6 ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 58 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosododd Rheolwr
Cefnogi Busnes y Cyngor y cyd-destun, gan nodi mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni
ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod cynigion gwella
adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gweithredu, ac ni ddylai’r Pwyllgor
ail-gynnal ymchwiliad i faterion a oedd o fewn maes gwaith y pwyllgorau craffu
eraill.
Cyfeiriodd at Atodiad 1
i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd
gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2017/18 ynghyd â’u cynigion ar gyfer
gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny ers i’r
Pwyllgor drafod y mater yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2017. Eglurodd mai sylwadau
gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion
gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael
ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Nododd mai mater i’r Pwyllgor oedd barnu os
oeddent yn cytuno efo’r casgliad bod y gwaith o wireddu’r argymhelliad ‘wedi’i
gwblhau’ neu yn parhau ‘ar waith’.
Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:
·
Bod adroddiad ‘Gwerthusiad
Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
(AGGCC) 2013/14’ wedi ei gyflwyno gryn amser yn ôl. Pwy oedd yn cwblhau’r
asesiadau iechyd ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal ac oedd diffyg doctoriaid
yn rheswm am y gostyngiad yn y ganran perfformiad ar gyfer cofrestru gyda
Meddyg Teulu cyn pen 10 diwrnod?
·
Bod y cynnydd o ran y cynigion
gwella yn yr adroddiad a nodir uchod yn fater oedd angen sylw;
·
Dylid gofyn i’r Pwyllgor
Craffu Gofal ystyried craffu’r materion a amlygwyd gan adroddiadau 2013/14 a
2014/15 yr AGGCC, adroddiad ‘Helpu Pobl i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n
Gwneud Digon?’, ynghyd ag adroddiad ‘Arolygiad Cenedlaethol o ofal a chymorth i
bobl sydd ag anableddau dysgu (Arolygiad ar y cyd gan AGGCC ac Arolygiaeth
Gofal Iechyd), a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;
·
Dylid gofyn i’r Pwyllgor
Craffu Cymunedau ystyried craffu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad
‘Cyflawni â Llai – yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a
dinasyddion’, a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;
·
Dylid derbyn cadarnhad o ran
pa bwyllgor ddylai rhoi ystyriaeth i adroddiad ‘Rheoli asedau [Tir ac
Adeiladau]’;
·
O ran yr adroddiad ‘Diogelwch
Cymunedol yng Nghymru’, os oedd y mater yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, fe
ddylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y mater;
·
Dylid derbyn eglurhad pam nad
oedd 3 cynnig gwella o dan yr adroddiad ‘Strategaeth Pobl’ wedi eu cwblhau.
Holodd aelod os oedd amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r cynigion
gwella. Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y byddai ystyriaeth i amserlen o
ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r argymhellion pan gyflwynir diweddariad i’r
Pwyllgor mewn 6 mis.
Cymerodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyfle i ddiweddaru’r aelodau o ran y cynnydd yn erbyn yr argymhellion yng nghyswllt yr adroddiad ‘Rheoli Risg - Asesiad sy’n seiliedig ar risg o drefniadau corfforaethol y Cyngor’. Cadarnhaodd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6
11 ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL PDF 114 KB
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyd-destun, gan nodi bod cyfrifoldeb ar y
Pwyllgor i ystyried adroddiadau archwilio allanol (cenedlaethol, a lleol i
Wynedd), yr argymhellion a gynhwysir ynddynt, a goblygiadau rhain i
lywodraethu, rheoli risg neu reolaeth. Atgoffodd yr aelodau mai rôl y Pwyllgor
oedd bodloni ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y
cynigion gwella yn cael eu gweithredu. Ychwanegodd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth ar ffurf naratif o dan y penawdau yn unol â chais y Prif Weithredwr.
Cyfeiriodd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor
at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau
a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2016/17 ynghyd â’u cynigion
ar gyfer gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny.
Eglurodd mai sylwadau gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd
yn erbyn y cynigion gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi
Busnes y Cyngor yn cael ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Eglurwyd y byddai’r
cynigion gwella a nodwyd “wedi’i gwblhau” yn cael eu tynnu o’r rhestr ac y
bwriedir adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor ymhen 6 mis.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gynnig
gwella 2 o dan adroddiad ‘Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru
2015-16’ - “Dylai awdurdodau lleol ddatblygu polisïau cynhyrchu incwm a chodi
tâl corfforaethol” a oedd wedi ei nodi “ar waith”. Nododd y byddai gwaith
ynghlwm â’r cynnig gwella ar waith yn barhaol a'i fod ef, y Prif Weithredwr a’r
Cabinet yn edrych ar benawdau strategol.
Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor ei
fod yn derbyn y sylw gydag amryw o gynigion gwella yn medru bod ar waith yn
barhaol a bod rhai tebyg wedi eu tynnu allan.
Nododd aelod y dylid nodi bod y cynnig
gwella “wedi’i gwblhau” oherwydd bod polisi mewn lle ac ni ddylai ddod yn ôl
gerbron y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i nodi bod cynnig gwella 2 o dan adroddiad ‘Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru 2015-16’ “wedi’i gwblhau”.