Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/09/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (eitem 6)

PENNAWDAU'R TELERAU

I ystyried yr adroddiad

(copi ar wahân i’r Aelodau yn unig)

 

Mae’r adroddiad ynglŷn a drafft dogfen Pennawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rha ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

 

Penderfyniad:

Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu fersiwn 3.9.19 o’r Penawdau Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru

 

Cofnod:

Caewyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem yma gan fod yr adroddiad ynglŷn â drafft dogfen Penawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi dynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol

 

PENDERFYNWYD

 

Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu fersiwn 3.9.19 o’r Penawdau Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo penawdau telerau ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru