5 Cais Rhif C16/1363/41/AM - Cae Bodlondeb, ger Ael y Bryn, Chwilog PDF 273 KB
Cais amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a darparu mynedfa a lôn stâd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll. Evans
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais
amlinellol ar gyfer codi 9 tŷ sy'n cynnwys 3 tŷ fforddiadwy ynghyd a
darparu mynedfa a lon stad.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais yn ymwneud a hanner pellaf y safle. Roedd y cais hwn ynghyd
a’r cais a ganiatawyd uchod yn estyniad rhesymegol i’r pentref.
Nodwyd yr
argymhellir gosod amod ychwanegol, pe caniateir y cais, na ellir creu mynediad
cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent.
Argymhellwyd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i amodau cynllunio
a chytundeb 106 i ddelio gyda’r tai
fforddiadwy a chyfraniadau llecyn agored ac addysgol.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb 106 yn ymwneud a’r cyfraniad ariannol
addysgol ac ar gyfer gwella llecyn chwarae ac i sicrhau fod 3 o’r 9 tŷ yn dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol.
Amodau:
1. Amodau safonol amser cais amlinellol
2. Amod derbyn materion a gadwyd yn ôl
3. Llechi
4. Amodau Priffyrdd
5. Amod Dwr Cymru
6. Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar yr unedau fforddiadwy
7. Tirlunio
8. Datblygu gam wrth gam
9. Dim creu mynediad cerbydol o’r safle i’r trac sydd yn arwain i’r fynwent
Nodyn Dŵr Cymru
Nodiadau Priffyrdd