5 Cais Rhif C14/0831/11/CR - Castle Hill Arcade, 196, Stryd Fawr, Bangor PDF 876 KB
Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 65 o fyfyrwyr.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwynfor Edwards
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Newid defnydd rhan o'r
siop bresennol, gosod blaen siop
newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad
cefn presennol i greu 2 siop
a llety ar gyfer 64 o fyfyrwyr.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi ei fod yn
gais adeilad rhestredig ac mai materion cadwraethol a asesir, sef effaith
ar edrychiad a chymeriad hanesyddol a phensaernïol yr adeilad rhestredig.
Nodwyd bod y bwriad yn ei
ffurf bresennol oherwydd ei raddfa,
swmp, ffurf a’i ddyluniad yn
golygu y byddai’n dominyddu’r adeilad rhestredig ac yn cael effaith niweidiol
sylweddol ar ei gymeriad hanesyddol.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm:
Byddai’r bwriad oherwydd ei raddfa, swmp,
ffurf a’i ddyluniad yn cael
effaith niweidiol sylweddol ar edrychiad
a gosodiad yr adeilad rhestredig gradd II ac felly yn groes i
bolisïau B2, B3 a B4 CDUG ac i
ofynion Cylchlythyr Swyddfa Gymreig 61/96.