skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 02/09/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C19/0338/42/LL - Bwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn, Pwllheli pdf eicon PDF 142 KB

Estyniad porth blaen, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth T Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad porth blaen, addasiadau i’r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2019, er mwyn cynnal ymweliad safle a chynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant/ymgeisydd ynglŷn â’r balconi llawr cyntaf. Nodwyd yn dilyn trafodaethau gyda’r asiant, bod yr elfen balconi ar flaen yr eiddo wedi ei ddiddymu o’r cais. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Nododd aelod ei gwerthfawrogiad o’r ymweliad safle ac y byddai’r bwriad yn welliant. Ychwanegodd aelod ei bod yn falch bod yr elfen balconi wedi ei ddiddymu o’r cais ac y byddai’r bwriad yn sicrhau’r adeilad ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     5 mlynedd

2.     Unol â’r cynlluniau diwygiedig

3.     Llechi

4.     Gorffeniad i gydweddu

5.     Defnyddio’r anecs fel defnydd atodol i’r tŷ yn unig

6.     Amod lefel llawr CNC

 

Nodyn yn cyfeirio at lythyr CNC


Cyfarfod: 22/07/2019 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C19/0338/42/LL - Bwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn, Pwllheli pdf eicon PDF 143 KB

Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Gareth T Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad blaen, creu balconi llawr cyntaf, addasiadau i'r to ac ymestyn adeilad allanol i greu anecs

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol a dau Aelod arall.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad porth ar flaen y tŷ; gosod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ uwchben rhannau tô gwastad presennol; ymgymryd ag addasiadau i’r tô trwy osod tô llechi a drws gromen fechan i’r blaen; decin blaen; ymestyn adeilad allanol presennol o fewn cwrtil yr eiddo yn anecs ym Mwthyn Bridyn, Lon Bridyn, Morfa Nefyn. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli gyfochrog a mynediad i draeth Morfa Nefyn, ond ar lefel ychydig uwch na’r traeth, gyda wal derfyn uchel yn amgylchynu’r blaen ac ochrau. 

 

Adroddwyd bod y cais yn cynnwys dwy elfen, sef yr estyniad a’r newidiadau i’r tŷ a’r estyniad i’r adeilad allanol i greu anecs. Adroddwyd mai tô dalennau asbestos sydd i’r tŷ yn bresennol gyda’r bwriad yn golygu ei ail doi â llechi sydd yn welliant ynghyd â drws gromen ddigon bychan na fyddai’n amharu’n sylweddol ar edrychiad a chymeriad y wyneb blaen.

 

Derbyniwyd sawl gwrthwynebiad i’r bwriad yn mynegi pryder am gyflwyno nodweddion modern i’r eiddo gan fod y bythynnod pysgotwyr presennol heb eu difethaf.  O ystyried mai sgrin wydr ysgafn fyddai i flaen y balconi ac na fyddai siâp yr adeilad yn newid yn arwyddocaol, ni ystyriwyd y byddai’r newidiadau yn amharu’n sylweddol ar edrychiad yr eiddo i gyfiawnhau gwrthod yr addasiadau.  Gan mai cymharol fychan yw’r newidiadau i’r tŷ, ystyriwyd eu bod yn ychwanegiadau derbyniol o ran ymddangosiad, graddfa a’r driniaeth drychiadau ac yn cydymffurfio â gofynion polisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Nodwyd bod yr ail elfen yn golygu codi estyniad ar yr adeilad allanol presennol sy’n ffurfio rhan o berchnogaeth yr eiddo.  Gan fod y cwrtil wedi ei amgáu gan wal derfyn uchel, dim ond ychydig o wal a thô fyddai’n weledol o ffordd fynediad y traeth.  Amlygwyd fod y  gwrthwynebiadau wedi datgan pryder am newid golwg adeilad hanesyddol, fodd bynnag ni ystyriwyd fod y newidiadau yn sylweddol ymwthiol nac yn annerbyniol o ran graddfa, uchder a mas ar y safle hwn sydd wedi ei amgáu gan wal uchel.  Ystyriwyd bod yr anecs yn cydymffurfio â gofynion PCYFF3.

 

Cyfeiriwyd at y materion llifogydd oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a sylw bod y cynlluniau wedi newid yn sylweddol ers i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig gyflwyno  gwrthwynebiadau.

           

Wedi pwyso a mesur y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod gan ei deulu barch tuag at y pentref

·         Bod addasiadau i’r cynlluniau wedi eu cytuno

·         Bod defnyddio llechi ar y to yn cydweddu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5