skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoleb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Trevor Edwards, Chris Hughes, Brian Jones, Peter Read, Mair Rowlands a Glyn Thomas.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 405 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r prif swyddogion oedd yn bresennol yn gadael y siambr ar gyfer eitem 10 ar y rhaglen ‘Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor’ gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.  Byddai’r prif swyddogion i gyd, ac eithrio’r Prif Weithredwr, yn gadael ar gychwyn y drafodaeth ac yna byddai’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn dychwelyd ar gyfer y materion cyflogaeth eraill a’r Prif Weithredwr yn gadael er rhoi cyfle i’r aelodau godi unrhyw fater penodol yng nghyswllt cyflog y Prif Weithredwr.

 

Datganodd y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog Monitro fuddiant personol yn yr eitem hon gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. 

 

‘Roeddent o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol / Swyddog Monitro y cyfarfod yn ystod yr holl drafodaeth, a’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn ystod rhan o’r drafodaeth, ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlad

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Mair Rowlands ar farwolaeth ei nain.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Dymuniadau gorau

 

Dymunwyd yn dda i’r canlynol:-

 

·         Y Cynghorydd Peter Read yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar, a hefyd y Cynghorwyr Trevor Edwards a Brian Jones oedd yn dioddef o anhwylder ar hyn o bryd.

·         Merch y Cynghorydd Louise Hughes, oedd wedi derbyn dau drawsblaniad organ yn ddiweddar, ac atgoffwyd pawb o bwysigrwydd rhoi organau.

·         Clwb Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy ar ennill cystadleuaeth hanner awr o adloniant yn Sir Feirionnydd, gan ddymuno pob lwc iddynt yn y rownd derfynol ym Mhorth Talbot dydd Sadwrn.

·         Pawb o’r aelodau fyddai’n sefyll etholiad ym mis Mai.

 

Croeso

 

Croesawyd y Cynghorydd Tudor Owen yn ôl yn dilyn anhwylder diweddar.

 

Llongyfarchiadau

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Gethin Williams a’i wraig ar eu priodas yn Gretna Green yn ddiweddar.

 

Gair o ddiolch

 

Gan mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf yn y gadair, diolchodd y Cadeirydd i’w gyd-aelodau am bob cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

5.

DATGANIAD GAN ARWEINYDD Y CYNGOR

Derbyn datganiad gan Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd yr Arweinydd ddatganiad yn sgil cyhoeddi ei fwriad i sefyll i lawr o’i rôl fel Arweinydd a chynghorydd dros Benygroes ym mis Mai.  Nododd y bu’n Arweinydd y Cyngor ers 2008 ac y byddai ei olynydd yn etifeddu cyngor sefydlog ac uchelgeisiol sydd wedi gwneud gwahaniaeth er gwell i gymunedau a phobl y sir.  Cyfeiriodd at nifer o lwyddiannau’r Cyngor dros y tymor hwn, a hynny er gwaethaf y cyd-destun ariannol heriol, a nododd fod pob aelod o’r Cyngor wedi chwarae ei ran yn y llwyddiant hwn.

 

Diolchodd i’r aelodau am eu cyfraniad a’u hymroddiad, nid yn unig i’w wardiau, ond i Wynedd gyfan.  Diolchodd hefyd i arweinwyr y grwpiau gwleidyddol am y cydweithio, i aelodau ei grŵp ei hun am fod yn gefn iddo, i’r Dirprwy Arweinydd am ei gefnogaeth ac i’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd am eu gwaith bugeiliol.  Mynegodd ei werthfawrogiad o ymroddiad y staff i waith y Cyngor gan ddiolch i’r staff hynny fu’n ei gynorthwyo dros y blynyddoedd, Bethan, Einir a Llywela, a Thïm y Cabinet yn gyffredinol.  Diolchodd yn arbennig i’r Prif Weithredwr am ei waith a’i barodrwydd i gofleidio newid ac arwain drwy esiampl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd am ei ddatganiad, ac ar ran yr holl aelodau, diolchodd iddo am ei arweiniad i’r Cyngor dros y blynyddoedd, gan ddymuno’n dda iddo i’r dyfodol.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd ei werthfawrogiad o arweiniad cadarn a doeth yr Arweinydd gan nodi iddo gynrychioli’r Cyngor hwn ar lefel genedlaethol a rhyng-genedlaethol ag urddas.  Llwyddodd hefyd i ymestyn ar draws y pleidiau gan lobïo a rhoi yn ddiflino dros bobl Gwynedd.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Arweinydd, ar ran y staff, am ei arweinyddiaeth gadarn a chlir a’i allu i herio mewn ffordd adeiladol a chefnogol.

 

 

6.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

8.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

“Pa elw / grantiau mae Cyngor Gwynedd wedi ei dderbyn dros y 10 mlynedd ddiwethaf drwy Undeb Ewrop ynghyd â grantiau eraill a dderbyniwyd trwy bartneriaeth / busnes yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod 10 mlynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi a Chymuned

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn gwreiddiol i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Ers 2007, mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn £48.5m o arian gan Gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi galluogi i gyfanswm o £89.6m gael ei fuddsoddi yn y sir.  Hefyd, mae cyrff eraill allanol fel Prifysgol Bangor, fel y gwelwch, yn cael arian sylweddol.  Mae’r cwestiwn ynghlwm â’r arian, ond ‘rwy’n meddwl, o fynd o gwmpas fy ngwaith dydd i ddydd dros y 2 flynedd ddiwethaf, yr hyn yr hoffwn dynnu sylw ato ydi’r hyn mae’r arian yma wedi ei alluogi, sef cefnogi swyddi a chefnogi syniadau, a hyn, mi gredaf, sy’n bwysig i’w fesur ynghlwm â’r arian.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R.H.Wyn Williams

 

“Sut mae’r Cyngor yn gweld y sail o golli cymaint o gymorth yn y dyfodol a lle a beth yw’r patrwm at y dyfodol?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi a Chymuned

 

“Mae hwn yn dipyn o gwestiwn ac ni allaf ond ateb o’m profiad i o’r trafodaethau ‘rwyf wedi gael yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Cabinet.  ‘Rwy’n gweld sawl cyfeiriad o newid, bod yna gydweithio hefo 6 sir ar draws y Gogledd, ac mae hynny’n dda o beth, ond i fod yn rhan o’r arian ‘rwy’n credu mai cyfeiriad llywodraeth San Steffan yw gwario ar isadeiledd a diwydiannau penodol.  Mae’n rhaid i ni fod yn rhan o’r trafodaethau yna.  Mae’n bwysig bod yn rhan o isadeiledd trydaneiddio Rheilffordd y Gogledd, ac ati.  Ond hefyd mae yna dynfa i’r cydweithio yna fynd ar draws yr ardaloedd dinesig, y Northern Powerhouse, ac mae’r De yn gweithio gyda Bryste.  Ac mae yna dynfa yma sydd yn fy mhryderu braidd.  Mae’r prosiectau a welwch ar y rhestr yn brosiectau penodol i bwrpas penodol sy’n hawdd eu mesur ac yn cael dylanwad da, mi gredaf.  ‘Rydym eisoes wedi rhestru prosiectau sydd wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwynedd.  Mae perygl ein bod yn colli’r prosiectau bychain yma ar draul bod yn rhan o’r trafodaethau isadeiledd mawr a hynny yw fy mhryder.  Ymhellach ymlaen ar y rhaglen, byddwn yn trafod ail-drefnu llywodraeth leol ac ‘rwy’n credu mai yna efallai mae ein cyfraniad ni fel Cyngor, h.y. ein bod yn sicrhau bod unrhyw ad-drefniant a chydweithio rhanbarthol yn sicrhau bod ein llais ni yna ar gyfer y pethau mân a bychain sy’n gwneud gwir wahaniaeth i fywydau ac i gyfleoedd pobl ynghyd â’r isadeiledd.  Felly mae tipyn o waith o’n blaenau.  O bosib’ daw arian yn ôl yn gyfatebol i Gymru ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr bod y budd economaidd i ni, nid yn fudd i’r rhanbarthau dinesig, ond yn fudd i fywydau pobl go iawn.  Dyna pam bod angen economi gref, er mwyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2017-18 pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2017/18, oedd yn ymestyniad blwyddyn o Gynllun Strategol Cyngor Gwynedd 2013 - 17 a hefyd yn pontio’r cyfnod rhwng y Cynllun Strategol a’r cynllun newydd a fydd yn cael ei baratoi a’i fabwysiadu gan y Cyngor a fydd yn cael ei ethol ym mis Mai.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod arian wedi’i glustnodi yn y gyllideb fel ymrwymiad ar gyfer ariannu’r cynlluniau i wella hynny sydd angen adnoddau ychwanegol er mwyn parhau i fedru cyflawni eu hymrwymiadau.

·         Sylwyd bod canran gwariant y Cyngor gyda busnesau lleol wedi gostwng o 40.42% yn 2014/15 i 38% yn 2015/16 a gofynnwyd am ymroddiad bod y Cyngor yn gwario’n fwy lleol yn hytrach nag yn mynd allan o’r sir am waith.  Mewn ymateb, eglurwyd bod mesurydd eithaf llym yn cael ei ddefnyddio i fesur y gwariant ond bod gwaith ar droed i geisio newid hynny a bod gwaith yn parhau hefyd i gynyddu’r gwariant yn lleol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2017/18.

 

10.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2017-18 pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2017/18.  Nodwyd bod y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion wedi ystyried y Polisi Tâl yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror 2017 ac yn argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Holwyd a oedd modd ail-edrych ar y polisi o beidio eithrio cyn-swyddogion, a dderbyniodd daliadau diswyddo, ar sail gormodedd neu bensiwn, rhag cael eu hail gyflogi.  Atebodd y Prif Weithredwr fod bwriad i wneud hynny yn y Cyngor newydd.

·         Codwyd cwestiwn ynglŷn ag ariannu codiad o 7% yng nghyflogau prif swyddogion.  Atebodd y Prif Weithredwr nad oedd a wnelo unrhyw godiad cyflog flynyddoedd yn ôl â’r Polisi Tâl cyfredol ond bod croeso i’r aelod ddod i drafod ymhellach gydag ef ar ôl y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i’r Cyngor fabwysiadu’r drafft o Ddatganiad Polisi Tâl ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

11.

CYLLIDEB 2017/18 A STRATEGAETH ARIANNOL 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2017/18.

·         Atodiad yn manylu ar faterion i’w hystyried wrth sefydlu’r gyllideb, ynghyd â’r strategaeth tymor-canol.

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Nododd yr Aelod Cabinet fod y drefn o sefydlu Strategaeth Ariannol y Cyngor wedi bod yn drefn gynhwysol o gydweithio a diolchodd i’r Prif Weithredwr, yr Uned Ymchwil, y Pennaeth Cyllid a staff yr Adran Gyllid am eu cydweithrediad dros y 5 mlynedd ddiwethaf.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod y Cyngor wedi cymeradwyo gwario arian dan eitemau 6 a 7 uchod, ond yn penderfynu codi arian yma.  Atebodd y Pennaeth Cyllid fod y penderfyniadau hynny yn golygu symud ymlaen â materion oedd eisoes yn y gyllideb.

·         Bod arbedion effeithlonrwydd yn golygu lleihad yn nifer y staff sy’n golygu na all cynghorwyr gael gafael ar neb i basio cwynion ymlaen.  Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet nad oedd arbedion effeithlonrwydd yn doriadau a bod modd cynnal gwasanaeth yn fwy effeithiol heb dorri staff.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid, yn sgil yr arbedion effeithlonrwydd a’r toriadau a gymeradwywyd eisoes, ei bod yn rhesymol cynhyrchu tua £1m o arbedion effeithlonrwydd pellach er mwyn cadw’r dreth ar y lefel sy’n cael ei argymell ac na fyddai’r arbedion effeithlonrwydd hyn yn cael effaith ar y trethdalwyr.

·         Bod y penderfyniad i wneud i ffwrdd â’r swyddog anabledd wedi cael effaith.

·         Bod trethdalwyr Môn a Cheredigion yn talu llai na threthdalwyr Gwynedd, ac er y croesawid y ffaith bod Gwynedd wedi derbyn y setliad gorau yng Nghymru eleni, ‘roedd hon yn sir dlawd iawn a byddai’r codiad yn anodd iawn i bobl sydd eisoes yn cael anhawster cael deupen llinyn ynghyd. 

·         Y byddai cyfyngu’r cynnydd yn y dreth i 1.5% yn dod â Gwynedd yn agosach at Fôn a chymdogion eraill.  Nodwyd hefyd bod lefel chwyddiant yn is na 2% erbyn hyn.

·         Bod pwysau hefyd ar gynghorau cymuned a thref a’r Awdurdod Heddlu i godi eu trethi a bod cynnydd o 2.8% yn rhesymol iawn.

·         Bod y toriadau o £4.3m yn y maes addysg yn taro’r sector cynradd sy’n golygu bod plant yn symud i fyny i’r uwchradd heb gyrraedd y safon ddisgwyliedig a bod hynny, yn ei dro, yn golygu mwy o waith gyda llai o adnoddau.

·         Bod pobl yn gweld eu hunain yn talu mwy am lai o wasanaethau.

·         Bod y dreth ar dŷ Band D yng Ngwynedd yn ddrutach na thŷ Band D yng Nghaerdydd a Gwynedd oedd y 6ed uchaf yn 2016.

·         Y byddai 2% yn unig o godiad yn y dreth yn golygu lleihad o £13 y flwyddyn i drigolion Band D ac £1.47m o incwm yn lle £2.06m.  Byddai gan y Cyngor £5m o falansau ar ddiwedd Mawrth a gellid defnyddio £0.5m o’r balansau hynny i falansio’r gyllideb.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Weithredwr fod angen cynnydd o 2.8% i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2017-18 pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r strategaethau arfaethedig.

 

          Nodwyd y cyflwynwyd y strategaethau i’r Pwyllgor Archwilio ar 9 Chwefror, lle eglurwyd a derbyniwyd y cynigion yn gyffredinol, ymhellach i gwestiynau gan aelodau, ac y penderfynodd y Pwyllgor hwnnw argymell i’r Cyngor fabwysiadu’r strategaethau.

 

          Diolchodd Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio i gwmni Arlingclose, ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor, am eu heglurhad clir o’r gwahanol risgiau.

 

          PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, y Strategaeth Darpariaeth Lleiafswm Refeniw a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2017/18 (Atodiad A), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B) a’r Atodlenni Rheolaeth Trysorlys (Atodiad C).

 

13.

PWL BUDDSODDI CYMRU - CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU pdf eicon PDF 303 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau adroddiad yn:-

 

·         Nodi cefndir y trefniadau pŵl buddsoddiadau ar draws yr wyth Cronfa Bensiwn Awdurdod Lleol yng Nghymru a’r angen i ymrwymo’n ffurfiol i gytundeb rhwng y cronfeydd i sefydlu trefniadau gweinyddol a llywodraethol i reoli’r trefniadau pŵl.

·         Argymell Cytundeb Rhyng-Awdurdodau i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, ymhelaethodd y Pennaeth Cyllid ar rôl a chyfrifoldebau’r Pwyllgor Pensiynau yn sgil sefydlu’r Cyd-bwyllgor newydd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:-

1.         Nodi cynnwys y Cytundeb Rhwng-Awdurdodau (IAA) drafft sydd wedi'i amgáu yn Atodiad A i’r adroddiad ac yn dirprwyo caniatâd i'r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, i gymeradwyo a gweithredu fersiwn terfynol yr IAA.

2.         Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor (y cyfeirir ato o hyn allan fel y Cyd-bwyllgor Llywodraethu) wedi cwblhau'r IAA y cyfeirir ato yn argymhelliad 1 uchod ac ar sail y cylch gorchwyl sydd ynghlwm.

3.         Dirprwyo gweithrediad rhai swyddogaethau penodol i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu fel y nodir yn y cylch gorchwyl ac yn nodi'r swyddogaethau hynny sydd wedi'u cadw i'r Cyngor.

4.         Cymeradwyo penodi Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau neu ei D(d)irprwy a enwebir gan y Pwyllgor Pensiynau i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu fel cynrychiolydd Cyngor Gwynedd.

5.         Ble cyfyd gofyn penodol er rhoi effaith i delerau’r  Cytundeb Rhwng-Awdurdodau dirprwyo i gynrychiolydd enwebedig awdurdod Cyngor Gwynedd i weithredu o fewn cylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor Llywodraethu er mwyn galluogi gweithredu unrhyw swyddogaethau sydd wedi'u dirprwyo.

6.         Cymeradwyo bod Cyngor Sir Gâr (Cronfa Bensiwn Dyfed) yn gweithredu fel Cyngor Lletya gyda'r cyfrifoldebau sydd wedi'u nodi yn y Cytundeb Rhwng-Awdurdodau.

7.         Dirprwyo hawl i'r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, i gytuno unrhyw fân addasiadau pellach i'r Cytundeb Rhwng-Awdurdodau.

 

14.

ADOLYGIAD O'R DREFN GRAFFU pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn cyflwyno argymhellion y Pwyllgor Archwilio ar fodel craffu newydd ar gyfer Mai 2017.

 

Gosodwyd y cyd-destun gan y Dirprwy Arweinydd cyn i Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio gyflwyno’r argymhelliad yn absenoldeb Cadeirydd y pwyllgor.

 

Awgrymwyd y dylid adrodd yn ôl i’r Cyngor llawn ymhen blwyddyn ar lwyddiannau / methiannau’r drefn graffu newydd, pa fodel bynnag sy’n cael ei fabwysiadu.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn o blaid Opsiwn 1 (model un prif bwyllgor craffu):-

 

·         Aelodaeth y pwyllgor yn cymryd y trosolwg ac yn sicrhau bod y materion craffu yn bethau sydd wir angen eu craffu.

·         Y pwyllgor yn cyfarfod i gyd-fynd â chyfarfodydd y Cabinet er mwyn dilyn trywydd penderfyniadau’r Cabinet ac yn trafod gyda’r Aelodau Cabinet.

·         Y pwyllgor yn gallu sicrhau bod yr ymchwiliadau wedi gwneud eu gwaith yn drylwyr.

·         Y balans o ran meysydd yn cael ei benderfynu gan y pwyllgor craffu felly gall roi pwyslais ar ba faterion mae’n dymuno.

·         Yn chwalu silos a’r sylw sydd ei angen yn cael ei roi i bob adran o’r Cyngor.

·         Cynghorwyr yn dod i ddeall yn well sut mae’r Cyngor yn gweithio yn ei gyfanrwydd.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn o blaid Opsiwn 2 (model tri phwyllgor craffu):-

 

·         Yn rhannu’r baich yn hytrach nag yn rhoi’r pwysau i gyd ar un prif bwyllgor craffu fydd hefyd yn atebol am yr holl ymchwiliadau craffu.

·         Yn gwahanu’r meysydd Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd gyda’i gilydd yn gyfrifol am 80% o wariant y Cyngor.

·         Yn haws sicrhau craffu o werth drwy gael gwell gafael ar bynciau.

·         Y model un pwyllgor craffu yn ddim mwy na chabinet cysgodol heb y cyfrifoldeb.

·         Yn amhosib’ i un pwyllgor o 15 aelod roi trosolwg o bob dim ar draws y Cyngor.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant bod y Cyngor yn mabwysiadu model tri phwyllgor craffu.  Gan fod canlyniad y bleidlais ar y gwelliant yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid y gwelliant.  O ganlyniad,’roedd y gwelliant wedi cario.

 

PENDERFYNWYD

1.       Symud i’r model tri phwyllgor craffu sy’n cael ei ddangos yn Atodiad 2 i’r adroddiad gyda’i fanteision ac anfanteision fel y model gorau ar gyfer y Cyngor newydd.

2.       Mabwysiadu argymhellion (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 o’r adroddiad, sef:-

(a)     Sefydlu trefn o sesiynau trafod rheolaidd.

(b)     Bod y rhaglen waith am y flwyddyn yn cynnwys cyfran uwch eto o faterion sydd yn cael eu craffu ymlaen llaw.

(c)     Y dylid cael trefn lle mae Aelodau Cabinet yn gwahodd aelodau craffu atynt i wneud gwaith penodol ar ddatblygu polisïau.

(ch)   Bod y Tîm Arweinyddiaeth yn edrych yn rheolaidd gyda’r craffwyr ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.

(d)     Bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gyfiawnhau pam bod mater yn cael ei graffu.

(dd)  Cyflwyno syniad newydd o drefnGwyntyllu”.

(e)     Bod y peilot craffu perfformiad yn dod yn rhan o drefniadau rheolaidd y Cyngor.

(f)      Bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

CALENDR PWYLLGORAU 2017-18 pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tynnwyd yr eitem hon yn ei hôl gan fod y calendr wedi’i seilio ar fodel un pwyllgor craffu, sef argymhelliad gwreiddiol y Pwyllgor Archwilio i’r Cyngor, a chytunwyd i gyflwyno calendr diwygiedig i’r Cyngor Blynyddol ar 18 Mai ar sail y model tri phwyllgor craffu.

 

16.

PENODI AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a baratowyd ganddo ar y cyd â’r Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r drefn a argymhellir yn yr adroddiad ar gyfer penodi aelod lleyg i’r Pwyllgor Archwilio.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

 

Cwestiynodd aelod bwrpas y swyddogaeth ond eglurodd y Swyddog Monitro ei bod yn ofynnol cael o leiaf un aelod lleyg ar y pwyllgor yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r drefn a argymhellir yn yr adroddiad ar gyfer penodi aelod lleyg i’r Pwyllgor Archwilio.

 

17.

PAPUR GWYN - LLYWODRAETH LEOL - CADERNID AC ADNEWYDDIAD pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i ystyried ac addasu sylwadau drafft a baratowyd fel sail i ymateb y Cyngor i brif gynigion a chwestiynau Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol. 

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Bod morâl yn isel yn y cynghorau cymuned o ganlyniad i orfod derbyn mwy o gyfrifoldebau gan y Cyngor hwn.  Atebodd yr Arweinydd fod y Papur Gwyn yn cyfeirio at yr angen i ymateb i’r newid yn sefyllfa cynghorau tref a chymuned ac i wneud gwaith pellach er mwyn gweld pa strwythur o gynghorau cymuned fydd ei angen i’r dyfodol er mwyn bod yn addas i ymdopi â’r cyd-destun newydd.

·         Bod y Papur Gwyn yn rhoi popeth i bawb, ond o fynd dan yr wyneb, gwelir arwyddion cryf o ganoli gwasanaethau i ranbarth Gogledd Cymru.  Mae’r cwestiynau sydd wedi’u gosod yn ymwneud â phethau ymylol sy’n hawdd eu hateb, ond dylid gofyn beth yw pwrpas awdurdod lleol a lle mae’r egwyddor ddemocrataidd a’r atebolrwydd o fynd â phethau oddi wrth y cynghorau i ryw gorff rhanbarthol?  Hefyd, mae yna ddryswch partneriaethau ar draws y Gogledd sydd bron yn amhosib’ i’w ddeall.  Pwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau yn lle a phryd a phwy sydd yn eu craffu?  Mae’n beryg’ na fydd gan Gyngor Gwynedd fawr i’w wneud ymhen 10 mlynedd.  Byd popeth wedi mynd i rywle arall a beth fydd effaith hynny ar ein polisi iaith? 

·         Bod angen gwneud sylwadau cyffredinol cryf yn mynegi pryder ynglŷn â’r daith sy’n cychwyn yma i ganoli gwasanaethau i lefel rhanbarth Gogledd Cymru.  Mae hefyd yn mynd yn groes i’r Byrddau Gwasanaethau Lleol sydd wedi’u sefydlu gan ddeddfwriaeth arall a beth fydd rôl rheini wedyn?  Mae perygl dyblygu gwaith ac mae’r sefyllfa’n ddryslyd iawn.

·         Os gwahardd Aelodau Cynulliad rhag sefyll fel cynghorwyr, rhagdybir na fyddai’n bosib’ i gynghorwyr sefyll fel Aelodau Cynulliad chwaith.  Gwelwyd unigolion yn gwasanaethu fel cynghorwyr tra’n Aelodau Cynulliad yn y gorffennol ac nid penodiad i’r ddwy swydd yn atal unigolyn rhag cyflawni’r gwaith yn llawn.

·         Nid yw’r Papur yn cyfarch y rheol 6 mis ac mae angen tynhau ar hynny. 

·         Mae’r ddogfen yn codi amheuaeth ynglŷn â gweithredu rhanbarthol.  Mae sôn am Gwe yma, er enghraifft, a gwerth hynny ar ddiwedd y dydd.  Mae sôn yma am rôl cynghorwyr a chwestiynwyd a fyddai symud i fodel rhanbarthol yn ei gwneud yn fwy anodd ymgysylltu gyda’r cyhoedd.  Mae sôn y dylai cynghorau eu hunain benderfynu ar eu trefn bwyllgorau eu hunain, ac mae hynny i’w ganmol.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd iddo ddadlau dros ad-drefnu ar sail llinellau cadarn, ond nad oedd yn rhannu'r un brwdfrydedd dros ad-drefnu sy’n ymddangos yn llac ac yn niwlog gyda diffyg atebolrwydd.  Nododd hefyd ei bod yn rhyfedd fod materion fel trefn bwyllgorau a system bleidleisio yn ddewisol o fewn deddfwriaeth.

·         Bod deddfwriaeth niwlog, sydd ddim yn plethu at ei gilydd yn ei gwneud yn fwy anodd gweithredu fel cynghorydd ac i’r cyhoedd ddeall pwy sy’n gyfrifol.  Mae pwyllgorau rhanbarthol yn bell i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17.

18.

ADRODDIAD ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc a’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Law yn llaw â hyn, er mwyn ymateb i’r gofynion deddfwriaethol yn llawn, ac yn unol ag argymhelliad y Cabinet (14 Chwefror 2017), byddai angen sicrhau bod fersiwn benodol i Wynedd o’r Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth yn cael ei chynhyrchu’n fuan.

 

Cwestiynwyd cywirdeb y rhagolygon poblogaeth oedd yn darogan cynnydd yng Ngwynedd ond gostyngiad ar Ynys Môn oherwydd, petai Wylfa B yn dod, byddai poblogaeth yr ynys yn cynyddu’n sylweddol.  Mewn ymateb, eglurodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad yn asesiad blynyddol o anghenion blynyddol, ac wrth i amser fynd ymlaen a gwybodaeth ddod yn fwy eglur, byddai’r cynnwys yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gynhyrchwyd yn unol â gofyn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

19.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL GWYNEDD 2016/17 pdf eicon PDF 600 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Hamdden, cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg adroddiad blynyddol y Panel Rhiant Corfforaethol oedd yn amlygu rôl a chyfrifoldebau’r Cyngor i weithredu fel rhieni corfforaethol i blant mewn gofal, yn rhannu gwybodaeth am weithrediad y panel dros y flwyddyn 2016/17 ac yn amlinellu bwriadau’r panel ar gyfer y dyfodol.

 

Gofynnwyd i’r panel ystyried sefydlu gweithgor i edrych ar effaith diwygiadau lles ar y niferoedd plant sy’n dod i ofal.  Cytunodd yr Aelod Cabinet fod y ffigurau wedi codi rhywfaint ond pwysleisiodd y byddai’r cynnydd wedi bod yn llawer uwch heb ymdrechion y Tïm Trothwy Gofal i atal plant rhag dod i mewn i ofal.

 

20.

ADOLYGIAD COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 123 KB

Ystyried adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn ceisio caniatâd gan y Cyngor i swyddogion weithredu ar lunio cynigion drafft ar gyfer y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn y cyfnod cyn yr etholiad er mwyn cwrdd ag amserlen heriol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Holwyd a fyddai yna ymgynghori gyda’r cynghorau cymuned a thref cyn yr etholiad.  Atebodd y Prif Weithredwr mai diwedd Mai oedd y dyddiad cau am sylwadau i bawb, ac eithrio’r Cyngor hwn.  Petai’r cynghorau cymuned yn dymuno cyflwyno sylwadau i’r Comisiwn, ‘roedd yn bwysig eu bod yn gwneud hynny a byddai’n fuddiol pe byddent yn anfon copi o’u sylwadau at y Cyngor hwn hefyd.  Pe dymunai’r cynghorau cymuned weld cynigion drafft y Cyngor hwn yn gyntaf, byddai’n rhaid iddynt aros tan ddechrau Mai.  Gan hynny, byddai’n eu cynghori i gyfarfod ym mis Mai, ond awgrymodd fod yr aelod yn dod i’w weld os oedd am gael eglurhad pellach.

·         Holwyd a fyddai’r adolygiad yn cynnwys trethdalwyr hefyd gan fod yna fwy o drethdalwyr nag o etholwyr mewn nifer o ardaloedd.  Atebodd y Prif Weithredwr ei fod yn sicr bron na fyddai trethdalwyr fel y cyfryw yn cyfri’.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â chost yr adolygiad hwn a hefyd y Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol, nododd y Prif Weithredwr y gallai wneud ymholiadau, ond mai’r llywodraeth, yn hytrach na’r Cyngor, fyddai’n ysgwyddo’r gost.

·         Awgrymwyd nad oedd y Comisiwn yn deall daearyddiaeth y sir hon.  Atebodd y Prif Weithredwr mai dyna pam ei bod yn bwysig bod y Cyngor hwn yn rhoi ei sylwadau ymlaen.

 

          PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn gweithredu’n rhagweithiol er mwyn cynnig cynigion i’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o fewn amserlen arfaethedig i’w gytuno gyda hwy, gan ddilyn y camau a nodir isod er mwyn gweithredu fel a ganlyn:-

 

·         Cyfnod cyn etholiad: swyddogion i greu cynigion drafft ac ymgynghori (lle bo’r angen a lle mae modd oherwydd yr amserlen) gydag aelodau a chynghorau cymuned perthnasol.

·         Rhannu’r cynigion drafft gyda holl aelodau’r Cyngor newydd yn dilyn yr etholiad.

·         Y Pwyllgor Archwilio (fel y corff sy’n gyfrifol am lywodraethu) i edrych ar y cynigion a’r sylwadau gan aelodau ac i benderfynu ar yr argymhellion drafft i’w cyflwyno i’r Cyngor.

·         Y Cyngor Llawn ym Mehefin 2017 i benderfynu ar y cynigion i’w cyflwyno i’r Comisiwn.

 

21.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

22.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Lesley Day

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Lesley Day yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae sawl rhan o Wynedd yn dioddef yn sgil problemau a achosir gan bobl sy'n mynnu gwaredu eu sbwriel ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir. Mae gwastraff a ellir ei ailgylchu yn cael ei anfon i dirlenwi a biniau gorlawn y cael eu gadael allan ar y pafin. Mae llygod mawr a gwylanod yn gwasgaru'r gwastraff ymhellach. Mae ein swyddogion diwyd a'r casglwyr sbwriel yn gweithio'n hynod o galed i ddelio â'r llanast ond ni allant ymdopi â maint y broblem. Mae canlyniad hyn yn beryglus i iechyd a'r amgylchedd. Yn y pendraw, bydd costau aruthrol i'r Cyngor os ydym yn methu cyrraedd ein targedau ailgylchu. Ond eto mae'r drwgweithredwyr yn osgoi unrhyw gosb. Nid oes neb yn cael ei ddirwyo na'i gosbi.

 

Galwaf ar y Cyngor i ofyn i'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ystyried cyflwyno cosb effeithiol fel mater o flaenoriaeth ac y dylai’r mater gael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu erbyn mis Rhagfyr 2017.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Lesley Day o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i heiliwyd:-

 

“Mae sawl rhan o Wynedd yn dioddef yn sgil problemau a achosir gan bobl sy'n mynnu gwaredu eu sbwriel ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir.  Mae gwastraff a ellir ei ailgylchu yn cael ei anfon i dirlenwi a biniau gorlawn yn cael eu gadael allan ar y pafin.  Mae llygod mawr a gwylanod yn gwasgaru'r gwastraff ymhellach.  Mae ein swyddogion diwyd a'r casglwyr sbwriel yn gweithio'n hynod o galed i ddelio â'r llanast ond ni allant ymdopi â maint y broblem.  Mae canlyniad hyn yn beryglus i iechyd a'r amgylchedd.  Yn y pendraw, bydd costau aruthrol i'r Cyngor os ydym yn methu cyrraedd ein targedau ailgylchu.  Ond eto mae'r drwgweithredwyr yn osgoi unrhyw gosb.  Nid oes neb yn cael ei ddirwyo na'i gosbi.

 

Galwaf ar y Cyngor i ofyn i'r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ystyried cyflwyno cosb effeithiol fel mater o flaenoriaeth ac y dylai’r mater gael ei adolygu gan Bwyllgor Craffu erbyn mis Rhagfyr 2017.”

 

Mewn ymateb i’r cynnig, nododd yr Aelod Cabinet Amgylchedd:-

 

·         Bod rhaid bod yn ofalus iawn cyn cyflwyno dirwy neu gosb gan fod yna bobl sy’n oedrannus ac yn anghofus, neu ddim yn deall y system.

·         Bod gan y Cyngor hawl i ddirwyo pobl am roi’r deunydd anghywir yn y biniau anghywir neu am roi’r biniau allan ar y dyddiau anghywir, ond bod rhaid ystyried goblygiadau hynny i’r Cyngor.

·         Y byddai’n awgrymu bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar ei newydd wedd yn sefydlu ymchwiliad i’r mater fel un o’i swyddogaethau cyntaf.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Rhaid mynd i’r afael â’r broblem amgylcheddol hon sy’n creu risg i iechyd yn ogystal â risg ariannol i’r Cyngor.

·         Bod pawb yn cael gwneud fel y mynnent ac nad oes cymhelliant i bobl wella.

·         Bod y trefniadau casglu ysbwriel yn gweithio’n dda mewn rhai ardaloedd ond bod angen adolygiad o’r system mewn ardaloedd sydd â dwysedd uchel o gartrefi gan nad oes gan bobl ddigon o le i storio biniau a bocsys glas.

·         Bod biniau cymunedol yn broblemus hefyd.

·         Bod cwmnïau’n pecynnu bwydydd yn ormodol.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig.

 

 

Atodiadau pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol: