CYTUNDEB FFOTOCOPIO I YSGOLION
I dderbyn adroddiad llafar ar yr
uchod.
Cofnod:
Adroddodd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gan y Cyngor gytundeb les ar gyfer
llungopïo gyda Konica Minolta
ac awgrymwyd y gall ysgolion fod yn rhan o drefniadau canolog y Cyngor. Anogir Penaethiaid i
gysylltu gyda Judith Ann Williams, Arweinydd
Cynorthwyol Gwasanaeth Cefnogol, i drafod y manylion. Fodd bynnag, dylai ysgolion fod yn wyliadwrus
o delerau’r cytundeb presennol sydd ganddynt rhag ofn y byddai costau o dynnu
allan o unrhyw gytundeb yn rhy fawr i gyfiawnhau newid cytundeb am y tro.
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â pha mor gystadleuol yw cytundeb Konica Minolta, argymhellwyd i
Benaethiaid holi ynglŷn â thelerau’r Cyngor a phwyso a mesur manteision /
anfanteision i fod yn rhan o gytundeb canolog.
Eglurwyd ymhellach na
fyddai ysgolion yn derbyn anfoneb yn unigol, yn hytrach byddai’r canol yn
derbyn un anfoneb, a sicrhawyd nad oedd y Cyngor yn gwneud elw o’r cytundeb.
Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.