9 STRATEGAETH TAI 2020-21 PDF 74 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r
Strategaeth Tai i’w hargymell i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo’r Strategaeth Tai i’w hargymell
i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi'r angen i’r Cabinet cymeradwyo’r Strategaeth Dai er mwyn ei
hargymell i’r Cyngor Llawn i’w fabwysiadu. Mynegwyd fod y strategaeth yn
amlinellu'r newid sydd yn digwydd yn y maes gyda datblygiad Adran Tai ac Eiddo.
Pwysleisiwyd y bydd y cyfnod nesaf sydd ar droed yn un cyffroes ym maes Tai.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Nodwyd fod y maes yma un maes sydd yn cael ei flaenoriaethu gan y Cabinet a bod hwn yn un cam ar y daith.
Awdur: Arwel Wyn Owen