Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Endaf Cooke, Craig ab Iago, Anwen Davies, Trevor Edwards, Aled Evans, Gweno Glyn, Simon Glyn, Chris Hughes, Anne Lloyd Jones, Dyfrig Jones, Linda A.W.Jones, W.Roy Owen, Peter Read, Glyn Thomas, Hefin Williams a John Wyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 322 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mehefin, 2016, fel rhai cywir  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 30 Mehefin, 2016 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 15(a) ar y rhaglen – Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Owain Williams, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Elwyn Edwards - oherwydd ei fod yn aelod o’r Orsedd.

·         Y Cynghorydd Aeron M.Jones – oherwydd bod y cynnig yn trafod unigolyn sy’n gweithio gydag ef.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croeso

 

Croesawyd 3 aelod newydd, sef y Cynghorwyr Dylan Fernley, Gareth Griffith ac Edgar Owen, i’w cyfarfod cyntaf o’r Cyngor llawn.

 

Llongyfarchiadau

 

·         Tîm Pêl droed Cymru ar gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016.

·         Pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni eleni.

·         Pwyllgor Meirion ar eu trefniadaeth o’r Sioe Frenhinol eleni ac i bawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yno.

·         Trefnwyr Treialon Rhyngwladol Cŵn Defaid a gynhaliwyd ar dir Sandilands, Tywyn, fis Medi.  Enillodd Tîm Cymru, gyda’u Capten, Medwyn Evans o Lanfachreth, Dolgellau, bencampwriaeth y pum gwlad yno eleni.

 

Hefyd, y pencampwyr byd canlynol o Ward Corris / Mawddwy:-

 

·         Elfyn Evans ar ennill Pencampwriaeth Ralio Prydain ugain mlynedd ar ôl i’w dad, Gwyndaf Evans, ennill yr un bencampwriaeth.  Nodwyd hefyd bod Elfyn ar hyn o bryd yn ennill Pencampwriaeth R2 ym Mhencampwriaeth y Byd.

·         Osian Pryce ar ennill Pencampwriaeth y Byd i yrwyr ifanc.

·         Rachel Atherton ar ennill Pencampwriaeth y Byd am feicio mynydd.

 

Materion Eraill

 

Diolchwyd i holl staff y Cyngor wnaeth ymateb i drafferthion parcio Gwŷl Rhif 6.  Nodwyd y bu ymdrechion arbennig gan weithlu'r Cyngor, y gymuned yn lleol ac asiantaethau eraill fel y Groes Goch i gynnig cymorth ymarferol i nifer fawr o bobl a diolchwyd i bob un aelod o staff a fu’n cynorthwyo i geisio lleddfu effaith y tywydd gwael ar ymwelwyr i'r Ŵyl.

 

Yn dilyn cyflwyniad cyn y Cyngor i nodi 90 mlwyddiant Gorymdaith Heddwch drwy Gaernarfon, nodwyd y byddai Gardd Goffa'r Rhyfel Mawr a agorwyd ym mis Gorffennaf yng Nghastell Caernarfon yn parhau’n agored dros gyfnod y pabïau yn y Castell, yn ogystal ag  arddangosfa Cofio Dros Heddwch, lle byddai Llyfr y Cofio - gydag enwau 35,000 o filwyr o dras neu gatrawd Cymreig a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn cael ei arddangos.

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Yn ddiweddar mynychais gwrs ardderchog ar gyfer cynghorwyr ar y Ddeddf Llesiant newydd.  ‘Roedd y cwrs yn wych, ond ‘roedd yn siomedig bod cyn lleied o aelodau yn bresennol. 

 

Carwn ofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfartaledd faint o gynghorwyr sydd yn mynychu’r cyrsiau sydd yn cael eu trefnu ar ein cyfer ar y dyddiadau sydd yn y calendr cyfarfodydd a oes ystyriaeth wedi ei roi i wneud rhai cyrsiau, fel rhai ynglŷn â deddfwriaeth bwysig yn fandadol er mwyn mynnu presenoldeb Aelodau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Dirprwy Arweinydd

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae yna ymateb ysgrifenedig wedi ei baratoi a ffigurau wedi ein cyrraedd ar e-bost yn dangos y canrannau ar gyfer dau fath o hyfforddiant mae’r Cyngor yn ei gynnig i aelodau.  Mae’r ffigurau hynny yn dangos mai canran isel iawn mewn rhai amgylchiadau o gynghorwyr sy’n manteisio ar hyfforddiant.  ‘Roeddwn yn bresennol yn yr hyfforddiant mae Sian yn cyfeirio ato ac ‘roedd yn arbennig iawn ac ‘roedd pob un o’r aelodau yn dod allan o’r cyfarfod hwnnw wedi cael eu hysbrydoli ac ‘roedd safon y cyflwyniadau yn wych iawn.  Ac mae yna elfennau o hyfforddiant o’r math yma sy’n darparu gwybodaeth angenrheidiol i gynghorwyr i ddod i benderfyniadau sydd yn ddeallus, ac anogaeth sydd yna felly i gynghorwyr fynychu’r sesiynau hyn.  Yr unig beth fyddwn yn ychwanegu, fel un oedd yn gweithio’n llawn amser beth amser yn ôl ac ym mhen pella’r sir yma, ‘rydw i’n cydymdeimlo gyda’r rhai hynny sy’n methu mynd i gyfarfodydd hyfforddiant.  Yn wir, ‘roedd yn rheol gen i, os oedd yna unrhyw hyfforddiant y tu hwnt i Borthmadog, nid oeddwn yn mynd iddo, ond chwarae teg, mae’r Cyngor yn cynnig hyfforddiant ym Mhenrhyndeudraeth er mwyn ceisio gwneud yr hyfforddiant yn fwy hygyrch i aelodau.  ‘Rwy’n credu hefyd bod lle i ni edrych ar sut ydym yn darparu hyfforddiant.  Mae modd i ni wneud llawer iawn mwy ar y We a gallwn ddilyn a thracio’r gwaith hwnnw ac ‘rwy’n credu y bydd yn rhaid i ni ddatblygu hynny ymhellach ac ‘rwy’n credu hefyd, fel ‘rydw i wedi dweud sawl tro yn y gorffennol, bod lle i ni ystyried gwneud sesiynau hyfforddiant yn ein fforymau ardal - tameidiau bach o hanner awr hwyrach, ond sy’n berthnasol, a byddwn yn cael cyfle i gael trafodaethau eraill ar yr un pryd felly.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

“A fyddai’r Aelod Cabinet yn cytuno bod y canrannau hyn yn siomedig iawn ac yn fodlon gofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd edrych ar ffyrdd o gynyddu presenoldeb aelodau mewn sesiynau hyfforddi, gan gynnwys gwneud rhai cyrsiau yn fandadol a chyhoeddi cofnod presenoldeb aelodau mewn cyrsiau hyfforddi ar wefan y Cyngor?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Dirprwy Arweinydd

 

"’Rwy’n cytuno’n llwyr ac ‘rwy’n meddwl ei fod yn fater i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i’w ystyried o ddifri’.  Y trafferth hefo’r gair ‘mandadol’ ydi sut ydych yn cosbi’r aelod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFLWYNO DEISEB

Nodi bod cais i gyflwyno deiseb wedi’i dderbyn gan y Cynghorydd Stephen Churchman.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Stephen Churchman ddeiseb i’r Cadeirydd ar ran 62 o ddefnyddwyr Canolfan Pentrefelin yn gofyn am symud yr arwydd 40mya / 60mya i’r pentref yn ôl i gyfeiriad Porthmadog, at yr arwydd ‘Pentrefelin’ o leiaf, er mwyn caniatáu i draffig sy’n dod o gyfeiriad Porthmadog ar gyflymder o 60mya gael amser i arafu cyn cyrraedd mynedfa / allanfa’r Ganolfan.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelod am y ddeiseb gan nodi y byddai’n ei throsglwyddo i sylw’r adran berthnasol.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2015/16 pdf eicon PDF 48 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r ddogfen yn ddarlun cytbwys, teg a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2015/16, a’i fabwysiadu.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Weithredwr a’r tîm o swyddogion hynny fu ynghlwm â’r gwaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau neu gynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif faterion a ganlyn:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr hawliau caniataol yn Lloegr i droi adeiladau gweigion ar ffermydd yn dai parhaol a holwyd oes posibilrwydd o gael yr un hawliau yng Nghymru.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd bod y cyn-weinidog, Jane Davidson wedi mynd â deddfwriaeth drwy’r Cynulliad ar y pryd i’w wneud yn rhwyddach i gael datblygiadau, megis tŷ annedd, o gwmpas y fferm.  Awgrymodd y gallai wneud rhywfaint o waith ar y cyd â’r Aelod Cabinet Cynllunio i weld a yw’r ddeddfwriaeth honno wedi creu cyfleoedd, ac os nad ydyw, gellid cyflwyno hynny fel tystiolaeth i’r Llywodraeth.

·         Llongyfarchwyd y Cyngor ar gynhyrchu adroddiad cyfeillgar i’r defnyddiwr, sy’n defnyddio lluniau i amlygu ffeithiau.

·         Gan gyfeirio at Farn y Panel Trigolion (tudalen 21 yn y rhaglen), pwysleisiwyd pwysigrwydd canolbwyntio ar y negyddol (e.e. yr 17% sydd o’r farn nad yw’r Cyngor yn cwrdd â’u hanghenion yn hytrach na’r 83% sy’n credu i’r gwrthwyneb) gan ddefnyddio unrhyw gwynion fel adnodd i wella’r gwasanaeth, yn unol â diwylliant Ffordd Gwynedd.

·         Gan gyfeirio at Fesurau Strategol Cenedlaethol EDU/002i (canran yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rhai sydd yng ngofal awdurdod lleol) ... sy’n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb fod ganddynt gymhwyster allanol a gymeradwywyd) ac EDU/002ii (canran y disgyblion sydd yng ngofal awdurdodau lleol, ... sy’n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith heb fod ganddynt gymhwyster allanol a gymeradwywyd) (tudalen 41 yn y rhaglen), nodwyd y byddai’n fuddiol cael ffigur cymharol yn y dyfodol er mwyn gweld a yw’r sefyllfa’n gwaethygu ar draws yr holl ddisgyblion, neu’r grŵp yma’n unig.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn ag effaith colli arian Ewrop ar gyllid y Cyngor, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi creu buddsoddiad o £300,000,000 o arian yn sgil cronfeydd Ewrop dros y blynyddoedd ar ffurf arian craidd / cyfatebol neu fuddsoddiad sector preifat ac ‘roedd peryg’ na fyddai’r sir yn gweld y fath symiau byth eto.  ‘Roedd sôn nad oedd ardaloedd megis Gorllewin Cymru a’r cymoedd, sydd wedi bod yn derbyn yr arian craidd yma, yn mynd i gael ystyriaeth na’u dynodi’n achos arbennig ac ‘roedd yr ardaloedd hyn angen arian sy’n cyfateb i’r hyn oedd Amcan 1 ac arian Cydgyfeiriant.  Holwyd beth allai’r cynghorwyr wneud i helpu’r Cyngor.  Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd y bwriadai ysgrifennu at gynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar bwyllgor a sefydlwyd gan Brif Weinidog Cymru gan ofyn i’r cynrychiolydd gyflwyno’r llythyr i’r pwyllgor hwnnw.  Gellid hefyd ysgrifennu at y Prif Weinidog ei hun ac at Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i Is-ysgrifennydd.  Gallai’r cynghorwyr hefyd godi ymwybyddiaeth o hyn yn eu cymunedau, a phe rhennid yr ohebiaeth gyda’r aelodau, gallai hyn fod yn sail i gael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL Y PWYLLGORAU CRAFFU 2015/16 pdf eicon PDF 210 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad byr yn gosod y cyd-destun.

 

Cyflwynwyd - adroddiadau blynyddol y tri phwyllgor craffu ar gyfer 2015/16.

 

Pwyllgor Craffu Corfforaethol

 

Manylodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Cynghorydd Jason Humphreys, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2015/16, gan ddiolch i’r Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Dyfrig Jones, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd y gallai mabwysiadu polisi o godi treth cyngor uwch ar dai haf gael effaith negyddol ar yr economi gan fod nifer o dai yn y sir na fyddai pobl leol o bosib’ yn dymuno eu prynu.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai’r mater hwn ar raglen cyfarfod nesaf y pwyllgor craffu ar yr 20fed o Hydref a diau y byddai’r aelodau yn edrych i mewn yn fanwl i’r materion.

·         Mynegwyd pryder bod cwmnïau lleol yn aflwyddiannus wrth dendro am gontractau, megis i gyflenwi bwydydd ysgolion, ac ati, a phwysleisiwyd pwysigrwydd cadw’r budd yn lleol.  Mewn ymateb, cytunwyd bod angen cadw ar ben y sefyllfa a chadarnhawyd y byddai sylw’r aelod yn cael ei gymryd i ystyriaeth.  Ychwanegwyd bod y pwyllgor craffu yn derbyn adroddiadau rheolaidd ar reolaeth categori a chadw’r budd yn lleol.

·         Awgrymwyd y byddai’n gamgymeriad llwyr datganoli trethi busnes i’r cynghorau sir yng Nghymru, fel sy’n digwydd yn Lloegr, gan fod llawer o lefydd ar eu colled oherwydd hynny a bod Gwynedd yn derbyn setliad teg o ran trethi busnes.

 

Pwyllgor Craffu Cymunedau

 

Manylodd Cyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Angela Russell, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2015/16 gan ddiolch i’r Cadeirydd presennol, y Cynghorydd Caerwyn Roberts, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod y drefn newydd o gasglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos yn gweithio’n dda ar y cyfan, ond bod angen cadw mewn cof yr angen am hyblygrwydd, e.e. mewn ardaloedd dwysedd tai uchel.

·         Croesawyd y ffaith bod yr Aelod Cabinet wedi derbyn holl argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Digartrefedd.

·         Holwyd sut ‘roedd y pwyllgor craffu yn teimlo ynglŷn â’r newidiadau gyda’r biniau brown.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y canlyniadau’n hysbys eto, ond bod rhaid profi’r drefn a gweld sut mae pethau’n datblygu.  ‘Roedd yn rhaid i’r Cyngor uchafu’r deunydd sy’n cael ei ailgylchu rhag llygru’r ddaear a rhaid cofio hefyd bod y Cyngor yn wynebu toriadau enfawr.

·         Nodwyd bod angen atgoffa’r gweithlu i gau’r fflapiau ar ochr y lorïau ailgylchu er mwyn atal deunydd ailgylchu rhag disgyn ar hyd ochrau’r ffyrdd.  Mewn ymateb, nodwyd y gosodwyd seliau newydd ar y lorïau erbyn hyn.

 

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau

 

Manylodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau, y Cynghorydd Beth Lawton, ar gylch gorchwyl a gwaith y pwyllgor yn ystod 2015/16, gan ddiolch i’r Cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Peter Read, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion am eu cefnogaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Pryder ynglŷn â goblygiadau Amddifadu o Ryddid a’r risg ariannol i’r Cyngor.  Mewn ymateb, nodwyd bod aelodau’r Pwyllgor Craffu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PWYLLGOR SAFONAU CYNGOR GWYNEDD 2015/16 pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r Cyngor i gyflwyno adroddiad blynyddol y Pwyllgor Safonau am 2015/16.

 

Manylodd Dr Einir Young ar brif bwrpas y pwyllgor o hybu a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig Cyngor Gwynedd a chynghorau cymuned a thref Gwynedd gan gyfeirio at aelodaeth y pwyllgor a’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod 2015/16.  Diolchodd i’r Swyddog Monitro a’r swyddogion eraill sy’n rhoi cefnogaeth i’r pwyllgor.

 

Diolchwyd i Dr Einir Young am gyflwyno’r adroddiad.

 

12.

DEDDF YMDDYGIAD GWRTH-GYMDEITHASOL, TROSEDD A PHLISMONA 2014 pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol / Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn hysbysu aelodau’r Cyngor o newidiadau a wnaed i Gynllun Dirprwyo Swyddogion y Cyfansoddiad er mwyn gweithredu Deddf Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.

 

13.

CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn adolygu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn sgil ethol tri aelod newydd ar y Cyngor a dau aelod yn newid eu grwpiau gwleidyddol.

 

Eglurwyd:-

·         Nad oedd yr argymhelliad yn llwyr adlewyrchu’r cydbwysedd gwleidyddol, a hynny yn sgil penderfyniadau blaenorol gan y Cyngor ar sail trafodaethau yn y Grŵp Busnes i geisio cadw profiad ac arbenigedd o fewn gwahanol bwyllgorau gyda dim ond ychydig fisoedd i fynd tan yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

·         Yn unol â’r drefn, y byddai’n rhaid i’r aelodau bleidleisio dros y cynnig yn ddiwrthwynebiad.

·         Bod y newidiadau mwyaf diweddar i’r cydbwysedd gwleidyddol yn golygu bod sail i adolygiad a fyddai’n arwain at newid yn aelodaeth y Cyngor ar Bwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri, ond gan mai dim ond ychydig fisoedd sydd ar ôl tan ddiwedd oes y Cyngor hwn, awgrymid y dylid glynu at y dyraniad a wnaed ym Mai 2012.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig a phleidleisiodd mwy na chwarter yr aelodau o blaid hynny.

 

Mynegwyd pryder gan aelod bod Grŵp Llais Gwynedd yn colli eu hunig sedd ar y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol.  Fel deilydd y sedd honno, oedd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol, sy’n ymdrin â materion staff, nododd mai drwy’r Cyd-bwyllgor mae’n cael gwybodaeth ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn y maes.  Mewn ymateb, eglurodd yr Arweinydd mai mathemateg oedd hyn a chan fod Grŵp Llais Gwynedd wedi colli sedd ar y Cyngor a’r Grŵp Annibynnol wedi ennill sedd, ‘roedd yn rhaid i hynny gael ei adlewyrchu yn y seddi sy’n cael eu dyrannu.  Rhybuddiodd, petai’r aelod yn pleidleisio yn erbyn yr argymhelliad, y byddai Grŵp Llais Gwynedd yn colli’r sedd beth bynnag a hefyd yn colli sedd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.  Nododd hefyd na chynhelir cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol rhwng hyn a’r etholiadau ym mis Mai.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r argymhelliad gan sawl aelod.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid y cynnig: (54) Y Cynghorwyr:- Stephen Churchman, Annwen Daniels, Lesley Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis, Alan Jones Evans, Dylan Fernley, Jean Forsyth, Gareth Wyn Griffith, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones, Brian Jones, Charles W. Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Edgar Wyn Owen, Michael Sol Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John Pughe Roberts, W. Gareth Roberts, Mair Rowlands, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Mike Stevens, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gethin Glyn Williams, Gruffydd Williams, R. H. Wyn Williams a Mandy Williams-Davies.

 

Atal: (0)

 

Yn erbyn: (0)

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r Cyngor yn unol â’r tabl isod:-

 

PWYLLGORAU CRAFFU

 

 

  Plaid

  Cymru

Annibynnol

Llais Gwynedd

Llafur

Democratiaid Rhyddfrydol

Aelod Unigol

Corfforaethol

 

9

5

2

0

1

1

Cymunedau

 

10  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

ABSENOLDEB AELOD O'R CYNGOR pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Peter Read o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd ei fod yn anhwylus ers tro ac yn derbyn triniaeth sydd wedi effeithio, ac yn debygol o barhau i effeithio, ar ei allu i fynychu cyfarfodydd ffurfiol o’r awdurdod.

 

Cytunwyd y byddai Arweinydd Grŵp Llais Gwynedd yn anfon gair at y Cynghorydd Peter Read a bod y Cyngor yn gwneud hynny’n swyddogol hefyd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Peter Read o gyfarfodydd y Cyngor oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

 

15.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

16.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Owain Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Owain Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“’Rwy’n cynnig ein bod yn datgan siomedigaeth wrth Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol am wrthod cydnabod cyfraniad aruthrol ein tîm pêl droed cenedlaethol tuag at ein hunaniaeth a’n hunan-barch fel cenedl, drwy wrthod eu cydnabod a’u hanrhydeddu adeg yr Eisteddfod olaf yn y Fenni.

 

Oherwydd hyn, galwn arnynt i ail ystyried ac i roddi i’r tîm bob anrhydedd maent yn ei haeddu, a hyn ar y cyfle cyntaf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Owain Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“’Rwy’n cynnig ein bod yn datgan siomedigaeth wrth Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol am wrthod cydnabod cyfraniad aruthrol ein tîm pêl droed cenedlaethol tuag at ein hunaniaeth a’n hunan-barch fel cenedl, drwy wrthod eu cydnabod a’u hanrhydeddu adeg yr Eisteddfod olaf yn y Fenni.

 

Oherwydd hyn, galwn arnynt i ail ystyried ac i roddi i’r tîm bob anrhydedd maent yn ei haeddu, a hyn ar y cyfle cyntaf.”

 

Eglurodd aelod bod rhaid i aelod o’r Orsedd enwebu / eilio rhywun i gael eu derbyn i’r Orsedd erbyn y dyddiad cau bob blwyddyn ac nid oedd y ffaith nad oedd neb wedi enwebu / eilio’r tîm pêl droed hyd yma yn gyfystyr â dweud bod yr Orsedd wedi gwrthod eu hurddo.  Hefyd, nid oedd gan y Cyngor ddylanwad ar yr Orsedd, sy’n gorff annibynnol.  Yn wyneb hynny, cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddiwygio’r cynnig fel a ganlyn:-

 

“Bod y Cyngor yn llongyfarch Tîm Pêl Droed Cymru ar eu llwyddiant diweddar yng nghystadleuaeth Ewrop. Yn benodol, ymfalchïwn yn eu llwyddiant i uchafu’r Gymraeg a hunaniaeth Cymru a rhoi iddi ei lle priodol fel ein hiaith genedlaethol yn rhyngwladol.   Ein neges glir ni iddyn nhw ydi yn syml, diolch.  Yn wyneb y ffaith nad oes gan y Cyngor unrhyw ddylanwad ar weithrediadau mewnol yr Orsedd, anogwn aelodau o’r Orsedd i ystyried anrhydeddu’r tîm neu unigolion allweddol o fewn y gymdeithas bêl-droed pan ddaw cyfle am eu cyfraniad.”

 

Mynegodd sawl aelod eu cefnogaeth i’r egwyddor o anrhydeddu’r tîm pêl droed mewn rhyw ffordd am lwyddo i roi Cymru ar y map.

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau a nodwyd gyda chaniatâd y Cyngor a’r eilydd.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig diwygiedig, ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn llongyfarch Tîm Pêl Droed Cymru ar eu llwyddiant diweddar yng nghystadleuaeth Ewrop. Yn benodol, ymfalchïwn yn eu llwyddiant i uchafu’r Gymraeg a hunaniaeth Cymru a rhoi iddi ei lle priodol fel ein hiaith genedlaethol yn rhyngwladol.  Ein neges glir ni iddyn nhw ydi yn syml, diolch.  Yn wyneb y ffaith nad oes gan y Cyngor unrhyw ddylanwad ar weithrediadau mewnol yr Orsedd, anogwn aelodau o’r Orsedd i ystyried anrhydeddu’r tîm neu unigolion allweddol o fewn y gymdeithas bêl-droed pan ddaw cyfle am eu cyfraniad.

 

17.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dyfed Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dyfed Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Yn dilyn y Refferendwm diweddar ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nodwn fel Cyngor fod pobl Gwynedd wedi pleidleisio yn glir i barhau yn aelodau o'r UE er i Gymru a gweddill gwledydd Prydain bleidleisio yn erbyn. Yn sgil y canlyniad yma, ail-ddatganwn fel Cyngor ein bod yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar.

 

Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb unrhyw le yng Ngwynedd. Rydym fel Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb ac ni fyddwn yn caniatáu casineb i fod yn dderbyniol.

 

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael y cymorth sydd angen  i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.  Rydym hefyd yn rhoi sicrwydd i bawb sy'n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau o'n cymuned werthfawr.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(b)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Dyfed Edwards o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Yn dilyn y Refferendwm diweddar ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd nodwn fel Cyngor fod pobl Gwynedd wedi pleidleisio yn glir i barhau yn aelodau o'r UE er i Gymru a gweddill gwledydd Prydain bleidleisio yn erbyn.  Yn sgil y canlyniad yma, ail-ddatganwn fel Cyngor ein bod yn falch o fyw mewn cymdeithas amrywiol a goddefgar.

 

Nid oes gan hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb unrhyw le yng Ngwynedd. Rydym fel Cyngor yn condemnio hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb ac ni fyddwn yn caniatáu casineb i fod yn dderbyniol.

 

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod cyrff a rhaglenni lleol yn cael y cymorth sydd angen i ymladd ac atal hiliaeth a senoffobia.  Rydym hefyd yn rhoi sicrwydd i bawb sy'n byw yn yr ardal hon eu bod yn aelodau o'n cymuned werthfawr.”

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig, ond ni phleidleisiodd chwarter yr aelodau oedd yn bresennol o blaid hynny.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Cyfeiriwyd at erthygl ddiweddar yn y wasg ynglŷn ag ymosodiad yn ystod oriau’r dydd ar ddynes mewn maes parcio archfarchnad ym Mangor.  Pwysleisiwyd bod y Cyngor hwn yn condemnio unrhyw fath o senoffobia neu droseddau yn erbyn y bobl hynny ‘rydym yn eu croesawu i’n cymuned a galwyd am roi pob cefnogaeth bosib’ i’r asiantaethau lleol a’r mudiadau trydydd sector sy’n cynorthwyo ffoaduriaid.

·         Nodwyd bod y cynnig yn awgrymu bod pawb a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn euog o hiliaeth, senoffobia a throseddau casineb.  I’r gwrthwyneb, nodwyd bod y cynnig yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai pobl wedi dehongli canlyniad y bleidlais fel modd i fynegi safbwyntiau hiliol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddiwygio’r cynnig drwy ddileu’r rhan gyntaf sy’n cyfeirio at ganlyniad y bleidlais a chychwyn gyda’r gair “Ail-ddatganwn”.

 

Nododd cynigydd y cynnig gwreiddiol fod y refferendwm a’r bleidlais i adael wedi esgor ar ymosodiadau ar bobl sydd wedi symud i mewn neu o dras wahanol gan fod rhai pobl wedi cymryd bod ganddynt bellach yr hawl i fod yn hiliol, lle nad oeddent cynt.  ‘Roedd y cynnig yn datgan bod canlyniad y refferendwm yng Ngwynedd o blaid parhau yn aelodau o gymuned Gwynedd, Cymru ac Ewrop, a mawr obeithiai y byddai’r mwyafrif yn dehongli’r cynnig felly.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant, ac fe ddisgynnodd.

 

Cyfeiriwyd at ddau wall ffeithiol yn y cynnig, sef:-

 

·         ‘British Isles yn y Saesneg – nodwyd y dylid ei gywiro i ddarllen ‘UK’ gan fod Ynysoedd Prydain yn cynnwys Gweriniaeth Iwerddon.

·         Nad oedd yn wir i ddweud bod gweddill gwledydd Prydain wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd gan i’r Alban a Gogledd Iwerddon bleidleisio i aros i mewn.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant pellach i gychwyn y cynnig gyda’r frawddeg ganlynol:-

 

“Tra bo Cyngor Gwynedd yn cydnabod ac yn parchu canlyniad refferendwm Ewrop, ‘rydym yn rhannu pryder bod lleiafrif bychan o bobl wedi cymryd y cyfle hwn i fynegi safbwyntiau hiliol yn ystod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17.