PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN
Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).
Bydd y wasg a’r
cyhoeddi wedi eu cau allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem
ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r
unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd
cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.
Penderfyniad:
Bod chwech o’r ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer
Bydd canolfan asesu broffeshiynol yn cael ei
chynnal 12.09.19
Byddai cyfweliadau gerbron aelodau’r Bwrdd yn
cael ei cynnal 20.09.19
Cofnod:
Caewyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem yma gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.
O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol y Corff Atebol
PENDERFYNWYD
Bod chwech o’r
ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer
Bydd
canolfan asesu broffesiynol yn cael ei chynnal 12.09.19
Byddai cyfweliadau gerbron
aelodau’r Bwrdd yn cael ei cynnal 20.09.19
RHESWM
DROS Y PENDERFYNIAD
Byddai tynnu rhestr fer o ymgeiswyr yn un o’r cerrig
milltir allweddol yn y broses o recriwtio a phenodi unigolyn i’r swydd
allweddol hon.