5 Cais Rhif C16/1394/35/AM - Mynydd Ednyfed Fawr, Cricieth PDF 251 KB
Cais amlinellol i adeiladu 3 caban gwyliau.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams
Dogfennau ychwanegol:
COFNODION:
Cais
amlinellol i adeiladu 3 caban gwyliau.
(a) Adroddwyd y derbyniwyd cais gan yr ymgeisydd
i ohirio trafod y cais gan
nad oedd yr ymgeisydd ar
gael i fanteisio
ar yr hawl
i siarad ond ni roddwyd
rheswm cynllunio dros ofyn am ohirio.
Nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio bod patrwm yn amlygu
a oedd yn
dilyn at gamddefnydd o’r broses. Roedd yn siomedig nad oedd yr ymgeisydd yn
bresennol o ystyried eu bod yn ymwybodol
o ddyddiad cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor.
Awgrymodd yr Uwch Gyfreithiwr
y dylid tynhau trefniadau os gwnaed
cais am ddyddiad penodol ac os nad oedd neb yn bresennol i
fanteisio ar yr hawl i
siarad yn y dyfodol (ymgeisydd neu rywun arall
oedd wedi ei enwebu ganddynt)
y parheir i ystyried y cais.
Nododd aelod bod angen tynhau trefniadau, ond os derbynnir
rheswm dilys y dylid gohirio penderfynu
ar y cais.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais.