Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 24/04/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0112/42/LL - Gwynant, Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli pdf eicon PDF 67 KB

Cynyddu nifer carafanau teithiol o 25-35 a gwelliannau amgylcheddol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynyddu nifer carafanau teithiol o 25-35 a gwelliannau amgylcheddol.

        

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli tua 350 medr tu allan i ffin datblygu Edern ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyriwyd fod y safle yn ymwthiol yn y dirwedd ac nid oedd yn debygol o gael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Bod yr ymgeisydd yn gwneud bywoliaeth o’r maes carafanau;

·         Bod cwsmeriaid sefydlog a rhestr aros am lain;

·         Nad oedd y safle yn weledol;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu cynyddu’r nifer, roedd amryw o lefydd pasio ar y ffordd.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Nododd aelod nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad ond roedd yn pryderu o ran yr effaith cronnus ar yr ardal.

 

Nododd aelod ei fod yn hanfodol i ddenu twristiaid i’r ardal. Ychwanegodd aelod y byddai’r bwriad yn cynyddu incwm lleol.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.     Nifer o unedau teithiol ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 35.

4.     Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

5.     Defnydd gwyliau yn unig.

6.     Cadw cofrestr.

7.     Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

8.    Cyflawni’r cynllun tirlunio.