5 Cais Rhif C17/0016/33/LL - Tŷ Cynan, Rhydyclafdy, Pwllheli PDF 336 KB
Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 10 carafan yn cynnwys bloc toiledau / cawod, lleiniau caled a tanc septig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J. Davies
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Creu
safle carafanau teithiol ar gyfer 10 carafán yn cynnwys bloc toiledau / cawod,
lleiniau caled a thanc septig.
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin datblygu’r pentref a dros
60 medr oddi wrth y tai preswyl agosaf. Nodwyd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol.
Tynnwyd sylw y derbyniwyd llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad
ers cyhoeddi’r rhaglen.
Roedd y bwriad gwreiddiol yn cynnwys bwriad i gysylltu
draeniau'r toiled i danc septig newydd. Fodd bynnag, derbyniwyd cynllun
diwygiedig gan yr ymgeisydd yn dangos bwriad i gysylltu’r toiledau i’r
garthffos gyhoeddus oedd yn rhedeg drwy’r safle.
Nodwyd bod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio, bellach argymhellir dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytuno ar
union ddull gwaredu carthffosiaeth.
Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyriwyd fod y safle
yn ymwthiol yn y dirwedd ac ni ystyriwyd ei fod yn debygol o gael effaith
niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod nifer helaeth o goed wedi eu plannu
ar y safle i wella sgrinio;
·
Y byddai lleihau uchder y gwrych yn y fynedfa
yn gwella gwelededd;
·
Y byddai’r bwriad yn darparu
incwm ychwanegol i ddiogelu tŷ
ei deulu;
·
Dyluniwyd y bwriad yn ofalus
er mwyn lleihau’r
effaith ar y gymuned;
·
Bod cefnogaeth leol i’r bwriad.
(c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Nododd
aelod er bod sylw yn y wasg
o ran ei safbwynt ar feysydd carafanau
teithiol, nid oedd yn erbyn
y cais ac roedd yr ymgeisydd wedi
gwneud ymdrech i guddied y safle.
PENDERFYNWYD
dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i gytuno ar union ddull gwaredu carthffosiaeth.
Amodau:
1.
5 mlynedd
2.
Unol â chynlluniau a gyflwynwyd
3.
Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw
un adeg i’w cyfyngu i 10
4.
Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd
5.
Dim storio
ar y tir
6.
Rhestr cofnodi
7.
Tirlunio
8.
Gwella gwelededd mynedfa cyn defnyddio’r safle
9.
Cyflwyno manylion adeiladu clawdd ar hyd
terfyn gogleddol a gorllewinol y safle a’i weithredu cyn
defnyddio'r safle