skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Endaf Cooke, Annwen Daniels, Selwyn Griffiths, Sian Gwenllian, Annwen Hughes, Peredur Jenkins, Dyfrig Jones, Linda Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, Linda Morgan, W.Roy Owen, Peter Read, Caerwyn Roberts, Mair Rowlands, Glyn Thomas, Ioan Thomas, Gethin Glyn Williams, Mandy Williams-Davies ac Eurig Wyn.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llongyfarchwyd:-

 

·         Y Cynghorydd Charles Wyn Jones ar ennill gradd Baglor mewn Diwinyddiaeth (Bth) gyda chlod drwy Athrofa Ddiwinyddol De Affrica.

·         Pawb a enillodd wobr yn Seremoni’r Cyngor ar ei Orau a Gwobr Goffa Dafydd Orwig yr wythnos ddiwethaf.  Diolchwyd hefyd i bawb fu ynghlwm â’r seremoni.

·         Janet Williams, Rhiant Maeth gyda’r Cyngor ar ennill y Wobr Dinasyddiaeth yng Ngwobrau Gŵyl Ddewi eleni.

 

4.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

CWESTIWN pdf eicon PDF 58 KB

Ystyried cwestiwn a roddwyd rhybudd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Eurig Wyn wedi cyflwyno cwestiwn cyn y Cyngor diwethaf, ond i’r cwestiwn ddod i law ar ôl y dyddiad cau, a’i fod felly am ganiatáu i’r cwestiwn gael ei ofyn yn y cyfarfod arbennig hwn o’r Cyngor.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Eurig Wyn (a ofynnwyd gan y Cynghorydd Hefin Williams yn absenoldeb y Cynghorydd Eurig Wyn)

 

“Pa fudd cymunedol ariannol a gyflwynir i gymuned Waunfawr o ganlyniad i’r difrod a wnaed i’w hardal yn sgil datblygiadau FIRST HYDRO i sefydlu cynllun trydan dŵr yn eu hardal?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Yn y bôn, nid yw ystyriaeth cyfraniadau i gymunedau lleol yn rhan o’r system gynllunio ac nid ydym yn ymwybodol o fudd cymunedol ariannol penodol a roddwyd i gymuned Waunfawr yn sgil datblygu Gorsaf Bŵer Dinorwig.  Er hyn, rhaid nodi bod y budd economaidd mae’r cynllun yma wedi’i ddarparu yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn ystod y cyfnod gweithredu hyd heddiw wedi bod yn sylweddol i’r ardal leol, sydd ei hun yn fudd i’r gymuned.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eurig Wyn (a ofynnwyd gan y Cynghorydd Hefin Williams yn absenoldeb y Cynghorydd Eurig Wyn)

 

“A gytuna’r Cyngor ymchwilio drwy’r Adran Gynllunio i ddatblygiadau cyffelyb yn yr Alban lle mae Cynghorau Sir a’r Senedd wedi creu strategaeth effeithiol i ariannu cynlluniau o’r fath a gofalu darparu budd-dal i’r cymunedau?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Mae canllawiau llywodraeth yr Alban yn pwysleisio hefyd bod budd cymunedol ariannol yn drefniant gwirfoddol sydd yn hollol ar wahân i’r broses gynllunio ac felly mae’r un peth yn wir yn y fan honno, ond mae’r gwaith cychwynnol wedi’i wneud gan swyddogion o Wasanaeth Eiddo ac Adran Economi a Chymuned y Cyngor i geisio edrych ar y buddiannau economaidd cymunedol all fod ynghlwm â datblygiadau ynni adnewyddol.  Hefyd, mae’n bwysig dweud, mewn sefyllfaoedd lle mae cynlluniau adnewyddol ar dir lle mae’r Cyngor yn dirfeddiannwr, ac mae hyn yn wir yng Nglyn Rhonwy, sef cais sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, mi fydd y Cyngor yn ystyried cyfleoedd i negodi buddion cymunedol fel rhan o drefniant ar gyfer trosglwyddo tir.”

 

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD pdf eicon PDF 200 KB

Yn unol â rhan 4.12.1 (d) o’r Cyfansoddiad derbyniwyd llythyr gan Cyng. Aled Evans a oedd wedi cael ei arwyddo gan 9 o gynghorwyr eraill a oedd yn gofyn am gyfarfod o’r Cyngor i drafod: “agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol (Gwynedd a Môn), sef y dull aed ati i gloriannu effaith y cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg. Teimlwn nad

ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg a hoffem ystyried camau pellach i ddadwneud y diffyg hwn.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd, yn unol â rhan 4.12.1(d) o’r Cyfansoddiad, y derbyniwyd llythyr gan y Cynghorydd Aled Evans, oedd wedi ei arwyddo gan 9 o gynghorwyr eraill yn gofyn am gyfarfod arbennig o’r Cyngor i drafod: “agwedd ar y Cynllun Datblygu Lleol (Gwynedd a Môn), sef y dull aed ati i gloriannu effaith y cynllun arfaethedig hwn ar yr iaith Gymraeg.  Teimlwn nad ydyw’r hyn a wnaed ynddo yn dderbyniol o ran amddiffyn y Gymraeg a hoffem ystyried camau pellach i ddadwneud y diffyg hwn.”

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd mai’r mater hwn yn unig fyddai’n cael ei drafod ac na fyddai modd yn gyfansoddiadol i drafod unrhyw agwedd arall o’r cynllun.

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro arweiniad parthed y sefyllfa gyfreithiol gyffredinol a chyfansoddiadol ynglŷn â’r drafodaeth, gan nodi:-

 

·         Bod datblygiad y Cynllun Adnau yn fater sydd yn nwylo’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y Cyd a bod y penderfyniadau ar yr ymgynghoriad, yr ymateb i’r ymgynghoriad a’i gyflwyniad ar gyfer ymchwiliad annibynnol wedi eu dirprwyo gan y Cyngor hwn i’r Cyd-bwyllgor ers 2011.

·         Ar 29 Ionawr eleni, y penderfynodd y Cyd-bwyllgor dderbyn bod y cynllun yn mynd ymlaen i ymchwiliad annibynnol, ac ar y sail hynny, hysbysebwyd y penderfyniad a chychwynnwyd ar y gwaith paratoi.

·         Bod y penderfyniad hwn yn unol â hawliau dirprwyedig y Cyd-bwyllgor, oedd yn fodlon, ar ran Cyngor Gwynedd, bod y cynllun yn gadarn i fynd ymlaen i’r ymchwiliad a bod y broses a’r ymateb yn gadarn i fynd ymlaen i ymchwiliad.  Gan hynny, nid oedd yn gyfreithiol bosib’, i’r Cyngor wyrdroi’r penderfyniad yma.

·         Ei fod yn benderfyniad ar y cyd ag Ynys Môn a bod yna arwyddocâd i’r penderfyniad yna hefyd i’r sawl sydd wedi cefnogi neu wrthwynebu’r cynllun.

·         Bod yna broses sy’n caniatáu i’r gwrthwynebiadau i’r cynllun gael sylw gan yr Arolygydd a’i bod yn debygol y byddai yna wrandawiadau ar yr ymateb i rai o’r materion yma hefyd ac felly byddai’r gwrthwynebiadau yn cael eu cloriannu.

·         Nad oedd y cais am gyfarfod arbennig o’r Cyngor yn nodi rhybudd o gynnig penodol, eithr yn gofyn am drafodaeth yn unig.  Yn ôl Cyfansoddiad y Cyngor, i gael trafodaeth, ‘roedd yn rhaid cael cynnig, ac un o’r amgylchiadau prin lle gellid gwneud cynnig heb rybudd oedd drwy argymhelliad gan Aelod Cabinet.  Gan hynny, bwriadai’r Aelod Cabinet Cynllunio roi cynnig gerbron er mwyn agor y drafodaeth.  Mater i’r aelodau wedyn fyddai ystyried a oeddent am dderbyn y cynnig neu roi gwelliannau priodol ymlaen.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i roi’r Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu er mwyn caniatáu i unrhyw aelod wneud cynnig gerbron y Cyngor.

 

Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig i roi’r Rheolau Gweithdrefn o’r neilltu.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:-

 

O blaid: (32) Y Cynghorwyr - Craig ab Iago, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Jean Forsyth, Gweno Glyn, Simon Glyn, Alwyn Gruffydd, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Aeron Jones, Aled Wyn Jones, Brian Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.