Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/07/2016 - Fforwm Cyllideb Ysgolion (eitem 7)

7 CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION 2015/16 pdf eicon PDF 213 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Addysg ar yr uchod a thywyswyd yr Aelodau drwy ei gynnwys gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg gan nodi yn gyffredinol bod balansau holl ysgolion Gwynedd wedi gostwng £159,010 i £3,336,570 yn ystod 2015/16 sy’n cyfateb i 4.66% o’u dyraniad terfynol.

 

            Ymhelaethwyd fel a ganlyn bod:

 

·         16 ysgol gyda diffyg ariannol gwerth £447,692

·         11 ysgol gynradd gyda chyfanswm diffyg £96,263

·         4 ysgol Uwchradd gyda chyfanswm diffyg £297,238

·         1 Ysgol Arbennig gyda diffyg o £54,191

 

            Nodwyd bod balansau’r ysgolion cynradd wedi lleihau am y tro cyntaf ers 2010. Mynegwyd pryder bod balansau rhai ysgolion yn parhau yn uchel er bod cynllun cyfarwyddo wedi ei fabwysiadu o ran defnydd balansau ymddengys bod 14 ysgol gynradd a 5 ysgol uwchradd gyda balansau dros y trothwy £50,000 (cynradd) neu £100,000 (uwchradd).  Fodd bynnag, roedd trefn i roi sylw i’r mater hwn lle gwelir patrwm cyson o gadw balansau, gyda thrafodaeth yn mynd rhagddo gydag un ysgol benodol.  Yn 2016/17 lle bydd y toriadau ariannol yn taro y disgwylir i’r balansau leihau eto.

 

            O safbwynt ysgolion mewn diffyg, awgrymwyd y dylid derbyn adroddiad i gyfarfod nesaf y Fforwm yn amlinellu’r patrwm o dueddiadau a chamau dros y blynyddoedd ar ysgolion unigol.

 

            Yng nghyd-destun balansau ysgolion, mynegwyd pryder ynglyn a’r ysgolion hynny sydd yn cadw balansau ac yn derbyn gwarchodaeth ychwanegol.

 

            Mewn ymateb i’r uchod, esboniodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gan yr awdurdod drefn o ganfod beth yw cynlluniau ysgolion o ran gwario balansau a bod gan ysgolion gynlluniau eithaf rhesymol a theg.  Yr hyn sy’n anodd ydoedd pan nad yw ysgolion yn gwireddu’r cynlluniau hynny a’i fod yn anodd i’r awdurdod eu herio, a’u bod o ganlyniad erbyn diwedd y flwyddyn ganlynol yn yr un sefyllfa o ran maint y balansau.

 

            Penderfynwyd:            (i)  Cymeradwyo bod yr Adran Addysg a’r Adran Gyllid:

 

(a)  yn cydweithio’n agos gyda’r ysgolion gyda diffyg ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynted â phosib.

(b)  yn parhau i fonitro cyllidebau ysgolion

 

                                                (ii)   Gofyn i’r Rheolwr Cyllid gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y Fforwm yn amlinellu:

 

(a)  tueddiadau a phatrwm dros y blynyddoedd o ysgolion unigol sydd mewn diffyg ariannol. 

(b)  Ychwanegiad i’r  adroddiad uchod yn amlygu’r ysgolion unigol hynny sydd gyda gwarged o’u balansau.