skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd am 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Annwen Daniels yn gadeirydd am 2017/18.

 

Llofnododd y Cynghorydd Annwen Daniels ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2017/18.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd am 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Annwen Hughes yn is-gadeirydd am 2017/18.

 

Llofnododd y Cynghorydd Annwen Hughes ddatganiad yn derbyn y swydd o is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2017/18.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Dewi Owen a John Pughe Roberts.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 417 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2017 fel rhai cywir.

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 13 ar y rhaglen – Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau Etholedig.

 

Oherwydd natur yr adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau Etholedig, ac er mwyn cydymffurfio â gofynion y Côd Ymddygiad, datganodd y Cadeirydd fuddiant personol yn yr eitem ar ran yr holl aelodau oedd yn bresennol, ond gan nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu, byddai gan yr aelodau yr hawl i gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio ar y mater.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)     Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorwyr Annwen Hughes a Louise Hughes ar golli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Cyfeiriwyd at farwolaeth Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru, fu’n flaengar yn sefydlu’r Cynulliad ac a fu’n Brif Weinidog am bron i 10 mlynedd cyn ildio’r awenau yn 2010.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

(2)     Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Yr aelodau ar eu llwyddiant yn yr etholiad yn ddiweddar a chroesawyd yr aelodau newydd i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor.

·         Y Prif Lyfrgellydd, Hywel James, ar dderbyn Gwobr Cyflawniad Oes mewn seremoni yng Nghynhadledd Cilip Cymru yn Llandudno i gydnabod ei gyfraniad aruthrol i Lyfrgelloedd Gwynedd a hefyd i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yn genedlaethol.

·         Anne Thomas o’r Bala a’i thîm o Ysbyty Dolgellau ar ennill gwobr y Coleg Nyrsio Brenhinol am eu gwaith yn datblygu gofal iechyd yng nghefn gwlad Meirionnydd.

·         Clwb Pêl droed Y Bala ar ennill Cwpan Cymru eleni.

·         Clwb Rygbi Pwllheli ar eu llwyddiant ysgubol yn ddiweddar.

·         Gethin Lloyd Evans o Benrhyndeudraeth a ddewiswyd i chwarae dros Golegau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Gynghrair i fyfyrwyr yn Sydney, Awstralia ym mis Gorffennaf.  ‘Roedd Gethin yn astudio parafeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac yn graddio eleni.

 

(3)     Nodyn

 

Gofynnwyd i’r aelodau ymateb cyn gynted â phosib’ i’r e-bost a anfonwyd atynt yn ddiweddar ynglŷn ag Adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.

 

 

7.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

8.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

9.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Yn ddiweddar iawn, mae cwmni ar ran Vodafone wedi gosod mast 15 metr o uchder mewn lle amlwg ym Methel, ac ar dir y Cyngor.  Nid oedd angen caniatâd cynllunio, nac ymgynghori gyda thrigolion lleol.  Ydi hyn yn bolisi teg?”

 

Ateb gan y Pennaeth Amgylchedd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig y Pennaeth Amgylchedd i’r cwestiwn i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Nid polisi fel y cyfryw ydi codi mastiau telegyfathrebu.  Mae hwn yn ddeddfwriaeth felly nid oes dewis gan y Cyngor i gael polisi o ran yr angen am gais cynllunio ai peidio.  Mae hwn yn dod atom fel cyfraith.  A beth sydd y tu cefn i’r gyfraith yma ydi bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i bobl o fewn Cymru gael mynediad ffôn 3G/4G cystal â phosib’ i wella ein busnesau ac i wella'r economi a'n bod yn gallu cyfathrebu gystal ag unrhyw un arall. ‘Rwy’n meddwl mai dyna sydd y tu cefn i hynny.  Be maen nhw’n ceisio gwneud ydi lleihau rhwystrau i gwmnïau fel Vodafone, neu pwy bynnag, fod yn gosod offer.  Felly does dim angen hawl cynllunio arnynt.  Yr unig fater sydd raid iddynt fodloni ydi bod rhaid iddynt ymgynghori drwy fod yn dweud wrth yr Awdurdod Cynllunio be maen nhw’n wneud a’r unig bethau y gall yr Awdurdod Cynllunio fod yn edrych arnynt ydi gosodiad ac edrychiad yr hyn maen nhw’n bwriadu gwneud.  Mae’r mater yma wedi bod i ymgynghoriad gan fod angen i’r Awdurdod Cynllunio fod yn gwneud hynny ac mae’r ymgynghori yma wedi bod hefo’r Cyngor Cymuned.  Mae yna rybuddion wedi cael eu rhoi i fyny ar y safle fel mae’r angen ac mae trigolion sy’n gyfagos i’r datblygiad yma wedi eu hysbysu yn ogystal.  ‘Roedd yna ddau wrthwynebiad i hyn - un gan y cynghorydd lleol a’r llall gan un o’r trigolion cyfagos, ond nid oedden nhw’n faterion i wrthod y cais.   Mae’r mast sy’n 12.5 metr o uchder wedi ei osod erbyn hyn.  Mae yna golofnau golau yna, mae yna golofnau eraill.  Nid wy’n credu bod y gosodiad yn ddrwg.  ‘Rydym ni wedi bod yn edrych ar y safle.  Mae o’n unol â’r hyn mae’r cwmni wedi ddweud.  Nid oedd gennym lawer o sgôp i fod yn gwrthwynebu hyn ac yn mynnu bod y cwmni yn rhoi cais cynllunio ymlaen.  Os ydi o’n fater teg neu beidio, mae hynny i fyny i chi fel gwleidyddion, ond ‘rydym ni fel swyddogion yn gweithio o fewn y gweithdrefnau a’r ddeddfwriaeth sy’n cael ei gosod o’n blaenau ni.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

Gafodd Cyngor Gwynedd unrhyw bres gan Vodafone ar gyfer gosod y mast yma?”

 

Ateb gan y Pennaeth Amgylchedd

 

“Mae’r esboniad ysgrifenedig yn cyffwrdd â deddfwriaeth arall sy’n galluogi pobl fel Vodafone, BT, y Bwrdd Dŵr, ayb, i fod yn gosod offer.  Mae ganddynt hawl dan Ddeddf Priffyrdd a Deddf Strydoedd i fod yn gosod offer ar ein ffyrdd heb dâl.  Mae’n rhaid iddynt adael i ni wybod beth maen nhw’n wneud, ond mae’r hawl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ARWEINYDD Y CYNGOR

Penodi Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penodwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn Arweinydd y Cyngor am dymor y Cyngor hwn.

 

Rhoddodd yr Arweinydd anerchiad byr gan hysbysu’r Cyngor ei fod yn y broses o benodi 9 aelod ar gyfer y Cabinet a’i fod wedi gwahodd y Cynghorydd Mair Rowlands i weithredu fel Dirprwy Arweinydd.

 

11.

ADDASIADAU I'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro adroddiad yn cynnig addasiadau i Gyfansoddiad y Cyngor:-

 

·         yn sgil adolygiad o’r drefn graffu;

·         er mwyn gweithredu newidiadau i drefniadau’r Pwyllgor Cynllunio yn deillio o ofynion cyfreithiol newydd;

·         i adlewyrchu newid enw’r Adran Rheoleiddio i’r Adran Amgylchedd.

 

Ymddiheurodd am rai mân wallau teipio yn y papurau a chyfeiriodd hefyd at yr angen i wneud dau newid pellach i Atodiad 1 (Adran 7 o’r Cyfansoddiad), sef:-

 

·         Dileu’r cyfeiriad at ‘Gofal Cwsmer’ dan Rôl a Chwmpas y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gan nad yw’n rhan o’r drefn newydd, a;

·         Dileu’r cyfeiriad at ‘Iaith’ dan Rôl a Chwmpas y Pwyllgor Craffu Cymunedau gan mai’r Pwyllgor Iaith ei hun fydd yn ymgymryd â’r drefn graffu ar gyfer materion iaith yn y drefn newydd.

 

Yn ystod y drafodaeth mynegwyd syndod gan rai aelodau ynglŷn â’r gofyn statudol newydd i beidio caniatáu defnyddio eilyddion yn y Pwyllgor Cynllunio a chytunodd y Swyddog Monitro i gyfleu’r neges i’r Cynulliad a gofyn am fwy o drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r newidiadau yn Adran 7 o’r Cyfansoddiad, “Pwyllgorau Craffu” yn unol â’r adroddiad i weithredu’r adolygiad o’r drefn graffu, gan hefyd ddileu’r cyfeiriad at ‘Gofal Cwsmer’ dan Rôl a Chwmpas y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a’r cyfeiriad at ‘Iaith’ dan Rôl a Chwmpas y Pwyllgor Craffu Cymunedau.

(b)     Mabwysiadu’r newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Iaith mewn ymateb i’r adolygiad craffu a newid enw’r Pwyllgor Archwilio i Bwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

(c)     Nodi’r newidiadau yn Adran 9 o’r Cyfansoddiad, “Pwyllgorau Rheoleiddio ac Eraill” er cydymffurfio â gofynion statudol.

(ch)   Nodi’r newidiadau yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu newid enw’r Adran Rheoleiddio i’r Adran Amgylchedd.

 

12.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor a materion perthynol a chynigiwyd argymhellion y Grŵp Busnes gan yr Arweinydd.

 

Eglurwyd:-

 

·         Nad oedd union gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor newydd yn wybyddus ar adeg ysgrifennu’r adroddiad.

·         Y cyflwynwyd diweddariad ar y cydbwysedd gwleidyddol i’r Grŵp Busnes ar 15 Mai fel bod modd iddynt gytuno argymhellion i’w cyflwyno i’r Cyngor Llawn.

·         Bod yr holl aelodau wedi derbyn papur ychwanegol yn cyflwyno argymhellion i’r Cyngor yn seiliedig ar drafodaethau’r Grŵp Busnes a manylwyd ar gynnwys y papur hwnnw (sydd wedi’i atodi i’r cofnodion hyn).

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r cydbwysedd gwleidyddol a’r dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r tabl yn yr Atodiad.

(b)     Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

(c)     Mabwysiadu dyraniad cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:-

 

Grŵp Annibynnol – 2 gadair

Grŵp Plaid Cymru – 1 gadair.

 

(ch)   Cadarnhau’r dyraniad o swyddi swyddogion cefnogi grwpiau gwleidyddol ac oriau’r swyddogion cefnogi grwpiau gwleidyddol fel a ganlyn, a hynny am oes y Cyngor os nad oes, ym marn y Grŵp Busnes, newid sylweddol yng nghydbwysedd gwleidyddol y Cyngor neu fod grŵp gwleidyddol â llai na 10% o aelodau:-

 

Grŵp Plaid Cymru – 35 awr

Grŵp Annibynnol – 20 awr

 

(d)     Cadarnhau’r cydbwysedd gwleidyddol ar gyfer y cyrff allanol fel a ganlyn am dymor y Cyngor hwn oni bai fod adolygiad yn ofynnol oherwydd newid i’r cydbwysedd gwleidyddol:-

 

CORFF

Plaid Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur Rhyddfrydol

Aelodau Unigol

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

5

3

1

0

0

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

3

2

0

0

0

 

(dd)   Enwebu’r Cynghorwyr Dilwyn Morgan (Plaid Cymru) ac Eric Merfyn Jones (Annibynnol) yn aelodau o’r Panel Heddlu a Throsedd am y cyfnod hyd yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.

 

13.

CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor benderfynu ar yr uwch gyflogau i’w talu am y flwyddyn i ddod a chynigiwyd argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gan yr Arweinydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, rhoddwyd sylw penodol i’r argymhelliad i gadw lefelau cyflogau Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau ar lefel 1 (£29,100) ym mlwyddyn gyntaf y Cyngor.

 

Mynegodd rhai aelodau eu cefnogaeth i’r argymhelliad ar y sail ei fod yn adlewyrchu’r cyfrifoldeb a’r llwyth gwaith ynghlwm â’r rolau dan sylw a bod penderfyniad wedi’i wneud eisoes y llynedd i gadw’r uwch-gyflogau ar lefel 1.

 

I’r gwrthwyneb, nododd aelodau eraill y dylai’r cynghorwyr ddangos i drigolion y sir a staff y Cyngor eu bod hwythau’n fodlon rhannu’r boen yn y cyfnod presennol o galedi a chynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ostwng yr uwch gyflogau i lefel 2 (£26,200).

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y gwelliant a phleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y gwelliant:-

 

O blaid (32)

Y Cynghorwyr Freya Hannah Bentham, Dylan Bullard, Stephen Churchman, R.Glyn Daniels, Anwen Davies, Dylan Fernley, Peter Antony Garlick, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, R.Medwyn Hughes, Judith Humphreys, Aeron Jones, Elwyn Jones, Eric Merfyn Jones, Keith Jones, Kevin Morris Jones, Sion Jones, Eryl Jones-Williams, Dilwyn Lloyd, Roy Owen, Jason Parry, Nigel Pickavance, Dewi Roberts, Elfed Roberts, Angela Russell, Mike Stevens, Hefin Underwood, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gareth Williams ac Owain Williams.

 

Yn erbyn (39)

Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Steve Collings, Annwen Daniels, Elwyn Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Simon Glyn, Gareth Griffith, Selwyn Griffiths, Annwen Hughes, Sian Wyn Hughes, Nia Jeffreys, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones, Charles Jones, Elin Walker Jones, Huw Wyn Jones, Linda Wyn Jones, Cai Larsen, Beth Lawton, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dafydd Owen, Edgar Owen, Rheinallt Puw, Peter Read, Gareth A.Roberts, W.Gareth Roberts, Mair Rowlands, Paul Rowlinson, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Cemlyn Williams, Gethin Glyn Williams a Gruffydd Williams.

 

Atal (1)

Y Cynghorydd Catrin Wager

 

Gan fod y gwelliant wedi colli, pleidleisiodd yr aelodau ar y cynnig gwreiddiol i dderbyn argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i dalu uwch gyflogau i’r 18 rôl a nodir isod:-

·         Arweinydd

·         Dirprwy Arweinydd

·         Hyd at 8 aelod arall o’r Cabinet

·         Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf

·         Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu (x3)

·         Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

·         Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio

·         Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu

·         Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau

 

(b)     Cadw lefel cyflogau Aelodau Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau (a restrir ym mhenderfyniad (a) uchod) ar Lefel 1 (h.y. £29,100) ym mlwyddyn gyntaf y Cyngor newydd.

(c)     Cynnal arolwg o lwyth gwaith yr holl gadeiryddion ymhen blwyddyn i weld oes lle i amrywio’r penderfyniad neu ail-ystyried y lefelau cyflog.

 

 

14.

CALENDR PWYLLGORAU 2017/18 pdf eicon PDF 292 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2017/18.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2017/18.

 

Atodiad pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol: