skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Stephen Churchman, Jean Forsyth, Gwen Griffith, June Marshall, W. Tudor Owen, Nigel Pickavance a Gruffydd Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 379 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2016, fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2016 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn â’r eitemau canlynol:-

 

·         Premiwm Treth Cyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi (eitem 10 ar y rhaglen)

·         Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2017/18 (eitem 11 ar y rhaglen)

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Premiwm Treth Cyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi, am y rhesymau a nodir:-

 

·         Y Cynghorydd Gweno Glyn – oherwydd bod brawd-yng-nghyfraith iddi yn berchen ar ail dŷ yng Ngwynedd.

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd bod gan gysylltiad teulu agos ail gartref yn y sir.

·         Y Cynghorydd Angela Russell – oherwydd ei bod yn gweithio i bobl sy’n berchen tai haf.

·         Y Cynghorydd R.H.Wyn Williams – oherwydd bod ganddo eiddo gwag a theulu yn berchen ar dŷ haf.

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo gwag.

·         Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies – oherwydd bod ei gŵr yn berchen ar eiddo gwag drwy etifeddiaeth.

·         Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams – oherwydd bod aelodau agos o’r teulu yn berchen ar dai gwyliau.

·         Y Cynghorydd Linda Morgan – oherwydd ei bod yn gwneud y newid drosodd rhwng ymwelwyr ar y tŷ’r drws nesaf iddi, sy’n llety gwyliau.

·         Y Cynghorydd Annwen Hughes – oherwydd bod ganddi dŷ gwyliau.

·         Y Cynghorydd Caerwyn Roberts – oherwydd bod ganddo ef a’i wraig ysgubor wedi ei throsi ac yn gosod yr eiddo i ymwelwyr.

·         Y Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod yn berchen ar ddau dŷ.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd Rhun ap Gareth (Uwch Gyfreithiwr – Gwasanaethau / Dirprwy Swyddog Monitro) fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Premiwm Treth Cyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi, oherwydd bod ei chwaer yn berchen ar ail-gartref o fewn y sir.

 

‘Roedd yr aelod staff o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Mr Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i’r cyfarfod i roi cyflwyniad i’r aelodau ac fe’i llongyfarchwyd ar gael ei ethol i’r swydd.

 

Dymunwyd adferiad llwyr a buan i’r Cynghorydd Tudor Owen yn dilyn llawdriniaeth ddiweddar.

 

Croesawyd y Cynghorydd Peter Read yn ôl yn dilyn ei anhwylder diweddar.

 

Dymunwyd yn dda i’r Cynghorydd Gweno Glyn ar ei phriodas yn ddiweddar.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·           Ymgynghoriaeth Gwynedd am fod yn rhan o wobr trwy Brydain ar gyfer y maes rheolaeth adeiladu.  Daeth y prosiect, oedd ynghlwm â chanolfan ymwelwyr i Gastell Harlech, i’r brig yng nghategori’r adeilad cynhwysol gorau.  Mae’r wobr yn cydnabod gwaith swyddogion y Cyngor a’r cydweithio agos fu gyda Cadw a’r contractwyr oedd ynghlwm â’r gwaith.

·           Yr Academi Hwylio Genedlaethol a’r Ganolfan Ddigwyddiadau ym Mhwllheli am sicrhau gwobr genedlaethol arall o bwys wrth dderbyn Gwobr Cynllunio Cymru 2016 y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).  Sicrhaodd Plas Heli'r wobr gan fod y gorau ar nifer o gynlluniau eraill o bwys yng ngwobrau Cymru, a nawr bydd y prosiect yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng ngwobrau Cynllunio ledled y DG.

·           Pedwar cwmni o Wynedd, sef Llechwedd, Gelli Gyffwrdd, Cwmni Campio Graig Wen a Zip World am ennill gwobr mewn categori penodol mewn digwyddiad gwobrwyo a drefnwyd gan Dwristiaeth Gogledd Cymru yn ddiweddar.

·           Trefnwyr yr Ŵyl Gerdd Dant lwyddiannus iawn a gynhaliwyd ym Mhlas Heli, Pwllheli yn ddiweddar.

·           Ifan Richards o Rydymain ger Dolgellau, enillydd cyfres awyr agored S4C, Ar y Dibyn.

·           Ffermwyr Ifanc Dinas Mawddwy ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Sir Meirionnydd yn ddiweddar.

 

Cyfeiriwyd at glip fideo byr ar bryniant lleol a ddangoswyd yn union o flaen y cyfarfod hwn ar gais yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned.  Nodwyd bod y Sadwrn cynt, sef y 5ed o Ragfyr, yn Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ac atgoffwyd pawb i wneud eu cyfraniad a chefnogi busnesau lleol.

 

Nodwyd bod y Cadeirydd wedi cynorthwyo i noddi Cyngerdd Elusennol gyda Gwyn Hughes Jones, Côr Cofnod, Gwyneth Glyn ac eraill yn Neuadd Goffa Criccieth ar nos Wener, y 9fed o Ragfyr, gyda’r elw yn mynd tuag at yr RNLI a Threchu Trosedd Gwynedd.

 

 

5.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

6.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim.

7.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

Gan fod y cwestiwn gwreiddiol a dderbyniwyd gan yr aelod yn dyfynnu ffigurau anghywir o’r wasg, gofynnodd y cwestiwn canlynol yn ei le:-

 

“Oes modd i’r Aelod Cabinet ystyried strategaeth newydd gyda meysydd parcio yng Ngwynedd i’r dyfodol ac ystyried y busnesau sydd yma yng Ngwynedd, sy’n awyddus i weld cyflwyno parcio am ddim yn ystod y dydd mewn ymgais i ddenu rhagor o fusnes?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio

 

(Dosbarthwyd ateb ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r cwestiwn gwreiddiol i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

“Yn amlwg, ‘rwyf wedi cael cwestiwn gwahanol i’r cwestiwn a ofynnwyd gennych yn wreiddiol.  Un peth am ffigurau anghywir yw lle mae rhywun yn cael ffigurau anghywir mewn gwirionedd.  Os ydi rhywun wedi eu cymryd o’r papur newydd, yna mae neges yn y fan yna ynglŷn â pheidio credu pob dim ‘rydych yn ei ddarllen yn y papurau newydd.   Mater o godi ffôn fyddai i wirio os ydi ffigurau yn gywir ai peidio.  Ond i ateb y cwestiwn oedd ar y papur, ‘rydym wedi creu incwm o £390,000 o godi dirwyon parcio, sydd ddim yn £1.4m.  Wn i ddim os ydi’r aelod wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar dreth a chynhyrchu incwm mewn awdurdodau lleol gafodd ei gyhoeddi rhyw 3-4 wythnos yn ôl, ond mae’r Archwilydd yn canmol ac yn annog cynghorau i feddwl yn strategol ynglŷn â sut maent yn codi arian ac mae’n rhywbeth mae’r Adran Rheoleiddio wedi bod yn ei wneud ym maes meysydd parcio.  O gymharu â gweddill Cymru, yn sicr nid ydym ar y brig.  Mae’r cyngor sy’n gwneud yr incwm mwyaf o feysydd parcio yn codi rhywbeth fel £7m mewn blwyddyn o gymharu ag £1.6m yma.  Mae Cymru ar ei hôl hi yn nhermau ffioedd meysydd parcio o gymharu â’r Alban.  Mae’r incwm parcio fesul mil o’r boblogaeth yng Nghymru yn £17.31 o gymharu â’r Alban, lle mae’n £19.22 ac yn Lloegr yn £39.65.  Felly, ni fyddwn yn cytuno ein bod wedi gor godi ar ein hincwm ffioedd parcio.”

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“A fyddai’r Aelod Cabinet yn ystyried cael grŵp llywio i edrych ar ba effaith fyddai’n gael pe byddem yn cynnig parcio am ddim am awr neu ddwy bob diwrnod i hybu busnesau yma yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio

 

“Ar bob cyfri’.  Mae ffioedd parcio yn fater cyllidebol, sy’n fater i’r Cyngor llawn ac ‘rydym yn sôn am incwm o £1.6m.  Yr unig le fedrwn ni wario hwnnw ydi ar gynnal ein priffyrdd a phe byddem yn dod â’r ffioedd parcio i lawr i ddim, byddai angen chwilio am yr £1.6m yna yn rhywle arall, wrth reswm.  ‘Rwy’n siŵr ein bod yn cofio, ychydig o fisoedd yn ôl, i ni wneud penderfyniad yn y Cyngor yma ynglŷn â’n blaenoriaethau ac fe gofiwch y rhestr hir o doriadau oedd o’n blaenau, ac os edrychwch chi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFLWYNIAD GAN GOMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU

Derbyn cyflwyniad gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan Mr Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn amlinellu ei gefndir, ei rôl a’i gyfrifoldebau.  Eglurodd ei fod yn gyfrifol am y strategaeth, yn hytrach na’r ochr weithredol o blismona a thynnodd sylw’n benodol at agweddau newydd o blismona, megis delio â throseddau seiber, cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a chaethwasiaeth modern.

 

Ymatebodd y Comisiynydd i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Galwad y Comisiynydd am gychwyn trafodaeth ar ddadgrimineiddio cyffuriau ar y sail y byddai rheoleiddio cyffuriau yn eu tynnu o’r farchnad anghyfreithlon ac yn golygu bod pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn cael eu trin fel materion iechyd, yn hytrach na throseddwyr.

·         Yr angen i warchod niferoedd heddweision a phresenoldeb yr heddlu yng nghefn gwlad.

·         Pwysigrwydd diogelu gwasanaeth Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu.

·         Pwysigrwydd cydweithio’n rhanbarthol i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu plant a phobl fregus rhag troseddau ar lein a cham-fanteisio’n rhywiol, ayb.

·         Rôl ac uchelgais y Comisiynydd o ran yr iaith Gymraeg.

·         Y system recriwtio genedlaethol, diffyg Cymreictod y Coleg Plismona a’r angen i weithredu’n rhagweithiol i sicrhau bod Cymry Cymraeg yn cael eu recriwtio i’r heddlu.

·         Troseddau amgylcheddol, e.e. graffiti a thipio slei bach a’r angen am fwy o gydweithio yn y maes gorfodaeth.

·         Taro cydbwysedd rhwng yr agweddau newydd o blismona, megis troseddau seiber a throseddau mwy traddodiadol.

·         Dichonoldeb datganoli’r Gwasanaeth Heddlu a’r System Gyfiawnder.

·         Cyllideb 2017/18 a phraesept yr heddlu.

 

Diolchwyd i Mr Arfon Jones am ei gyflwyniad ac am ateb cwestiynau’r aelodau.

 

9.

CYFLWYNIAD AR SEFYLLFA ARIANNOL Y CYNGOR A'R CYNNYDD GYDA GWIREDDU TORIADAU HER GWYNEDD

Derbyn cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Adnoddau, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Adnoddau drosolwg cyffredinol o Strategaeth Ariannol 2017/18 – 2019/20 a manylodd y Pennaeth Cyllid ar y sefyllfa ddiweddaraf parthed arbedion oedd wedi’u gweithredu / wedi’u cynllunio fesul adran ac yn drawsadrannol.

 

I grynhoi, nodwyd:-

 

·         Bod yn rhaid deall maint her ariannol y Cyngor yng nghyd-destun y £51.5 miliwn o arbedion a thoriadau y bydd y Cyngor wedi eu gwireddu rhwng 2010/11 a 2019/20.

·         Bod mwyafrif llethol yr arbedion a gynlluniwyd wedi’u cynaeafu, neu ar y ffordd i’w gweithredu’n amserol.

·         Bod y Cabinet yn monitro cynnydd gyda’r holl gynlluniau arbedion a thoriadau a bod yr Aelodau Cabinet yn adrodd ar gynlluniau arbedion yn eu portffolio oddeutu bob deufis.

·         Y byddai angen gweithredu’r cynlluniau y cytunwyd arnynt ym Mawrth 2016 gan hefyd adnabod a gwireddu tua £0.7m o arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn 2017/18.

·         Oherwydd gwaith darbodus y llynedd, byddai’r Cyngor yn medru osgoi penderfynu ar doriadau ychwanegol yng nghylch cyllidebu 2017/18.

 

Nodwyd y byddai cyfle i’r aelodau drafod manylion y gyllideb yn llawn mewn cyfres o seminarau cyllid yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r Pennaeth Cyllid i gwestiynau cyffredinol gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Chynlluniau buddsoddi i arbed.

·         Defnydd o’r tan wariant dan reolaeth o £500,000, sy’n deillio o ffioedd parcio’n bennaf.

·         Trafodaethau gyda chynghorau cymuned unigol sydd wedi dangos yr awydd i gydweithio gyda’r Cyngor hwn ar rai gwasanaethau, e.e. glanhau toiledau cyhoeddus.

·         Pryder y gall toriadau yn y sector cynradd effeithio ar safonau addysg plant wrth iddynt symud i fyny i’r uwchradd.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r Pennaeth Cyllid am eu cyflwyniad.

 

 

10.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR EIDDO GWAG AC AIL GARTREFI pdf eicon PDF 656 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gofyn am:-

 

·         Gadarnhad ffurfiol am 2017/18 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag.

·         Gadarnhad ffurfiol am 2018/19 i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac yn gofyn i’r Cyngor benderfynu os am godi Treth Cyngor ychwanegol ar yr eiddo yma.

 

Cyfeiriwyd at argymhellion y Cabinet i’r Cyngor (paragraff 7 o’r adroddiad) oedd yn cynnwys argymhelliad i godi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i dderbyn argymhellion y Cabinet gyda chymal ychwanegol yn nodi mai bwriad y Cyngor fydd defnyddio canran o’r arian a dderbynnir o godi premiwm i ddarparu tai ar gyfer pobl ifanc yn ein cymunedau.

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegodd sawl aelod eu cefnogaeth i’r argymhellion, a nodwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Pwysigrwydd uchafu’r incwm a dod â thai gweigion yn ôl i ddefnydd.

·         Pryder bod y cyd-destun deddfwriaethol yn caniatáu i bobl drosglwyddo tai preifat i fod yn unedau hunan-ddarpar sy’n talu treth busnes a’r angen i blismona mwy a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru ar hynny.

·         Bod angen sicrhau nad yw’r Cyngor yn ysgwyddo’r gost o gasglu gwastraff o eiddo sydd wedi trosglwyddo i fod yn dai busnes.

·         Bod y Cyngor hwn yn awyddus i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu 20,000 o dai fforddiadwy.

·         Na ddylid cosbi pobl sy’n berchen ar dai, ond yn methu fforddio eu gwneud i fyny i’w gosod.

·         Bod yna 2000 o bobl ar y rhestr aros am dai yng Ngwynedd a llawer mwy na hynny angen tŷ, ond ddim yn gweld diben mynd ar y rhestr hyd yn oed.

·         Na chredid bod tystiolaeth i ddangos y byddai cyflwyno premiwm yn cael effaith ar y diwydiant twristiaeth, a bod angen atgyfnerthu’r neges gadarnhaol bod Gwynedd yn lle da ar gyfer ymwelwyr.

·         Os nad yw ymwelwyr yn dymuno talu’r dreth ychwanegol, efallai y gallent ystyried aros mewn gwestai neu gefnogi busnesau gwely a brecwast lleol.

·         Y gellid sefydlu cwmni hyd braich i brynu tai ar y farchnad agored er mwyn eu gosod i bobl leol.

·         Y dylid mynd ati, drwy’r pwyllgor craffu perthnasol a’r Aelodau Cabinet, i ffurfio grŵp i roi ystyriaeth dros y flwyddyn nesaf i’r hyn y dymunir ei gyflawni a sut orau i wneud hynny, nid yn unig yn y maes tai, ond yn y maes economi a gwasanaethau eraill hefyd.

·         Mai anghydbwysedd economaidd sydd wrth wraidd hyn i gyd a bod gan y Cyngor bellach gyfle i ddefnyddio ei rym trethiant i wneud peth iawn am y sefyllfa.

 

Nododd rhai aelodau y byddent yn gefnogol i godi premiwm o 100% a galwyd hefyd am gyflwyno deddfwriaeth sy’n gofyn am hawl cynllunio i droi tŷ yn dŷ haf.

 

Nododd aelodau eraill bod perchnogion tai gwyliau yn cyfrannu i’r economi yn lleol a bod ganddynt bryder y gallai codi unrhyw bremiwm ar ail gartrefi greu’r argraff nad yw’r Cyngor yn croesawu ymwelwyr i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2017/18 pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Tai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2017.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2017 fel ag yr oedd yn ystod 2016/17.  Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

(i)      Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

(ii)     Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig.

(iii)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

(b)     Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Dai, Gofal Cwsmer a Llyfrgelloedd, Amddifadedd a Chydraddoldeb, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2017/18, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

12.

ADDASIADAU HAWLIAU DIRPRWYEDIG A RHEOLAU GWEITHDREFN ARIANNOL pdf eicon PDF 126 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn hysbysu aelodau’r Cyngor o newidiadau a wnaed i Gynllun Dirprwyo Swyddogion y Cyfansoddiad ac yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu addasiad i Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

          Nododd y Swyddog Monitro, ymhellach i baratoi’r adroddiad, y bu i’r Pwyllgor Archwilio, yn eu cyfarfod ar 1 Rhagfyr, argymell y newid i’r Rheoliadau Ariannol i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Dileu rhan gyntaf paragraff 16.6.37 o Reolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor fel bod y paragraff yn darllen fel a ganlyn:-

 

          “Bydd gan y Prif Swyddog hawl i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf sydd o fewn rheolaeth yr adran lle bo gwerth y defnydd hwnnw hyd at £50,000 yn unol â’r rheolau ynglŷn â throsglwyddiadau yn Rhan 3.  Bydd angen cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer defnydd o’r fath lle bo’r swm dros £50,000.”

 

(b)     Nodi’r addasiadau i’r Cynllun Dirprwyo Swyddogion yn Adran 13 Rhan 3 o’r Cyfansoddiad sy’n adlewyrchu:-

 

·         Trosglwyddo cyfrifoldebau oddi wrth y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn dilyn ad-drefnu mewnol. 

·         Dyfodiad newidiadau statudol a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

13.

TREFNIADAU ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 pdf eicon PDF 65 KB

Derbyn cyflwyniad (gan gynnwys cyflwyniad fideo) ar y gwaith o annog a pharatoi darpar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau Mai 2017.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn codi ymwybyddiaeth aelodau’r Cyngor o’r trefniadau sy’n cael eu datblygu ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol, Mai 2017.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau wylio fideo byr a osodwyd ar safle we’r Cyngor i annog unigolion i sefyll fel Aelod Etholedig.

 

Yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Croesawyd y trefniadau newydd i ddarparu hyfforddiant electronig ar lein.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr ynglŷn â’r disgwyliadau fydd arnynt pe byddent yn cael eu hethol yn gynghorwyr.

 

Gwahoddwyd unrhyw gynghorwyr fydd yn ymddeol ym mis Mai i ystyried rhannu eu profiadau gydag ymgeiswyr newydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad.