PENNAWDAU'R TELERAU
I ystyried yr adroddiad
(copi ar wahân i’r Aelodau yn unig)
Mae’r adroddiad ynglŷn a drafft dogfen
Pennawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi ddynodi yn ddogfen
gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rha ei
chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.
Penderfyniad:
Bod
Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu fersiwn 3.9.19 o’r Penawdau Telerau fel
arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru
i Gynllun Twf Gogledd Cymru
Cofnod:
Caewyd
y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem yma gan
fod yr adroddiad ynglŷn â drafft dogfen Penawdau Telerau Drafft Bargen Twf
Gogledd Cymru sydd wedi dynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth
ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny
mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu
gwybodaeth gyfrinachol.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol
PENDERFYNWYD
Bod Bwrdd Uchelgais
Economaidd yn croesawu fersiwn 3.9.19 o’r Penawdau Telerau fel arwydd
cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i
Gynllun Twf Gogledd Cymru
RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD
Cymeradwyo penawdau telerau
ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru