leol o Swyddfa Archwilio Cymru fod yr adroddiad yn crynhoi eu gwaith am y flwyddyn, gan ategu ei fod yn adroddiad positif ar y cyfan er bod rhai ardaloedd ble ‘roedd lle i wella.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL STRATEGOL DIOGELU pdf eicon PDF 308 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc adroddiad blynyddol y Panel Strategol Diogelu. Nododd mai pwrpas yr adroddiad oedd diweddaru’r Cyngor ar yr hyn a gyflawnwyd yn y flwyddyn flaenorol. Pwysleisiodd fod diogelu yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor gyda’r Panel Strategol yn sicrhau trefniadau effeithiol. Nododd fod gwaith y Panel Strategol Diogelu yn ehangu wrth i gyfrifoldebau a gofynion y maes gynyddu, a’i fod yn gyfrifoldeb ar holl aelodau’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gofynion ar lywodraethwyr ysgolion a’r hyfforddiant a chefnogaeth oedd ar gael iddynt, anogodd yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc i unrhyw aelod o gorff llywodraethol ysgol i fanteisio ar hyfforddiant ar eu dyletswyddau yn y maes. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod ymdrechion wedi canolbwyntio ar gadeiryddion hyd yma, ond y byddai nodyn briffio yn cael ei gylchredeg i bob corff llywodraethu ysgol er mwyn hyrwyddo’r maes.

 

14.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 214 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor a dyraniad seddi ar bwyllgorau yn dilyn newidiadau diweddar.

 

Cynigwyd a eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cydbwysedd gwleidyddol.

 

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur Rhyddfrydol

Llais Annibynnol Gwynedd

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

10

5

2

0

1

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

10

5

2

1

0

18

Pwyllgor Craffu Gofal

10

6

1

0

1

18

Archwilio a Llywodraethu

10

5

1

1

1

18

 

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur Rhyddfrydol

Llais Annibynnol Gwynedd

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

8

5

1

0

1

15

Cynllunio

8

4

1

1

1

15

Trwyddedu Canolog

8

5

1

1

0

15

Iaith

8

5

1

0

1

15

Penodi Prif Swyddogion

8

5

2

0

0

15

Apelau Cyflogaeth

4

2

1

0

0

7

Nifer y seddau

84

47

13

4

6

154

 

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur Rhyddfrydol

Llais Annibynnol Gwynedd

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

0

1

0

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

6

3

1

0

1

11

CYSAG

4

3

0

0

0

7

Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y cyd

5

2

1

0

0

8

 

Cyfanswm y seddau

103

57

15

5

7

187

 

 

15.

CYFLEUSTERAU HAMDDEN - SEFYDLU CWMNI WEDI EI REOLI GAN Y CYNGOR pdf eicon PDF 489 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant

 

Mae’r atodiadau ar wahan ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig.

 

Mae’r eitemau yn eithredig o dan Paragraffau 14 ac 16 o Atodiad 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth yn ymwuneud a materion ariannol, busnes a chyfreithiol).

 

Mae’r adroddiad blaen yn agored ond mae’r atodiadau yn cynnwys gwybodaeth masnachol a chyfreithiol sensitif. Hynny oherwydd y byddai rhyddhau yr atodiadau yn llawn yn caniatáu i gyflenwyr annibynnol o’r Cyngor ddod i gasgliadau ynglŷn â pherfformiad ariannol ynghyd â ffioedd rheoli y gwahanol fodelau darparu. Yn sgil hynny, gall rhyddhau danseilio unrhyw drefniadau caffael i’r dyfodol fyddai’n gadael y Cyngor yn agored i risg ariannol o safbwynt rheoliadau caffael. Mae hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol fyddai yn ddarostyngedig i fraint cyfreithiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant adroddiad yn argymell dechrau’r broses o greu cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor er mwyn cymryd cyfrifoldeb dros ganolfannau hamdden Gwynedd. Nododd fod y gwasanaeth yn boblogaidd, ond fod y broses o ganfod arbedion wedi cyrraedd pen ei thaith heb ganfod yr arbedion angenrheidiol. Byddai sefydlu cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor er mwyn rhedeg y gwasanaeth yn dod a hyblygrwydd ariannol nad oedd ar gael yn bresennol, tra ar yr un pryd yn galluogi gwarchod diwylliant unigryw’r gwasanaeth i’r dyfodol. Ni fyddai unrhyw newidiadau i delerau cyflogaeth y staff ar sefydlu’r cwmni, a byddai cydweithio agos rhwng y cwmni newydd a’r Cyngor.

 

Gan fanteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau croesawyd y cynnig i sefydlu’r cwmni fel cyfle i gynnig yr un gwasanaeth i drigolion Gwynedd ar lai o gost. Gofynnwyd i’r Cyngor beidio anghofio am Bwll Nofio Harlech, gan ofyn a fyddai’n bosib i’r adnodd lleol pwysig yma gael ei ymgorffori i’r cwmni newydd, neu ar y lleiaf gydweithio’n agos. O ran cyfansoddiad bwrdd rheoli'r cwmni nodwyd yr angen i sicrhau ystod eang o brofiad a syniadau ymysg yr aelodaeth er mwyn sicrhau llwyddiant. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd penodi’r Prif Weithredwr gorau ar gyfer y cwmni gan fod hynny wedi ei adnabod fel ffactor dyngedfennol mewn ardaloedd eraill ble’r oedd cynlluniau tebyg wedi eu sefydlu.

 

Mewn ymateb nododd y Prif Weithredwr fod yr hyblygrwydd ariannol oedd yn cael ei gynnig gan sefydlu’r cwmni yn creu achos cryf dros ddechrau’r broses o’i sefydlu. Nododd hefyd na fyddai’n dymuno i unrhyw ddrysau i gydweithio gael eu cau yn y rhan yma o’r broses. Wrth i’r broses o sefydlu’r cwmni fynd rhagddo byddai cydweithio agos gyda’r gyfundrefn Craffu er mwyn sicrhau fod trefniadau cadarn mewn lle. Nododd y Pennaeth Economi a Chymuned fod creu y cwmni yn gyfle gwych i adfywio’r sector Hamdden, tra’n gwarchod hunaniaeth a diwylliant y Cyngor yn y gwasanaeth. Byddai rôl  Prif Weithredwr y cwmni arfaethedig yn hanfodol i gyflawni’r weledigaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rôl swyddogion y Cyngor ar fwrdd y Cwmni arfaethedig o ran cyfrifoldeb ariannol, nododd y Swyddog Monitro fod cyfrifoldeb am sefyllfa ariannol y cwmni yn eistedd ar ysgwyddau’r cwmni yn hytrach na chyfarwyddwyr unigol oni bai am sefyllfaoedd eithriadol.

 

Cynigwyd ac eiliwyd i ddechrau’r broses o sefydlu cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor ar gyfer cyfleusterau hamdden Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD Dechrau’r broses o sefydlu cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor.

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:


Dim.